1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda item

Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2020/21

Cofnodion:

1.         AdolygiadDiwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 20/21 ar gyfer y Gwasanaethau Addysg  

         

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg drosolwg o'r adroddiad gan ddweud fod mesurau perfformiad yn gysylltiedig â deilliannau disgyblion, gwaharddiadau a phresenoldeb wedi'u dal yn ôl oherwydd y pandemig. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dulliau newydd o ddyfarnu graddau i ddysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 felly nid oedd yn briodol cymharu â'r blynyddoedd cynt. Oherwydd y cyfyngiadau cenedlaethol a oedd yn weithredol oherwydd y pandemig roedd olrhain cyrchfannau dysgwyr ôl-16 yn heriol, ac roedd canran y bobl ifanc y tybiwyd eu bod wedi cyrraedd 'cyrchfan anhysbys' ar ôl gadael yr ysgol yn uwch nag yn y blynyddoedd cynt. Serch hynny, roedd data Casnewydd ar gyfer pobl ifanc h?n nag oedran ysgol gorfodol mewn Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant yn dal i fod yn gryf a chyda'r gorau yng Nghymru.

 

Er gwaethaf y pandemig roedd gwaith sylweddol wedi parhau gan ysgolion ac addysg ganolog a bu cynnydd gyda'r rhan fwyaf o'r camau o fewn y cynllun gwasanaeth. Cafodd pandemig Covid effaith sylweddol ar yr ysgolion, fel y gwelwyd yn y cyfnodau pan fuont ar gau'n llawn, neu'n cynnig dysgu o bell yn unig, yn ogystal â'r ymgyrch fawr i gynnig dulliau dysgu cyfunol fel bo modd i ddisgyblion barhau i ddysgu wrth hunanynysu, naill ai fel unigolion neu fel cohortau o fewn ysgol.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:

 

·         Aoedd y Maes Gwasanaeth ar y trywydd i gyrraedd y targed o ran ei gyllideb ac, os ddim, pa fesurau lliniarol oedd ar waith a beth oedd sefyllfa ysgolion unigol penodol?

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed eleni. Bu tanwariant sylweddol y llynedd o bron i ddwy filiwn, a hynny'n bennaf gan na chafodd gwasanaethau trafnidiaeth, lleoliadau y tu allan i'r Sir, clybiau brecwast ac ati, eu defnyddio dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddai'r taliadau hynny'n cael eu hailsefydlu eleni, felly rhagamcannwyd y byddai'r gyllideb yn gytbwys.

O ran sefyllfa ysgolion unigol, rhagamcannwyd y byddai gan 4 ysgol ddiffyg wrth gau, ond roedd hyn yn dal i fod yn welliant sylweddol. Roedd un o’r rhain i fod i gau ac uno ag ysgol arall ac roedd y tair arall yn ysgolion Uwchradd a oedd yn cael eu monitro’n agos ac ar y trywydd iawn i leihau eu lefelau gorwariant, Byddai'r rhain yn cael eu monitro'n agos yn rheolaidd i sicrhau bod eu trefniadau cynllunio ariannol yn gadarn heb unrhyw beryg iddynt lithro'n ôl i'r coch.

 

·         Wrthweithredu mewn ffordd wahanol, gofynnodd un o'r aelodau a oedd ysgolion wedi canfod ffyrdd i arbed arian, ac a ellid defnyddio unrhyw un o'r dulliau hyn o hyn allan?

 

Esboniodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn archwilio cydweithrediad Ôl-16 i weld a oedd elfennau y gellid eu darparu'n rhithiol. Roedd hyn yn golygu na fyddai’n rhaid i ysgolion o reidrwydd weithredu ar ffurf y clystyrau cyfredol, ac y gallent o bosib gynnig y cwricwlwm ar draws mwy nag un awdurdod lleol. Rhan fawr o'r gwaith a oedd yn cael ei wneud oedd gweithio gyda llawer o ysgolion unigol i edrych ar yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu yn sgil y pandemig, edrych ar yr hyn fu'n effeithiol, nid yn unig yn nhermau arbed costau ond yn nhermau darparu'r cwricwlwm gorau i sicrhau'r canlyniadau gorau.

 

 

·         Gofynnoddyr aelodau am y mesurau monitro a oedd ar waith, defnydd ysgolion o'u cronfeydd wrth gefn a'r trefniadau i rannu gwybodaeth rhwng ysgolion.

 

Ymatebodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol drwy ddweud y byddai templed ariannol yn cael ei roi i ysgolion er mwyn olrhain unrhyw orwariant, gan amlinellu'r rhesymau wrth wraidd hynny ac a oedd yn wariant untro ai peidio. Os felly, byddai hynny'n effeithio ar y blynyddoedd i ddod. Byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dychwelyd erbyn diwedd y tymor er mwyn gallu sicrhau ansawdd dros yr haf, gan gyflwyno adroddiad i'r Cyrff Llywodraethu ar gyfer tymor yr Hydref yn amlinellu unrhyw faterion y dylent fod yn ymwybodol ohonynt. Byddai hyn hefyd yn amlygu'r ysgolion a chanddynt wargedau mawr, gan nodi'r modd y bwriedid gwario'r arian. Bu cynllunio'r gwariant am eleni yn heriol, ac yn ffodus roedd modd dwyn ymlaen rhai o'r grantiau a dderbyniwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedwyd wedyn fod amryw o wahanol fforymau wedi'u sefydlu i rannu gwybodaeth. Roedd y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn edrych ar y mecanwaith cyffredinol ar gyfer cyllido ysgolion, ac yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn i drafod agweddau fel heriau, gwaith cynnal a chadw cyfalaf a systemau TG. Roedd cyfarfodydd adennill diffyg yn cynnwys aelodau o'r Adran Gyllid a'r ysgolion, ac fe gafwyd trafodaethau cadarn ynghylch sut roedd yr ysgolion yn rheoli eu cyllidebau, a sut roeddent yn gweithredu oddi mewn i derfynau'r cyllid a ddyrannwyd.

 

 

·         Pa feini prawf a ddefnyddiwyd i fesur llwyddiant o ran sicrhau Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant i'r rhai sy'n gadael yr ysgol?

 

Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod data ar gyrchfannau pobl ifanc o ysgolion unigol yn cael eu cyrchu'n rheolaidd, a bod modd felly adnabod y rhai a oedd heb gyrchfan, a rhoi cymorth perthnasol i'r dysgwyr hynny. Roedd Casnewydd wedi'i chydnabod yn rhanbarthol am arfer da, ac yn y flwyddyn gynt roedd ein ffigurau'n well na chyfartaledd Cymru gyfan. Cafwyd heriau y llynedd gan fod cyfyngiadau Covid yn amharu ar y gallu i wirio a oedd pobl ifanc mewn hyfforddiant, addysg neu swydd, ac roedd hyn wedi golygu bod cyrchfan nifer fwy o bobl ifanc yn anhybsys na'r targed gwreiddiol.

Roedd hwn bellach yn faes i ganolbwyntio arno, lle roedd angen gweithio'n llawer cynt tra bo pobl ifanc yn dal yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo nifer fwy ohonynt i gyrraedd cyrchfan lle bo modd. Yn aml, roedd y bobl ifanc â chyrchfan ansicr yn ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a chydnabuwyd bod hyn weithiau'n rhwystr iddynt allu manteisio ar swydd, hyfforddiant neu addysg. Serch hynny, cefnogwyd yr unigolion hynny gennym yn yr un modd ag y cefnogwyd eraill, ac roedd ein cysylltiadau â darparwyr hyfforddiant yn gryf yn benodol yn y maes hwnnw, felly bu modd inni helpu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i gyrraedd cyrchfan addas a pherthnasol.

 

·         Ayw'r Cyngor wedi parhau i fonitro presenoldeb mewn ysgolion drwy gydol y pandemig ac a oedd y ffigurau'n amlygu troseddwyr cyson.

 

Er nad oedd gofyniad statudol eleni i gasglu data presenoldeb, atebodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg drwy ddweud ein bod fel Cyngor wedi gofyn i'r ysgolion barhau i gasglu a chofnodi'r data hyn yn ddyddiol. Yna cafodd y ffigurau hyn eu rhannu'n fisol â'r holl ysgolion fel bod y gwasanaeth Llesiant Addysg yn ymwybodol o unrhyw broblemau. Roeddem yn disgwyl i'r ysgolion fonitro eu disgyblion eu hunain a nodi dysgwyr â phroblemau neilltuol o ran presenoldeb, fel bo modd targedu cymorth ychwanegol atynt er mwyn helpu i wella eu presenoldeb.

 

·         Sut mae'r Cyngor wedi sicrhau bod safonau wedi cael eu cynnal drwy gydol y pandemig, yn enwedig wrth ddysgu'n gyfunol?

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod hyn wedi bod yn arbennig o anodd dros y flwyddyn gan nad oeddem wedi gallu mynd i mewn i'r ysgolion yn llythrennol i wirio a monitro. Roeddem wedi rhoi cymorth cyffredinol i'r Penaethiaid, ond nid oeddem wedi olrhain perfformiad fel y gwnaed o'r blaen. Bu trafodaethau rhwng ysgolion i rannu profiadau o ddysgu cyfunol a chyfranogiad sylweddol gan yr undebau i sicrhau bod y gwahanol fecanweithiau a'r mesurau sicrhau ansawdd ar waith.  Roeddem wedi ymdrechu i roi cymaint o fesurau sicrwydd ansawdd â phosibl ar waith, er na fu modd i'r mesurau hynny fod mor gynhwysfawr ag y byddem wedi'i ddymuno, oherwydd cyfyngiadau Covid.

 

·         Holwyd am gynllun adfer ar ôl Covid a'r heriau wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod llesiant y plant o'r pwys mwyaf. Byddem yn defnyddio'r profiadau a gafwyd wrth ddysgu'n gyfunol a rhannu arfer gorau. Byddai'n bwysig iawn ennyn diddordeb plant mewn cyfleoedd dysgu a'u hannog i gymdeithasu'n addysgol. Soniodd rhai ysgolion am heriau ymddygiad ar ôl llacio cyfyngiadau'r clo, ond gwnaethom ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd o'r systemau a oedd yn hybu dysgu cryf, fel y dull dysgu cyfunol fu'n agwedd gref iawn. Byddai maint y gefnogaeth a ddarperir i'r ysgolion a'r trefniadau iddynt rannu arfer da ymhlith ei gilydd yn cael ei ymgorffori yn y cwricwlwm newydd a oedd yn cael ei ddatblygu, a byddai llesiant wrth graidd y cwricwlwm hwnnw.

 

Er nad oedd modd inni wneud sylwadau ar ansawdd y gwaith, roeddem yn gallu cadarnhau bod nifer y disgyblion a oedd yn cyrchu dysgu ar-lein yn ystod y pandemig wedi cynyddu'n sylweddol. Hwb oedd y llwyfan yr oedd y rhan fwyaf o'r ysgolion yn ei defnyddio ar gyfer eu gweithgareddau dysgu tra'r oedd y disgyblion gartref.  Roedd y ffigurau a oedd ar gael yn dangos cynnydd o oddeutu 42,000 o fewngofnodion ym mis Medi 2020 i 141,000 o fewngofnodion ym mis Ionawr 2021, ac roedd hyn yn arwydd da bod disgyblion yn ymgysylltu yn ystod y cyfnodau clo.

 

·         Sut mae'r Cyngor wedi monitro'r plant hynny a wnaeth golli diddordeb mewn addysg yn yr ysgol?

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod 207 o bobl ifanc y gwyddys eu bod yn derbyn addysg gartref, ac roedd hyn ddwywaith yn uwch na ffigur y llynedd. Er mwyn sicrhau cefnogaeth i'r teuluoedd hynny, byddai'r Gwasanaeth Llesiant Addysg yn cysylltu ac yn cynnal ymweliadau blynyddol i weld pa waith ysgol oedd yn cael ei osod iddynt gartref. Roeddem yn gweithio gyda’r teuluoedd hynny i ymgysylltu â nhw a cheisio eu hailgysylltu ag addysg yn yr ysgol. Roeddem wedi derbyn cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cymorth a monitro dros y flwyddyn i ddod.

 

Gofynnodd yr Aelodau wedyn sut yr oedd plant a addysgir gartref yn cael eu hasesu?

Dywedwyd nad oedd unrhyw ofyniad i'r plant hynny ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol nac i sefyll unrhyw arholiadau nac asesiadau. Er bod rhai rhieni'n dewis trefnu i'w plant sefyll arholiadau TGAU, nid oedd unrhyw ofyniad ffurfiol ar gyfer hynny. Wrth gwrs, os oeddent yn dymuno symud ymlaen i Brifysgol, byddai'n rhaid iddynt sefyll yr arholiadau angenrheidiol. Byddai'n rhaid i'r rhieni sicrhau eu bod yn dilyn y cwricwlwm angenrheidiol, yn trefnu i'w plant sefyll arholiadau fel ymgeisydd preifat a gofyn i ysgol weithredu fel canolfan arholi ar gyfer y plentyn, ond gwaith y rhiant oedd trefnu hynny i gyd.

 

·         Sut ydym ni wedi sicrhau bod y disgyblion mwyaf agored i niwed a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymaint o gymorth ag eraill yn ystod y pandemig?

 

Ymatebodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod grant wedi'i roi i sefydlu tîm iechyd a chymorth y gallai pob ysgol gael mynediad ato a chydweithio ag ef i sicrhau llesiant yr holl fyfyrwyr fel blaenoriaeth ysgol gyfan, ac roedd pecyn cymorth wedi cael ei ddefnyddio i weld pa ymyraethau oedd yn fwyaf buddiol i ddysgwyr unigol. Lle penderfynwyd bod angen cymorth wyneb yn wyneb ar rai o'r dysgwyr, trefnwyd i'r dysgwyr hynny ddod i mewn i'r ysgol, a darparwyd cymorth ar-lein a dros y ffôn yn ogystal â llinell gymorth y gwasanaeth seicoleg i rieni a gofalwyr. Bu cydgysylltwyr Plant sy'n Derbyn Gofal yn gweithio gyda dysgwyr unigol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogaeth drwy gydol yr amser. Cadwyd cyswllt cyson drwy gydol yr amser â Phenaethiaid er mwyn canfod atebion i unrhyw broblemau a fyddai'n codi ymhlith dysgwyr ADY.

·         Dywedoddyr Aelodau fod y mesurau a osodwyd wedi tawelu eu meddyliau, a gofynnwyd a oeddem yn barod am geisiadau am gymorth yn y dyfodol.

Dywedodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod hyn wedi'i nodi'n risg sylweddol. Roeddem eisoes wedi gweld cynnydd mewn ceisiadau am asesiadau statudol, a phroblemau ymddygiad. Roedd ymarfer recriwtio eisoes ar y gweill i denu staff ychwanegol i rolau AAA a chynghorol.

 

·         Gofynnoddyr aelodau am y newyddion diweddaraf ynghylch gweithredu'r polisi arfau mewn ysgolion.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod y polisi rheoli arfau mewn ysgolion wedi'i ddatblygu'n wreiddiol ar ffurf gwaith ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a'r Tîm Cynhwysiant. Nod y polisi oedd sicrhau ymagwedd gyson ar draws y ddinas i atal pobl ifanc rhag troi'n droseddwyr, ond hefyd i sicrhau bod y bobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cefnogaeth i ymdrin ag unrhyw broblemau a oedd wedi achosi iddynt fynd ag arf i'r ysgol yn y lle cyntaf. Roedd yr Heddlu wedi cymryd rhan amlwg ac yn drydydd partner yn y cynllun. Roedd y Polisi wedi'i dreialu ar draws ysgolion Uwchradd a byddai'n cael ei gymeradwyo yn yr Hydref. Byddai unrhyw achos o bwys yn cael ei gyfeirio i'r llwybr troseddol ffurfiol, ond byddai angen sicrhau cysondeb drwy'r Ddinas ar gyfer unrhyw gosbau llai a fyddai'n cael eu gweithredu gan yr ysgolion.

Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed mai'r bwriad oedd cyflwyno'r cynllun Arfau ym mhob ysgol yn ddiweddarach eleni, ac yn mynegi pa mor bwysig oedd hi i addysgu a chodi ymwybyddiaeth ar frys i osgoi lefel y troseddau arf a welir mewn ardaloedd fel Llundain.

·         Yndilyn cwestiwn ynghylch faint o ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'r Ddinas a pham, dywedwyd y byddai'r union ffigur yn cael ei gadarnhau ar ôl y cyfarfod, ond bod sefydliadau penodol yn derbyn disgyblion o bob rhan o'r wlad, yn dibynnu ar anghenion penodol yr unigolion. Roedd ar y plant hynny ag anghenion corfforol neu arbenigol sylweddol weithiau angen darpariaeth breswyl, ac roedd angen eu haddysgu mewn lleoliadau a chanddynt yr addasiadau a'r ddarpariaeth addysgol arbenigol angenrheidiol.

 

·         Beth yw'r heriau a'r pryderon ynghylch nifer y disgyblion a'r dalgylchoedd, yn benodol o ran datblygiadau tai newydd?

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol y llwyddwyd i leihau nifer yr ymgeiswyr o'r tu allan i ddalgylchoedd Caerllion a Somerton, yn dilyn yr addasiad diweddar i'r dalgylchoedd hynny. Bu problemau'n gysylltiedig â nifer y disgyblion yn Nh?-Du yn dilyn datblygiad Parc y Jiwbilî gan nad oedd y niferoedd wedi gwastatau yn ôl y disgwyl. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei ailfodelu yn y dyfodol, gyda'r gobaith y byddai niferoedd y disgyblion yn gwastatau wrth i Barc y Jiwbilî ddod yn nes at fod wedi'i gwblhau. O ran ehangu ysgol gynradd Parc Tredegar, roedd modelau amcanestyniadau disgyblion yn dangos na fyddai'r galw yn yr ardal honno yn ymddangos mor gynnar â'r disgwyl. Roedd yr oedi'n deillio o'r angen i oresgyn problemau Cynllunio, felly roedd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ffyrdd eraill o ddefnyddio'r cyllid.

 

·         Gofynnodd un o'r aelodau a oedd pryderon ynghylch y cynnydd a ragamcanwyd mewn costau adeiladu, a'r goblygiadau'n gysylltiedig â chostau yn nyfynbris Newport Norse.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod amcangyfrifon costau a gyflwynwyd gan ein partneriaid yn Newport Norse yn dangos nad oedd y cyllid a neilltuwyd o bosib yn ddigon oherwydd problemau'n deillio o Covid a Brexit, yr oedd y naill a'r llall wedi effeithio ar y fasnach adeiladu mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Roedd opsiwn i wneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid pellach. Roedd costau prosiectau'n cael eu monitro'n barhaus ac argymhellai adroddiad i'r Cabinet ar ddechrau'r cyfnod clo y llynedd y dylid dileu rhai o'r prosiectau is eu blaenoriaeth er mwyn canolbwyntio ar yr holl brosiectau gwerth uwch. O fewn prosiect, bu'r ysgol a'r datblygwr yn cydweithio i gael gwared â rhai agweddau os oedd teimlad nad oeddent yn mynd i gynnig gwerth am arian.

Gofynnodd y Pwyllgor wedyn a ellid trefnu i Lywodraethwyr Ysgol gael sesiynau hyfforddi ychwanegol gan Newport Norse er mwyn iddynt gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio darparwyr.

 

·         Holoddyr aelodau beth oedd sefyllfa'r Cyngor Ieuenctid a sut oedd sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael gwrandawiad digonol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol sicrwydd i'r Pwyllgor fod cryn dipyn o waith cadarnhaol wedi'i wneud mewn perthynas â sicrhau bod llais y dysgwr yn cael ei glywed. Roedd trefniadau cyfathrebu da ar waith rhwng y cyngor ysgol a'r cyngor ieuenctid fel bod negeseuon yn cael eu lledaenu a gwybodaeth yn cael ei rhannu. Bellach, roedd angen datblygu'r cysylltiadau cryf a oedd yn bodoli o fewn yr ysgolion uwchradd o fewn yr ysgolion iau.

 

Roedd y Cyngor Ieuenctid wedi darparu peth cymorth rhagorol i ysgolion dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi datblygu cysylltiadau cryf iawn ag uwch arweinwyr ar draws ysgolion. Roeddent wedi cynhyrchu llawlyfr a oedd wedi'i rannu â phob ysgol i'w cefnogi wrth gyflwyno'r cwricwlwm LGBTQ Plws a syniadau ar gyfer gweithgareddau i gefnogi pobl ifanc. Roeddent wedi cymryd rhan flaenllaw yn natblygiad y canllawiau gwrth-fwlio newydd a’r polisi enghreifftiol a ddosbarthwyd i'r ysgolion, ac wedi cymryd rhan allweddol er mwyn cael barn dros 100 o bobl ifanc fu'n rhan annatod o’r darn hwnnw o waith.  Roedd lefel y cyfathrebu ganddynt â'r ysgolion mewn gwirionedd wedi cynyddu dros y 12 mis diwethaf.

 

·         Roeddyr aelodau'n pryderu nad oedd y Cyngor Ieuenctid ond yn cynnwys tua 12 o aelodau ar hyn o bryd, ac yn dymuno cael cynrychiolaeth ehangach i adlewyrchu ystod ehangach o safbwyntiau.

 

Ymatebodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol drwy ddweud bod yr aelodau presennol yn hynod weithgar a bod ganddynt gylch gorchwyl ehangach na materion addysg yn unig, ac y byddai’n gofyn i’r Tîm Polisi a Phartneriaeth ddarparu gwybodaeth fanylach am aelodaeth a niferoedd presenoldeb a rhoi trosolwg o  agweddau eraill ar weithgareddau'r Cyngor Ieuenctid.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Swyddog Addysg a'r Penaethiaid Addysg Cynorthwyol am eu hymatebion cynhwysfawr i gwestiynau'r Aelodau.

 

Casgliad - Sylwadau i'r Cabinet

 

Nododd y Pwyllgor yr Adroddiad Cynllun Gwasanaeth Diwedd Blwyddyn a chytuno i anfon y cofnodion ymlaen at y Cabinet ar ffurf crynodeb o'r materion a godwyd. Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwneud y sylwadau a ganlyn i’r Cabinet:

 

 

·         Roedd y Pwyllgor yn falch iawn ag ansawdd yr adroddiad, ac am gyhoeddi bod gan yr holl swyddogion a staff bob hawl i ymfalchïo yn eu gwaith ac am sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau a ddarparwyd wedi parhau i fod o ansawdd da drwy gydol un o'r cyfnodau mwyaf anodd o fewn cof.

 

·         Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod bwriad i’r cynllun Arfau sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn Ysgol Uwchradd gael ei gyflwyno i bob ysgol yn ddiweddarach eleni, a mynegwyd pwysigrwydd sicrhau addysg ac ymwybyddiaeth ar frys i osgoi lefelau troseddau arfau a welir mewn ardaloedd fel Llundain.

 

·         Roeddyr aelodau hefyd yn falch o glywed bod y maes gwasanaeth yn parhau i fonitro cyllid ysgolion gan fod rhai ysgolion yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn, ac yn croesawu gwaith pwysig a oedd yn cael ei gyflawni gan y maes  gwasanaeth ochr yn ochr â chydweithwyr o'r adran Gyllid i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o broblemau posibl ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor a ellid trefnu i Lywodraethwyr Ysgol gael sesiynau hyfforddi ychwanegol gan Newport Norse er mwyn iddynt gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio darparwyr.

 

·         Holoddyr Aelodau a allai'r Aelod Cabinet Addysg gytuno ar Friff i'r Holl Aelodau ar y Cwricwlwm i Gymru ryw bryd yn y dyfodol.

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor hefyd a allai gael gwybodaeth ychwanegol am y canlynol:

1.    Gwybodaethychwanegol am Ystafelloedd Ymdawelu mewn ysgolion arbennig.

2.    Nifer y plant sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'r sir ar hyn o bryd, a'r rhesymau pam.

3.    Gwybodaethychwanegol am y Fformiwla Cyllido Ysgolion a'r dull o'i chyfrifo.

4.    Gwaith a gyflawnwyd yn ddiweddar gan y Cyngor Ieuenctid sydd oddi mewn i'r Gyfarwyddiaeth Pobl, yr aelodaeth gyfredol yn ogystal ag uchafswm yr aelodau a ganiateir.

 

 

Dogfennau ategol: