Agenda item

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Trwyddedu a Rheoleiddio yr adroddiad i'r Cyngor.

 

Pwrpas Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) oedd atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Gellid ei ddefnyddio i weithredu cyfyngiadau lle'r oedd ymddygiad yn cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal leol, neu'n debygol o wneud hynny; a lle'r oedd yr ymddygiad yn ddi-baid neu'n barhaus ei natur, neu'n debygol o fod felly.

 

Dim ond y Cyngor a allai lunio PSPO, ond gallai Heddlu Gwent a Swyddogion y Cyngor ei weithredu.

 

Y PSPO gerbron y Cyngor heddiw fyddai'r ail PSPO i gael ei weithredu yn Ward Pilgwenlli. Daeth y PSPO blaenorol i ben ym mis Gorffennaf 2020 ac roedd yn cynnwys tri chyfyngiad. Roedd y PSPO newydd hwn yn gweithredu nifer fwy o gyfyngiadau wedi'u targedu'n benodol i ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn yr ardal ddiffiniedig.

 

Roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd ym Mhilgwenlli, a hynny'n amharu ar ei phreswylwyr. Roedd y PSPO blaenorol yn gyfyngedig o ran ei weithrediad a'r defnydd ohono. Drwy drefniadau i'r Cyngor a Heddlu Gwent gydweithio'n agos â'i gilydd, cynigiwyd y dylai'r Cyngor weithredu PSPO newydd i ddarparu pwerau gorfodi ychwanegol a pherthnasol i staff Heddlu Gwent a'r Cyngor er mwyn helpu i ymdrin â phroblemau yr oedd preswylwyr yn eu profi.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am fis ym mis Mawrth 2021, ac ymatebodd dros 150 o unigolion a sefydliadau i'r ymgynghoriad hwnnw. Roedd bron bob un o'r ymatebion hyn gan bobl a oedd yn byw neu'n gweithio ym Mhilgwenlli. Cafwyd cefnogaeth frwd iawn i'r cyfyngiadau yn y PSPO newydd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Bu'r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu yn goruchwylio'r broses ddrafftio ac ymgynghori ar gyfer y PSPO newydd hwn, a hefyd yn adolygu canlyniadau'r ymgynghoriad. Yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cyngor fabwysiadu'r PSPO.

 

 

Ar gais yr Heddlu, argymhellodd y Pwyllgor Rheoli Craffu y dylid dileu Gwaharddiad 8 o'r Gorchymyn drafft a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Fodd bynnag, yng ngoleuni’r gwrthwynebiadau dilynol a gafwyd gan y gymuned leol ynghylch cael gwared â'r mesur hwn a'r gefnogaeth eang o du'r cyhoedd i gyfyngu ar "hel puteiniaid o gerbyd", argymhellwyd y dylid diwygio'r PSPO drafft yn Atodiad A yr adroddiad i gynnwys gwaharddiad ychwanegol rhif 8

 

Ni chaiff neb fynd i mewn i’r ardal gyfyngedig a cheisio prynu gwasanaethau rhyw gan berson arall”

 

Yn amodol ar y diwygiad hwn, cynigiodd yr Aelod Cabinet y dylai'r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu PSPO newydd Pilgwenlli yn ffurfiol, fel y nodir yn yr Adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd I Hayat i'r Cyng. Truman, ac ystyriai ei bod hi'n hanfodol sefydlu hyn.  Byddai'r PSPO hwn, gyda'r ychwanegiadau, o gymorth i'r heddlu.  Roedd Pilgwenlli yn lle amlethnig ac amrywiol a oedd yn croesawu pobl i fuddsoddi yn y ward, felly roedd y Cynghorydd I Hayat yn llwyr gefnogi'r adroddiad.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu, dywedodd y Cynghorydd Lacey fod trafodaeth drawsbleidiol wedi'i chynnal a'r argymhellion wedi'u hystyried yn ofalus, ac felly roedd hi'n cefnogi'r diwygiad yn llwyr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Holyoake at y tai diogel a gynigiwyd yn 2015 a wrthwynebwyd gan y preswylwyr a'r cynghorydd, ond a basiwyd p'run bynnag.  Roedd y Cynghorydd Holyoake a'i chydweithwyr o fewn y ward wedi brwydro i unioni'r cam hwn.  Roedd hyn wedi annog ymddygiad gwyrdroëdig a gwaith rhyw, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf dros gyfnod y pandemig, a hefyd yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Pilgwenlli oedd y ward â'r gyfradd droseddu uchaf ond un yng Nghasnewydd.  Cafwyd ymyrraeth gadarnhaol gan yr Heddlu gydag arestiadau lluosog, gan arwain at ddirwyon sylweddol ac euogfarnau troseddol. Byddai'r PSPO yn rhoi grym i'r heddlu a wardeiniaid weithredu'n briodol os gwelir hyn ar ein strydoedd.  Byddai hyn yn rhoi'r hawl i breswylwyr deimlo'n rhydd ac wedi'u diogelu.  Roedd y Cynghorydd Holyoake felly'n cefnogi'r PSPO yn llwyr.

 

Soniodd y Cynghorydd M Evans fod hyn yn effeithio ar breswylwyr a busnesau fel ei gilydd, ac na ddylai unrhyw fenyw deimlo'n anniogel, ac roedd yn croesawu gweithredu llymach.  Roedd cardota ymosodol ar y stryd ar gynnydd, a dylai'r Cyngor wahardd hyn yn llwyr yng nghanol y ddinas ac ym Mhilgwenlli.  Cefnogodd y Cynghorydd M Evans yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Whitehead ei bod hi'n bwysig gweld heddlu yn bresennol.  Pryder arall oedd effaith grenâd PSPO.  Roedd y Cynghorydd Whitehead yn cydymdeimlo â phreswylwyr Pilgwenlli, yr oedd rhai ohonynt wedi symud i ffwrdd o'r ardal.

 

Roedd y Cynghorydd Harvey yn cefnogi'r adroddiad yn llwyr, gan ddweud bod angen y PSPO hwn ar breswylwyr ac aelodau ward lleol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r holl bartneriaid a'r rhanddeiliaid am eu cyfraniad at y PSPO, gan ddweud bod llawer o waith wedi'i gyflawni i'w wireddu.  Roedd hi'n bwysig cydnabod pryder ynghylch dadleoli a phwysigrwydd gwaith partneriaeth.  Roedd yr adroddiad hwn yn sicrhau bod ystod o offer ar gael i ymdrin â'r heriau.  Ni ddylai pobl orfod goddef y math hwn o ymddygiad ar garreg eu drws.  Cyfeiriodd yr Arweinydd at negeseuon a gafwyd gan drigolion, a'r un anoddaf i'w darllen oedd neges o un o'r ysgolion uwchradd lle'r oedd disgybl yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol dro ar ôl tro oherwydd y gweithgarwch nosol sy'n digwydd y tu allan i'w th? bob nos.  Dylai pob preswylydd deimlo'n ddiogel a dylai plant gysgu yn y nos i fynychu'r ysgol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Truman i bawb a siaradodd o blaid yr adroddiad a chynnig yr adroddiad.

 

Cytunwyd:

Bod y Cyngor yn mabwysiadu ac yn gweithredu'r PSPO Pilgwenlli (2021-2024).

Dogfennau ategol: