Agenda item

Ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol (BGC)

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor.  Yr oedd yradroddiad, fyddai’n cael ei dderbyn gan bob awdurdod lleol yng Ngwent, yn cyfoesi aelodau am ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol ‘Gwent’ ac ar y rownd nesaf o Asesu Cynlluniau Lles Lleol.

 

Byddai’raelodau yn ymwybodol o ‘Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus UnCasnewydd  neu’r ‘BGC’ a rôl bwysig y bartneriaeth hon. Hyd yma, bu gan ardal pob awdurdod lleol yng Ngwent ei BGC ei hun. 

 

Yroedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn galluogi cyfuno dau neu fwy o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) petai hyn yn eu helpu i gyfrannu at gyrraedd nodau lles.

 

Yroedd partneriaid ledled Gwent yn cydnabod manteision gweithio gyda’i gilydd fel rhanbarth ac adeiladu ar bartneriaeth anffurfiol ‘G10’ sy’n bodoli eisoes, a chynigiwyd ein bod yn gweithio gyda’n gilydd fel un BGC Gwent.  Yr oedd hyn yn golygu cael un Asesiad Lles i’r rhanbarth, ac un Cynllun Lles. Byddai ôl troed y corff rhanbarthol yn cyd-fynd yn well ag amrywiaeth o bartneriaethau sy’n bod eisoes mewn sefyllfa sy’n gynyddol gymhleth.

 

Amlinelloddyr adroddiad y trefniadau ar gyfer ffurfio BGC Gwent o fis Medi eleni ymlaen, ac er mai penderfyniad i’r BGC oedd hwn,  yr oedd newidiadau hefyd i Gyngor Dinas Casnewydd fel partner allweddol. Gofynnwyd i’r Cyngor felly nodi’r newidiadau, a chymeradwyo’r newidiadau llywodraethiant a chyfansoddiadol angenrheidiol, i roi’r trefniadau arfaethedig ar waith.

 

Partneriaethleol

Yroedd yr adroddiad a atodwyd yn cael ei gyflwyno ym mhob un o’r pum ardal awdurdod lleol yn rhanbarth Gwent.  Ymgynghorwyd â’n BGC ‘UnCasnewyddni a chytunwyd ar y newid arfaethedig i ddod i rym o fis Medi ymlaen. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn UnCasnewydd i sicrhau bod ein partneriaeth leol gref yn parhau, ac y mae hyn yn cynnwys parhau i gyflwyno’r Cynllun Lles cyfredol (2018-2023).

 

Byddai’rCyngor hefyd yn adolygu’r trefniadau ar gyfer Partneriaeth Craffu lleol ac yn parhau i weithio gydag aelodau Craffu ar yr agwedd bwysig hon. Yr oedd hyn yn cynnwys Craffu Rhanbarthol ar y BGC newydd, ond yn lleol, roedd y dasg o graffu ar bartneriaeth Casnewydd yn parhau.

 

Byddai BGC ar draws y rhanbarth hefyd yn ystyried pwysigrwydd cynnal y partneriaethau lleol cryf oedd yn bodoli ym mhob ardal er mwyn cyflwyno’r Cynllun Lles a gwaith partneriaeth arall.

 

Byddidyn dal i gyflwyno’r Cynlluniau Lles sy’n bodoli eisoes ledled Gwent trwy  bartneriaethau lleol a byddant yn cael eu goruchwylio dan y trefniadau craffu lleol presennol tan wanwyn 2023.

 

Cynigion       

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, dyma’r cynigion y gofynnwyd i’r Cyngor eu nodi a’u cymeradwyo:

 

1.    Cyfuno’rByrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlu BGC Gwent rhanbarthol;

2.    Y trefniadau llywodraethiant a chylch gorchwyl arfaethedig y BGC;

3.    Datblygu un Cynllun Lles rhanbarthol;

4.    SefydluCydbwyllgor Craffu rhanbarthol i adolygu a chraffu ar waith BGC Gwent

5.    Awdurdodi’rSwyddog priodol i wneud y newidiadau angenrheidiol i Gyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau hyn mewn trefniadau llywodraethiant a chylch gorchwyl.

 

Yroedd trafodaethau gyda’r Bartneriaeth Craffu yn mynd rhagddynt a byddant yn parhau, i sicrhau datblygu Craffu lleol effeithiol ar drefniadau partneriaeth Casnewydd. Yr oedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o waith gan gynnwys diogelwch cymunedol a monitro’r Cynllun Lles cyfredol.

 

Eiliodd y Cynghorydd Jeavons yr adroddiad.

 

Sylwadaugan Gynghorwyr:

 

Gofynnodd y Cynghorydd M Evans sut y byddai ffurfio BGC Rhanbarthol o les i Gasnewydd, gan y byddai ein hanghenion yn wahanol i rai Blaenau Gwent a Sir Fynwy, a sut y byddai’n gwella bywydau ein trigolion. Gan na chytunwyd ar y trefniadau craffu, byddai angen mwy o fanylion am y trefniadau er mwyn eglurder. Fe fyddai manteision, ond teimlai’r Cynghorydd Evans na allai gefnogi rhywbeth fyddai’n rhoi Casnewydd yn y sedd gefn.

 

Er nad sesiwn holi ac ateb oedd hon o ran trefniant, yr oedd yr Arweinydd yn falch o ymateb trwy ddweud fod yr adroddiad yn cynnig cyfleoedd sylweddol. Yr oedd Gr?p y G10 eisoes yn cydweithio’n effeithiol, fel y gwelwyd yn yr ymateb i bandemig Covid, trwy’r fforwm gwytnwch lleol. Dangosodd rhaglen lwyddiannus Profi, Olrhain ac Amddiffyn a ddigwyddodd ar draws y rhanbarth ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth. Yr oedd hyn yn esiampl dda o sut y gweithiodd partneriaeth ranbarthol yn dda i gefnogi dinasyddion yn ardal Gwent, o gymharu â’r trefniadau Profi ac Olrhain yn Lloegr. Cymeradwywyd hyn yn ddiweddar yn Nhorfaen a byddai’n cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod Cyngor Caerffili yr wythnos nesaf. Yr oedd Sir Fynwy eisoes wedi cymeradwyo hyn ac nid yw Cyngor Blaenau Gwent eto wedi cymeradwyo. O ran ein partneriaeth, yr oedd sylfaen gadarn i hyn, yn ogystal â gofynion statudol am weithio mewn partneriaeth, a byddai hyn yn parhau. Ymhellach, byddwn yn dal i weithio fel partneriaeth UnCasnewydd trwy’r cynnig Casnewydd.

 

Cytunwyd:

Cymeradwyodd y Cyngor sefydlu BGC Gwent, un Cynllun Lles a Chydbwyllgor Craffu rhanbarthol, a chytunwyd ar y newidiadau llywodraethiant a chyfansoddiadol angenrheidiol i gyflwyno’r trefniadau arfaethedig hyn, er mwyn cyflwyno manteision cydweithio a gwell deilliannau lles ar lefel ranbarthol, fel y gosodir allan uchod ac yn yr adroddiad cyffredin a atodwyd.

Dogfennau ategol: