Agenda item

Adroddiad Strwythur Rheoli

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i'r Cyngor, gan dynnu sylw at yr ymgynghoriad ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol a chynrychiolwyr undebau, yn ogystal â'r gwaith agos a wnaed â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Byddai proses recriwtio fesul cam yn cael ei chynnal, ynghyd â phanel recriwtio wedi'i ffurfio o'r aelodau.  Byddai hyn yn cael ei gynnal mewn modd agored a thryloyw.  O ran y goblygiadau ariannol, byddai'r isafswm yn cael ei fuddsoddi yn unol â chyllideb refeniw'r cyngor.

 

Cynigiodd yr Arweinydd yr adroddiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd M Evans.

 

Os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch yr adroddiad, gofynnodd y Maer i'r cynghorwyr ofyn y cwestiynau hynny i'r Prif Weithredwr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cleverly i'r Prif Weithredwr a fyddai'n dal angen i'r staff ailymgeisio am eu swydd, neu a fyddent yn cael eu paru â swydd, ac yn ogystal â hynny, a fyddai unrhyw ddiswyddiadau?  Dywedodd y Prif Weithredwr na fyddai hyn yn amharu ar unrhyw Bennaeth Gwasanaeth presennol, ac y byddent felly'n cael eu paru â rôl o fewn y strwythur arfaethedig, gyda mân newidiadau i'r meysydd gwasanaeth cysylltiedig ac, yn ystod y cam gweithredu cychwynnol, ni fyddai unrhyw staff yn cael eu diswyddo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd T Watkins beth oedd yr amserlen ar gyfer sefydlu'r swyddi hyn. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r broses recriwtio yn dechrau ar unwaith, ac y rhagwelwyd y byddai'r swyddi yn eu lle o fewn y tri i bum mis nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Fouweather fod anawsterau wedi codi yn y gorffennol wrth recriwtio uwch swyddogion, a gofyn a oedd y cyflogau'n gystadleuol o fewn y farchnad.  Cytunodd y Prif Weithredwr ei bod hi'n dda annog cystadleuaeth, a bod cyflogau'r cyfarwyddwyr yn gystadleuol.  Roedd cyflogau'r Penaethiaid Gwasanaeth yn gymesur â chyflogau eraill o fewn Llywodraeth Leol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o gefnogi adroddiad y Prif Weithredwr i weithredu diwygiadau i strwythur uwch reoli'r Cyngor, yr oedd angen mawr amdanynt.

 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, bu'r Prif Weithredwr, yn ei rôl fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig, yn gweithio'n agos â CLlLC i adolygu'r strwythur prif swyddogion ar lefel Penaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr.  

 

Cafwyd gostyngiad o 39% i'r strwythur lefel uwch ers 2011, ond parhaodd agenda newid y Cyngor a'i ddisgwyliadau ar gyfer y Ddinas i dyfu dros yr un cyfnod - roedd yr adolygiad felly'n cefnogi'r angen i greu capasiti strategol er mwyn i'r Cyngor allu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd.

 

Yn ei hadroddiad, manylodd y Prif Weithredwr ar yr angen i gryfhau'r uwch dîm arwain i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i symud y Ddinas yn ei blaen, a chryfhau rôl y Cyngor hyd yr eithaf ar raddfa leol a chenedlaethol.   Roeddem yn cymryd rhan mewn agendâu rhanbarthol a chenedlaethol uchelgeisiol fel Porth y Gorllewin a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roedd disgwyliadau'r gymuned yn cynyddu a byddai'r cyngor yn ymdrin â sgil-effeithiau pandemig Covid-19 am flynyddoedd lawer i ddod - ac roedd angen arweinyddiaeth gadarn ar lefel uwch ar gyfer hyn. 

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cyflwyno'r adroddiad hwn i'r Cyngor i geisio cymeradwyaeth am strwythur a fyddai'n addas i'r dyfodol - i alluogi uwch swyddogion i ganolbwyntio o'r newydd ar flaenoriaethau strategol y Cyngor, ac ar drawsnewid ein gwasanaethau mewn modd thematig.  Cynigiodd yr Arweinydd felly y dylid mabwysiadu'r adroddiad, a gobeithiai y byddai ei gyd-aelodau'n gwneud hynny hefyd. 

 

Ar ran y gr?p ceidwadol, roedd y Cynghorydd M Evans yn cydnabod nad oedd y strwythur uwch reoli yn addas i'r diben, ac felly'n croesawu ymdrechion y Cyngor i unioni hyn, a'r ffaith bod mwy o ogwydd fasnachol i'r newidiadau. Yn y pen draw, roedd yn rhaid i'r Cyngor wella gwasanaethau rheng flaen i breswylwyr.  Roedd pryderon ynghylch costau recriwtio yn amlwg wedi'u trafod, a byddai'r rhain yn cael eu monitro, felly roedd y Cynghorydd M Evans yn cefnogi'r adroddiad y llawn.

 

Diolchodd y Cynghorydd K Whitehead i'r Prif Weithredwr am ei gynnwys yn y broses ymgynghori, a dywedodd fod y Prif Weithredwr wedi ymdrin â hyn mewn modd deinamig ac agored. Roedd yn cefnogi'r adroddiad hwn yn llawn ac yn gobeithio y byddai'r berthynas hon yn cael ei chynnal wrth roi'r cynllun recriwtio arfaethedig ar waith.  O safbwynt ariannol, byddai'r gost yn creu budd i'r Cyngor yn y dyfodol, felly roedd yn cefnogi'r adroddiad yn llawn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at yr angen i feddwl yn strategol o fewn yr awdurdod, ac roedd felly'n cefnogi'r adroddiad yn llawn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r cynghorwyr am eu sylwadau, a chanmol y Prif Weithredwr am ei hadroddiad a'i dull cynhwysol o lunio'r adroddiad a'r argymhellion, ac felly cynigiodd yr adroddiad.

 

Cytunwyd:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i strwythur yr uwch-arweinyddiaeth, ac yn awdurdodi'r Prif Weithredwr i fwrw ymlaen i weithredu'r strwythur newydd o fewn fframwaith recriwtio'r Cyngor ar gyfer Prif Swyddogion.

Dogfennau ategol: