Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet, gan dynnu sylw at gynnydd y Cyngor ar dynnu rhestr fer o brosiectau am GronfaAdnewyddu Cymunedol y DU fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau Llywodraeth Leol erbyn 18 Mehefin.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y llywodraeth Geidwadol yn eu cyllideb y buasent yn lansio Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, sef rhagflaenydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022 ac a fyddai’n cymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE, y manteisiodd Casnewydd a De Ddwyrain Cymru arnynt yn y gorffennol.
Yr oedd hyn oll yn rhan o agenda ‘Codi’r Gwastad’ Llywodraeth y DU, oedd yn cynnwys cronfa Codi’r Gwastad a gyflwynwyd hefyd i’r Cabinet.
Pwrpas y Gronfa Adnewyddu oedd cefnogi cymunedau lleol a’r economi gan ganoli ar bedair thema:
1. Buddsoddimewn sgiliau;
2. Buddsoddii fusnesau lleol
3. Buddsoddimewn cymunedau a lle
4. Cefnogipobl i mewn i waith
Yr oedd pwyslais hefyd ar i ymgeiswyr ddangos sut y byddai eu prosiectau yn cefnogi dad-garboneiddio a’r agenda newid hinsawdd.
CyhoeddoddLlywodraeth y DU y byddai 100 lle (awdurdodau lleol) ledled y DU yn cael blaenoriaeth i fynd at y Gronfa ar sail eu mynegai gwytnwch economaidd.
Yn anffodus, nid oedd Casnewydd wedi ei nodi fel ardal flaenoriaeth, ond gallai ddal i gyflwyno rhestr fer o geisiadau i’r Gronfa.
Gallai pob awdurdod lleol gyflwyno unrhyw nifer o geisiadau hyd at £3 miliwn o werth.
Gallai sefydliadau o’r sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, elusennau, sefydliadau nid-am-elw ac addysgol wneud cais trwy wahoddiad agored.
Ym mis Ebrill, lansiodd Cyngor Casnewydd wahoddiad i sefydliadau gyflwyno eu ceisiadau erbyn 21 Mai trwy eu gwefan.
Gofynnwydi ymgeiswyr nid yn unig ddangos sut y buasent yn cefnogi’r pedair thema a nodwyd ym mhrosbectws Llywodraeth y DU, ond hefyd sut y buasent yn cefnogi blaenoriaethau Casnewydd oedd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Casnewydd yn Un), Cynllun Corfforaethol y Cyngor, Nodau Adfer Covid y Cyngor, a blaenoriaethau strategol eraill fel newid hinsawdd.
Arwaethaf yr amserlen fer a osodwyd gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol sefydlu a gwahodd sefydliadau i ymgeisio, ac i sefydliadau gyflwyno eu ceisiadau, derbyniwyd 11 cais gwerth cyfanswm o £3.4miliwn.
Yr oedd y ceisiadau gan y sefydliadau oll o ansawdd uchel a gallant yn hawdd gefnogi blaenoriaethau strategol dinas Casnewydd.
Yr wyf i fel Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r Cynghorydd Hughes (Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy), Beverly Owen (Prif Weithredwr) a chynrychiolwyr partneriaid o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi asesu’r ceisiadau. Yr oedd y sgoriau ar gyfer rhoi ar y rhestr fer yn seiliedig ar feini prawf ateb y blaenoriaethau strategol cenedlaethol a lleol, y gwerth cymdeithasol a’r deilliannau fyddai o les i gymunedau ac economi Casnewydd, a sicrhau bod y prosiectau yn cynnwys cymunedau a grwpiau o bob cwr o Gasnewydd.
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau fod y Panel Asesu wedi pennu bod y ceisiadau isod yn llwyddiannus ac y dylid eu cyflwyno i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau Llywodraeth Leol:
§ Business in Focus
§ Ffilm Cymru
§ TrosGynnal Plant (TGP )
§ Pobl
§ MaendyDiderfyn
§ Casnewydd Nawr
§ Prifysgol De Cymru (PDC)
§ Volunteering Matters
Datganodd y Cynghorydd Rahman ddiddordeb fel un o Ymddiriedolwyr Maendy Diderfyn ac ni chymerodd ran yn y penderfyniad.
Ar ran y Panel, yr oedd yr holl sefydliadau wedi gwneud ceisiadau y gallesid bod wedi eu cyflwyno i Lywodraeth y DU ac yr oedd y broses o dynnu rhestr fer yn heriol a thrylwyr.
Yn anffodus, nid oedd hyn yn gwarantu y byddai’r ceisiadau a gyflwynir gan y Cyngor yn llwyddo i gael arian Llywodraeth y DU a bydd yn rhaid i ni oll aros tan fis Gorffennaf i glywed canlyniad y broses werthuso.
Boed y sefydliadau yn llwyddiannus neu beidio, a hefyd i’r sefydliadau hynny nad oedd ar y rhestr fer, diolchodd yr Arweinydd iddynt am gymryd amser i gyflwyno eu ceisiadau. Yr oedd am annog yr holl sefydliadau i ddal ati i gyflawni eu cynigion ar gyfer Casnewydd gan y byddant oll yn cael effaith ar wella bywydau pobl.
Anogodd yr Arweinydd hwy hefyd i geisio cyfleoedd eraill am grantiau oedd yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru a chyrff Cymreig eraill, a allai eu helpu i gyrraedd y nod.
I gloi, byddai’r Cabinet a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael gwybod canlyniad y broses werthuso gan Lywodraeth y DU a phan fyddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf, byddai Casnewydd eto am gefnogi sefydliadau i gyrchu’r cyllid.
SylwadauAelodau’r Cabinet:
O ran Volunteering Matters, pwysleisiodd y Cynghorydd Mayer bwysigrwydd helpu’r rhai mwyaf bregus, a chyfeiriodd at hysbyseb yr hwb cymunedol yn gofyn am gefnogaeth, yn ogystal â helpu’r mwyaf bregus i chwilio am swyddi.
Soniodd y Cynghorydd Hughes hefyd am yr effaith gadarnhaol y byddai’r cyllid yn gael ar y ddinas petai’r bid yn llwyddiannus.
Ategodd y Cynghorydd Harvey sylwadau’r Cynghorydd Mayer, gan sicrhau’r trigolion y byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi’r bobl fwyaf bregus.
Adleisiodd y Cynghorydd Cockeram hefyd sylwadau ei gydweithwyr yn y Cabinet.
Penderfyniad:
Cefnogodd y Cabinet gynnydd y gwaith oedd yn cael ei wneud gan Gyngor Casnewydd a byddid yn cyflwyno’r ceisiadau ar y rhestr fer i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau Llywodraeth Leol.
Dogfennau ategol: