Agenda item

Gofal Preswyl Plant Mewnol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant yr adroddiad a dweud fod hanes maith o blant yn gorfod gadael ardal eu hawdurdod lleol i gael gofal preswyl, ond ein bod yng Nghasnewydd ein bod yn ceisio mynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol o lefydd gofal a chadw ein plant mor agos at gartref ag sydd modd. Yr oedd gennym ein portffolio ein hunain a buom yn cynnal ein cartrefi ein hunain am nifer o flynyddoedd, ac ymrwymo i ddarparu gofal preswyl o ansawdd dda.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor mai hwn oedd un o’r cynlluniau mwyaf gwerthfawr y bu’n ymwneud a hwy, a bod yr adroddiad yn adlewyrchu ymroddiad pawb oedd yn rhan. Dywedodd ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru, a bod eraill yn edrych ar ein llwyddiant fel esiampl o sut i wneud pethau’n dda. Yr oedd y ffordd newydd o weithio trwy Project Perthyn yn golygu nad oedd yr un drws ar glo ac nad oedd swyddfeydd am ein bod yn darparu awyrgylch gartrefol oedd mor agos i gartref teuluol ag oedd modd. Mae gennym agweddcwtsh’, gan ddeall angen plant i dderbyn cwtsh a dysgu yn eu tro am gyffwrdd corfforol priodol. Nod Project Perthyn yw ennyn a chynnal ymddiriedaeth ein plant. Yr oedd y cyfleusterau hyn yngartrefi’ go-iawn i’r plant ac y mae sylwadau’r plant eu hunain yn arwydd o ymrwymiad y staff ac yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi’r dull o ofalu amdanynt.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

 -A oedd y ddarpariaeth ar gael yn ddigonol i nifer ein plant sy’n derbyn gofal a pha ddarpariaeth sydd ar gael i anghenion amrywiol y plant hyn?

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai 368 o blant sydd gennym ar hyn o bryd, a bod y ffigwr hwn yn gyson. Yr oedd y mwyafrif helaeth o’r rhain mewn gofal maeth, a bu ymgyrch fawr i recriwtio gofalwyr maeth. Yr oedd nifer y rhai sy’n gorfod bod mewn gofal preswyl yn gymharol fach. Yr oedd gr?p bychan o blant gydag anghenion cymhleth iawn ac unedau mam a’i baban nad oes modd i ni wneud darpariaeth ar eu cyfer, ac sydd wedi gorfod cael eu gosod y tu allan i’r awdurdod lleol. Yr ydym yn agos iawn at fod yn llawn gyda’r hyn sydd ei angen o ran gofal preswyl yng Nghasnewydd heb ddim lleoliadau argyfwng ar hyn o bryd. Yr oedd lleoliadau brys mewn argyfwng yn her fawr i ni, ac yn faes y byddwn yn dal i edrych arno.  

 

-   Beth oedd y ddarpariaeth am ofal seibiant?

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y byddwn yn parhau i fod â phlant mewn gofal ac felly yn parhau i geisio’r ffyrdd gorau o ddarparu hynny. Cafodd T? Oaklands drafferth yn ystod y pandemig i ddarparu gofal seibiant. Yr oedd 2 o blant yno angen gofal tymor hir, ond y gobaith oedd y byddai modd iddynt symud ymlaen erbyn diwedd y flwyddyn. Buom yn edrych yn barhaus ar fodelau o ofal seibiant. Comisiynodd Cyngor Dinas Casnewydd D? Hafan ar adegau - mae hwn yn ddarpariaeth arbenigol dros ben. Hefyd yr oedd rhai ysgolion y tu hwnt i Gasnewydd yn darparu gofal seibiant a gofalwyr maeth penodol ar gyfer gofal seibiant, oedd yn meddu ar sgiliau arbenigol iawn.

Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn ymdrechu i gael yr hyn oedd orau i’r plentyn a’r teulu. At y dyfodol, byddwn yn edrych ar ddarpariaeth ranbarthol bosib.

 

-   Beth fyddai dyddiad agor Fferm Windmill a sefyllfa’r staff yn dilyn cau T? Caergrawnt?

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm fod y gwaith ar Fferm Windmill yn cadw at yr amser ac y bydd yn agor ym mis Ionawr 2022.Yr oedd rheolwr newydd ei benodi i’r cartref, a rhagwelir y gall y Cynghorwyr ymweld ym mis Rhagfyr cyn yr agoriad.

Yn dilyn cau T? Caergrawnt, yr oedd yr holl staff oedd yn dymuno aros wedi eu cadw a’u cyflogir yn rhywle arall. Ni fu unrhyw ddiswyddo gorfodol.

 

-   Beth oedd y sefyllfa yn yr awdurdodau lleol cyfagos a beth yw arbedion cost ein model darpariaeth ni?

Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod nifer yr awdurdodau lleol oedd â’u darpariaeth yn fychan iawn, felly pryd bynnag y byddai arnynt angen gwely preswyl, byddai’n rhaid iddynt ei brynu, ac yr oedd y gystadleuaeth fell yn llym iawn. Yr oedd Casnewydd ar adegau wedi cynnig gwely tymor-byr i awdurdod arall, am gost, ond yr oeddem yn ffodus iawn fod gennym ein darpariaeth ein hunain am fod hyn yn lliniaru’r pwysau rywfaint. Pwysleisiodd nad dewis rhad o bell ffordd oedd ein darpariaeth fewnol ni; yr oedd y costau’n uchel iawn, ond yr oedd cost lleoliadau yn enfawr, gydag un awdurdod yn Lloegr ar hyn o bryd yn talu dros 30 mil o bunnoedd yr wythnos am leoliad. Er bod rhai darparwyr yn y sector wirfoddol ac elusennau oedd yn darparu gofal, busnesau preifat oedd yn darparu’r rhan fwyaf o ofal, ar sail fasnachol. Hyd yn oed â derbyn fod ein darpariaeth ni yn ddrud a’n bod wedi ymrwymo i gyllido a rhoi’r adnoddau priodol, o weithio allan, yr awgrym yw y byddwn yn arbed yn y tymor hir. At y dyfodol, dyma ddarn o waith y bydd angen edrych arno yn llawn er mwyn gweithio allan yr union gostau ac arbedion.

 

-   Beth oedd y sefyllfa gyda nifer y gofalwyr maeth a rôl y gymuned yn ehangach?

 

Cafwyd hysbyseb teledu am Maethu Cymru, a hysbysebion ledled y ddinas ar ffurf baneri, posteri, etc. Cawsom  fflyd o ymgeiswyr llynedd, ond y mae hyn wedi tawelu bellach, ond byddwn yn wastad eisiau mwy o geisiadau i fod yn ofalwyr maeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gwasanaethau Plant am ei chyflwyniad, a’i llongyfarch hi a’i staff am adroddiad cadarnhaol iawn.

 

Dogfennau ategol: