Agenda item

Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2020/21

Cofnodion:

Adfywio, Buddsoddi a Thai

Gwahoddedigion:

-          Tracey Brooks - Pennaeth Dros Dro, Adfywio, Buddsoddi a Thai

-          Y Cynghorydd Jane Mudd – Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Dwf Economaidd a Buddsoddi 

 

Cyflwynwyd trosolwg cryno i'r pwyllgor o'r adroddiad gan y Pennaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai dros dro i dynnu sylw at yr heriau a'r cyfleoedd allweddol a wynebodd y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Tynnodd y Swyddog Arweiniol sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn cynnig rhywfaint o fewnwelediad i heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn ystod cyfnod y pandemig a gafodd effaith sylweddol ar y gwasanaeth, er enghraifft, roedd yn golygu delio llawer â thrigolion sy'n agored i niwed ond hefyd darparu gwasanaethau fel arfer yn sgil y ffordd newydd o weithio.

 

Hysbyswyd y pwyllgor o’r modd yr ymatebodd y gwasanaeth i'r her drwy barhau i gefnogi'r hybiau cymdogaeth. Awgrymwyd ei bod mewn gwirionedd yn flwyddyn dda i'r canolfannau cymunedol gan mai dim ond ychydig cyn Covid-19 y lansiwyd y model gweithredu.  Dangosodd hyn sut y llwyddodd cydweithwyr yr Hybiau Cymunedol a gwasanaethau partner ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd a gwasanaethau hanfodol iawn naill wyneb yn wyneb neu drwy ddulliau rhithwir. Nodwyd hefyd i ardaloedd Dechrau'n Deg barhau i gadw’i fynd oherwydd cefnogaeth y tîm a bod parseli bwyd yn dal i gael eu danfon i'r rhai a oedd yn gorfod hunan-warchod. Roedd bwndeli babanod hefyd yn cael eu hanfon at lawer o famau newydd mewn angen.

 

Pwysleisiodd y swyddog wrth yr aelodau fod effaith sylweddol ar y gwaith datblygu economaidd.  Ond er gwaethaf hyn, sicrhawyd y pwyllgor nad oedd yn atal dyheadau'r tîm i dyfu Casnewydd fel Dinas ac nad yw hyn wedi atal gwaith adnewyddu ac adfywio yn y ddinas. Er enghraifft, mae'r gwaith yn parhau ar gyfer yr Arcêd Canolog a hefyd ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd a fyddai'n datgloi safle i Goleg Gwent gael campws newydd.  Esboniodd y swyddog fod hyn yn dangos sut roedd y tîm yn gweithio'n dda o dan bwysau i ymateb i'r pandemig yn unol â hynny, ond bu'n rhaid i’r tîm hefyd yrru'r gwasanaeth yn ei flaen gyda chyfleusterau a chyfleoedd pellach.

 

Eglurwyd i'r pwyllgor mai maes mwyaf heriol y gwasanaeth oedd yr effaith ar ddigartrefedd yn sgil y pandemig. Ceisiodd y tîm yn galed iawn ddarparu ar gyfer pobl a oedd yn ei chael hi'n anodd yn wyneb colli 300 a mwy o unedau, a oedd fel arfer yn cael eu defnyddio i gartrefu'r bobl hynny.  Dwedwyd wrth y pwyllgor fod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig ond awgrymodd fod galw mawr wedi bod am lety dros dro oherwydd nad oedd llawer o westyau'n gweithredu a’u bod fel arfer yn defnyddio gwestyau ar gyfer anghenion llety'r tîm. Ond er gwaethaf hyn, camodd y tîm i’r adwy a chyflawni yn wyneb heriau sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor yn cytuno â'r Pennaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai.

 

Agorodd y cadeirydd gyfle i holi'r swyddog arweiniol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

 

·         Holodd y Pwyllgor ai hon fyddai'r sianel briodol ar gyfer rhoi gwybod am faterion cynnal a chadw ynghlwm â hyb cymdogaeth.

 

Dwedodd y Swyddog Arweiniol wrth y Pwyllgor y bydd hyn yn cael ei drefnu gyda'r tîm perthnasol i ymdrin â'r mater parhaus.

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor sut y byddai'r tîm yn rheoli'r posibilrwydd o orfod troi pobl allan o’u cartrefi wedi’r ôl-groniad o achosion.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth mai dim ond fesul achos y gellid ystyried pob achos, a bod yr embargo hwnnw wedi'i ymestyn tan fis Medi 2021 nawr er mwyn gwthio hyn yn ôl.

 

Nododd y Pwyllgor hyn a chyfeirio hefyd at yr adroddiad mai'r llwyddiant mwyaf fu'r ffordd y llwyddodd staff y cyngor i ymateb i'r sefyllfa ddigynsail gyda phroffesiynoldeb.

Cytunwyd y gallai'r argyfwng fwrw cysgod dros y gwaith da y mae'r Cyngor wedi'i wneud.

 

·         Cydnabu'r Pwyllgor ymhellach fod swyddogion y Cyngor wedi delio â'r sefyllfa hon yn dda. Yna holodd y Pwyllgor a yw'r cadarnhaol a'r gwersi a ddysgwyd o fynd drwy'r pandemig wedi'u cofnodi ar sut y bu i bawb addasu?

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor sicrwydd i'r Pwyllgor drwy dynnu sylw at y ffaith bod diweddariad misol yn cael ei roi i'r Cabinet ar adferiad ac nid ur ymateb i Covid yn unig. Dangosodd fod popeth angenrheidiol wedi'i gofnodi drwy gydol y pandemig i'w adolygu.

 

Diolchodd y pwyllgor am yr ymatebion a ddarparwyd a chadarnhaodd nad oedd ganddynt unrhyw argymhellion gan mai'r consensws cyffredinol oedd eu bod yn fodlon â'r ymatebion a ddarparwyd.

 

Gwasanaethau’r Ddinas

Gwahoddedigion:

·         Paul Jones - Pennaeth Gwasanaethau’r Ddinas 

·         Y Cynghorydd Roger Jeavons - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas 

 

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinasdrosolwg cryno o'r adroddiad a ddarparwyd ac esboniodd mai cyflawniad y gwasanaeth oedd cadw'r gwasanaethau i fynd yn ddidrafferth. Rhoddodd yr heriau parhaus o'r ail gyfnod clo lawer o straen ar oruchwylwyr safle wrth orfod addasu'n gyflym. Er gwaethaf hyn, dadleuwyd bod y gwasanaeth yn parhau i weithio'n effeithiol drwy gydol y broses, ei fod wedi cyflawni a'i fod yn symud ymlaen yn dda ar ei gynllun gwasanaeth.  Er enghraifft, Casnewydd oedd yr ail ddinas ailgylchu orau yn y Deyrnas Gyfunol am ddwy flynedd yn olynol ac awgrymodd fod hyn yn rhywbeth y dylai'r Cyngor fod yn falch ohono.

 

Dwedwyd wrth y Pwyllgor mai dim ond oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol y daeth yr ardal o fewn y gyllideb. Pe na bai'r Cyngor wedi gallu adennill eu hincwm coll, byddai Gwasanaethau'r Ddinas wedi bod £3.5 miliwn dros eu cyllideb. Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaeth fod cymorth Llywodraeth Cymru ar ei ben ei hun wedi bod yn achubiaeth i awdurdodau lleol, a dwedodd y bydd yn rhaid iddynt weld sut y bydd y gwasanaethau'n setlo gan eu bod fel arfer yn cynhyrchu tua £1.7 miliwn y flwyddyn o ffioedd parcio ceir yn unig. Aeth Pennaeth y Gwasanaeth ymlaen i egluro bod Covid, yn eironig, wedi helpu'r gwasanaeth gyda'i berfformiad wrth iddo addasu mewn rhai ffyrdd, er enghraifft, y byddai'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn ei chael hi'n anodd cyrraedd ei tharged arferol o 65%, ond iddi lwyddo i gyrraedd 95% eleni. Roedd yn rhaid i'r tîm addasu a oedd yn golygu eu bod yn hidlo pobl drwy'r system archebu ar-lein yn well ac roedd y tîm yn gallu gwahanu'r deunyddiau yn well nag o'r blaen.  Cafwyd effaith gadarnhaol hefyd ar ddirywiad y priffyrdd hefyd oherwydd nifer is o geir ar y ffordd.

 

Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth sylw at y ffaith mai un maes yn bendant a gafodd y drafferth fwyaf oedd Canolfan Gyswllt y Ddinas gyda'r cynnydd mewn amseroedd aros. Nid oedd hyn yn fai ar y staff gan eu bod wedi ymgymryd â llawer mwy o gyfrifoldebau fel Llys y Crwner a bu'n rhaid iddynt addasu'n gyflym oherwydd y cynnydd yn nifer yr unigolion sy'n cysylltu â staff y cyngor drwy'r ap digidol. Esboniwyd o'r cynnydd hwn mewn cyfathrebu bod yr amser aros wedi cynyddu.  Sicrhawyd y Pwyllgor bod yr amser aros wedi'i leddfu ychydig ond bod y tîm yn dal i fonitro'r amser.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dinas ei fod yn diolch yn ddiffuant i holl staff Gwasanaethau'r Ddinas am gadw'r gwasanaethau ar agor mewn blwyddyn na welwyd ei thebyg. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at y gwaith rhagorol a wnaed yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff a chyfeiriodd y pwyllgor hefyd at gydnabod yr asedau priffyrdd a'r gwaith y mae'r tîm wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â’r haint aer sy’n effeithio ar goed ynn (Clefyd Coed Ynn). Esboniodd yr Aelod fod llawer o waith drud a rhad wedi'i wneud ar y mater hwn, yn bennaf ar Caerleon Road..

 

Roedd y Pwyllgor am gofnodi eu diolch diffuant i'r tîm o lanhawyr strydoedd, a dywedasant fod y gymuned yn gwerthfawrogi'n fawr a hefyd yn bwrw eu diolch yn ehangach i Wasanaethau'r Ddinas gyfan. Roeddent yn cydnabod bod Gwasanaethau'r Ddinas wedi bod yn y rheng flaen o ran delio â'r pandemig megis priffyrdd, ailgylchu a'r ganolfan gyswllt.  Parhaodd y Pwyllgor i werthfawrogi bod ceisio newid dulliau gweithio wedi bod yn her enfawr megis cysylltu â'r gwasanaethau brys, roedd yn waith hynod o anodd felly roedd y pwyllgor am roi eu llongyfarchiadau i bawb sy'n ymwneud â'r gwasanaeth ar eu gwaith.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet unrhyw gwestiynau a allai fod gan y Pwyllgor yngl?n â'r hyn a drafodwyd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

 

·         Cydnabu'r Pwyllgor pa mor dda yr ymatebodd Gwasanaethau'r Ddinas i adroddiadau ar faterion fel tipio anghyfreithlon a chytunodd eu bod yn haeddu canmoliaeth. Soniodd y Pwyllgor am un mater sef colli’r gwasanaeth wyneb yn wyneb yn yr Orsaf Wybodaeth. Ymhelaethodd yr aelodau ar y pwynt hwn a defnyddio esiampl ar gyfer ardaloedd â llawer o barcio preswylwyr lle mae’r henoed yn gyfarwydd ag adnewyddu eu trwyddedau drwy fynd i'r Orsaf Wybodaeth. Dadleuodd y pwyllgor y bu ychydig o gwynion am yr oedi cyn cael y trwyddedau yn ôl a arweiniodd at eu cosbi'n annheg gan y wardeiniaid parcio. Er bod y Pwyllgor yn cymeradwyo llwyddiant y tîm, roeddent yn cytuno bod ochr andwyol i gael eich gorfodi i wneud rolau gwasanaeth cwsmeriaid yn rhithiol. Felly, nododd yr Aelodau y gallai hyn fod yn wers o'r cyfnod hwn sef bod llawer o ddinasyddion Casnewydd yn gwerthfawrogi gwasanaethau wyneb yn wyneb yn fawr ac efallai nad ydynt yn gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau TG.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth fod yn rhaid iddynt addasu eu gwasanaethau ar fyr rybudd fel gweddill y Cyngor.  O ran yr Orsaf Wybodaeth, oherwydd bod yn rhaid argraffu trwyddedau â llaw, eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth fod hyn wedi achosi ychydig o oedi ond sicrhaodd y Pwyllgor eu bod wedi gwneud y system yn fyw drwy broses electronig ar gyfer trwyddedau erbyn hyn felly efallai na fyddai trwyddedau papur yn cael eu defnyddio gymaint mwyach.  Fodd bynnag, cydnabyddir bod yn well gan rai pobl y profiad wyneb yn wyneb gan ei fod wedi golygu llawer o waith addasu ac mae'r gwasanaeth wrthi'n dod o hyd i'w draed yn y dull newydd o weithio. Cydnabu'r Pennaeth Gwasanaeth na fydd bywyd yr un fath ag yr oedd o'r blaen ond mae'r tîm yn gweithio i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl drwy wasanaeth cynhwysol wrth symud ymlaen.

 

·         Holodd y Pwyllgor a yw tîm y Mynwentydd wedi ystyried mynd ar hyd trywydd atal cerbydau wrth fynd i mewn ac allan o'r mynwentydd yn ystod yr wythnos, a pha hysbysiadau a oedd yn cael eu rhoi i'r cyhoedd drwy'r wasg i gyrraedd trigolion oedrannus yn benodol.

 

Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod y cyfyngu ar fynediad i gerbydau wedi'i weithredu yn y cyfnod clo cyntaf yn 2020, gyda dulliau cyfathrebu cyfyngedig ar y pryd. Mae angen ardal weithredu ddiogel ar y tîm felly mae'n caniatáu cerbydau ar y penwythnos yn ôl yr arfer a chaniatâd arbennig i'r rhai nad ydynt mor symudol os nad oes peiriannau ar y safle gan y tîm. Yn anffodus, bu cynnydd yn yr angen am waith a wnaed yn y mynwentydd yn ystod y pandemig am resymau amlwg ond gyda materion symudedd roedd y tîm yn hapus i gynorthwyo ac fel arfer, caniateir i ddinasyddion ymweld ar y penwythnosau. 

 

·         Dilynodd y Pwyllgor yr ymateb hwn drwy ofyn sut y byddai'r gwasanaeth yn cyfleu hyn i'r henoed heb ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol o ran gwrthod hawl i ymweld â'r mynwentydd yn ystod yr wythnos. Yn ogystal, ychwanegodd y Pwyllgor a fyddai'r tîm yn ystyried rhoi cysgodfan i ymwelwyr fynd iddo mewn tywydd garw ac a ellid gwneud tapiau d?r yn fwy lleol mewn rhai rhannau o'r mynwentydd.

 

Mewn ymateb, dwedodd Pennaeth y Gwasanaeth fod y cais am dapiau d?r mwy lleol wedi'i nodi i'w grybwyll i'r tîm. Esboniwyd bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn ymwybodol o'r amseroedd agor newydd am eu bod yn ceisio peidio ag annog ymweliadau yn ystod yr wythnos gan mai dyma'r adeg pan fydd angladdau'n cael eu cynnal fel arfer. Gan ystyried hyn, cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth y bydd tîm Gwasanaethau'r Ddinas yn ystyried sut i ddosbarthu'r wybodaeth yn llwyddiannus yn rhithwir.

 

Soniodd yr Aelod Cabinet eu bod wedi derbyn llawer o ganmoliaeth am yr heddwch a'r tawelwch ar dir y fynwent tra bod ymwelwyr yn ffarwelio ag anwyliaid yn ystod yr angladd gan nad oes ceir yn mynd ar hyd y lle neu y tu ôl iddynt. Roedd yr Aelod Cabinet yn deall sylwadau'r Pwyllgor ond ar y llaw arall dwedodd fod tawelwch llonydd yn fwy priodol ar gyfer y lleoliad.

 

Cafwyd trafodaeth a chytunodd y pwyllgor a derbyn yr adroddiad a sôn y dylai'r Cyngor roi cyhoeddusrwydd i'r eithaf fod y ddinas yn debygol o gadw’i lle am yr ail flwyddyn yn olynol ar fod y gorau am ailgylchu gan ei fod yn gyflawniad anhygoel. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaeth y bu rhywfaint o gynnydd gwych o fewn y Cyngor dros y tair blynedd diwethaf.

 

Cyllid

Gwahoddedigion:

·         Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid

·         Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol 

·         Emma Johnson – Rheolwr Casglu Incwm

·         Richard Leake – Rheolwr Gwasanaeth Caffael a Thaliadau

·         Andrew Wathan - Prif Archwilydd Mewnol

 

Nododd y Pennaeth Cyllid, yn union fel pob gwasanaeth arall o fewn y Cyngor, fod llawer o'r gwaith cyllid yn gallu cael ei wneud o gartref. Roedd agwedd eu cydweithiwr yn gadarnhaol iawn gan eu bod yn gallu mynd â'u hoffer adref i sicrhau y gallent weithio orau ag y gallent.  Mae'n hanfodol nodi sut y gweithiodd y Cyngor yn galed i sicrhau y gallai'r timau weithio'n effeithiol gartref. Dwedwyd wrth yr Aelodau fod y maes Cyllid wedi mynd i'r afael â materion pwysig gyda chymorth busnes yn bennaf, a chydnabuwyd hyn fel mater cenedlaethol. Gwnaed llawer o’r gwaith cymorth yn yr Awdurdod Lleol gan y tîm Refeniw a'r tîm Cymorth Busnes yn RH.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth ffigurau i'r Pwyllgor, gan yr amlinellwyd bod y cyngor wedi gweinyddu £15,000 i fusnesau ar gyfartaledd ac £20 miliwn o ryddhad i fusnesau cymwys i dderbyn y cymorth. Esboniwyd i'r pwyllgor fod y cyngor wedi benthyca arian ganol mis Mawrth 2020 er mwyn sicrhau y gallent dalu allan i'r busnesau mor gyflym ag y gallent. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Cyngor y byddent, ganol mis Mawrth, yn rhoi’r arian mewn cronfeydd ganol mis Ebrill felly aeth y Cyngor i fenthyg yr arian eu hunain fel y gallent gael yr arian allan yn gyflymach er mwyn helpu i gefnogi busnesau a chafodd ei ad-dalu.

 

Roedd y Tîm Refeniw wedi bod yn gweinyddu grantiau cymorth yn y pedwar fersiwn gwahanol tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, felly bu hyn yn straen mawr ar y tîm. Nododd y tîm ostyngiad mewn amser i ddelio ag ymholiadau treth neu ymholiadau busnes gan fod yn rhaid iddynt flaenoriaethu eu hamser i weinyddu'r grantiau hyn yn gywir.  Pwysleisiwyd bod hon yn her fawr, ond fel pob Cyngor arall yng Nghymru, roeddent yn cyflawni'r hyn yr oedd angen iddynt ei wneud i gynorthwyo busnesau.  At hynny, pwysleisiodd y Pennaeth Cyllid fod y tîm Cyfrifeg yn allweddol wrth gydlynu'r costau ychwanegol a chanfu eu bod, ar draws y cyngor, wedi ysgwyddo gwerth £18 miliwn o gostau Covid-19 y bu'n rhaid iddynt eu hawlio'n ôl gan Lywodraeth Cymru ar ben y £5 miliwn o incwm a ddefnyddiwyd yr oedd y Cyngor wedi'i golli.  Hysbyswyd yr aelodau bod y cyngor wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy gydol hyn fel cymorth allweddol ledled Cymru fel y gallai'r cyngor ymateb yn briodol ac yn amserol; felly yn ychwanegu haen fawr o waith ychwanegol ar ysgwyddau'r tîm Cyfrifeg.

 

Aeth y Pennaeth Cyllid ymlaen i ganmol y tîm Caffael am eu gwaith anhygoel wrth weithio ar draws gwasanaethau er enghraifft, gan sicrhau bod cyflenwyr allweddol yn cael eu cefnogi drwy gydol y cyfnod hwn megis cwmnïau bysiau fel Newport Bus, Casnewydd Fyw a Chartwells gan na fyddai wedi bod yn hyfyw pe bai'r Cyngor wedi rhoi'r gorau i'w talu. Cydnabu'r Tîm Cyllid fod angen i gadwyni cyflenwi o'r fath fod o gwmpas ac ar yr ochr arall felly esboniodd y swyddog fod angen i'r cyngor eu talu o hyd.  Yn unol â chanllawiau cenedlaethol y Deyrnas Gyfunol a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru, gweithiodd Cynghorau ochr yn ochr â chydweithwyr a chontractwyr allweddol i geisio eu helpu fel y cwmnïau a grybwyllir uchod. Roedd yn rhaid iddynt gael materion manwl iawn i sicrhau bod y Cyngor yn cefnogi'r sefydliadau hyn cystal ag y gallent.  O hyn, hysbyswyd yr Aelodau o rôl hanfodol y Tîm Archwilio am barhau i gynnal archwiliadau llawr ar grantiau busnes gan eu bod yn sownd tan fis Medi.  Roedd y tîm yn hyblyg iawn hyd yn oed gydag un neu ddau ohonynt yn gweithio i'r tîm profi ac olrhain.  Cydnabu'r Aelodau pa mor ddiolchgar oedd Pennaeth y Gwasanaeth am hyblygrwydd y staff.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at yr adroddiad o ran perfformiad a chyflawni amcanion, a dywedodd fod yr adroddiad hwnnw'n dangos bod mwyafrif helaeth o amcanion y gwasanaeth wedi'u cyflawni. Mae hyn yn dangos nad oedd Cyllid wedi'i chyfyngu i wneud gwaith ymateb Covid yn unig, gan eu bod yn gallu cadw llygad ar feysydd allweddol fel y mae'r manylion yn yr adroddiad yn ei grybwyll. Roedd y rhan fwyaf o'r mesurau perfformiad yn wyrdd, dim ond ychydig o oren a dadleuodd Pennaeth y Gwasanaeth fod hynny'n dipyn o gamp o ystyried y cyd-destun.

 

I gloi, cyfaddefodd y Pennaeth Cyllid eu bod yn delio ag effaith y pandemig a'u bod yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru tan fis Medi 2021.  Hysbyswyd y pwyllgor bod Mae'r Cyngor yn dal i hawlio costau ychwanegol lle maent yn bodoli ar hyn o bryd.

Esboniodd y swyddog, er ei fod wedi arafu yn y tîm refeniw, eu bod bellach o ganlyniad yn dal i fyny yn y maes hwnnw. Amserlen â llwyth lawn arferol lle gallant gyflawni hynny eleni ar drefniadau gweithio newydd y tîm. Tynnwyd sylw at y ffaith nad yw wedi bod yn flwyddyn hawdd gan fod y staff wedi cael trafferthion yn benodol, er gwaethaf hyn, pwysleisiwyd bod y tîm refeniw yn arbennig wedi bod yn llwyddiannus a bod holl ymdrechion y timau yn allweddol i helpu'r economi leol, dywedodd y swyddog wrth yr aelodau ei bod yn braf gweld a chlywed yr adborth da a gawsant yn y maes hwnnw.

 

Gwahoddodd y Pennaeth Gwasanaeth y pwyllgor i godi unrhyw ymholiadau a oedd ganddynt yngl?n â'r adroddiad. 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

·         Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a yw'r gwasanaeth wedi gweld unrhyw wahaniaeth o ran casglu'r dreth gyngor.

 

Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid fod aelwydydd yn gwneud eu penderfyniad eu hunain am yr hyn y gallent ei wneud neu na allent ei wneud.  Ar gyfer penderfyniadau unigol, ar gyfer y dreth gyngor mewn dyledion a reoleiddir, ni allai'r Tîm Cyllid fynd y tu hwnt i hynny oni bai eu bod wedi cael gw?s i'r llys. Ond o ystyried y sefyllfa, nid oedd y llysoedd yn gweithredu cymaint ag yr oeddent cyn hynny. Dywedodd y Pennaeth Cyllid bod un achos yn mynd rhagddo ers y llynedd, tra'u bod yn arfer cael tua phedair i bump yn ystod y flwyddyn. Eglurodd y swyddog hefyd fod ganddynt staff sy'n gweithio ar y grantiau cymorth.

 

Dywedodd y Rheolwr Casglu Incwm fod llawer o waith na welwyd mo'i debyg o'r blaen o ran talwyr y dreth gyngor, er enghraifft roedd llawer yn poeni na fyddai ganddynt swyddi i ddychwelyd iddynt ac nad oedd ffyrlo'n gwbl ssicr yn gynharach yn y cyfnod clo. Yn anffodus, sylwodd y tîm cyllid nad yw pawb wedi mynd yn ôl i gyflogaeth a oedd felly'n effeithio ar gasglu trethi gyda Chasnewydd 1% yn is na blynyddoedd blaenorol.  Yna, dywedodd y swyddog wrth y pwyllgor fod swm ychydig dros filiwn o bunnoedd yn fwy o ddyled, mewn gwirionedd, ynghyd â threth gyngor eleni y mae rhai aelwydydd yn wynebu llawer o ddal i fyny i'w wneud, yn ariannol.

 

Eglurodd y Rheolwr Casglu Incwm ymhellach fod eu tîm yn y broses o geisio rhoi pethau ar waith ar gyfer gwaith sydd ar y gweill. Maent wedi cael problemau gyda'r llys, megis gorchmynion dyled. Aeth y swyddog ymlaen i egluro bod angen atodiad arnynt i enillion pobl ond ni allant heb orchymyn llys. O hyn, cafodd y tîm ei rwystro gan nad yw'r llysoedd wedi agor yn ôl eto oherwydd yr angen am i gadw pellter cymdeithasol felly dywedwyd wrth yr aelodau fod y tîm cyllid braidd yn ddibynnol ar argaeledd amseroedd llys. Felly, profodd hyn i'r aelodau sut yr effeithiwyd ar gasglu'r dreth gyngor.

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor am gymorth i fusnesau, gan ei fod wedi bod yn ffafriol o ran yr ymateb ond cydnabu hefyd rywfaint o feirniadaeth gan y cyhoedd. Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr arolwg a grybwyllodd y Pennaeth Cyllid a holodd beth oedd ymateb y busnesau lleol i'r cymorth y mae'r Cyngor wedi'i roi?

 

Esboniodd y Rheolwr Casglu Incwm mai dim ond ar ran y perchnogion yr ymdriniwyd â hwy'n bersonol y gallent siarad â hwy a chredent fod y rhan fwyaf wedi bod yn werthfawrogol iawn o'r grantiau gan Lywodraeth Cymru. Darparodd y swyddog ffigurau a nododd fod tua 7,500 o grantiau o symiau amrywiol wedi'u gweinyddu o fewn y flwyddyn ddiwethaf.  Tynnwyd sylw'r pwyllgor at y ffaith nad oedd y cynllun wedi'i gynllunio i helpu pob busnes unigol, dim ond y rhai a orfodwyd i gau neu rai â chyfyngiadau ar waith megis hamdden a manwerthu.  Aeth y Rheolwr Casglu Incwm ymlaen i bwysleisio bod y cymorth hwn wedi cael derbyniad da a bod y rhan fwyaf o fusnesau'n gwerthfawrogi pa mor gyflym y cafwyd yr arian allan iddynt. Esboniwyd ymhellach bod gwahanol grantiau busnes hefyd, y bu'r Tîm Adfywio'n gweithio gyda hwy ar gyfer yr hunangyflogedig, a bod rhai heb safleoedd fel trinwyr gwallt symudol yn cael cymorth gan fath gwahanol o gronfa, ond adroddwyd bod hyn wedi cael derbyniad da hefyd. 

 

·         Yn dilyn yr ymateb hwn, gofynnodd y Pwyllgor yn benodol a allai'r swyddog roi gwerth ariannol ar y 7,500 o grantiau a roddwyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Casglu Incwm wrth yr Aelodau ei fod tua £47 miliwn yn ystod y flwyddyn, nid gan y Tîm Cymorth Busnes ond gan y tîm yr oedd y swyddog yn gweithio gydag ef, tan ddiwedd mis Mawrth.  Fel cwestiwn ategol, gofynnodd yr aelodau wedyn a oedd busnesau'n fusnesau lleol i Gasnewydd. Cadarnhaodd y swyddog fod y cymorth yn cael ei roi i fusnesau sy'n gweithredu yng Nghasnewydd ond bod rhai yn gadwyni a busnesau gyda sawl safle.

 

·         Cydnabu'r Pwyllgor fod yr ymatebion wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan gan fusnesau.  Holodd yr Aelodau a oes ganddynt dystiolaeth o hyn gan eu bod yn dadlau y byddai'n fuddiol cael cofnod o'r straeon da hyn.

 

Ymatebodd y Rheolwr Casglu Incwm drwy ddweud bod eu tîm wedi derbyn llawer o negeseuon e-bost a gohebiaeth gan fusnesau yn mynegi eu diolch i'r cyngor am eu llywio drwy'r cynllun.

 

·         Roedd yr Aelodau'n gwerthfawrogi'r ymateb ac fe gyfeirion nhw at yr Ardal Gwella Busnes, gan ofyn a oeddent wedi cydnabod yr hyn y mae'r cyngor wedi'i wneud i'w cynorthwyo yn ystod y pandemig, yn ysgrifenedig.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid eu bod wedi derbyn llawer o ohebiaeth gan y byddai'r Rheolwr Casglu Incwm yn edrych ar filoedd o negeseuon e-bost ar unrhyw adeg a phwysleisiodd ei bod yn galonogol gweld ymdrechion y staff yn cael eu gwerthfawrogi.  Nododd y swyddog arweiniol hefyd ei bod yn bwysig crybwyll nad oedd pawb a wnaeth gais yn gymwys i gael grant, felly mae'n amlwg bod ambell unigolyn siomedig ond roedd y mwyafrif llethol o ohebwyr yn ddiolchgar.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor, dros fis cyntaf y cynllun cyntaf, fod Casnewydd ar y blaen o ran cyflymder gwneud taliadau. Pwysleisiwyd bod y tîm yn rhoi'r arian i mewn er mwyn cael yr arian allan i fusnesau cyn gynted â phosibl.

 

·         Yna gofynnodd y Pwyllgor o ran y busnesau sy'n hawlio cymorth, pa ardal a sefydliadau a gafodd eu taro waethaf?

 

Defnyddiodd y Pennaeth Cyllid enghraifft, cefnogodd y Tîm Cyllid Casnewydd Fyw fel un o'r llond llaw o sefydliadau y cadwodd y Cyngor mewn cysylltiad agos â nhw. Dywedwyd bod eu hincwm wedi ei effeithio'n sylweddol oherwydd diffyg cyfleusterau hamdden ar agor fel bod y cyngor yn gallu gweithio gyda nhw i gyfrifo eu colledion net.

Er eu bod yn ei chael hi'n anodd, roeddent yn arbed arian hefyd drwy'r cynllun ffyrlo ac er enghraifft nid oedd angen gwresogi d?r ar gyfer y pyllau.

 

Ar gyfer yr hawliadau incwm a gollwyd, hysbyswyd y pwyllgor y gallai'r Cyngor dalu cymhorthdal uwch iddynt i gadw'r sefydliad lle y byddent wedi bod gan nad oedd yn hawdd iddynt.  Nid yw dechrau agor y cyfleusterau hamdden wedi bod yn hawdd gan nad yw pobl yn neidio ar y cyfle i'w campfeydd ar y raddfa flaenorol ond dywedwyd wrth y pwyllgor fod yr adran gyllid yn cadw mewn cysylltiad â Steve Ward i gadw'r cymorth i fynd ac yn bwriadu gwneud hynny tan fis Medi 2021.

 

Cydnabu'r Pwyllgor lwyddiannau'r adran gyllid a'r Cyngor yn ei gyfanrwydd yn eu gwaith Covid yn ogystal â helpu i gadw busnesau ar eu traed.  Cytunodd y Pennaeth Cyllid roi'r ganmoliaeth i'r tîm refeniw gan ei fod yn golygu llawer i werthfawrogi eu cyflawniadau a'u gwaith caled yn ystod cyfnod anodd. Cytunodd y Pwyllgor eu bod yn fodlon â'r adroddiad a'r ymatebion a ddarparwyd a diolchodd i'r swyddogion am eu hadroddiadau, eu mewnbwn ac Aelodau'r Cabinet am eu cyfraniad.

 

Casgliad yr Adroddiadau Pwyllgor:

Nododd y Pwyllgor berfformiad Adolygiadau Canol Blwyddyn y Gwasanaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai, Gwasanaethau’r Ddinas a’r Gwasanaeth Cyllid a gwnaeth y sylwadau canlynol i'r Cabinet:

 

Adfywio, Buddsoddi a Thai

·         Yn gyntaf dymunai’r Pwyllgor ddiolch i'r Arweinydd am ei phresenoldeb yn y cyfarfod. Roedd Y Pwyllgor yn falch iawn o ansawdd yr adroddiad, ac roeddent am ei wneud yn hysbys bod gan yr holl swyddogion a staff bob hawl i fod yn falch o'u gwaith a sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir wedi bod o ansawdd da drwy gydol un o'r cyfnodau anoddaf mewn cof.

 

Gwasanaethau’r Ddinas

·         Unwaith eto, canmolodd y Pwyllgor ansawdd yr adroddiad a pha mor hawdd ydoedd i’w ddeall.  Unwaith eto, hoffai'r Pwyllgor ddiolch i'r holl swyddogion a staff am eu holl waith caled drwy gydol y pandemig, ac am barhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.

 

·         Roedd yr Aelodau'n gobeithio y gallwn hysbysebu'n glir drwy sianeli amrywiol fod yr Orsaf Wybodaeth yn symud i'r Llyfrgell Ganolog, yn enwedig gan fod pobl oedrannus yn defnyddio'r gwasanaethau yno'n rheolaidd, ac na allant gyrchu gwasanaethau ar-lein i ddarllen am y newyddion diweddaraf. Roedd yr Aelodau hefyd am fynegi nid yn unig pa mor bwysig yw cynnal y broses wyneb yn wyneb rhwng y Cyngor a thrigolion, ond annog pontio llyfn pryd bynnag y bydd yn digwydd.

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor a allai'r tapiau d?r mewn mynwentydd fod yn fwy amlwg a lleol mewn rhai ardaloedd, a fyddai'n ei gwneud yn haws i ymwelwyr â’r safleoedd gael mynediad i'r cyfleusterau hyn. Holodd y Pwyllgor hefyd a ellid gosod rhai cysgodfannau i gysgodi ymwelwyr rhag y glaw.

 

Cyllid

·         Unwaith eto, hoffai'r Pwyllgor ddiolch i'r holl staff a swyddogion am eu gwaith caled yn ystod y pandemig, ac yn enwedig pa mor barod oedd y gwasanaeth ar y dechrau i ymdrin â phob cais ariannol gan fusnesau Casnewydd a'i drigolion.

 

·         Canmolodd y Pwyllgor y straeon cadarnhaol am allu'r Cyngor i helpu nifer o fusnesau dros gyfnod Covid-19, a chredwn fod hyn yn rhywbeth y dylai'r Cyngor ei wneud yn fwy hysbys, gan efallai na fydd llawer o drigolion yn gwbl ymwybodol o'r gwaith caled yr oedd y gwasanaeth wedi'i wneud a bod £47 miliwn wedi'i ddosbarthu i fusnesau sy'n gweithredu yng Nghasnewydd.

 

·         Holodd y Pwyllgor a allai'r Tîm Cyllid gofnodi pob pob peth da a drwg o weithio yn ystod y pandemig i annog a dysgu hefyd sut i fod yn fwy effeithlon fyth, pe bai digwyddiad tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: