Agenda item

Diogelu Corfforaethol Blynyddol 2020-21

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Sally Ann Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc 

Mary Ryan – Pennaeth Diogelu Corfforaethol

 

Rhoddodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol drosolwg byr o'r adroddiad i'r pwyllgor ac esboniodd fod y gwasanaeth wedi cyflawni’r gwelliannau gan Archwilio Cymru a awgrymwyd ar gyfer 2021. Pwysleisiwyd ei bod wedi bod yn flwyddyn anarferol sydd wedi cael effaith ar bob gwasanaeth gyda heriau ond parhaodd yr adran i ymrwymo i gynllun gwaith 2021 er ei bod yn amser rhyfedd o ran gweithio o bell.

 

Lansiwyd y cynllun e-ddysgu ar gyfer diogelu ym mis Mai 2020, rhagwelwyd y byddai'n cael ei lansio ym mis Mawrth 2020 ond fe’i gohiriwyd oherwydd y pandemig. Roedd y tîm wedi gobeithio y byddai 90% o'r staff a'r gwirfoddolwyr yn cwblhau'r cwrs ond nododd nad oedd hyn yn bosibl oherwydd COVID, fodd bynnag roedd llawer o bobl yn cofrestru ar gyfer yr e-ddysgu ac roedd yn cael adborth da gan y rhai a fynychodd.

 

Esboniodd y swyddog fod rhai o'r heriau o ganlyniad i lai o hyfforddiant wyneb yn wyneb, ac esboniwyd y byddai'r tîm diogelu’n defnyddio hyfforddiant o'r fath i sicrhau bod y cyngor yn parhau i gydymffurfio. Yn ôl ym mis Medi 2020, roeddent wedi gobeithio ailddechrau hyn ond ni ddigwyddodd hyn oherwydd bod mwy o bethau'n cael eu gohirio yng nghyd-destun y 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

pandemig. Er gwaethaf hyn, sicrhaodd y swyddog y pwyllgor fod llawer o drefniadau ar waith i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau diogelu. 

 

Crëwyd y Gofrestr Gwirfoddolwyr a Hebryngwyr yn dilyn argymhelliad gan Swyddfa Archwilio Cymru. Dywedodd y swyddog arweiniol fod hyn yn eu rhoi mewn gwell sefyllfa nawr ac fod pethau’n mynd yn dda iawn er nad oes cynifer o wirfoddolwyr oherwydd y ffordd y mae'r gwasanaethau'n cael eu darparu. Dywedwyd wrth y pwyllgor y byddai hyn yn gwella  yn y pen draw ac y byddai'r tîm yn adolygu'r polisi gwirfoddoli gan gwblhau’r gwaith cofrestru a'r diweddariadau perthnasol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod holl gofnodion gwaddol gwefan Newport.Gov i gyd wedi'u dileu ac yn gywir. Roedd hyn yn bennaf i gynorthwyo dinasyddion gan fod y partneriaid diogelu ledled y rhanbarth wedi'u diweddaru a'u rhannu o fewn y cyngor drwy ddulliau cyfathrebu gwahanol fel y cylchlythyr a gwybodaeth sydd ar gael yn rhwydd ar y rhyngrwyd. O hyn, tynnodd y swyddog sylw at y ffaith mai'r rheswm oedd sicrhau bod mynediad i ddinasyddion at wybodaeth ddiogelu yn llawer haws i gael gafael arni.

 

Soniwyd wrth yr Aelodau bod y gosb resymol, a adwaenir fel y gwaharddiad ar smacio ysgafn. Cyfeiriwyd yr aelodau at ddiwedd yr adroddiad os ydynt am ddarllen y briff a gaiff ei gynnwys yn adroddiad y cyfarwyddwr mewn cysylltiad a chydymffurfio.

 

Nododd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol fod y tîm wedi lansio Adnodd Archwilio Hunanasesiadau Diogelu Cyngor Casnewydd. Rhoddodd hyn lawer o sicrwydd i wasanaethau’r cyngor o ran eu trefniadau diogelu ynghyd a llawer o gefnogaeth i'r adrannau. 

 

Cynlluniwyd rhan o'r cynllun blynyddol i gefnogi adrannau penodol gyda’u cynlluniau eu hunain o fewn y gwasanaethau. Dywedodd y swyddog ei bod yn galonogol bod gan lawer o bobl ddiddordeb o ran safbwynt polisi gan ei fod yn gwneud i wasanaethau feddwl am wahanol bethau a allai effeithio ar eu trefniadau diogelu. Roedd yn fuddiol gan ei fod yn helpu’r cyhoedd a staff i fynd i’r afael a’u pryderon o ran ble i droi i gael gwybodaeth gyhoeddus fwy hygyrch a dywedwyd wrthynt y byddant ymhell ar y blaen gyda hyn pan fydd gwasanaethau'r cyngor i gyd yn ailagor ar gyfer y normal newydd.

 

 

Gweithiodd y cyngor gyda phartneriaid cyn y cyfnod cloi ym mis Mawrth 2020. Yn benodol, bu Barnardo's yn gweithio ar eu prosesau a'u gweithdrefnau amddiffyn plant yng Nghasnewydd, gan ystyried sut yr oeddent yn teimlo am weithio yn y maes ymosodiadau ar blant ac amddiffyn plant, a pha welliannau y gellid eu gwneud. Nodwyd bod y dull hwn wedi bod o gymorth mawr i'r staff gan eu bod yn sicrhau cyhwysiant ym mhob rhan o’r holl wasanaethau plant sy'n edrych ar y prosesau hynny. Derbyniodd rheolwyr argymhellion gwerthfawr a'u hymgorffori ym mhrosesau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Pennaeth Diogelu mai'r prif uchafbwynt oedd bod y ganolfan ddiogelu yn cael ei hystyried yn werthfawr, a'i bod yn arbennig o dda i Gasnewydd fel model diogelu cadarnhaol gyda phartneriaid allweddol y ddinas. Roedd Uned Amddiffyn Ganolog yr Heddlu, a oedd gynt wedi'i lleoli yn rhanbarth y canolbarth, wedi newid ei ffordd o ddarparu gwasanaethau ac mae bellach yn gwneud hynny o'r Dwyrain a'r Gorllewin. Roedd hyn yn annog mwy o gyswllt gan fod yr heddlu bellach wedi'u lleoli wrth ymyl yr hyb a'r ganolfan. Roedd hyn creu trefniadau cyfathrebu gwell ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion Ifanc a'r Gwasanaethau Plant. Roedd hyn yn galluogi’r gwasanaethau i ddechrau diogelu cyn gynted ag y bo angen, felly gellir ei ystyried yn llwyddiant i Gasnewydd gan fod y tim wedi’i dreialu ond mae bellach wedi'i ymwreiddio'n gadarn yn y rhanbarth. O ganlyniad i hyn, bydd y ganolfan yn rhan o adroddiad y cyfarwyddwr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Diogelu am ei amser ac gofynnodd am gwestiynau gan y pwyllgor.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:  

 

   Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r dull symlach a geir yn y ddogfen, ond roedd yn pryderu am y dangosyddion perfformiad sy'n newid yn gyson. Cydnabuwyd na fyddai'r un peth yn cael ei gyhoeddi tan fis Mehefin 2022, felly dywedodd y Pwyllgor Craffu na fyddent yn gallu cynghori heb wybod sut y gallant helpu i wella'r materion diogelu presennol. Felly, gofynnodd y pwyllgor am y canlynol;

A)                 Sicrwydd bod y rhai sydd angen help yn cael blaenoriaeth ac a oes gan y tîm unrhyw bryderon o ran sut mae pethau’n mynd.  

B)                 A yw strwythur tîm diogelu Casnewydd yn briodol i fodloni'r materion diogelu.

 

Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Diogelu fod problem gyson o ran faint o fanylion y gallant eu datgelu a hefyd o ran rhoi llawer o sicrwydd i’r cyngor. Maent yn gweithio'n agos gydag oedolion a phlant ac felly pan fydd gan y tîm broblemau, ei i’r afael â nhw'n ffurfiol ac yn gyflym iawn. Mae materion diogelu sy’n ymwneud â phlant wedi cael sylw ar unwaith ac eithrio ym mis Ebrill 2020 pan ostyngodd nifer yr atgyfeiriadau wrth i bawb addasu i weithio o bell.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod y tîm diogelu yn derbyn atgyfeiriadau drwy amrywiaeth o lwybrau a bod y problemau yn deillio o’r ffaith bod ysgolion ar gau yn bennaf gan fod mynediad i ysgolion yn feincnod diogelu mawr.

Bu’r tîm yn gweithio gyda’r gwasanaeth addysg mewn cysylltiad a diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed yn well drwy gadw'r gwasanaethau i fynd. Roedd y tîm yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd y tu allan i ysgolion. Nodwyd bod llu o atgyfeiriadau yn dod i law oherwydd ar hyn o bryd mae pobl sy'n agored i niwed yn cael mwy o sylw. Pwysleisiodd y swyddog y bydd yr adroddiad yn wahanol gan fod y pwysau y mae'r tîm diogelu yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn wahanol iawn i'r rhai a welwyd ym mis Mawrth 2020, ond er gwaethaf hyn, dywedwyd wrth yr aelodau bod hyn yn cael ei reoli'n dda iawn.

 

Pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaeth ei fod yn rhannu rhwystredigaeth y pwyllgor yngl?n â manylion y data. Roedd newidiadau Llywodraeth Cymru i'r canllawiau yn rhwystredig o ran rheoli perfformiad, ond mae'r swyddog yn parhau'n obeithiol gan fod canllawiau newydd yn rhoi darlun clir o'r hyn a ddisgwylid gan y tîm a'r gofynion ar gyfer cyflwyno i'r bwrdd diogelu rhanbarthol yn y dyfodol. Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd y tîm o'r diwedd yn nesáu at sicrhau eglurder o ran hynny.

 

O ran sicrwydd, o fis Chwefror 2020 ymlaen roedd risg uniongyrchol i unrhyw fath o fod yn agored i niwed gan ei fod yn wasanaeth sy'n wynebu'r tu allan, nid oedd lefel y gwasanaeth yn gostwng gan fod gweithwyr cymdeithasol yn dal i fod allan yn gweithio. Rhoddwyd Cyfarpar Diogelu Personol i'r staff a chawsant eu brechu yn gynnar yn y rhaglen. 

 

Yna, dywedodd y swyddog arweiniol wrth yr aelodau fod ganddynt weithlu ifanc sy'n hyderus o ran defnyddio TG yn yr adran gwasanaethau plant ac sydd â llai o risg mewn cysylltiad a COVID ac felly eu bod yn ddigon ffodus i beidio â rhoi terfyn ar wasanaethau'n llwyr. Pwysleisiwyd bod y pwysau ar eu staff wedi bod yn sylweddol. Er bod y staff wedi ymdopi’n dda iawn, cafodd y tîm wiriad sicrwydd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

ac ni chodwyd unrhyw bryderon o ran eu hymarfer uniongyrchol. Er gwaethaf hyn, mae'n bwysig cydnabod bod y staff wedi blino ac oherwydd y pandemig mae hynny’n ymwneud a mwy na nifer yr atgyfeiriadau. 

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod yr atgyfeiriadau'n llawer mwy cymhleth a heriol i'r staff o ran gwybodaeth a sgiliau gydag atgyfeiriadau gwahanol iawn yn dod i law. Er enghraifft, ar gyfer plant gan nad oedd unrhyw un wedi eu gweld yn ystod cyfnodau clo

h.y. ymwelydd iechyd yn ymweld ag ysgolion. Mae atgyfeiriadau hefyd yn dod i law yn llawer hwyrach

gyda phlant yn dod allan o gyfnodau hirach o esgeulustod. Dywedwyd wrth y pwyllgor fod hyn yn cael effaith ddofn ar y plant o ran datblygiad eu lles corfforol a meddyliol, felly bydd yr adran yn delio â phroblemau mwy cymhleth am gyfnod hirach.

Yn y ddau wasanaeth, bu’r tîm yn darparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Ymatebodd y staff yn eithriadol o dda i'r problemau o ran tryloywder a gwneud penderfyniadau, a diolchodd y swyddog i'r Cynghorydd Cockeram am ei gymorth. Bu’r tim cyfan yn gweithio ar y cyd ond maent yn cydnabod eu bod yn wynebu cyfnod anoddach yn sgil effaith ganlyniadol y pandemig ac y byddai cyfyngu gwasanaethau o fudd ond ni allant roi'r gorau i gynnog gwasanaeth i’r rhai mewn angen.

 

       Diolchodd y Pwyllgor i'r tîm diogelu am eu hymdrechion enfawr dros y 18 mis diwethaf y mae'n rhaid eu bod wedi bod yn anhygoel o galed, roedd eu gwaith y tu ôl i'r llenni a'r arfarniadau gonest yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn.

Holodd yr Aelodau a oedd gan y tîm unrhyw argymhellion i'r Cabinet a allai fod o gymorth iddynt ar gyfer y problemau yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth mai eu prif broblem yw adnoddau, ond eu bod wedi lleisio'r problemau hyn eisoes a bod y Cabinet yn ymwybodol ohonynt. Roeddent yn gwerthfawrogi'r diolchiadau ac yn dweud y byddent eu pasio ymlaen i'w tîm.

 

       Holodd yr Aelodau a yw'r drafodaeth ar adnoddau yn broblem sylfaenol i'r tîm a sut mae'r un broblem yn effeithio ar hyfforddiant staff, roeddent yn cydnabod bod y staff iau wedi cael eu crybwyll yn gynharach o ran helpu.

 

Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaeth drwy ddweud bod aelodau ifanc eu staff yn help oherwydd bod cael gweithlu ifanc yn rhan o natur gofal cymdeithasol. Felly, mae'r trosiant yn rhesymol gyda chyfraddau isel o staff asiantaeth, gan nodi bod gan yr ardal un gweithiwr asiantaeth. Esboniodd y swyddog arweiniol eu bod hwy a'r Pennaeth Diogelu yn falch o noddi myfyriwr a llwyddodd i gael gradd dosbarth cyntaf ac a fydd yn aros gyda'r tîm. Tynnwyd sylw at y ffaith eu bod yn gallu cefnogi myfyrwyr drwy hyfforddiant gwaith cymdeithasol ai bod hynny yr un mor bwysig eu helpu i aros. Mae gan y gwasanaeth swyddi gwag, nid cymaint ag awdurdodau eraill, ond roeddent yn dadlau eu bod mewn sefyllfa dda o'i gymharu ag awdurdod mwy a bod ganddynt staff parhaol sy'n fwy buddiol am lawer o resymau. 

 

Esboniwyd bod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol gyflawni hyfforddiant parhaus er mwyn cynnal eu cofrestriad. Mae llawer o hyn yn cael ei wneud ar-lein ond mae rhai nad oes modd eu cyflawni’n rhithwir fel gyda staff preswyl ac elfennau o hyfforddiant cymorth cyntaf.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth bod y tîm wedi cynnal digwyddiad cadarnhaol ar ddechrau mis Mehefin sef cynhadledd plant a blynyddoedd cynnar gyda 150 yn bresennol. Roedd yn galonogol gweld unigolion yn croesawu ddatblygiadau newydd a soniodd fod gwaith gyda'r tîm amddiffyn plant a'r staff o blaid y newid ac yn parhau i ddatblygu ac addasu.

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod y staff yn pryderu am y diffyg adnoddau ac o ystyried pwysau’r atgyfeiriadau, mae hynny wedi effeithio ar hyfforddiant ond rhoddodd y swyddog arweiniol sicrwydd eu bod yn ceisio mynd i'r afael â hynny yn y flwyddyn i ddod, o ran y llwyth gwaith a sut i'w gydbwyso.

 

Elfen arall o'r mater hwn yw ceisio sicrhau bod adnoddau yn y lle iawn, mae trafodaeth hir ar waith ynghylch pwy arall y gallai'r tîm ei ddefnyddio i gynnal asesiadau a defnyddio adnoddau'n briodol. Mae’r broblem genedlaethol arall yn ymwneud â gwaith cymdeithasol. Mae'r swydd hon wedi wynebu heriau ledled y Deyrnas Unedig wrth iddynt barhau i orfod gweithio'n galed i gadw eu staff.

 

   Cyfeiriodd y Pwyllgor at dudalen 15 yr adroddiad a soniodd am y cynnydd mewn atgyfeiriadau sy'n ymddangos yn gyson drwy gydol blwyddyn 2021, nid yw'n edrych fel y byddai unrhyw debygolrwydd y byddai'n lleddfu.  Roedd yr Aelodau'n cydnabod, yn ystod cyfnod cau ysgolion, fod atgyfeiriadau wedi'u hatal gan fynegi eu pryderon bod achosion o esgeulustod yn dod i’r amlwg hwyrach nag fel arfer. O'r cynnydd hwn mewn anawsterau, holodd y pwyllgor pa agwedd ar y pandemig sy'n achosi hyn.

 

Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Diogelu ei bod yn ymddangos ei fod yn deillio o gyfuniad o faterion ariannol / straen / cymorth cymunedol / colli swyddi. Nid yw’r un lefel o wyliadwriaeth wedi bod ar waith yn y gymuned h.y. ymwelwyr iechyd, brechiadau i blant ifanc; a daeth teuluoedd yn llai gweladwy gyda'r achosion difrifol o esgeulustod nad oedd y cyngor yn gwybod amdanynt flwyddyn yn ôl. Mae'n anos delio â phroblemau nas cofnodwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan fod yr achosion wedi ymwreiddio'n fwy pan fyddant yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach.

 

Soniodd y swyddog ein bod i gyd wedi wynebu colled mewn ffordd, oherwydd salwch neu golli cyfleoedd a mae’r tîm yn cydnabod mai'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sydd wedi wynebu hyn fwyaf. Mae'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i gadw pobl yn ddiogel wedi cael effaith drom ar deuluoedd a'r cymorth sydd ar gael ar eu cyfer. 

Ym mis Ebrill 2020, esboniodd y swyddog fod gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau ond maent wedi cynyddu ers hynny. Mae'r tîm fel arfer yn ofni’r wythnosau ar ôl gwyliau'r ysgol neu ychydig cyn i'r disgyblion fynd ar wyliau am yr haf.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod dwy broblem y mae'r tîm diogelu yn ymdrin â hwy, y golled a'r lles emosiynol a'r effaith y mae wedi'i chael ar y gwasanaethau i oedolion a hefyd lles emosiynol a salwch plant. Mae’r straen ar blant yn yr ardal hon yn amlwg a’r effaith y mae wedi’i chael ar oedolion, er enghraifft maent wedi gweld mwy o achosion o gelcian ac Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol.

 

Nododd y Swyddog Arweiniol bod nifer yr adroddiadau am gam-drin domestig wedi cynyddu’n sydyn. Gwaethygodd yr holl bethau hyn, a bu cynnydd yn nifer y plant mewn teuluoedd fel dioddefwyr cam-drin domestig.

 

Ychwanegwyd bod cynnydd wedi bod mewn cam-drin brodyr a chwiorydd hefyd oherwydd y straen ar blant h?n o orfod bod o dan glo a hefyd mewn cysylltiad ag oedolion cymharol ifanc yn byw gyda rhieni, bu cynnydd mewn cam-drin domestig gan blant h?n ar eu rhieni. 

 

Nododd Pennaeth y Gwasanaeth y gallwn weld ledled y wlad, mewn adroddiadau o'r wasg fod y gwannaf wedi dioddef fwyaf o hyn a bod y rhai sydd â'r adnoddau lleiaf yn cael eu taro gyntaf ac yn galetaf.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am yr adroddiad a'u cyflwyniadau a chytunodd i dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: