Agenda item

Adroddiad Rheoli'r Trysorlys

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, gofynnodd yr Arweinydd i gydweithwyr dderbyn ymddiheuriadau ar ei rhan hi a’r Pennaeth Cyllid gan mai’r sefyllfa canol-blwyddyn oedd ym mhecyn Agenda’r aelodau, ac nid yr adroddiad am yr hyn a gynhyrchwyd. Y fersiwn ar y wefan oedd yn un gywir.  Yr oedd yr Arweinydd wedi paratoi briffiad cynhwysfawr i gynghorwyr ar y cynnyrch oedd yn esbonio’r sefyllfa a beth oedd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn 2020/21 o ran Rheoli Trysorlys.

 

Yroedd yr adroddiad yn cyflawni cyfrifoldeb y Cyngor i dderbyn a chymeradwyo adroddiad ar gynnyrch rheoli’r trysorlys bob blwyddyn. Yr oedd yr adroddiad yn ymwneud â chynnyrch 2020/21 ac fe’i hadolygwyd gan y Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet, ac ni wnaed unrhyw sylwadau made.

 

Yroedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth a ganlyn:

 

·                manylioncyllido cyfalaf, benthyca, ail-drefnu dyledion a thrafodion buddsoddi

·                adroddiadauar oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion y trysorlys

·                manylion am gynnyrch trafodion rheoli’r trysorlys yn 2020/2021 sy’n cadarnhau cydymffurfio â’r terfynau trysorlys a osodwyd gan y Cyngor.

 

Cawsaipandemig Covid effaith ar Reoli Trysorlys yn ystod 2020/21. Ers dyddiau cynnar y pandemig, rhaid oedd i’r Cyngor fonitro cynnydd sylweddol mewn gweithgareddau llif-arian trwy gydol 2020/21, o wneud grantiau busnes a’r Cynllun Rhyddhad Trethi Busnes yn benodol, a hefyd trwy eu costau eu hunain a lefel incwm is. Rhoes Llywodraeth Cymru gefnogaeth llif-arian sylweddol yn syth er mwyn sicrhau bod gan Gynghorau ddigon o gyllid i weinyddu’r cynllun trethi busnes a grantiau busnes. Ad-dalwyd Cynghorau am y costau ac incwm is. Ochr yn ochr â’r llithriad yng nghyflwyno eu cynlluniau cyfalaf eu hun a thanwariant  ar y gyllideb refeniw, golygodd hyn fod llif arian yn fwy cadarnhaol nablwyddyn normal’, a arweiniodd at lai o fenthyca a llawer mwy o weithgareddau buddsoddi tymor-byr.

 

Foddbynnag, ni wnaeth hyn leihau’r angen am ymrwymiad benthyca’r Cyngor,  ond fe arafwyd graddfa’r benthyciadau a gymerwyd tuag at lefel yr ymrwymiad hwnnw.

 

Arwaethaf yr uchod, yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys, yr oedd y Cyngor yn dal i fuddsoddi yn y tymor byr ac yn benthyca i reoli llif arian o ddydd i ddydd yn 2020/21.

 

Gan droi at weithgareddau benthyca yn benodol, yr oedd y flwyddyn ariannol yn gymharol dawel, fel y gwelir yn Atodiad B i’r adroddiad:

 

·         Ad-dalodd y Cyngor fenthyciad tymor-byr a gymerwyd ym Mawrth 2020 er mwyn cael llif arian ac i hwyluso talu grantiau busnes yn gynnar yn Ebrill. Ad-dalwyd hyn gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y cynllun, ym Mehefin 2020.

·         Ym Mawrth 2021 bu’r Awdurdod yn benthyca ar sail tymor-byr er mwyn talu am weithgareddau arferol.

·         Yn olaf, rhaid oedd gwneud y lleiafswm o fenthyca tymor-hir newydd yn ail hanner y flwyddyn ariannol, sef cyfanswm o £94k. Yr oedd y  benthyca hwn o ‘Salix’ a oedd yn ddi-log ac yn gysylltiedig â phrosiect effeithlonrwydd ynni penodol.

 

Er bod gan y Cyngor gryn ofynion o ran benthyca tymor-hir, yr oedd yn dal i ddilyn ei strategaeth bresennol o dalu am wariant cyfalaf trwyfenthyca mewnolyn hytrach na benthyca o’r newydd lle gallai. Mae modd gwneud hyn oherwydd yr arian wrth gefn sydd ganddynt, ac ar 31 Mawrth 2021, yr oedd y benthyca mewnol tua £107m a oedd, ar y cyfraddau llog cyfredol, yn arbed  tua £2.4m mewn costau llog bob blwyddyn.

 

Dengysamcangyfrifon cyfredol  o lif arian y Cyngor y gallai fod angen benthyca tymor-hir ychwanegol yn ail hanner y flwyddyn ariannol hon i dalu am y rhaglen gyfalaf. Er bod llithriad ar hynny wedi ei gynnwys yn y rhagolygon llif arian, byddai’r hyn fyddai’n digwydd mewn gwirionedd yn y flwyddyn o ran cyflwyno prosiectau yn cael cryn ddylanwad ar hyn. Yn benodol, byddai prosiectau mawr yn y cynlluniau Addysg Band B yn rhoi cychwyn ar y cyfnod pan fyddid yn dechrau benthyca yn y tymor hwy. 

 

I droi at weithgareddau buddsoddi, strategaethau’r Cyngor yn y maes hwn o Reoli Trysorlys oedd (i) bod yn fuddsoddwr tymor byr ac o werth cymharol  isel, sy’n gyson â dilynstrategaeth benthyca mewnol’ a (ii) blaenoriaethau buddsoddi yw diogelwch, hylifedd, ac elw, yn y drefn honno.

 

Yroedd pob buddsoddiad yn rhai dros dro ac mewn sefydliadau diogel iawn, yn unol â strategaeth arall y Cyngor yn y maes hwn. Ar 31 Mawrth 2021, buddsoddwyd £15m gyda gwahanol awdurdodau lleol a £9.8m gyda banciau a chymdeithasau adeiladu.

 

Yn olaf, dangosyddion darbodus. Yr oedd yr Awdurdod yn mesur ac yn rheoli’r graddau yr oedd yn agored i risgiau rheoli trysorlys trwy ddefnyddio gwahanol ddangosyddion y gellir eu gweld yn Atodiad B.  Yr oedd yr adroddiad yn cadarnhau bod y Cyngor wedi cydymffurfio â’r Dangosyddion Darbodus am 2020/21, fel y’u gosodwyd allan ym mis Chwefror 2020 fel rhan o’r Strategaeth Rheoli Trysorlys.

 

Eiliodd y Cynghorydd Jeavons yr adroddiad.

 

Cytunwyd:

§  Fod y Cyngor yn nodi ac yn cymeradwyo’r adroddiad ar weithgareddau rheoli trysorlys am 2020/21 yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21 y cytunwyd arni

§  Nododd y Cyngor sylwadau’r Pwyllgor Archwilio am yr adroddiad.

Dogfennau ategol: