Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Cofnodion:

Ceir pum cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau'r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet: Diwylliant a Hamdden

 

Cynghorydd C Ferris

Ac ystyried pwysigrwydd stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros D? Tredegar a'r gobaith y byddai hyn yn rhoi hwb i dwristiaeth yng Nghasnewydd, tybed pryd gawsoch chi eich cyfarfod diwethaf â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol?

 

Ymateb

Roedd y Brydles a gytunwyd gan y weinyddiaeth flaenorol yn rhwymo'r Cyngor i wneud taliadau parhaus a oedd yn ychwanegu pwysau ar gyllidebau o'r naill flwyddyn i'r nesaf. Roedd hi'n destun syndod, serch hynny, nad oedd y brydles yn cynnwys unrhyw ofynion ffurfiol i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Cyngor. 

 

Fodd bynnag, o dan fy nghyfarwyddyd i, mae'r baich ariannol hwn bellach wedi'i setlo ac mae'r Rheolwr Diwylliant a Dysgu Parhaus yn cyfarfod â rheolwyr yr eiddo i drafod datblygiadau arno, gwaith atgyweirio a chadwraeth, a marchnata. Bu'r Rheolwr Diwylliant a Dysgu Parhaus hefyd yn bresennol yn y gweithdai rheolaidd Tîm Tredegar a drefnwyd gan staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nh? Tredegar.  Rhoddir yr holl wybodaeth hon i mi yn ystod fy sesiynau briffio â'r swyddogion, a hyd at ddechrau'r pandemig roeddwn yn fodlon bod y trefniant stiwardiaeth yn cael ei reoli'n dda. Rwy’n si?r eich bod yn llwyr ymwybodol o effaith y pandemig ar dwristiaeth ac ar allu atyniadau ymwelwyr i weithredu.  Er hynny, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi llwyddo i l lywio'i ffordd drwy gyfnod anodd iawn, ac rwy'n falch o ddweud bod modd cael mynediad bellach i rannau o'r t? yn ogystal â'r caffi, y parciau a'r gerddi drwy gydol yr wythnos, ac yr argymhellir bwcio ymlaen llaw ar gyfer y penwythnosau, gan ei fod yn lleoliad mor boblogaidd. 

 

Cwestiwn Atodol

Ac ystyried pwysigrwydd hyn, ac er bod y pandemig wedi cael effaith, a fyddai cyfle i gyfarfod rhyw bryd yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Harvey i'r Cynghorydd Ferris am ei gwestiwn atodol a chyfeirio at ei hymateb blaenorol.

 

Cwestiwn 2 – Aelod Cabinet: Hamdden a Diwylliant

 

Cynghorydd M Evans

Ers mis Awst 2017 dim ond 4 penderfyniad ffurfiol rydych chi wedi'u gwneud yn ôl gwefan y Cyngor, dim ond un bob blwyddyn. Er fy mod yn gwerthfawrogi eich bod wedi bod yn ymwneud â chyllid y Bont Gludo yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr, a'r Ganolfan Hamdden newydd arfaethedig, allwch chi ddweud wrth y Cyngor pam nad ydych wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch y Llong Ganoloesol, er enghraifft, a pham na wnaethoch ymgynghori â'r aelodau wrth benderfynu cyflwyno cynllun P?er Pedal?

 

Allwch chi hefyd roi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am y cynllun hwn?

 

Ymateb

Mae proses sychrewi'r Llong Ganoloesol yn dal heb ei chwblhau.  Effeithiwyd yn sylweddol ar hyn yn sgil y pandemig.  Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae'n rhy fuan cynnig cam nesaf y prosiect nes bo'r broses hon wedi'i chwblhau.  Rydych chi'n llygad eich lle fy mod wedi canolbwyntio fy ymdrechion ar y Bont Gludo, ac rwyf wedi cymryd rhan yn uniongyrchol mewn trafodaethau a chyfarfodydd i gefnogi a hyrwyddo'r prosiect. Roedd adroddiad y Cabinet ym mis Chwefror yn manylu ar y gwaith a'r ymrwymiad i gwblhau'r prosiect hwn, er mwyn cael dros £8m o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac £1.5m oddi wrth Lywodraeth Cymru.  

 

Mae eich gwybodaeth am nifer y penderfyniadau rwyf wedi'u gwneud fel Aelod Cabinet yn anghywir.  Nid ydych wedi cynnwys y penderfyniadau a wnes yn rhan o adroddiad ar y cyd.  Bu nifer o benderfyniadau ar y cyd ers mis Awst 2017, gan gynnwys cymeradwyo Marathon Cymru Casnewydd.  Nid ydym yn gweithio mewn seilos Gynghorydd Evans. 

 

O ran y cynllun p?er pedal, tybiaf eich bod eisoes yn ymwybodol bod y defnydd o gyllid Adran 106 i ddibenion hamdden yn cael ei reoli o dan gynllun dirprwyo'r Cyngor.  Mae manteision y prosiect yn glir ac yn galluogi pobl â lefelau amrywiol o symudedd, aelodau'r teulu a gofalwyr i gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden gyda'i gilydd’.

 

Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Hamdden Casnewydd Fyw o dan y brand 'Olwynion i Bawb’. Bydd modd archebu beiciau a slotiau amser penodol drwy wefan ac ap Casnewydd Fyw.   Mae caban beiciau ac offer wedi ei ddarparu ym Mharc Tredegar, ynghyd â'r system ddiogelwch angenrheidiol a theledu cylch cyfyng.  Mae teclynnau codi a chyfarpar arall wedi'u darparu yn y toiledau cyhoeddus anabl cyfagos i helpu pobl sy'n defnyddio'r cynllun, ac mae gwaith gwella wedi'i gwblhau i uwchraddio'r llwybrau drwy'r parc fel eu bod yn addas i bobl sy'n defnyddio'r cynllun ochr yn ochr â beicwyr a cherddwyr eraill.  Mae staff Casnewydd Fyw wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio’r beiciau a’r addasiadau, ac fe gafwyd arddangosfa o'r ystod lawn o feiciau a fydd ar gael i'w llogi ar 9 Mehefin ym Mharc Tredegar.  Cyn gynted ag y bo'r cyfyngiadau clo llawn wedi'u llacio a'r cyfleuster archebu'n fyw bydd y cynllun rhagorol hwn ar gael yn rhad ac am ddim i breswylwyr Casnewydd.

 

Cwestiwn Atodol

Gwnaed penderfyniad ynghylch y Llong Ganoloesol ym mis Hydref 2014.  Yn ogystal â hynny, ym mis Chwefror 2019 roedd cynigion yn cael eu datblygu ar gyfer Parc Tredegar a byddai'r opsiynau'n cael eu cyflwyno gerbron y Cabinet cyn hir. Soniodd y Cynghorydd Evans fod y Cynghorydd Harvey wedi dweud nad oedd wedi ymweld â Pharc Tredegar ers iddi fod yn Aelod Cabinet. Gan hynny, beth oedd y dystiolaeth o waith craffu i weld a oedd grantiau ar gael, a sut y gwnaed y penderfyniad - ai penderfyniad anffurfiol ydoedd?  Roedd y Cynghorydd Evans o'r farn fod llawer o gwestiynau heb eu hateb a gofynnodd am dystiolaeth o hyn gan yr Aelod Cabinet.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harvey, gan fod mwy nag un cwestiwn atodol, y byddai'n rhoi ymateb ysgrifenedig i'r Cynghorydd Evans.

 

Cwestiwn 3 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd W Routley

Gyda thagfeydd ar yr M4 o Fagwyr i dwneli Brynglas y rhan fwyaf o’r penwythnosau a'r gwyliau banc, a wnaiff yr Aelod Cabinet roi gwybod inni pa gynlluniau sydd ganddo i leihau'r baich gormodol ar lwybrau amgen?

 

Ymateb

Bydd penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder 50mya ar yr M4 drwy Gasnewydd yn gwella ansawdd yr aer ac yn lleihau tagfeydd, drwy ddefnyddio camerâu cyfartaledd cyflymder i gyfyngu ar gyflymder traffig, rhwyddhau llif y traffig a gwella amseroedd teithio.

 

Nod gostwng y cyflymder yw lleihau nifer a difrifoldeb y gwrthdrawiadau ar hyd coridor yr M4, sydd yn y gorffennol wedi amharu ar amseroedd teithio ar rwydwaith priffyrdd y ddinas wrth i yrwyr sy'n cael eu gwyro chwilio am lwybrau amgen.

 

Mae'r Cyngor wedi croesawu argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (Burns), a oedd y ngosod ystod o opsiynau trafnidiaeth amgen uchelgeisiol ond cyflawnadwy i'r ddinas a'r rhanbarth, er mwyn lleihau tagfeydd ar yr M4.

 

Mae swyddogion y Cyngor yn parhau i gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gyflawni'r cynigion hyn er budd y Ddinas.

 

Cwestiwn Atodol

Roedd Ffordd Magwyr yn cael ei hadnabod fel ffordd liniaru'r M4, ac roedd y newidiadau mewn cyflymder wedi achosi sawl damwain agos.  A allai'r Dirprwy Arweinydd a'r swyddogion ymchwilio i hyn er mwyn helpu i arafu cerbydau ar y ffyrdd.

 

Atebodd y Cynghorydd Jeavons drwy ddweud y byddai'n hapus i gwrdd â'r Cynghorydd Routley, ynghyd â swyddogion a'r Heddlu i drafod hynny.

 


 

Cwestiwn 4 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd R Mogford

Mae astudiaethau gwyddonol yn dangos yr effaith wirioneddol ddinistriol a ragwelir yn sgil y newid hinsawdd ar Gymru dros y genhedlaeth nesaf neu ddwy.

 

Yn ddiweddar, mae llawer o breswylwyr drwy holl ardaloedd isel Casnewydd wedi cael profiad uniongyrchol o lifogydd eithafol.

 

A all yr aelod Cabinet roi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor ynghylch:-

 

i)              Pa wersi sy’n cael eu dysgu yn sgil y digwyddiad llifogydd diwethaf ym mis Rhagfyr 2020, a pha atebion sy'n cael eu gweithredu o ganlyniad i hynny.

ii)             Pa gamau pellach, os o gwbl, sy'n cael eu cymryd i leihau'r risg o lifogydd difrifol yng Nghasnewydd, yn y tymor canolig a'r tymor hir?

iii)           Pa adnoddau ariannol newydd y mae’r Aelod Cabinet yn disgwyl iddynt fod ar gael er mwyn helpu i gefnogi mesurau atal llifogydd o hyn allan.

 

Ymateb

Fel y dywedais yn gynharach eleni Gyng Mogford, fel llawer o ardaloedd eraill ledled Cymru a'r DU, cafwyd glaw sydyn a thrwm yng Nghasnewydd, ac achosion o lifogydd, fis Rhagfyr diwethaf. Mae digwyddiadau llifogydd o'r fath yn destun ymchwiliad adran 19, ac mae'r rhai sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau diweddar yng Nghasnewydd wedi dechrau, a bydd y canfyddiadau'n cael eu rhannu â'r cyhoedd cyn hir. Mae ymchwiliadau o’r fath yn cynnwys pob corff perthnasol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor a D?r Cymru, a hyd nes y bo'r gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, ni allaf wneud unrhyw sylwadau pellach.

 

O ran y gwaith sydd wedi'i gynllunio, mae rhaglen y Cyngor wedi'i nodi yn y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, y cynhaliwyd ymgynghoriad arno â'r Aelodau, ond caiff y rhan fwyaf o'r gwaith graddfa fawr i amddiffyn rhag llifogydd ei gyflawni gan CNC.

 

Cwestiwn Atodol

O ran adroddiad Adran 19, roedd y Cynghorydd wedi gofyn mor bell yn ôl â mis Rhagfyr, a allai'r Dirprwy Arweinydd ddweud pryd y byddai'r adroddiad ar gael.

 

Ni allai’r Cynghorydd Jeavons roi dyddiad ond byddai’n rhoi gwybod i’r Cynghorydd Mogford pan fyddai ar gael i’r cyhoedd.

 

Cwestiwn 5 – Aelod Cabinet: Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Cynghorydd W Routley

Tybed a all yr aelod Cabinet hysbysu'r Cyngor pa gynlluniau sydd ar waith i fonitro ansawdd yr aer mewn cymunedau sy'n byw'n gyfagos â choridor yr M4?

 

Ymateb

Fel y gwyddoch, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi datgan 11 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA), y mae 5 ohonynt yn uniongyrchol gysylltiedig â llygredd aer o draffordd yr M4. Mae'r rhain wedi'u gwasgaru ar hyd y darn o'r M4 sydd o fewn ffin Casnewydd, gyda 2 i'r Dwyrain o Afon Wysg a 3 i'r Gorllewin. Cyhoeddwyd yr holl Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer flynyddoedd yn ôl oherwydd bod lefelau'r allyriadau Nitrogen Deuocsid yn uwch na’r Amcanion Ansawdd Aer a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi a gweithredu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer i fynd i'r afael â'r materion ansawdd aer hyn.  Mae'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer yn cael ei ailwampio a'i ddiweddaru ar hyn o bryd i gyd-fynd â Chynllun Teithio Cynaliadwy'r Cyngor, gan fod ansawdd aer, Newid yr Hinsawdd a Lleihau Carbon i gyd yn rhan o'r un agenda. Yn y cyfamser, bydd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn parhau i fonitro allyriadau ansawdd aer yn agos yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer ac yn y lleoliadau ar hyd coridor yr M4 lle nodwyd problemau.

 

Mae gennym 77 o diwbiau monitro ar draws pob un o'r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, sy'n monitro lefelau allyriadau yn barhaus. Yn ogystal â hynny, rydym wedi sicrhau cyllid grant SEWTA ychwanegol i brynu 3 synhwyrydd a fydd yn darparu data amser real yn ogystal â lefelau gronynnau, sy'n fwy treiddiol nag allyriadau CO2 ac NO2.

 

Cafodd cyfyngiadau teithio Covid-19, a'r gostyngiad mawr yn nifer y teithiau mewn car ar yr M4, gryn effaith ar ddata monitro'r 12 mis diwethaf, gyda llawer o bobl yn gweithio gartref.  Mae'r data dibynadwy diwethaf felly'n dyddio o 2019, ond hyd yn oed wedyn, roedd y data monitro yn galonogol iawn, ac yn dangos bod lefelau uwch na'r trothwy yn tueddu i ostwng o gymharu â'r blynyddoedd cynt. Mae hyn yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd i leihau allyriadau a gwella ansawdd yr aer. Ym mis Rhagfyr 2019, roedd ansawdd aer ym mhob ARhAA wrth ymyl cyffyrdd yr M4 yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylid diddymu ARhAA Sain Silian sy'n ffinio â'r M4 gan nad yw'r Amcanion Ansawdd Aer wedi'u torri yno ers blynyddoedd. Bydd yr ARhAA hon yn cael ei dirymu'n ddiweddarach yn 2021. Rydym hefyd yn gweld gostyngiad graddol mewn lefelau allyriadau yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer sy'n weddill wrth ymyl cyffyrdd y draffordd, ac maent yn symud tuag at lefelau cydymffurfio.  Fodd bynnag, nid yw'n bosib rhoi unrhyw amserlen union ar gyfer cydymffurfio, oherwydd ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o'r mesurau lliniaru'n gysylltiedig â'r M4 yn faterion i Lywodraeth Cymru.

 

Cwestiwn Atodol

Ym Materion Casnewydd cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at ddyletswydd gofal i'r amgylchedd yng Nghasnewydd a'r newid hinsawdd.  Bu'r Aelod Cabinet yn dathlu Diwrnod Aer Glân, lle cydnabuwyd bod 36,000 o farwolaethau yn deillio o lygredd, sy'n nifer ddifrifol. Roedd Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, a oedd yn cynnwys Casnewydd.  Aeth y Cynghorydd Routley yn ei flaen i ddweud bod un o bob 22 o farwolaethau yng Nghasnewydd yn gysylltiedig ag ansawdd aer.  Yn 2017, bu 113 o farwolaethau'n gysylltiedig â llygredd aer yng Nghasnewydd.  Nid y ffaith nad oedd traffig yn teithio ar 50mya oedd y broblem gyda'r M4, ond y tagfeydd a oedd yn llygru'r aer.  Roedd gyrwyr yn chwilio am lwybrau eraill, yn lle'r A48 a'r M4.

 

 Dywedodd y Maer fod yr amser ar ben ac y byddai'r Aelod Cabinet yn ymateb yn ysgrifenedig.

 

 

Cwestiwn 6 – Aelod Cabinet: Addysg a Sgiliau

 

Cynghorydd R Mogford

Cyn y pandemig, roedd Ysgol Gyfun Sain Silian Casnewydd ac Ysgol Uwchradd Casnewydd yn destun 'mesurau arbennig’. A all yr Aelod Cabinet Addysg roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwelliannau i'r ysgolion hyn, a phryd mae'r 'mesurau arbennig' yn debygol o ddod i ben.

 

Ymateb

Yn y cyfnod a oedd yn arwain at y pandemig, roedd cyrff llywodraethol y ddwy ysgol wedi llwyddo i benodi penaethiaid newydd, a dechreuodd y naill a'r llall eu swyddi yn ystod y pandemig.  Rwy'n cymeradwyo'r ffordd y mae'r ddau bennaeth wedi ymateb i'r her o gychwyn eu rolau mewn cyfnod mor anarferol. 

 

Mae'r ddau bennaeth a'u cyrff llywodraethol wedi ymgysylltu'n llawn â'r Gwasanaethau Addysg, y GCA ac Estyn dros gyfnod y pandemig er mwyn ymateb i argymhellion eu harolygiadau, ochr yn ochr ag addasu'r ddarpariaeth i ddysgwyr, sy'n cynnwys datblygu dysgu cyfunol a darparu gofal plant i ddysgwyr sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol.

 

Pan ddechreuodd y pandemig gohiriodd Estyn yr holl arolygiadau a gweithgarwch monitro a oedd wedi'u cynllunio ar gyfer yr ysgolion mewn categori statudol.  Fodd bynnag, mae Estyn wedi parhau i weithio gydag Ysgol Sain Silian ac Ysgol Uwchradd Casnewydd i'w cefnogi, ac ailgydiwyd yn y gweithgarwch monitro ffurfiol ar gyfer rhai ysgolion yn ystod haf 2021. 

 

Mae Ysgol Uwchradd Casnewydd ac Ysgol Sain Silian yn cymryd rhan mewn rhaglen aml-asiantaeth Genedlaethol newydd a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu ysgolion ledled Cymru sydd mewn categori Estyn statudol i wneud y gwelliannau angenrheidiol.  Mae’r Gwasanaethau Addysg, Estyn, Llywodraeth Cymru a’r ysgolion unigol yn gweithio mewn modd cydlynol i sicrhau bod ysgolion yn symud allan o gategori statudol cyn gynted â phosibl. 

 

Dim ond Estyn sy'n gallu pennu a ddylid tynnu ysgol o gategori mesurau arbennig, ac ni fyddai'n briodol i'r Awdurdod Lleol awgrymu llinell amser ar gyfer hyn.

 

Fodd bynnag, mae'r Gwasanaethau Addysg a'r GCA o'r un farn ag Estyn, sef bod y ddwy ysgol yn gwneud cynnydd, ac yn cefnogi cyfeiriad yr arweinyddiaeth a hwylusir gan gyrff llywodraethol a phenaethiaid y ddwy ysgol.

 

Cwestiwn Atodol

Roedd hi'n braf clywed bod dau bennaeth newydd, ac o edrych ar y dudalen we, roedd y Cynghorydd Davies yn gadeirydd y Llywodraethwyr ond hefyd yn Aelod Cabinet.  A allai'r Cynghorydd Davies felly gadarnhau pa mor hir y bu hi'n llywodraethwr ac a oedd yn dal i fod yn Gadeirydd. 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Davies ei bod wedi bod yn llywodraethwr yn Sain Silian ers 2014, ac yn Is-gadeirydd yn 2016 am ddwy flynedd, a'i bod wedi aros yn Gadeirydd y Llywodraethwyr am ddwy flynedd. Roedd yr ysgol yn destun mesurau arbennig, a byddai rhoi'r gorau i fod yn llywodraethwr a newid i'r arweinyddiaeth yn ystod y broses hon yn achosi aflonyddwch.  Roedd ESTYN yn ymwybodol bod y Cynghorydd Davies yn aelod Cabinet ond hefyd o'r farn na fyddai'n briodol rhoi'r gorau i'w swydd ar hyn o bryd, ond pe bai unrhyw achos o wrthdaro buddiannau yn codi, byddai'r Cynghorydd Davies yn gofyn i'r Is-gadeirydd ddirprwyo ar ei rhan.

 

Cwestiwn 7 – Aelod Cabinet: Datblygu Cynaliadwy

 

Cynghorydd C Townsend

Bydd r Aelod Cabinet yn ymwybodol o'r anawsterau y mae ceisiadau cynllunio HMO yn eu hachosi i breswylwyr a busnesau cyfagos.

 

Mae CCA y Cyngor ei hun ar HMOs yn cyfeirio at effeithiau andwyol ar gydlyniant/amwynder cymunedau, mannau parcio a landlordiaid y mae'n amhosib cael gafael arnynt.

 

Ac ystyried yr anawsterau y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn eu cael gyda'r Arolygwyr Cynllunio yn gysylltiedig ag apeliadau HMO, a wnaiff yr aelod Cabinet gychwyn adolygiad o'r CCA - a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2017 - gyda golwg ar gryfhau hawliau preswylwyr a busnesau lleol.

 

Ymateb

Cydnabyddir y gall ceisiadau cynllunio ar gyfer HMOs yn aml fod yn gynhennus. Yn wir, gall HMOs wedi'u rheoli'n wael a llawer ohonynt wedi'u lleoli gyda'i gilydd achosi problemau sy'n effeithio ar breswylwyr lleol, ac yn aml y tenantiaid eu hunain. Fodd bynnag, rhaid inni gofio hefyd y gall HMOs a reolir yn dda integreiddio’n dda i'r gymuned leol, a byddant yn aml yn cynnig cyfleoedd tai i amrywiaeth o bobl, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ifanc. Mae'n rhaid gofalu felly ein bod yn edrych at bob achos yn unigol yn lle rhuthro i feirniadu.

 

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn dilyn polisi a chanllawiau cenedlaethol. Cafodd y rhan fwyaf o HMOs a wrthodwyd yn ddiweddar yng Nghasnewydd eu gwrthod oherwydd diffyg mannau parcio. Ar raddfa genedlaethol, mae ein golygon yn troi fwyfwy at drafnidiaeth gynaliadwy - cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r car preifat ar waelod yr hierarchaeth trafnidiaeth. Gan hynny, wrth benderfynu gwrthod ceisiadau ar sail diffyg mannau parcio, rhaid i'r rhesymau am hynny fod yn drwyadl a chadarn, a rhaid gallu dangos pam nad yw'r datblygiadau mewn mannau hygyrch a chynaliadwy. Os na cheir rhesymau o'r fath, mae Arolygwyr Cynllunio yn caniatáu apeliadau.  Yn ddiweddar cynhaliodd y Prif Arolygydd Cynllunio sesiwn adborth â'r Pwyllgor Cynllunio ar yr union destun hwn.

 

Rwy'n gyfarwydd â phryderon yr aelodau a'r problemau y gall HMOs eu hachosi. Fodd bynnag, rwyf o'r farn na fydd diweddaru Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA), neu CCA newydd yn datrys y broblem. Canllawiau yn unig yw CCA. Maent yn rhoi arweiniad ychwanegol ar y prif bolisi neu bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mewn perthynas â’r CCA presennol ar gyfer HMOs, nid yw Polisi H8 y CDLl ond yn caniatáu HMOs yn yr amgylchiadau canlynol:

 

·         Os nad yw maint a dwysedd y defnydd yn niweidio cymeriad yr adeilad a’r lleoliad ac na fydd yn achosi gostyngiad annerbyniol yn amwynder meddianwyr cyfagos nac yn arwain at achosi problemau parcio ar y stryd.

·         Nad yw’r cynnig yn creu gorddwysedd o HMOs mewn unrhyw ardal benodol.

·         Bod mesurau inswleiddio s?n digonol ac amwynder digonol i feddianwyr yn y dyfodol.

 

Bydd y Cynghorydd Townsend yn ymwybodol bod y Cyngor wedi cymeradwyo adolygiad y CDLl yn ddiweddar. Byddai’n llawer mwy effeithiol inni adolygu polisi H8 yn hytrach na llunio rhagor o ganllawiau.  Bydd angen i unrhyw bolisi newydd ar gyfer HMOs gael ei archwilio gan Arolygydd a benodir gan Lywodraeth Cymru, felly bydd angen i'r dystiolaeth i gefnogi unrhyw bolisi newydd fod yn gadarn.  Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid fel Heddlu Gwent ac yn adolygu cwynion a wneir i wasanaethau eraill y Cyngor i gasglu tystiolaeth o'r fath.  Mae ymgynghori â phreswylwyr, Aelodau a rhanddeiliaid wrth galon proses adolygu'r CDLl, ac mae croeso i'r Cynghorydd Townsend gymryd rhan yn adolygiad y polisi HMO.