Agenda item

Rhybudd o Gynnig: Amrywiaeth mewn Democratiaeth

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r cynnig a ganlyn, yr oedd y rhybudd angenrheidiol wedi'i roi amdano.  Gwnaed y cynnig gan yr Arweinydd, ac fe'i heiliwyd gan y Farwnes Wilcox.

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod bod llawer o waith wedi’i wneud yn ystod y degawd diwethaf yng Nghymru i fesur a gwella amrywiaeth cynghorau. Mae mwy o waith ar y gweill i baratoi am etholiadau 2022. Ceir ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i annog pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i bleidleisio, i ymgysylltu â democratiaeth leol a sefyll am swydd. Mae rhaglenni mentora newydd yn cael eu darparu gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Bydd Stonewall Cymru ac Anabledd Cymru hefyd yn cynnig rhaglenni mentora cyn bo hir. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yn gweithio gyda Chynghorau, ysgolion a chynghorau ieuenctid ac yn datblygu adnoddau i annog pobl ifanc 16 a 17 oed i gymryd rhan a phleidleisio. Mae gan CLlLC wefan Bydd yn Gynghorydd newydd ac mae'n rhan o ymgyrch Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus a gynhelir ar draws y DU. Mae'n cydweithio â Chynghorau i wella ystod y cymorth a'r cyfleoedd datblygu a ddarperir i aelodau.

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol.

 

Rydym yn cytuno i:

·         Wneud ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

·         Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, gan hyrwyddo'r safonau uchaf o ran ymddygiad ac ymarweddiad[DVX31] 

·         Parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion gweithgor Amrywiaeth mewn Democratiaeth CLlLC

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

Wrth eilio'r cynnig, dywedodd y Farwnes Wilcox fod Cyngor CLlLC, ar 5 Mawrth eleni, ar noswyl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, wedi ategu cyfres o argymhellion pwysig gan weithgor trawsbleidiol, a oedd yn cynnwys y defnydd o gwotâu gwirfoddol, targedau lleol, a datganiadau gan gynghorau i ddod yn 'Gynghorau Amrywiol'. Roedd hyn yn deillio o sefydlu gweithgor trawsbleidiol ar grwpiau tangynrychioledig o dan arweinyddiaeth flaenorol y Farwnes Wilcox yn CLlLC, ac roedd y Farwnes Wilcox yn falch o gadeirio'r gweithgor hwnnw hyd fis Tachwedd pan gyflwynwyd ei gynigion cychwynnol gerbron Cyngor CLlLC.

 

Cytunodd CLlLC i gymryd camau i hybu cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth mewn Cynghorau cyn etholiadau 2022. Roedd hyn i gydnabod y diffyg amrywiaeth yng Nghynghorau Cymru. Cylch gwaith y gr?p oedd ymchwilio i dangynrychiolaeth ehangach mewn democratiaeth a sicrhau newid drwy gyfres o gamau gweithredu ac addewidion.

 

Roedd cymunedau lleol yn amrywiol o ran eu profiad bywyd, eu blaenoriaethau a'u hanghenion. Dylai cynghorwyr o bob plaid adlewyrchu'r amrywiaeth hwn yn y sgiliau a'r profiad y maent yn eu cynnig i'r cyngor.

 

Nid mater o gydraddoldeb yn unig oedd hwn, er mor bwysig oedd hynny - ond bod angen i siambrau cyngor gael eu llenwi â phobl ag ystod amrywiol o brofiadau bywyd a dyheadau amrywiol; bydd gwell amrywiaeth yn arwain at well penderfyniadau.

 

Chwaraeodd cynghorau a chynghorwyr ran allweddol, ganolog ac amlwg yn ystod pandemig COVID 19. Dangosodd cynghorau eu bod mewn sefyllfa unigryw wrth galon eu cymunedau a’r gwasanaethau yr oeddent yn eu darparu i'r cyhoedd, ac yn ddieithriad bu cynghorau a chynghorwyr yn fan cyswllt cyntaf i'r rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai a oedd angen cymorth neu sicrwydd.

 

O fwrw ymlaen â syniadau'r gweithgor, roedd CLlLC, mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, felly wedi datblygu cynllun gweithredu a oedd yn trafod ystod o syniadau, gan gynnwys ymwybyddiaeth o rôl Cynghorwyr  yn eu cymunedau, a gwerth y rôl honno, cyflwyno mwy o fesurau i ddelio ag achosion o gam-drin Cynghorwyr, sydd wedi tyfu'n fwyfwy cyflym yn y blynyddoedd diwethaf gyda thwf cyfryngau gwrthgymdeithasol, bwrw ymlaen i ddarparu mwy o hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i Gynghorwyr, gan gynnwys cynlluniau mentora, cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer hyblygrwydd ac i rannu swyddi ar bob lefel, a chefnogi unigolion â nodweddion gwarchodedig.

 

I gloi, roedd y Farwnes Wilcox wrth ei bodd yn cael eilio cynnig yr Arweinydd, fod y Cyngor yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol, ac y cytunwyd gwneud ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth, arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, hyrwyddo'r safonau uchaf o ran ymddygiad ac ymarweddiad, a sefydlu Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol lleol cyn etholiadau lleol 2022.

 

Ar ran ei gr?p, dywedodd y Cynghorydd M Evans ei fod yn croesawu'r cynnig a'r argymhellion, ac ar ôl yr etholiadau diwethaf, fod mwy nag erioed o bobl wedi cael eu dewis o gefndiroedd lleiafrifol ethnig, a'u bod yn awyddus i annog mwy o fenywod i sefyll yn yr etholiadau nesaf. Nid oeddent yn awyddus i roi hawliau pleidleisio i bobl ifanc 16-17 oed yn yr etholiadau diweddar, ond roeddent yn cefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth, a byddent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w cynnwys, er na allent sefyll mewn etholiadau. Fodd bynnag, yr etholaeth a fyddai'n penderfynu pwy i'w pleidleisio i mewn, nid y grwpiau gwleidyddol. Roedd diwylliant agored, safonau uchel ac ymddygiad da yn rhywbeth i'w groesawu.  Fodd bynnag, roedd eu hymgeiswyr hwy'n cael eu dewis ar sail eu teilyngdod yn bennaf, ac roedd yn rhaid i bwy bynnag a fyddai'n sefyll gynrychioli eu cymunedau hyd eithaf eu gallu, a'r etholaeth a oedd i benderfynu yn y pen draw.  Ni fyddent, fodd bynnag, yn rhoi siec wag i CLlLC mewn perthynas â'u cynlluniau ar gyfer amrywiaeth a democratiaeth, gan nad oeddent yn gwybod beth fyddai'n cael ei gynllunio yn y dyfodol agos. Er eu bod yn parchu safbwyntiau'r Farwnes Wilcox ynghylch cydraddoldeb, nid oeddent o blaid rhestrau byr i fenywod yn unig. Oherwydd hynny, dywedodd y Cynghorydd M Evans y byddai ei gr?p yn ymatal rhag pleidleisio.

 

Talodd yr Arweinydd deyrnged i'r Farwnes Wilcox am ei gwaith a'i rôl fel arweinydd gyda CLlLC.   Soniodd yr Arweinydd hefyd fod gan CLlLC gefnogaeth drawsbleidiol lawn i’r gwaith hwn a bod Cyngor Sir Fynwy eisoes wedi mynd i’r afael â hyn ac wedi ei gymeradwyo yn y cyngor llawn yn ddiweddar.  Roedd hwn yn gynnig pwysig ac roedd yn ddemocrataidd bod pob cynghorydd yn cael dweud ei ddweud ar y mater.  Pwysleisiodd yr Arweinydd fod Casnewydd wrth galon democratiaeth ac bod hyn yn gam pellach i symud democratiaeth yn ei blaen.

 

Cytunwyd:

Cymeradwyo'r Cynnig Amrywiaeth mewn Democratiaeth.


check!!!