Agenda item

Cytundeb Partneriaeth Strategol Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM).

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a baratowyd gan y Prif Swyddog Addysg, i’r Cabinet benderfynu arno.

 

Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi caffael Meridiam Investments fel eu partner yn y sector preifat i weithio ar gyflwyno cyfleusterau addysg a chymuned dan Fodel Buddsoddi Cilyddol (MBC) Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a chadarnhawyd hyn fel eu dewis fodel o gyflwyno.

 

Daeth rhai awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach eisoes i Gytundeb Partneriaeth Strategol gyda Gweinidogion Cymru oedd yn cefnogi’r trefniant hwn, gan amlinellu sut y byddai’r partion yn cydweithio  dros y tymor hir fel partneriaid i gefnogi cyflwyno cyfleusterau addysg a chymuned a gwasanaethau seilwaith ledled Cymru.

 

Cwblhawyd y Cytundeb Partneriaeth Strategol  gwreiddiol ym Medi 2020, ond yr oedd cyfle yn awr i awdurdodau lleol eraill nad oedd yn rhan o’r cytundeb i ddod i “Weithred Adlyniad” ategol. Byddai hyn yn galluogi Casnewydd i ddod yn rhan o’r Cytundeb Partneriaeth Strategol am dymor cychwynnol o 10 mlynedd.

 

Nid oedd y penderfyniad i ddod i’r Weithred Adlyniad hon yn awr yn ymrwymo’r Cyngor i unrhyw brosiect MCB, ac ni fyddai unrhyw effaith ariannol yn syth. Y cyfan a wnâi oedd rhoi “sedd wrth y bwrdd” i’r Cyngor er mwyn gosod blaenoriaethau a deall beth oedd cynlluniau cyflwyno cyfranogwyr eraill ledled Cymru.

 

Wrth ddod i’r Weithred Adlyniad hon, yr oedd gofyn i’r Cyngor enwebu “Cynrychiolydd Cyfranogol” i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol, ac argymhellodd yr adroddiad y dylid enwebu’r Prif Swyddog Addysg i ymgymryd â’r rôl hon.

 

Er nad yn ymrwymo i brosiectau penodol, byddai mynd i’r Weithred Adlyniad hon yn sicrhau y gallai’r Cyngor gyrchu’r buddion cysylltiedig â’r Cytundeb Partneriaeth Strategol  dros y 10 mlynedd nesaf o leiaf

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau i siarad am yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet wrth gydweithwyr fod partneriaeth Addysg Cymru the 21ain Ganrif Band B yn gytundeb ategol, fyddai’n sicrhau y gallai awdurdodau lleol gydweithio i gyflwyno prosiectau cymwys er mwyn bod galluedd, medr a chanolbwynt ar yr arferion gorau.

 

Yr oedd yn gyfle i fanteisio ar amrywiaeth o gefnogaeth strategol a gwasanaeth seilwaith a chaffael, i alluogi datblygu prosiect neu adeiladu o’r newydd, a fyddai’n arwain y sector a rhoi gwerth am arian.

 

Argymhellodd yr Aelod Cabinet hefyd gymeradwyo Sarah Morgan fel cynrychiolydd cyfranogol y Cyngor ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol gan y byddai hyn yn sicrhau cysondeb a pharhad mewn unrhyw broses o wneud penderfyniadau.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

(a)         Cymeradwyo gweithredu, cyflwyno a pherfformio cytundeb ategol i Gytundeb Partneru Strategol PAC dyddiedig 30Medi 2020 (y “Weithred Adlyniad”) ac o ddyddiad gweithredu’r Weithred Adlyniad i roi grym i delerau Cytundeb Partneru Strategol PAC dyddiedig 30 Medi 2020 a rhwymo fel rhan ohono, i hwyluso cyflwyno amred o wasanaethau seilwaith a chyflwyno cyfleusterau addysg a chymunedol;

(b)         Cymeradwyo telerau’r Weithred Adlyniad a Chytundeb Partneru Strategol PAC dyddiedig 30 Medi yn Atodiad A a B yr adroddiad hwn a grynhoir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad hwn er mwyn rhoi grym i argymhelliad (a), yn amodol ar argymhelliad (c) isod;

(c)         Nodi y byddai’r Prif  Swyddog Addysg yn cwblhau’r Weithred Adlyniad i’w gweithredu a chymeradwyo llenwi pob bwlch mewn gwybodaeth;

(d)         Nodi gweithredu’r Weithred Adlyniad fel gweithred a’i hardystio yn unol ag Adran 14.5 y Cyfansoddiad; a

(e)         Chymeradwyo:

(i) Penodi Sarah Morgan, Prif Swyddog Addysg fel ‘Cynrychiolydd Cyfranogol’ i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol at ddibenion Cymal 12 (Cynrychiolwyr Partion) Cytundeb Partneru Strategol PAC; ac

(ii) Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt at ddibenion Cymal 40 (Hysbysiadau) y Cytundeb Partneru Strategol PAC;

(f)           Nodwyd, wrth gytuno i ddod i’r Weithred Adlyniad nad oedd unrhyw gais yn ystod y cyfarfod hwn i fwrw ymlaen ag unrhyw brosiect, ac y byddai unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â phrosiect yn cael ei ystyried ar wahân ac adrodd yn ôl i’r Cabinet mewn adroddiad(au) yn y dyfodol am benderfyniad.

 

Dogfennau ategol: