Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud y byddai’r Cabinet yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Codi’r Gwastad gwerth £4.8 biliwn, gyda’r nod o godi’r gwastad mewn cymunedau ledled y DU. Proses fidio0 gystadleuol oedd hon ac yr oedd hyd at £20m o arian cyfalaf ar gael ar gyfer prosiectau adfywio a diwylliannol. Gallai terfynau cyllido uwch fod yn gymwys i gynlluniau trafnidiaeth, ond yn ystod y rownd fidio gyfredol, yr oedd y ffocws at gynllun adfywio.
Nodwyd Casnewydd fel ardal Blaenoriaeth 1, ac er bod hyn yn fantais o ran hierarchaeth anghenion, yr oedd hon yn broses gystadleuol a byddai arian yn cael ei roi yn ôl ansawdd y bid, yn hytrach na statws blaenoriaeth.
Rhaid i fidiau gael cefnogaeth AS yr etholaeth, a rhaid gwario’r holl arian erbyn 2025. Bydd nifer o rowndiau bidio, ond y terfyn amser i gyflwyno bidiau y rownd gyntaf oedd 18 Mehefin. Gofynnwyd i’r Cabinet felly gefnogi cyflwyno bid am arian i ardal a nodwyd fel Porth y Gogledd ym Mhrif Gynllun Canol y Ddinas.
Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o gynllun o’r Prif Gynllun a fabwysiadwyd, ac yr oedd Porth y Gogledd yn cwmpasu’r adran o gwmpas gorsaf ganolog Casnewydd ac yn ymestyn at y Stryd Fawr, Stryd y Bont, Stryd y Doc Uchaf, a hen safle Sainsbury’s.
Yr oedd nifer o brosiectau adfywio sylweddol wrthi neu ar y gweill yn ardal Porth y Gogledd. Yr oeddent yn cynnwys adnewyddu’r Farchnad Dan Do ac Arcêd y Farchnad, y cynlluniau cyffrous am egin-hwb yn yr Orsaf Wybodaeth, swyddfeydd newydd sbon ar hen safle IAC ar Stryd y Felin a phont droed teithio llesol newydd fydd yn cysylltu Devon Place a Queensway.
Fel prif orsaf reilffordd yn rhoi mynediad uniongyrchol i Gaerdydd, Bryste, Llundain a thu hwnt, Gorsaf Ganolog Casnewydd yw ein porth allweddol i ganol y ddinas.
Fodd bynnag, nid oedd cyfleoedd buddsoddi a’r adeiladau cyhoeddus yn yr ardal hon yr hyn y buasech yn ddisgwyl wrth gyrraedd y ddinas. Nid oedd yn rhoi i’r trigolion na’r ymwelwyr ymdeimlad o gyrraedd ac nid yw’n cyfeirio pobl i ganol y ddinas lle gallant fynd at ein busnesau, ein cyfleusterau hamdden a lletygarwch. Yr ydym am i bobl deimlo’n gadarnhaol ac wedi eu bywiogi gan yr amgylchedd lleol yn yr ardal hon, ac am i fuddsoddwyr weld yr hyn sydd gan Gasnewydd i’w gynnig.
Yr oedd argraffiadau’r artist yn yr adroddiad yn dangos yr hyn sydd yn bosib, gan gyflwyno seilwaith gwyrdd y mae mawr ei angen i ardal sydd ar hyn o bryd â llawer o arwynebedd caled. Yr oedd hyn yn gyfle hefyd i ategu mentrau teithio llesol ac i gyflwyno ein hymrwymiad a osodir allan yng Nghynnig Casnewydd, oedd yn ffurfio rhan o’r Cynllun Lles a hefyd Siarter Creu Lle Cymru.
Ategodd yr Arweinydd mai proses gystadleuol oedd hon ac nad oedd gwarant o lwyddiant; fe allem gyflwyno bidiau yn y rowndiau nesaf. Yr oedd yr Arweinydd yn sicr y cytunai’r Cabinet fod angen mynd ar ôl pob cyfle am grantiau er mwyn cyflawni ein cynlluniau adfywio uchelgeisiol i ganol y ddinas. Dylai’r porth i ganol y ddinas o’r orsaf reilffordd fod yn addas at y diben ac adlewyrchu’r hyn yr oeddem yn ceisio ei gyflawni i’n holl ymwelwyr a’n trigolion. Gofynnodd yr Arweinydd felly i’r Cabinet gefnogi cyflwyno’r bid hwn am y rownd gyntaf.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
Soniodd y Cynghorydd Jeavons fod dros 20km o lwybrau teithio llesol wedi eu gwella ledled y ddinas, megis Devon Place a rhannau o’r gamlas. Yr oedd hwn yn gyfle gwych i’r cyngor, ac fe’i cefnogwyd yn llawn gan y Dirprwy Arweinydd.
Ategodd y Cynghorydd Harvey sylwadau’r Cynghorydd Jeavons.
Ychwanegodd y Cynghorydd Truman y byddai hyn yn gyfle da i Gasnewydd, ac yr oedd yn teimlo fel darn mawr o’r jig-so i helpu i wella’r ddinas.
Sylwodd y Cynghorydd Cockeram mai Casnewydd oedd y porth i Gymru a bod hwn yn gyfle gwch i helpu i hyrwyddo’r ddinas.
Penderfyniad:
Fod y Cabinet yn cymeradwyo bid Codi’r Gwastad am ardal y Porth Gogleddol yng nghanol y ddinas.
Dogfennau ategol: