Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Rhannodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau a ganlyn â'r Cyngor:

 

·         Cronfa Codi'r Gwastad

Yn gynharach y mis hwn, cefnogodd y Cabinet gynnig i wneud cais sylweddol i Gronfa Codi'r Gwastad y Llywodraeth, gan anelu i roi hwb pellach i waith i adfywio ein dinas.

 

Proses ymgeisio gystadleuol ydoedd, ac roedd hyd at £20m o gyllid cyfalaf ar gael ar gyfer cynlluniau adfywio a buddsoddi diwylliannol. Nid oedd unrhyw sicrwydd y byddem yn llwyddiannus, ond byddai cais uchelgeisiol, am y swm llawn o £20 miliwn yn cael ei gyflwyno, a fyddai'n fodd i drawsnewid ymhellach ardal Porth y Gogledd yng nghanol y ddinas.

 

Roedd nifer o gynlluniau trawsnewid eisoes ar y gweill neu yn yr arfaeth yn yr ardal hon, gan gynnwys adnewyddu Marchnad Dan Do ac Arcêd Marchnad Casnewydd, y cynnig i greu canolfan rhannu mannau gwaith a deor busnesau yn adeilad yr Orsaf Wybodaeth, a darparu pont droed newydd ar gyfer teithiau llesol rhwng Devon Place a Queensway.

 

Byddai’r arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio i wella parth y cyhoedd yn yr ardal hon, a'r gobaith oedd y byddai pobl, wrth gyrraedd Casnewydd, yn gweld golygfa a oedd yn adlewyrchu gwir ansawdd Casnewydd fel lle, a oedd yn cynrychioli ein huchelgeisiau ac a oedd yn gadarnhaol a chroesawgar i ymwelwyr a buddsoddwyr fel ei gilydd.

 

Byddai ffocws ar seilwaith gwyrdd, teithio llesol, Cynnig Ehangach Caerdydd ac, wrth gwrs, ar adlewyrchu ethos y Siarter Creu Lleoedd.

 

Byddai'r Arweinydd yn rhoi diweddariad rheolaidd ar y broses ymgeisio wrth iddi fynd rhagddi.

 

·         Diwrnod aer glân

Yn gynharach y mis hwn, nododd y Cyngor Ddiwrnod Aer Glân 2021 drwy gynnal digwyddiad ardderchog yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas Cymru

 

Pwrpas y Diwrnod Aer Glân oedd tynnu sylw at lygredd aer, codi ymwybyddiaeth ynghylch ei effaith ar iechyd, ac archwilio rhai o'r pethau y gellid ei gwneud i ymdrin â'r broblem.

 

Mae llygredd aer yn achosi hyd at 36,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU.Cydnabu Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth y DU mai llygredd aer oedd y risg fwyaf o'n blaenau heddiw o ran iechyd yr amgylchedd.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o groesawu Lee Waters AS, y dirprwy weinidog newydd ar gyfer y Newid Hinsawdd, i'r digwyddiad lle arddangoswyd peth o'r gwaith y mae'r cyngor a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus yn ei wneud i wella ansawdd yr aer yn y ddinas.

 

Roedd hyn yn cynnwys gosod paneli solar i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar 27 o'n hadeiladau, gan gynnwys y gosodiad mwyaf ar ben to yng Nghymru yn y felodrom ei hun.

 

Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys nifer o gerbydau trydan - yn eu plith roedd ein cerbyd casglu gwastraff trydan, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, un o fysus trydan Trafnidiaeth Casnewydd, a thacsi trydan.

 

Mae llawer o waith i'w wneud er mwyn gwneud ein haer yn lanach er budd cenedlaethau'r dyfodol, ond mae llawer o waith da eisoes y digwydd ar draws Casnewydd, a byddai'r camau a gymerir heddiw yn creu dinas wyrddach ac iachach ar gyfer yfory.

 

·         Llwyddiant Mai Di Dor

Prosiect arall rydym wedi cymryd rhan ynddo'n ddiweddar a ganolbwyntiai ar gynaliadwyedd yng Nghasnewydd yw Mai Di Dor.

 

Roedd yr ymgyrch yn annog unigolion, cynghorau a rhanddeiliaid i gefnogi gwenyn, gloÿnnod byw a mathau eraill o fywyd gwyllt drwy adael i flodau gwyllt dyfu ar lawntiau ac mewn mannau gwyrdd drwy gydol mis Mai yn lle eu torri.

 

Gwnaethom addo cefnogi hyn er cydnabyddiaeth o'n statws fel Dinas sy'n Gyfeillgar â Gwenyn, ac yn unol â'n dyletswydd i wella natur a chymryd camau a fydd y helpu i wrthsefyll effeithiau'r newid hinsawdd.

 

Roedd y penderfyniad i gefnogi'r ymgyrch hefyd yn dilyn treialon llwyddiannus o wahanol raglenni rheoli gwair, a chymysgeddau o wahanol hadau blodau wyllt yn ein safleoedd peilot 'gadael i dyfu' dynodedig.

 

Fel canlyniad uniongyrchol i'r penderfyniad i leihau torri gwair, gwelsom enghreifftiau hyfryd, gan gynnwys tegeirian gwenynog, yn blodeuo ar ymylon ein ffyrdd.

 

Byddem yn adolygu profiadau eleni ac yn dysgu yn eu sgil, ond roeddem yn llwyr fwriadu parhau i gefnogi cynlluniau o'r fath a oedd o fudd i'r amgylchedd ar draws ein dinas.

 

·         Generation rent

Ar y cyd â'r corff ymgyrchu Generation Rent, lansiwyd prosiect newydd gennym yn ddiweddar i ymgysylltu'n well â phobl sy'n rhentu eu cartrefi'n breifat.

 

Er bod y rhan fwyaf o eiddo yn y ddinas mewn cyflwr da, roedd nifer o landlordiaid yn torri'r gyfraith drwy roi cartrefi ar osod a oedd yn is-na'r safon neu'n anaddas i fyw ynddynt.

 

Roedd arolwg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd er mwyn cael dealltwriaeth well o'r heriau o flaen rhentwyr preifat, a hefyd i ddarganfod yr hyn yr oeddent yn ei ddeall am eu hawliau.

 

I ddechrau, byddem yn gofyn am safbwyntiau pobl a oedd yn byw yn wardiau Stow Hill, Fictoria, Pilgwenlli a Llyswyry, lle'r oedd niferoedd mawr o gartrefi rhent preifat.

 

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, byddai'r prosiect yn symud ymlaen i gam dau gan gynnal trafodaethau gr?p ffocws a fforymau â rhentwyr preifat.

 

Anogodd yr Arweinydd y preswylwyr i gymryd rhan ac i rannu eu safbwyntiau drwy fynd i:  https://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Consultations/Consultations.aspx

 

·         Pythefnos gofal maeth ac wythnos Gofalwyr

Yn ddiweddar, bu'r Cyngor yn dathlu pythefnos Gofal Maeth ac Wythnos Gofalwyr. I nodi'r ddau ddigwyddiad, cafwyd enghreifftiau gwych o fyfyrio a chyfathrebu ynghylch ymrwymiad anhygoel y grwpiau hyn o bobl.

 

Roedd tua 580 o ofalwyr di-dâl yn hysbys inni, ond yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd tua 16,500 o bobl yng Nghasnewydd yn dweud eu bod y gofalu am rywun.

 

Roeddent yn cynnwys gofalwyr ifanc a oedd yn helpu i ofalu am riant neu frawd/chwaer; rhieni sy' gofalu am blant ag anghenion ychwanegol neu gyflyrau difrifol; gofalwyr rhwng dwy genhedlaeth, a oedd yn ymrafael ag anghenion rhieni a phlant, ac unrhyw un a oedd yn gofalu am rywun na allai ymdopi heb help.

 

Roedd yr Arweinydd am achub ar y cyfle i annog gofalwyr i gysylltu er mwyn inni allu cynnig cymorth a chefnogaeth iddynt.

 

Dylid canmol hefyd y gofalwyr maeth, a oedd yn gwneud cymaint i gefnogi rhai o'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein dinas.

 

Yn anffodus, roedd angen rhagor o ofalwyr maeth o hyd yng Nghasnewydd, ac anogodd yr Arweinydd unrhyw un a oedd yn ystyried bod yn ofalwr maeth i gysylltu a chael rhagor o wybodaeth am brofiad a allai dalu ar ei ganfed.

 

·         Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Yn olaf, roedd yr Arweinydd am atgoffa'r aelodau eto mai'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog oedd diwedd y mis hwn.

 

Roedd y Cyngor wedi clywed y byddai'r llywodraeth yn caniatáu rhai eithriadau i geisiadau hwyr, ond nid oeddem am i unrhyw un sy'n byw yn ein dinas wynebu unrhyw anawsterau'n aros, neu'n byw eu bywyd bob dydd, am iddynt gyflwyno eu cais yn hwyr.

 

Roedd cefnogaeth ar gael, ac os gwyddai unrhyw un am unigolion yn y sefyllfa hon, gofynnodd yr Arweinydd i'r unigolion gysylltu, naill ai ar-lein neu drwy'r ganolfan gyswllt; roeddem yn gallu eu helpu.

 

Cwestiynau i'r Arweinydd

 

Cynghorydd M Evans

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at ddatganiad yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden ym mis Chwefror pan soniwyd nad oedd y gr?p ceidwadol wedi cyflwyno cyllideb amgen ers cael ei ethol yn 2012. Dywedodd nad oedd hynny'n wir a bod cyllidebau amgen wedi’u costio’n llawn wedi’u cyflwyno hyd 2016/217.  Gofynnodd y Cynghorydd Evans felly a oedd yr Arweinydd yn meddwl y dylai'r Aelod Cabinet ymddiheuro. 

 

Dywedodd yr Arweinydd y bu'n ddiddorol nodi'r adborth gan yr aelodau yn ystod yr ymgynghoriad ar y gyllideb a'i bod yn bwysig clywed gan amrywiaeth o bobl.  Pe bai cyllideb amgen wedi'i chyflwyno ar gyfer y gyllideb a bod tystiolaeth o hyn, yna byddai'r Arweinydd yn cydnabod hyn ac yn symud ymlaen.

 

Cwestiwn Atodol

 

Dywedodd y Cynghorydd M Evans ei fod yn tybio mai 'dylai' oedd yr ateb, a'i bod yn ymddiheuro.  Aeth y cynghorydd ymlaen i sôn am hyrwyddo safonau uchel o ran ymddygiad, a chyfeirio at y ffaith bod y Cynghorydd Truman wedi ymddiheuro pryd bynnag y byddai'n anghywir ynghylch rhywbeth.  .  Diolchodd y Cynghorydd Evans i'r Arweinydd am ei hateb a gobeithiai y byddai'n derbyn ymddiheuriad llawn a chlir gan yr Aelod Cabinet.

 

Dywedodd yr Arweinydd y gallai'r Cynghorydd M Evans fod eisiau ailwrando ar recordiad o'i hateb i glywed yr hyn a ddwedwyd mewn gwirionedd y hytrach nag ail-lunio ymateb yr Arweinydd.

 

Cynghorydd K Whitehead

 

Roedd y Cynghorydd Whitehead wedi cyflwyno cynnig i roi Rhyddfraint y Ddinas ar ôl marwolaeth i David 'Bomber' Pearce i'r Cyn-arweinydd, y Farwnes Wilcox.  Yn anffodus, ni fu hyn yn bosibl, ond roedd y Farwnes yn awyddus iawn i'r Cynghorydd Whitehead ymchwilio i Wobr Ysbryd Casnewydd.  Fodd bynnag, ni fu unrhyw gynnydd yn gysylltiedig â hyn. Roedd menter Rocky yn dal i barhau a mabolgampwr ifanc wedi ennill cyllid.  Gofynnodd y Cynghorydd Whitehead felly a ellid ailystyried y broses hon.

 

Canmolodd yr Arweinydd y gymuned am ddod ynghyd i godi cerflun o David 'Bomber' Pearce. Fodd bynnag, roedd gwobr Ysbryd Casnewydd wedi cael ei rhoi i'r naill ochr am y tro oherwydd Covid, ond byddai'r Arweinydd yn ymchwilio i hyn, ac i'r meini prawf, rywbryd ynn y dyfodol agos. Roedd yr Arweinydd yn awyddus canfod ffordd o gydnabod cyfraniad ystod o ddinasyddion, yn enwedig yn ystod y pandemig. Dylai mân weithredoedd caredig gael eu cydnabod hefyd. Pwysleisiodd yr Arweinydd nad oedd hyn wedi cael ei anghofio, a bod angen wedi codi am ryw fath o gydnabyddiaeth yn sgil y pandemig.

 

Cwestiwn Atodol

 

Yn sgil etifeddiaeth Rocky, soniodd y Cynghorydd Whitehead hefyd fod pobl wedi cefnogi'r digartref, felly gobeithiai y byddai David 'Bomber' Pearce yn derbyn cydnabyddiaeth.

 

Cynghorydd C Townsend

 

Gofynnodd y Cynghorydd Townsend a allai'r Arweinydd roi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am sefyllfa Friars Walk.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn wynebu heriau yn ystod pandemig ac ar ôl hynny, a bod angen i'r Cyngor baratoi ar gyfer yr effaith economaidd. Un o'r heriau i Gasnewydd oedd bod y rhan fwyaf o'r eiddo yng nghanol y ddinas mewn perchnogaeth breifat.  Ychydig o drafod a gawsom â pherchnogion Friars Walk ac roeddent yn ymchwilio i nifer o ffyrdd i adfywio Friars Walk, ac roedd nifer o unedau wedi'u gosod. Roedd trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal, ond ni fyddai'n briodol datgelu gwybodaeth masnachol sensitif ar hyn o bryd yn y fforwm cyhoeddus hwn. Fodd bynnag, byddai diweddariad yn cael ei roi i'r cynghorwyr wrth i'r drafodaeth fynd rhagddi.

 

Cynghorydd T Holyoake

 

Gofynnodd y Cynghorydd Holyoake a allai'r Arweinydd roi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am y strategaeth i adfer ar ôl Covid 19.

 

Dywedodd yr Arweinydd y bu'n bresennol yn un o gyfarfodydd diweddar y gr?p adfer strategol, ac roedd ymateb enfawr ar waith ar draws Gwent er mwyn symud tuag at adferiad.  Roedd yna bedwar nod adfer strategol: 1) Cefnogi addysg a chyflogaeth a'r heriau a achoswyd gan Covid, fel colli busnesau a dysgwyr sy'n agored i niwed.  2) Yr amgylchedd.  3) Iechyd a llesiant dinasyddion a 4) Cefnogi dinasyddion ar ôl Covid 19.  Roedd yr Arweinydd wedi cydweithio'n agos â'r ysgolion i'w helpu i ailagor yn ddiogel, ac yn parhau i weithio'n agos â nhw.  O ganol mis Mehefin ymlaen, roedd pecynnau o brofion llif unffordd wedi cael eu darparu i'r staff yn yr ysgol, ac roedd hynny'n bwysig er mwyn adfer.  Roedd tua 7,000 o ddyfeisiau digidol yn cael eu dosbarthu i'r ysgolion ac roedd elfen o ansicrwydd o hyd, er bod dysgu cyfunol yn parhau.  Roedd y cyngor hefyd yn ymwybodol o'r angen i ddysgwyr gael mynediad i'r rhyngrwyd ac yn sicrhau bod disgyblion yn cael y mynediad hwnnw.

 

Roedd cyfleoedd gwaith hefyd yn flaenoriaeth - roedd y cydweithio rhwng yr Arweinydd a'r Celtic Manor yn un enghraifft o hyn. Roedd gan y gwesty nifer o swyddi gwag a byddai'n cysylltu'r rheiny â'n Hacademi Ieuenctid er mwyn helpu pobl i gael swyddi.

 

Roedd y Cabinet hefyd wedi cyflwyno nifer o geisiadau i'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol er mwyn helpu i adfer ar ôl Covid.

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gallu parhau i ddosbarthu grantiau i fusnesau bach ac roedd yn rhaid canmol gwasanaethau rheoleiddio am eu gwaith.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd wedi estyn gwahoddiad i gydweithwyr ddod i wylio'r Cabinet drwy'r Digwyddiad Byw, a fyddai'n cynnwys diweddariadau rheolaidd ynghylch adfer ar ôl Covid.