Agenda item

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau ar frig yr agenda er mwyn paratoi rhwng nawr a mis Mai nesaf 2022, gan ofyn a oedd unrhyw un o'r Cynghorau Cymuned yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth. 

Gofynnodd cynrychiolydd y Graig, Nathan Tarr, a fyddai newidiadau i'r ffiniau yn effeithio ar y Cynghorau Cymuned. 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Cyngor wedi cynnal adolygiad etholiadol gan y Comisiwn Ffiniau, ond nad oedd y gorchymyn wedi cael ei wneud eto gan Lywodraeth Cymru.  Byddai hyn yn newid rhai o ffiniau Ward ar gyfer yr etholiad cyngor nesaf, cafodd T?-du a'r Graig eu heffeithio ond doedd dim gormod o newidiadau ffiniau eraill. 

 

Gofynnodd cynrychiolydd y Graig a fyddai gan D?-du fwy o Gynghorwyr, ac fe gadarnhaodd y Cadeirydd y byddai gan D?-du 4 Cynghorydd oherwydd poblogaeth gynyddol ond wedi rhannu'n 3 ward wahanol. 

Teimlai cynrychiolydd y Graig ei bod yn gam da gan fod y Graig yn ymddangos yn bur ynysig yn ddaearyddol.  Cadarnhaodd y Cadeirydd bod 2 Gynghorydd yn dal i fod ar gyfer ward Y Graig felly nid oes colled cynrychiolaeth yno. Cafodd yr adolygiad etholiadol o gyngor y ddinas ei gwblhau gan y Comisiwn Ffiniau’r llynedd a byddai angen i weinidogion newydd y Senedd wneud y gorchmynion newydd cyn Mai 2022.

 

Derbyniwyd gan fod Casnewydd yn ddinas sy’n tyfu ac roedd angen cynyddu nifer y Cynghorwyr o 50 i 51. Ond, cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd newidiadau y Comisiwn Ffiniau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Gynghorau Cymuned, gan nad oedden nhw'n newid ffiniau cymunedol presennol, er y byddai Pentref Afan yn symud o ward Graig i'r T?-du, fyddai'n golygu newidiadau bychan i gynrychiolaeth y ward o fewn cyngor cymuned T?-du. 

Dywedodd y Cadeirydd y gallai Cynghorau Cymuned cymwys wneud cais i Lywodraeth Cymru i gael P?er Cymhwysedd Cyffredinol, ac fe allai hyn gael ymateb cymysg, ond roedd y p?er yno os oedden nhw am ei ddefnyddio. 

 

Dywedodd y Cadeirydd mai i Gynghorau Cymuned y pwyntiau pwysicaf i'w nodi oedd:

·       Mynediad i gyfarfodydd - byddai'r gofynion ar gyfer cyfarfodydd o bell yn parhau. Nid oedd y rhwymedigaethau ar gynghorau cymuned mor feichus â Chyngor y Ddinas gan fod yn rhaid i'r Cyngor ddarlledu cyfarfodydd pwyllgor yn fyw.   I Gynghorau Cymuned roedd hi'n ofyniad i aelodau ddeialu i mewn a chael eu clywed.  Roedd agenda amrywiaeth gan Lywodraeth Cymru, felly os oedd hi'n anodd i gynghorwyr deithio i gyfarfodydd, yna fe allent ddeialu mewn. 

·       roedd angen mynediad rhesymol ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd.  Roeddem yn dal i aros am arweiniad ar hyn, ond bydd yn hyblyg. 

Dywedodd cynrychiolydd Llanwern nad oedd modd i'w cyngor cymuned gwrdd heblaw o dan reolau ymbellhau cymdeithasol, gan nad oedd modd rhoi mynediad o bell gan nad oedd gan y Cyngor Cymuned yr isadeiledd TG i ddarparu hyn.

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai'r angen i fynychu o bell oedd ar gyfer Cynghorwyr Cymuned ac ati, a bod hynny o ganlyniad i ymbellhau cymdeithasol, ond pan na fyddai hynny'n berthnasol bellach byddai'n ddigonol i'r cyhoedd fynychu'n gorfforol bryd hynny.

Dywedodd cynrychiolydd Gwynll?g ei fod yn credu y byddai Cynghorau llai yn cael trafferth gyda mynediad o bell oherwydd diffyg mynediad i'r we mewn neuaddau pentref.

Dywedodd y Cadeirydd fod gan Gynghorau'r Ddinas reolau mwy beichus ond gyda Chynghorau Cymuned ac ati, fe allent ddeialu mewn ar ffôn symudol ac y byddai hyn yn ddigonol cyn belled â'u bod yn cael eu clywed.  Gallai rhai Cynghorau Cymuned gael rhyw ffordd arall o gymryd rhan lle nododd y rheol bod yn rhaid i bobl glywed a chael eu clywed e.e. byddai cael rhywun ar seinydd y ffôn yn ddigon. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y pwynt blaenorol gan gynrychiolydd Llanwern ynghylch cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd, gallai'r cyhoedd ddod i'r cyfarfod wyneb yn wyneb. 

Dywedodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr wirio'r canllawiau yn ofalus pan gaiff eu cyhoeddi, ond doedd dim rhaid i Gynghorau Cymuned gael band eang na thechnoleg gostus.

Cyfeiriodd cynrychiolydd y Graig at gyfarfodydd o bell a holodd a fyddai cyfarfodydd o bell neu gyfarfodydd hybrid cyfun yn parhau pan fyddai'r pandemig drosodd.

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai cyfarfodydd o bell yn parhau am y tro, tra bod technoleg hybrid yn cael ei datblygu, fel roedd y ddeddfwriaeth yn ei hangen.  Byddai'n rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd barhau fel hyn gan fod dyletswyddau mwy beichus arnom. Roedd y cyfan yn ymwneud â chadw pobl yn ddiogel ac roedd holl bwyllgorau Cyngor Dinas Casnewydd yn cael eu cynnal o bell, felly deialodd pob aelod unigol o bell a daeth y Llywodraeth â rheoliadau dros dro i mewn i ganiatáu i hyn ddigwydd.

Yn Lloegr roedd y ddeddfwriaeth yn wahanol gan fod eu pwerau brys ar gyfer cyfarfodydd o bell wedi dod i ben ym mis Mai gan mai dim ond 12 mis o b?er oedd ganddyn nhw i ddod â'r mesurau hyn i mewn. 

Yng Nghymru, er i'r ddeddfwriaeth Coronafeirws ddod i ben ym mis Mai, cafodd y ddeddfwriaeth hon ei disodli gan y Ddeddf  Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn parhau cyfreithlondeb cyfarfodydd o bell yng Nghymru. 

Esboniodd y Cadeirydd y byddai Cynghorwyr yn y dyfodol yn cael dewis a allan nhw ddod i mewn ar gyfer y cyfarfodydd neu ddeialu i mewn ac roedd y dechnoleg yn cael ei datblygu nawr i alluogi hyn.  Roedd hynny'n golygu y byddai sgriniau yn siambr y cyngor yn ogystal â meicroffonau ac ati, a oedd yn gost uchel, ond mae'n rhaid i ni ddarlledu ein cyfarfodydd.  Does dim rhaid i gynghorau cymuned wneud hyn. 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Y Graig at y ddeddfwriaeth gafodd ei chyhoeddi'r wythnos ddiwethaf, a gofynnodd am nifer y bobl a allai gyfarfod, na allai fod yn fwy na 6 o bobl dan do.

Dywedodd y Cadeirydd fod hynny'n ymwneud â chyfyngiadau Covid a mater i'r Cynghorau Cymuned oedd a allent gyfarfod yn ddiogel tra'n cadw pellter cymdeithasol, ac roedd y cyfeiriad at y cyfyngiadau 6 o bobl dan do yn ymwneud â swigod cartref. O ran digwyddiadau wedi'u trefnu, roedd hyn yn cyfeirio at 15-30 o bobl, ond roedd hyn yn dibynnu a oedd yr ystafell yn ddigon mawr i bobl ymbellhau'n gymdeithasol. 

Dywedodd cynrychiolydd y Graig fod cyfarfod prawf wedi ei gynnal yn neuadd y Graig gan ei bod hi'n ardal fawr ac roedd gan 90% o bobl oedd yn bresennol fygydau ymlaen a phawb wedi pleidleisio i fynd nôl i gyfarfodydd Zoom gan eu bod wedi methu clywed y cyfarfod.

Cytunodd y Cadeirydd ei bod yr un peth gyda'r Ganolfan Ddinesig gan fod capasiti ar gyfer y rhan fwyaf o ystafelloedd yn gyfyngedig, roedd lle i symud yn bwysig, gan nad oedd 100% yn sicr y gellid cynnal diogelwch yno, felly nid oedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal. Pe bai'r asesiad risg yn nodi y gallai gael ei wneud yn ddiogel argymhellwyd peidio cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb am y tro. 

Esboniodd cynrychiolydd Gwynll?g fod dau Gynghorydd yn wrth-frechu felly roedd yn sefyllfa’n anodd a gofynnodd a oedd modd dweud wrthyn nhw na allan nhw fynychu cyfarfodydd neu fod yn rhaid iddyn nhw fynychu o bell.

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn broblem gyffredin gan nad oedd p?er cyfreithiol gorfodaeth i bobl gael y brechiad.  Fodd bynnag, mae gan Gynghorwyr ofyniad cyfreithiol i fynychu cyfarfodydd felly roedd modd cynghori o ran cyfarfodydd o bell.  Os oedd cytundeb i'r Cynghorwyr hynny ddeialu o bell yna roedd hyn yn wahanol.  Fodd bynnag, os nad oeddent ac roedden nhw'n teimlo gwahaniaethu yn eu herbyn, yna cyfarfodydd o bell oedd yr opsiwn mwy diogel i bawb.  

Nododd y Cadeirydd y byddai gofyn o fis Ebrill nesaf:

-          I Gynghorau Cymuned i lunio a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol. Roedd yn ansicr ynghylch y cynnwys eto, ond byddai'r adroddiad Blynyddol yn sicrhau tryloywder ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac roedd yn orfodol o fis Ebrill 2022 nesaf ymlaen.  

Cadarnhaodd cynrychiolwyr Gwynll?g bod hyn eisoes wedi'i gwblhau ar gyfer Gwynll?g fel rhan o'u cyllidebu lle amlygwyd blaenoriaethau.

-          Rhaid cyhoeddi Cynlluniau hyfforddi. Cynlluniau i hyfforddi Cynghorwyr a Staff i gael eu cyhoeddi 3 mis ar ôl pob etholiad. 

Gofynnodd cynrychiolydd Gwynll?g a oedd cyrsiau i ddod yn orfodol.

Esboniodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru wedi meddwl am y syniad hwn ond wedi camu nôl o hyn felly roedd cynlluniau hyfforddiant yn ffordd fwy meddal o wneud hyn. Ond trafodwyd y gallai Cynghorau Cymuned wneud eu hyfforddiant yn orfodol felly gallent gael eu rheolau mewnol eu hunain. 

Dywedodd cynrychiolydd Gwynll?g y dylai'r Cod Ymddygiad, cynllunio sylfaenol, Cyllid, a'r Gyfraith fod yn allweddol o ran yr hyn y gall Cynghorwyr ei wneud ac na allent ei wneud.

Fel rhan o gynllun hyfforddiant, gallai’r Cynghorau Cymuned eu hunain wneud hyn yn orfodol, ond fe allai hyfforddiant ddod â chost. 

Cytunodd cynrychiolydd Gwynll?g bod llawer o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru gan Un Llais Cymru am hyfforddiant ac wedi cael hyfforddiant am ddim eleni. 

Ychwanegodd cynrychiolydd Y Graig efallai y gallai fod yn werth cael rhaglen hyfforddiant cyffredin y gallai pob cynghorydd cymuned ei meithrin.

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn anodd dweud, gan fod Cynghorwyr Cymuned i gyd ag anghenion hyfforddiant gwahanol. Roedd yna hyfforddiant penodol a oedd yn orfodol.

Roedd y Cod Ymddygiad yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Mr Richard Penn sy'n gweithio i'r Panel Taliadau Cydnabyddiaeth ymgymryd ag adolygiad o'r Cod Ymddygiad a'r fframwaith moesegol e.e. rôl yr Ombwdsmon ac ati gan nad oedd cod ymddygiad yr Aelodau wedi cael ei adolygu ers 2006. Byddai hyfforddiant ar y cod diwygiedig hwnnw yn orfodol.  

Roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynllunio cyfres o sesiynau hyfforddiant sefydlu ar gyfer derbyn aelodau newydd fis Mai nesaf a fyddai ar y Cod ymddygiad. Rhwng nawr a mis Mai nesaf gellid cynnal trafodaethau â Chynghorau Cymuned i unrhyw Gynghorwyr newydd neu Gynghorwyr presennol gael hyfforddiant o'r newydd. 

Dywedodd cynrychiolydd y Graig ei fod wedi derbyn hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad yn 2017 a'i fod wedi ei chael yn ddefnyddiol. 

Dywedodd y Cadeirydd na fyddai gormod o newidiadau mwy na thebyg, ac fe fyddai dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hychwanegu atynt gan fod hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a gallant hefyd edrych ar rôl yr Ombwdsmon wrth ymdrin â Chwynion a chofrestr llog Aelodau e.e. datganiad eiddo. Yng Nghasnewydd rydym yn dileu cyfeiriadau cartref aelodau er resymau diogelwch.

Ategodd y Cadeirydd bod y Cynghorau Cymuned wedi cael cyfarwyddyd gan yr Ombwdsmon a gyhoeddwyd yn flaenorol ar y Cod Ymddygiad a oedd yn llawer gwell gydag enghreifftiau achos go iawn.

Trafodwyd fod hyfforddiant bellach yn cael ei gyhoeddi ar-leina oedd yn dda i'w wneud yn eich amser eich hun, ond bod hyfforddiant Cod Ymddygiad yn well wyneb yn wyneb.

Holodd cynrychiolydd y Graig a fyddai unrhyw addasiadau ar gyfer unigolion sydd ag anghenion ychwanegol ar gyfer yr hyfforddiant.

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai addasiadau'n cael eu gwneud, ac y byddai angen rhoi gwybod i ni am unrhyw addasiadau sydd eu hangen gan fod angen gwneud cydraddoldeb yn flaenoriaeth.

 

Cytunwyd:

I'r Swyddog Cymorth Llywodraethu dosbarthu unrhyw ganllawiau newydd i bob Cyngor Cymuned.