Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd Mike Richards y newyddion diweddaraf am flaenoriaethau plismona lleol cyfredol, cyn gofyn am gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Estynnodd yr Arweinydd groeso i'r Uwcharolygydd Richards i gyfarfod y Cyngor, a chyfeirio at y galw am ddarpariaeth gwasanaeth a chyllid ar gyfer strydoedd saffach. Myfyriodd hefyd ar weithio mewn partneriaeth a'r camau nesaf, gan gydnabod y pwysau amrywiol wrth symud ymlaen i adfer ar ôl covid. Fel ceidwaid ein cymunedau, dylem gyfeirio materion i wasanaethau preswyl nas darperir gan yr heddlu, ac mae gennym oll rôl i'w chwarae wrth gyfeirio preswylwyr i dderbyn y gwasanaethau cywir.  Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod recriwtio staff newydd i'r Heddlu yn newyddion gwych.

 

Gofynnodd yr Arweinydd hefyd am geisiadau teithio llesol, ac am y gallu i gyflwyno'r peilot strydoedd saffach â'r terfyn cyflymder 20mya.  Roedd preswylwyr yn dal i fynegi pryder bod pobl yn torri'r terfyn cyflymder, a gofynnwyd i MR a allem gydweithio â Gan Bwyll i orfodi cyflymder, gan nad oeddem am golli momentwm.

 

Ategodd yr Uwcharolygydd sylwadau'r Arweinydd ynghylch yr angen i'r Heddlu a'r Cyngor weithio mewn partneriaeth.

 

Cwestiynau gan y Cynghorwyr:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Holyoake pa strydoedd ym Mhilgwenlli fyddai'n elwa ar y fenter Strydoedd Saffach ac yn cael camerâu cyflymder wedi'u gosod arnynt.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Richards mai'r strydoedd hyn fyddai'r Heol Fasnachol a Rhodfa Francis.  Byddai'r Arolygydd Blakemore hefyd yn cysylltu â'r Cynghorydd Holyoake i drafod hyn yn fanwl.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i'r Uwcharolygydd am y diweddariad am Ymgyrch Snap yn Alway a Ringland.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Suller yr Uwcharolygydd am ddal delwyr cyffuriau a chodi pryder ynghylch 'rebels rasio' yng Nghoedcernyw, ar yr A48 ac Imperial Way, a gofynnodd a ellid gweithredu mesurau i arafu traffig.  Byddai'r Uwcharolygydd Richards yn gofyn i'r arolygydd lleol gysylltu â'r Cynghorydd Suller i drafod hyn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Harvey i'r Uwcharolygydd am gyflymder yr arestiadau a wnaed mewn perthynas â'r digwyddiad trasig yn Alway ddechrau mis Mehefin.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rahman i'r Uwcharolygydd am y cymhorthfa stryd a oedd wedi'i drefnu ar gyfer ardal Heol Bryn Derwen, a chyfeirio at yr achosion diweddar pan welwyd cerbyd a oedd yn gysylltiedig â gweithgarwch delio cyffuriau flwyddyn neu ddwy yn ôl ar Heol Bryn Derwen.  Roedd preswylwyr am gael sicrwydd, ar ôl iddynt ffonio 101 i riportio trosedd, y byddai'r Heddlu'n gweithredu ar yr wybodaeth a gafwyd, fel nad oeddent yn colli ffydd yn yr Heddlu. Sicrhaodd yr Uwcharolygydd Richards y Cynghorydd Rahman fod pob galwad 101 yn derbyn ymateb a byddai'n gofyn i'r Arolygydd Cawley gysylltu â'r Cynghorydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Forsey at y cynnydd yn y niferoedd sy'n beicio a'r damweiniau cysylltiedig, gan gynnwys un farwolaeth yng Nghasnewydd, a gofynnodd a fyddai Ymgyrch Pasio'n Agos yn cael ei gweithredu yng Nghasnewydd.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Richards fod Heddlu Gwent yn bwriadu gweithredu hyn yng Nghasnewydd yn fuan ac y byddai'n rhoi'r amserlen i'r Cynghorydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Linton wrth yr Uwcharolygydd fod y llosgwr lleol wedi dychwelyd i Ringland, a chyfeirio at ddigwyddiad a gafwyd y noson gynt yn y Friendship Pub.  Beth oedd yr heddlu'n ei wneud i ymchwilio i hyn?  Dywedodd yr Uwcharolygydd Richards wrth y cynghorydd ei fod yn cyfarfod â'r Arolygydd Cawley, ac y byddai'n gofyn iddo rannu ei gynlluniau â'r Cynghorydd Linton.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hayat ei bod hi'n newyddion da bod camerâu TCC yn cael eu gosod yn ardal Pilgwenlli, ac roedd yn edrych ymlaen at gael cyfarfod â'r Arolygydd Blakemore a'i gyd-aelod ward, y Cynghorydd Holyoake yn y dyfodol agos.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Spencer at amryw o ddamweiniau ar hyd Heol Cas Gwent tua 18 mis i 2 flynedd yn ôl oherwydd ceir a oedd yn goryrru. Roedd y preswylwyr yn disgwyl am adborth ynghylch hyn, a gofynnodd a ellid mynd ar drywydd y mater ar eu rhan. Byddai'r Uwcharolygydd Richards yn cysylltu â'r Arolygydd Cawley a'r cynghorydd i ddarparu'r wybodaeth hon.

 

Roedd y Cynghorydd Fouweather yn croesawu'r cyllid Strydoedd Saffach ar gyfer Pilgwenlli, ond dywedwyd bod angen cyllid ar rannau eraill o'r ddinas, ac y byddai'r fenter yn ei gwneud hi'n anodd i droseddwyr symud o amgylch y lle ym Mhilgwenlli, a allai olygu eu bod yn symud i rannau eraill o Gasnewydd, gan ledu troseddau ymhellach. Roedd y Cynghorydd Fouweather felly eisiau gwybod a fyddai cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer rhannau eraill o Gasnewydd.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Richards y byddai cyllid ar gael ac, yn anffodus, bu'r cais ar gyfer Stow Hill y llynedd yn aflwyddiannus. Roedd y bidiau hyn yn cael eu trefnu gan y Swyddfa Gartref ac roedd yn rhaid bodloni'r meini prawf er mwyn derbyn cyllid, felly roedd Pilgwenlli yn bodloni'r meini prawf llym ar gyfer Strydoedd Saffach.  Roedd angen cyflwyno'r bid nesaf erbyn 15 Gorffennaf. Cais oedd hwnnw am gyllid trais yn erbyn menywod, ac roedd yn debygol o ganolbwyntio ar ganol y ddinas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Routley fod traffig sy'n goryrru yn broblem yn Langstone, ar hyd yr A48, Rock and Fountain at Heol Coldra/Magwyr.  Nid oedd unrhyw gamerâu goryrru ar y ffordd ac roedd preswylwyr wedi mynegi pryder. Yn ddiweddar roedd ceffylau wedi rhuthro ymaith mewn braw oherwydd goryrru, a gallai hynny fod wedi bod yn ddifrifol iawn.  Roedd y Cynghorydd Routley felly'n gofyn am gael cyfarfod â'r Uwcharolygydd ynghyd â'r Cynghorydd Mogford, ei gyd-aelod ward, er mwyn ymchwilio i ddatrysiad i liniaru'r broblem goryrru.  Cytunodd yr Uwcharolygydd Richards â hyn, a byddai'n hapus i drefnu rhywbeth yn y dyfodol agos.

 

Diolchodd y Cynghorydd Al-Nuaimi i'r Uwcharolygydd am eu cyfarfod diweddar ynghylch pwerau stopio a chwilio, a wnaeth dawelu pryderon y Cynghorydd Al-Nuaimi.  Soniodd y Cynghorydd Al-Nuaimi hefyd y byddai'n croesawu unrhyw wybodaeth bellach am unrhyw gynnydd.  Mynegodd y Cynghorydd Al-Nuaimi hefyd ei ddiolch i'r Arolygydd Davies yn dilyn yr ymdriniaeth â'r problemau diweddar oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ger Parc Belle Vue.