Agenda item

Hysbysiad o Gynnig: Rhyddid Casnewydd - Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r cynnig a ganlyn, yr oedd y rhybudd angenrheidiol wedi'i roi amdano.  Gwnaed y cynnig gan yr Arweinydd, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Spencer.

 

Bod Cyngor Dinas Casnewydd yn penderfynu penodi'r Lleng Brydeinig Frenhinol fel Rhyddfreiniwr Anrhydeddus Dinas Casnewydd, i gydnabod ei Chanmlwyddiant ar 15 Mai 2021, ac i anrhydeddu gwaith elusennol y sefydliad sy'n cefnogi cyn-aelodau o'r lluoedd a'u teuluoedd.

 

Ffurfiwyd y Lleng Brydeinig Frenhinol ym mis Mai 1921 drwy uno pedair cymdeithas cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf.  Ei phwrpas oedd:

·         rhoi cymorth i gyn-filwyr a'u teuluoedd sydd angen cymorth,

·         ymgyrchu i wella amodau, a

·         hyrwyddo Coffadwriaeth.

 

Wrth wneud y cynnig, dywedodd yr Arweinydd, yn 1921, fod Sylfaenydd a Llywydd y Lleng Brydeinig, yr Iarll Haig, wedi cyhoeddi y byddai Diwrnod y Cadoediad ar 11 Tachwedd yn cael ei alw byth wedi hynny'n Ddiwrnod y Cofio, ac y byddai'n 'Ddiwrnod Pabi' i godi arian er budd cyn-filwyr.

 

Bu dros chwe miliwn o ddynion yn gwasanaethu ar y rheng flaen yn ystod y rhyfel, ac o'r rhai a ddaeth yn eu hôl, dioddefodd 1.75 miliwn ohonynt ryw fath o anabledd, ac roedd hanner y rheiny'n anabl yn barhaol.  Roedd angen cofio hefyd yr effaith emosiynol ac ariannol hyn ar y rhai a gafodd eu gadael ar ôl - gwragedd a phlant, gweddwon a phlant amddifad, yn ogystal â'r rhieni a oedd wedi colli eu meibion.

 

Yn sgil y pryder hwn, sefydlwyd y Lleng, ac mae'r sefydliad wedi helpu cymuned y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd byth ers hynny.  Roedd y Lleng yn rhoi cymorth i aelodau a oedd yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, y Fyddin Brydeinig, yr Awyrlu Brenhinol, cyn-filwyr a'u teuluoedd, drwy gydol eu hoes.  Roedd amrywiaeth eang o weithgareddau'n cael eu cynnig, gan gynnwys cymorth ar gyfer argyfyngau a dyledion, cyflogaeth, gofal dementia, a chefnogi lleoedd drwy gynnal gorymdeithiau a gwasanaethau'r Cofio.

 

Yng Nghasnewydd roeddem yn ffodus o gael pedair cangen i'r Lleng Brydeinig Frenhinol - cangen Dynion Casnewydd, cangen Menywod Casnewydd, cangen T?-du a changen Caerllion.

 

Roedd y gwahaniaeth yr oedd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn ei wneud i fywydau pobl yn amhrisiadwy, wrth iddi nodi ei chanmlwyddiant ym mis Mai, ac roedd yr Arweinydd o'r farn ei bod hi'n bwysig i Gasnewydd roi cydnabyddiaeth ffurfiol o gyfraniad y sefydliad hwn i bobl Casnewydd Teimlwyd bod rhoi Rhyddfraint y Ddinas i'r sefydliad yn anrhydedd priodol, ar ran pobl Dinas Casnewydd ac aelodau etholedig y Cyngor hwn, ac roedd hi'n fraint i'r Arweinydd wneud cais ffurfiol i Gyngor Dinas Casnewydd roi Rhyddfraint y Ddinas i'r Lleng Brydeinig Frenhinol ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant.

 

Pe bai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu, gellid cynnal seremoni gyflwyno fwy ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a gobeithiwyd y byddai'r digwyddiad hwnnw'n galluogi'r Cyngor i ddathlu gwaith y sefydliad anhygoel hwn yn llawn, a rhoi cydnabyddiaeth lawn o'r anrhydedd a roddwyd iddo.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

Roedd y Cynghorydd M Evans yn croesawu'r cynnig ac yn ei gefnogi'n llwyr, er ei fod yn siomedig na ofynnwyd iddo am hyn ymlaen llaw.

 

Roedd y Cynghorydd Cleverly o blaid y cynnig, ac roedd aelod o'i theulu yn y Lluoedd Arfog.

 

Roedd y Cynghorydd Harvey o blaid y cynnig, ac roedd ei mab yn aelod o'r Llynges Frenhinol.

 

Roedd y Cynghorydd Truman o blaid y cynnig hwn.

 

Roedd y Cynghorydd Whitehead o blaid y cynnig hwn, ac roedd ganddo frodyr yn y Lluoedd Arfog.

 

Derbyniodd y Cynghorydd J Watkins gymorth gan y Llynges Brydeinig Frenhinol pan gollodd ei g?r pan oedd yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol. Roedd hi'n siomedig fodd bynnag eu bod wedi penderfynu symud o swyddfeydd lleol a chael eu canoli yn Llundain, ond roedd y Cynghorydd J Watkins o blaid y cynnig.

 

Roedd aelod o deulu'r Cynghorydd Hughes yn gweithio i'r Lluoedd Arfog, ac roedd yn cydnabod cangen Caerllion am ei gwaith caled.

 

Soniodd y Cynghorydd Spencer ei bod hi'n bleser o'r mwyaf cael eilio'r cynnig hwn i'r Lleng Brydeinig Frenhinol, a oedd wedi helpu cyn-filwyr ers blynyddoedd lawer, a chefnogi'r hyn yr oedd gweithwyr y lluoedd yn ei wneud.  Fel cyn-filwr, roedd y Cynghorydd Spencer yn canmol cefnogaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol a'r gwaith caled a wnaed yn y gorffennol a fyddai, gobeithio, yn parhau ymhell i'r dyfodol.

 

Roedd yr Arweinydd yn croesawu'r cyfraniadau cadarnhaol gan gydweithwyr, a oedd yn dangos y parch uchel a fodolai tuag at y Lleng Brydeinig Frenhinol, a'r gydnabyddiaeth o'r gwaith yr oedd yn ei wneud.

 

Cytuno (yn unfryd) i gymeradwyo'r cynnig.