Agenda item

Alldro Cyfalaf ac Ychwanegiadau - 2020/21

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr alldro cyfalaf terfynol am flwyddyn ariannol 2020/21. Yn benodol, mae’n gofyn am yr isod:

 

·        cymeradwyo dwyn ymlaen i’r gyllideb lithriad o wariant prosiectau sy’n bod eisoes i’r flwyddyn ariannol newydd, sef £7.134m,

 

·        cymeradwyo ychwanegu prosiectau cyfalaf newydd i Raglen Gyfalaf y Cyngor. Mae’r rhain yn arwyddocaol iawn, sef £24.795m, a

 

·        chymeradwyo ffigyrau diwygiedig Amlinelliad o Gynllun Strategol (AGS) am raglen gyfalaf Addysg Band B i’w darparu i Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o adolygu fforddiadwyedd dyheadau sy’n bod eisoes ac o bosib chwilio am gyllid ychwanegol.

 

Yr oedd hefyd yn rhoi cyfoesiad am yr adnoddau cyfalaf oedd ar gael ar hyn o bryd (‘arian rhydd’), gan gynnwys cadarnhau cyllid grant Llywodraeth Cymru o £7m tuag at brosiect y ganolfan hamdden newydd a’i effeithiau, a’r camau a gymerwyd.  

 

Gosododd y Cyngor raglen gyfalaf helaeth sy’n adlewyrchu ymrwymiad saith-mlynedd. Dengys tabl un yn yr adroddiad sut y newidiodd hynny dros y flwyddyn ariannol ac y mae’n dangos fod ymrwymiadau a gwariant cyfalaf y Cyngor yn y ddinas yn awr yn £274m dros einioes y rhaglen, ar draws yr holl feysydd gwasanaeth.

 

Dengys tabl dau yn yr adroddiad y sefyllfa yn 2020/21, sef canolbwynt yr adroddiad hwn. Mae’n cadarnhau tanwariant bychan ar brosiectau a gwblhawyd o £749k, ac yn rhoi manylion. Mae hefyd yn amlygu’r angen am lithriad ar wariant o £7.1m lle bu oedi gyda chyflwyno a gwario ar brosiectau. Adolygwyd y gyllideb gyfalaf am 2020/21 a’i gostwng dros y flwyddyn, ond digwyddodd y llithriad er hynny, ac y mae’n rhyw 21% o’r gyllideb, er bod hyn yn gyson â blynyddoedd blaenorol. Mae manylion y prif feysydd llithriad yn yr adroddiad.

 

Mae llithriad ar y rhaglen gyfalaf yn thema sy’n digwydd yn gyson, a gellir ei briodoli yn rhannol weithiau i gael gwybod yn hwyr am gyllid grant allanol, nad yw’n gadael llawer o amser i gyflwyno prosiectau yn yr un flwyddyn. Wedi dweud hynny, fel y dengys yr adroddiad, mae llithriad, ynghyd â’r cynnydd sylweddol mewn prosiectau newydd sy’n cael eu cynnwys yma i’w cymeradwyo, wedi cynyddu’r gyllideb i ryw £100m yn y flwyddyn ariannol gyfredol, 2021/22.

 

Yn amlwg, mae angen adolygu hyn a’r rhaglen gyfan o ran amseru cyflwyno. Bydd hyn yn digwydd dros yr haf ac yn gynnar yn yr hydref, a gofynnir i’r uwch swyddogion wneud hyn mor gadarn ag sydd modd - rhaid iddo fod yn realistig a chaniatáu i’r Tîm Rheoli Corfforaethol a’r Cabinet gael barn am hynny ac unrhyw broblemau a all godi. 

 

Gofynnir i ni gymeradwyo, fel arfer, brosiectau cyfalaf newydd i’w hychwanegu at y rhaglen gyffredinol. Yn yr adroddiad hwn, mae gennym swm digynsail o ychwanegiadau, a’r mwyafrif wedi eu cyllido gan grantiau Llywodraeth Cymru, a  gafodd eu cadarnhau yn unig o fis Chwefror ymlaen, a chawsant gryn effaith ar y ddinas. Yn eu plith mae:

 

·        Bron i £1.7m ar ‘brosiectau creu lle’ sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd,

·        Bron i £10m ar ‘gynlluniau teithio llesol’, fyddai’n hwb enfawr i deithio cynaliadwy yn y ddinas a’r cyffiniau,

·        Tua £2.5m o arian ychwanegol i gynnal adeiladau ysgolion, a

·        Thros £6m ar waith priffyrdd a cherbydau allyriadau isel.

 

Mae’r rhain i gyd yn cynnal ein blaenoriaethau allweddol, ac yr oedd yr Arweinydd yn falch fod y Cyngor yn gallu bwrw ymlaen â hwy.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Lleisiodd y Cynghorydd Cockeram ei bryder am lithriad y Grant Cyfleusterau’r Anabl (GCA), sef £344,000.  Yr oedd hwn yn swm enfawr, a byddai’r cyngor wedi rhedeg allan o arian erbyn y Nadolig petai hon yn flwyddyn normal, felly yr oedd yn ddarlleniad ffug oherwydd y pandemig. Cyfeiriodd hefyd at lythyr gan Lywodraeth Cymru am brawf modd a darparu £1M o gyllid i Gymru gyfan, fyddai’n gost ychwanegol i’r cyngor. Gofynnodd yr Aelod Cabinet fell am ddod ag adroddiad i’r Cabinet. 

 

§  Cytunodd yr Arweinydd y byddai cyfyngu ar gyfleoedd a gallu’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael effaith ar y Cyngor ond nad oedd hyn yn adlewyrchiad ar lefel y galw am y gwasanaethau hyn.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

1.      Cymeradwyo’r ychwanegiadau i’r Rhaglen Gyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad (Atodiad A)

2.      Cymeradwyo llithriad o £7,134k o gyllideb 2020/21 i flynyddoedd i ddod, gan nodi’r ail-broffilio fyddai’n digwydd yn sgil hyn

3.      Nodi sefyllfa alldro’r gwariant cyfalaf am 2020/21

4.      Cadarnhau darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am gostau rhaglen trawsnewid ysgolion Band B

5.      Nodi’r adnoddau cyfalaf gweddilliol oedd ar gael (‘arian rhydd’) tan 2024/25

Nodwyd y balansau a chymeradwywyd dyrannu derbyniadau cyfalaf am y flwyddyn

 

Dogfennau ategol: