Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Cofnodion:

Mae pedwar cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau’r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet: Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Truman, rhoddwyd yr ateb ysgrifenedig isod i gwestiwn y Cynghorydd J Watkins.

 

Cynghorydd J Watkins:

O gofio lefelau annerbyniol ocsid nitrus ac ansawdd aer gwael ar draws y system unffordd yng Nghaerllion, a all yr Aelod Cabinet esbonio pam nad yw ansawdd yr aer y tu allan i Ysgol Gynradd Charles Williams yn cael ei fonitro? Ysgol yw hon sydd yng nghanol y system hon ac sydd felly yn gadael plant ifanc yn agored i afiechydon oherwydd ansawdd wael yr aer.

 

Ateb:

Mae Iechyd Amgylchedd yn ymwybodol iawn o bryderon y gymuned leol yng Nghaerllion am ansawdd aer, ac wedi bod yn ymwneud â’r pennaeth a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Charles Williams. Arweiniodd hyn at waith monitro tiwbiau tryledu yn yr ysgol o Orffennaf 14 2021. Bydd hyn yn darparu data fydd yn rhoi eglurder ynghylch safle’r ysgol ar sbectrwm ansawdd aer a arsylwir ar draws Caerllion.

 

Foddbynnag, o gofio natur y data am ansawdd aer a gafwyd yn y lleoliadau monitro agosaf at yr ysgol, ni ragwelir y bydd unrhyw dorri ar yr amcan ansawdd aer o ran nitrogen deuocsid yn Ysgol Charles Williams.

 

 

Cwestiwn 2 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau’r Ddinas

 

Cynghorydd Mogford:

 

Cwestiwn am ddiogelwch y ffyrdd sydd gennyf i, ac a yw’n fwriad gan Gyngor Dinas Casnewydd gyflwyno mwy o gyfyngiadau 20mya ar ein ffyrdd?

 

Ar 7 Mai 2019 dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn y Senedd –

 

Gwyddom fod parthau 20mya yn arafu cyflymder traffig, yn lleihau damweiniauyn enwedig damweiniau i blant – ac yr ydym am weld hynny yn dod yn sefyllfa ddiofyn ledled Cymru.’ 

 

Mae’nsi?r nad ef oedd y person cyntaf i ynganu’r geiriau doeth hyn am beryglon traffig yn goryrru. Yn Ward Langstone, buom yn erfyn am gyfyngiadau o’r fath ers blynyddoedd.

 

Allai’raelod cabinet roi’r diweddaraf i’r Cyngor am gyflwyno parthau 20 mya yng Nghasnewydd ac esbonio pa ymgynghori lleol sydd ar y gweill i gefnogi unrhyw benderfyniadau a gymerir yn lleol?

 

Ayw’r Aelod Cabinet yn ystyried mai ffyrdd a mynedfeydd i ysgolion a ddefnyddir yn rheolaidd gan blant ddylai gael y flaenoriaeth uchaf o ran gosod cyfyngiadau cyflymder?

 

Ateb:

CyhoeddoddLlywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd cyflwyno terfynau 20mya yn ffurfio rhan o’i rhaglen waith gychwynnol. Newid polisi cenedlaethol yw hwn, ac felly, Llywodraeth Cymru sy’n arwain yr ymgynghori. Cafodd ei lansio yr wythnos ddiwethaf ac fe’i ceir ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn lleol, mae ymgynghori yn digwydd trwy broses GRhT statudol.

 

Mae Casnewydd eisoes wedi cyflwyno ardaloedd treialu ledled y ddinas ac yr ydym yn aros am ganllawiau manwl gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno’n llawn. Disgwylir i hyn ddigwydd ymhen 18 mis.

 

Bydddiogelwch mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd dan y newid deddfwriaethol hwn.  

 

Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol fod mynedfa Ysgol Gynradd Langstone eisoes dan fesurau tawelu traffig, ac yn dod dan barth 20mya sy’n bodoli eisoes fel rhan o fenter flaenorol gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch y ffyrdd ger ysgolion.

 

Ategol:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mogford at gwestiwn blaenorol i’r Cyngor oedd yn nodi fod hanner ysgolion Casnewydd â chyfyngiad cyflymdra uwch na 20mya.  A fyddai’r Aelod Cabinet yn rhoi sicrwydd y byddai’r cyfyngiad yn cael ei ostwng i 20mya y tu allan i Ysgol Langstone gan y gall Cyngor Dinas Casnewydd wneud hyn.

 

Ateb:

Yroedd mesurau tawelu traffig eisoes yn eu lle wrth Fynedfa Dysgwyr Ysgol Gynradd Langstone ac yr oedd mewn parth 20mya fel rhan o fenter LlC i hybu diogelwch mewn ysgolion; yr oedd y ddwy fynedfa arall ymaith o’r ffordd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford am eglurder ynghylch a soniodd yr Aelod Cabinet fod un o’r mynedfeydd oddi ar y ffordd. Byddai’r Aelod Cabinet yn rhoi ateb ysgrifenedig.

 

Cododd y Cynghorydd Spencer bwynt o drefn am y Rheolau Sefydlog ynghylch cwestiynau ategol, a chadarnhaodd y Swyddog Monitro mai un cwestiwn ategol ddylai gael ei ganiatau, i egluro unrhyw bwyntiau oed dyn codi o’r ateb gwreiddiol.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr aelodau fod y Maer yn y gadair, a gofyn iddynt gadw at y broses gywir o ran cwestiynau i Aelodau Cabinet, sef mai un cwestiwn ac un ategol yn unig a ganiateir o fewn yr amser.

 

Cwestiwn 3 – Aelod Cabinet: Datblygu Cynaliadwy

 

Cynghorydd J Watkins:

 

Mae rhai Cynghorau yn gosod carpedi planhigion ar ben arosfannau bysus mewn ymdrech i gynnal poblogaethau gwenyn.

 

O gofio fod yr Awdurdod hwn wedi ymrwymo i gynnal cynnydd ym mhoblogaethau’r gwenyn, sydd yn gostwng, ac sy’n fater pryder, a fydd y  Cyngor hwn yn ymrwymo i osod y carpedi planhigion hyn ledled Casnewydd fel mater o frys?

 

Ateb:

Mae gwrthweithio dirywiad bioamrywiaeth yn flaenoriaeth sylfaenol i’r weinyddiaeth hon.

 

Rwy’n hapus i gadarnhau ein bod eisoes wedi neilltuo arian ar gyfer nifer o arosfannau bysus cyfeillgar i wenyn, a chânt eu gosod yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Nidyw cysgodfannau o’r fath yn addas ym mhobman a bydd llawer o’n cysgodfannau bysus newydd yn hytrach yn cael paneli solar wedi eu gosod er mwyn cynnal cynllun lleihau carbon y cyngor.

 

Fel y gwyddoch, dyfarnwyd statws swyddogol cyfeillgar i wenyn i Gasnewydd, a thros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi rhoi nifer o fentrau ar waith, megis:

 

·         Cefnogibywyd planhigion “dim torri gwair ym Mai” i ddarparu ffynhonnell gynnar o neithdar i wenyn

·         Neilltuotir fel dolydd naturiol i beillwyr

·         Lleihau’rdefnydd o blaladdwyr trwy fuddsoddi mewn dulliau mecanyddol o ddileu chwyn

·         Mynnu bod to gwyrdd mawr cyfeillgar i wenyn ar y cyfleuster hamdden newydd

 

Mae trigolion yn aml yn gofyn i ni sut y gallwn gefnogi peillwyr, felly rydym wedi creu fideo fel canllaw gaiff ei lansio’n fuan.

 

Ategol:

O gofio ei bod eisoes yn haf, pan fo gwenyn angen cefnogaeth, beth oedd yr Aelod Cabinet yn olygu trwy ddweudyn nes ymlaen yn y flwyddyn?’

 

Ateb:

Prynwyd y cysgodfannau bysus newydd, ond bydd yn rhaid gwneud gwaith ar y newidiadau hyn. Ar hyn o bryd, y mae ffocws y polisi gwenyn ar dorri gwaith, ac y mae hyn hefyd yn cael ei wneud yn ward Caerllion.

 

 

Cwestiwn 4 – Aelod Cabinet: Hamdden a Diwylliant

 

Cynghorydd M Evans:

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, gofynnodd y Cyng. Charles Ferris pryd y cawsoch gyfarfod diwethaf gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol?

 

Yn eich ateb, fe ddywedoch nad oedd gofyniad ffurfiol dan y brydles i wneud hyn, ond ni wnaethoch ddweud pryd oedd y tro olaf i chi gwrdd â hwy. A allwch felly roi gwybod i ni sawl gwaith yr ydych wedi cyfarfod â hwy, ynghylch T? Tredegar ers i chi ddod yn Aelod Cabinet?

 

Aallwch hefyd ddweud a ydych yn credu fod trosglwyddo T? Tredegar i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn benderfyniad cywir?

 

Ateb:

Ni allaf gadarnhau’r union nifer o weithiau y bûm yn cyfarfod â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond mae’n deg dweud fy mod yn wastad wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod; y tro olaf oedd gyda’ch Dirprwy  Gynghorydd Routley. Mae pandemig Covid 19 wedi torri ar draws cyfarfodydd o’r fath, ond wrth i gyfyngiadau lacio, edrychaf ymlaen at gwrdd â’r Ymddiriedolaeth eto.

 

O ran fy marn am drosglwyddo’r safle i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, nid oeddwn yn Aelod Cabinet ar y pryd.

 

Ategol:

 

Awgrymodd y Cynghorydd Evans ei fod yn gofyn am fwy o wybodaeth am berthynas yr Aelod Cabinet gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y ddyled a ddaeth i ran cyn 2008, a’r trefniant fod T? Tredegar wedi ei gymryd drosodd yn llwyddiannus gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

Ateb:

Holoddyr Aelod Cabinet a oedd cwestiwn yn yr hyn a gyflwynodd y Cynghorydd Evans fel ategiad. Nid oedd ganddi ddim mwy i’w ychwanegu at ei hateb gwreiddiol.