Agenda item

Gwirfoddoli Casglu Sbwriel

Cofnodion:

Dywedodd cynrychiolydd Gwynll?g bod llawer o grwpiau codi sbwriel wedi bod nawr ar ôl y cyfnod clo, sydd wedi codi llawer o gwestiynau a gofynnodd cynrychiolwyr Gwynll?g am i swyddog ddod i'r cyfarfod nesaf er mwyn egluro rhai pwyntiau.

Trafodwyd o ran y casgliadau bagiau, adroddwyd bod gwrthod casglu mewn rhai ardaloedd a'r pwynt mwyaf oedd o ran sbwriel a gafodd ei dynnu allan o ffos oedd wrth ymyl y ffordd, a’r dealltwriaeth bresennol oedd nad mater Cyngor Casnewydd oedd hynny ond mater y tirfeddiannwr. 

Gofynnodd cynrychiolydd Gwynll?g a yw’r ffos ar y briffordd yn gyfrifoldeb Cyngor Casnewydd ac a yw’r sbwriel yno'n gasgladwy neu beidio.

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y swyddog Cymorth Llywodraethiant yn cofnodi'r cwestiynau a ofynnwyd ac y byddai gofyn am gyngor gan Wasanaethau Dinas ynghylch pwy oedd yn gyfrifol. 

Dywedodd cynrychiolydd Gwynll?g mai'r hyn y gobeithir ei gael oedd system o gefnogaeth, a mwy o gefnogaeth i grwpiau lleol gan eu bod yn glanhau llawer o ardaloedd a'r farn oedd bod angen cymorth yr awdurdod lleol. Erbyn hyn mae dau gr?p yn ardal Gwastatir Gwynll?g. Eglurwyd dros y flwyddyn ddiwethaf bod cwmni gwastraff lleol wedi tynnu 300-400 o fagiau o sbwriel, a oedd yn helpu'r awdurdod drwy wneud hyn gan y byddai'n costio miloedd, ond roedd angen cymorth ar y grwpiau lleol.

Dywedodd cynrychiolydd Maerun ei bod yn llwyr gefnogi'r hyn yr oedd cynrychiolwyr Gwynll?g wedi'i ddweud ac esboniodd ei bod yn rhan o gr?p Marshfield Magpies, a thros y cyfnod clo maen nhw wedi cael llawer iawn o sbwriel a thipio anghyfreithlon. Ar eu cae ffin mae canol ffos ac yn hyn roedd 200 o deiars ac fe gafodd un llwyth ei dynnu oddi yno ond dylai'r tirfeddiannwr fod wedi ei dynnu oddi yno. Cafodd sbwriel ei dynnu oddi yno ar ôl iddo gael ei adrodd trwy ddefnyddio'r app.  Roedd y gymuned yn gweithio'n galed iawn i ddatrys hyn trwy adrodd am dipio anghyfreithlon, ond y teimlad oedd bod yna frwydr go iawn gyda Chyngor Dinas Casnewydd a gyda rhai swyddogion gyda’r teimlad eu bod yn niwsans ac na ddylent fod yn codi sbwriel, gan ei fod yn anghyfleustra ac yn achosi mwy o waith.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi'i synnu gan y sylwadau hyn wrth i faterion codi sbwriel gael eu hannog gan Gyngor Dinas Casnewydd, ond nid mater iddyn nhw ateb oedd hwnnw.  Gallai fod o fudd i Christine Thomas (Rheolwr Masnach a Gorfodi) neu Silvia Gonzalez Lopez (Rheolwr Gwasanaeth Gwastraff a Glanhau) i fynychu cyfarfod Cyswllt y Cynghorau Cymuned yn y dyfodol i drafod casglu sbwriel.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey ei bod wedi siarad â chynrychiolydd Cadwch Gymru'n Daclus heddiw a bod mwy o ddarpariaeth wedi'u gwneud ar gyfer casgliadau cyflymach ar y penwythnos. Ond roedd sôn hefyd am yr angen i gydlynu teithiau codi sbwriel yn y ddinas. 

Cytunodd y Cadeirydd bod angen cydlynu hyn. 

 

Cytunwyd:

I Christine Thomas (Rheolwr Masnach a Gorfodi) neu Silvia Gonzalez Lopez (Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff a Glanhau) i gael eu gwahodd i fynychu cyfarfod Cyswllt y Cynghorau Cymuned y dyfodol i drafod casglu sbwriel. Hefyd, i gysylltu â chynrychiolydd Cadwch Gymru'n Daclus, Matthew Selwood, er mwyn iddo fod yn bresennol.