Agenda item

PSPO Parciau

Cofnodion:

Gwahoddwyd: 

Joanne Gossage  Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden

Jennie Judd  Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant)

Diolchodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden i’r pwyllgor am ddarllen yr adroddiad a gwrando ar y cyflwyniad. Cyn 2015, yr oedd gorchmynion rheoli c?n fel arfer yn benodol i safleoedd, a byddai ystyriaethau’n cael eu gwneud wrth greu’r gorchmynion hyn o ran gwarchod bywyd gwyllt a da byw. Yr oedd y gorchmynion hyn yn rhedeg ar y cyd ag is-ddeddfau am barciau ffurfiol, mannau agored, a thir comin, etc. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor fod pob gorchymyn blaenorol wedi eu diddymu gan Ddeddf Ymddygiad Troseddol Gwrthgymdeithasol a’u crynhoi yn un gorchymyn; nododd y dylai’r GGMC hwn fod yn llesol i bawb yn y gymuned -  perchenogion c?n a’r cyhoedd yn gyffredinol. 

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod cyn hyn wedi edrych ar safleoedd a chynigiwyd cyfres o gyfyngiadau posib. Dywedodd hefyd eu bod cyn hyn wedi rhoi gorchmynion at ei gilydd ar gyfer mannau yng nghefn gwlad, a wrthodwyd gan y Kennel Club. 

Teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn hanfodol fod hyn yn mynd gerbron y pwyllgor ac i’r cynnig fynd i ymgynghori arno yn ehangach, gan y byddai’n gwneud yn si?r y gallai pawb gyfrannu, gan ei fod yn bwnc sy’n ennyn teimladau cryfion.

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y gellid categoreiddio’r cynigion yn yr adroddiad fel dau gynnig cyfyngu a dau gynnig cyffredinol. Esboniodd fod y cynigion cyfyngu yn galw am gau c?n allan yn gyfan gwbl o fannau chwarae (ac eithrio am g?n cymorth) ac yn ail, rhaid cadw c?n ar dennyn dan rai amgylchiadau fel mewn mynwentydd a mannau lle mae buddiannau eraill i’w hystyried, fel cadwrfeydd bywyd gwyllt. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden fod y ddau gynnig cyffredinol yn gymwys ar draws safleoedd Cyngor Dinas Casnewydd lle nad oes llawer o reolaeth, a’r cyntaf oedd symud baw ci o dir, nid dim ond mannau agored ond hefyd ymylon priffyrdd a llwybrau at fannau agored, gan ddweud bod yn rhaid iddynt hefyd gael y modd i symud baw eu hunain. Yn ail, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden fod y cynnig yn cyfarwyddo perchenogion c?n fod yn rhaid i g?n fod ar dennyn pan fydd y gorfodwyr perthnasol yn dweud wrthynt er mwyn cadw’r anifail dof dan reolaeth.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y byddai un o’r mesurau eithrio yn eithrio tymhorol; yn ystod y tymor chwarae i gaeau chwarae, cynigiwyd eithrio c?n o’r mannau hynny. Esboniodd na fyddid yn eithrio c?n o barc cyfan na mannau agored lle gall y caeau hyn fod, mai dim ond atal y ci rhag mynd ar leiniau sydd wedi eu marcio. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden esiampl Parc Lysaghts, gydag enghreifftiau o dri mesur o eithrio c?n yn gyfan gwbl o fan chwarae, eithrio c?n adeg rhai tymhorau o leiniau chwaraeon wedi eu marcio a’r lle i g?n sydd dan reolaeth gywir. Teimlai bod hyn yn dystiolaeth o’r awydd i beidio ag eithrio c?n yn gyfan gwbl o fannau, dim ond egluro’r rheolau am yr ardaloedd. Byddai’r adroddiad yn dangos i’r cyhoedd pam a sut y mae hyn yn cael ei weithredu ac yr oedd yn esbonio beth y gallant wneud ar y safle. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth esiampl arall i’r pwyllgor; Hartridge Wood, lle’r oedd y gorchymyn cyffredinol i roi c?n ar dennyn a than reolaeth agos, heb gyfyngiadau penodol. Ymysg esiamplau eraill y mae mynwent Sant Gwynllyw, lle dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y byddai’n rhaid i g?n fod ar dennyn bob tro heb amrywiad tymhorol, ac Allt-Yr-Yn, lle gallai c?n fod dan reolaeth gyffredinol yn unig. Dywedodd fod symud baw c?n yr un mor gymwys i bob safle, waeth beth yw’r gwahanol lefelau o eithrio.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden fod awydd i gydbwyso iechyd a lles y cyhoedd a lle syr anifail, ac yr oedd yn cydnabod fod yn rhaid i anifeiliaid gael ymarfer. Nid pwynt y GGMC fyddai gosod gormod o gyfyngiadau ar berchenogion c?n na’r c?n eu hunain, ond i sicrhau mwynhad pawb mewn parciau a mannau agored.

 

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y pwyllgor fod awdurdodau eraill yn edrych ar hyn, gan grybwyll Caerdydd, Caerfyrddin, Rhondda Cynon Taf, Sir y Fflint a Chonwy. Dywedodd eu bod o fewn yr un amserlen a’r lleill, er yr hoffai i’r GGMC fod wedi cael ei ystyried yn gynt, ond yr oedd yn cydnabod fod y pandemig  a materion eraill wedi cymryd blaenoriaeth. Gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden wedyn y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) i gyflwyno’r holiadur fyddai’n rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Rhoddodd y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) sicrwydd i’r pwyllgor y byddai’r holiadur ar gael ar-lein i aelodau’r cyhoedd. Rhoddodd sicrwydd i’r pwyllgor hefyd y byddai rhanddeiliaid yn cael cyngor i gysylltu  ag aelodau, a rhoddodd enghraifft y Kennel Club. Esboniodd y Rheolwr Tîm  hefyd y buasent yn ysgrifennu at glybiau chwaraeon a chyrff llywodraethol i ymgynghori. Byddid yn cysylltu â Chyngor Moslemaidd Cymru am eu pryderon ynghylch pobl gafodd brofedigaeth, er mwyn ehangu’r cyfle i ymgynghori â chymunedau lleiafrifol. Hefyd, cadarnhaodd y Rheolwr Tîm y byddai trefniadau i arddangos baneri ym mharciau amlwg y ddinas i roi gwybod i’r cyhoedd am  yr ymgynghoriad, yn ogystal â chysylltiadau cyhoeddus yn rhannu dolenni ar gyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw trigolion. 

Agorwyd y llawr wedyn i gwestiynau. 

    Yr oedd aelod yn croesawu’r GGMC Parciau ond gofynnodd sut y byddai’n cael ei orfodi a chan bwy.

Atebodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden mai’r ddealltwriaeth oedd, unwaith y bydd y gorchymyn yn ei le, y gellid ei orfodi gan unrhyw un a ddirprwywyd i orfodi, gan gynnwys yr Heddlu, swyddogion dynodedig y cyngor, e.e.,  wardeniaid parciau a wardeniaid c?n, a SCCH. Nododd fod terfyn ar y dirwyon y gall swyddogion roi a bydd angen gweithio gyda chydweithwyr Iechyd Amgylchedd i weld sut i reoli hyn petae’n dod yn broblem. 

 

    Holodd aelod o’r pwyllgor a fyddai’r mapiau a roddwyd i’r pwyllgor yn cael eu rhoi ar hysbysfyrddau yn y parciau er gwybodaeth i’r cyhoedd.

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden sicrwydd i’r pwyllgor mai’r bwriad oedd ac yw bod mor glir ag sydd modd wrth y cyhoedd. Dywedodd y byddai cynlluniau a hysbysiadau ar gael ar-lein, a baneri gyda dolenni am yr ymgynghoriad at y wefan ac i ddweud lle i gael mwy o wybodaeth. 

 

Croesawodd aelod o’r pwyllgor y cynigion gan deimlo fod gweithredu yn synnwyr cyffredin, gan obeithio y byddai’n cael ei orfodi. Lleisiodd yr aelod pwyllgor bryder am broblem diffinio rheolaethgywir’ neu ‘agos’, yn enwedig mewn mannau agored. Dywedodd yr aelod pwyllgor  na ddylid effeithio ar ansawdd bywyd c?n na’u gallu i ymarfer. Aeth ymlaen i holi pam y cynhwyswyd cwestiwn oedd yn ymwneud ag anableddau neu broblemau iechyd blaenorol.

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y pwyllgor at yr adroddiad lle mae gorchymyn drafft (tudalennau 35/36) lle dywed (adran 6.2/3) fod yn rhaid i bobl gadw c?n ar dennyn pan fo gorfodwr priodol yn mynnu hynny, gan esbonio y gofynnir hynny pan fo’n rhesymol angenrheidiol. Dywedodd ei bod eisiau i g?n allu cymdeithasu a mwynhau bywyd mewn modd derbyniol, ac mai mater o gydbwysedd yw’r GGMC. Yr oedd yn gobeithio bod y cymalau hynny yn esbonio wrth y pwyllgor yr hyn a fwriadwyd yn y GGMC. Yr oedd yr aelod pwyllgor yn gwerthfawrogi hyn, ond yn dal yn bryderus rhag i ragdybiaethau gael eu gwneud gan y sawl nad oedd yn llawn ddeall nac yn gallu darllen y GGMC yn llawn. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden i ymholiad am gynnwys cwestiwn yn ymwneud ag anableddau/materion iechyd, gan ddweud y gall hyn ymwneud â ch?n cymorth, ac y dylid, efallai, ei ail-eirio neu ei dynnu allan yn gyfan gwbl. 

 

      Dywedodd y pwyllgor wrth y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden eu bod wedi derbyn gohebiaeth gan etholwyr a’r gymuned Foslemaidd yn holi am y rheolau ac am i g?n gael eu gwahardd o fynwentydd. Holodd yr aelod  sut y byddid yn trin baw c?n ac a benodwyd rhywun i ymwneud yn benodol â hynny.

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r broblem gyda gwahardd yn llwyr yw bod hawliau tramwy dynodedig trwy fynwentydd, ac yn Christchurch yn benodol, fod hawl tramwy sy’n mynd trwy fannau lle claddwyd yn fwy diweddar. Dywedodd, er bod pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio llwybrau ochr, os bydd problemau yn codi, y gellid gwyro’r hawl tramwy. Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden ymhellach am yr awydd i reoli problemau trwy ddweud y bydd mwy o ymwybyddiaeth o’r angen i gadw c?n ar dennyn yn annog aelodau’r cyhoedd. Bydd arwyddion ar gael hefyd, a staff ar y safle i orfodi’r rheolau; y mae hefyd drefn gwynion i ddilyn y materion hyn i fyny. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden na fydd pobl mewn mynwentydd i reoli defnydd y cyhoedd bob awr o’r dydd, ond fe ddywedodd y bydd angen adolygu a cheisio rheoli deddfwriaeth hawl tramwy a phwerau eraill. Yr oedd yr aelod pwyllgor hefyd yn pryderu am gerrig beddau, gan ofyn, petaent yn cael eu torri neu eu fandaleiddio, ar bwy mae’r cyfrifoldeb o’u cynnal? Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden, er nad oes a wnelo hyn â’r pwnc, mai cyfrifoldeb perchennog y bedd yw cynnal a diogelwch ar y safle. Os bu problem gyda dymchwel carreg, gallant ofyn am help, ond yn y pen draw, cyfrifoldeb perchennog y bedd ydyw. Yr oedd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden yn cydnabod fod hyn yn fater y tu hwnt i gwmpas y cyfarfod hwn, ond y gallai’r aelod gysylltu â’r Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) i fynd at wraidd y broblem.

 

    Nododd aelod pwyllgor fod gan bob gwlad ffordd o ddelio â mater baw c?n a mannau agored, ond atgoffodd y pwyllgor o bwysigrwydd cyfrifoldeb perchenogion. Dywedodd fod cofrestrfa ar gael mewn rhai gwledydd i allu olrhain ac erlyn yn briodol achosion o g?n yn baeddu. Gofynnodd pa mor bell y mae’r GGMC yn mynd a pha mor galed y dylid ei hyrwyddo?  Dywedodd yr aelod pwyllgor mai at y perchennog y dylid mynd, ond holodd sut i gael gafael arnynt. Holodd a roddwyd ystyriaeth i ddewisiadau eraill, megis mannau agored yn benodol ar gyfer c?n, mannau wedi eu ffensio, neu gofrestrfa sy’n galluogi canfod troseddwyr, a phetaent wedi eu hystyried, a oeddent yn gymwys?

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y pwyllgor fod mannau dan reolaeth i fynd â ch?n am dro gerllaw’r cynelau ger Parc Coronation. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden nad oedd ar hyn o bryd yn gweld angen i ffensio ardaloedd i ffwrdd mewn parciau mwy gan y byddai hyn yn cyfyngu gormod. Adolygir y GGMC  bob tair blynedd, a bydd modd ei adolygu eto gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r GGMC hwn. Y prif ddymuniad oedd gweld a oedd y GGMC hwn yn ateb i reoli c?n ar dir. Dywedodd yr aelod pwyllgor nad oedd yn anghytuno, ond anogodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden i ystyried edrych ar ardaloedd a gwledydd eraill i weld a allai unrhyw rai o’u cynlluniau fod yn gymwys i’r ardal hon. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth  y gellir ymchwilio i hyn, ac o bosib adolygu, ond gan atgoffa’r pwyllgor eu bod eisoes wedi edrych ar awdurdodau lleol eraill ac wedi eu defnyddio fel sail i’r GGMC hwn. 

 

 Yr oedd aelod o’r pwyllgor yn croesawu’r GGMC Parciau hwn. Tynnodd sylw at bwysigrwydd cadw c?n ar dennyn mewn mynwentydd, a hefyd y peryglon sy’n dod o gael baw c?n ar gaeau chwarae plant. Nododd y pwyllgor y dylid ymgynghori yn eang gyda phob math o gynrychiolwyr, nid dim ond y Kennel Club, ac awgrymodd holi gwahanol glybiau chwaraeon. Yr oedd aelod o’r pwyllgor yn cefnogi gwarchod llwybrau teithio llesol er mwyn diogelwch y cyhoedd, a nododd fod gwallau yn atodiad 1 sydd angen eu cywiro.

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden wrth y pwyllgor mai’r bwriad oedd ymgynghori â chlybiau ac aelodau’r cyhoedd yn ogystal â’r Kennel Club  i gael ymgynghoriad amrywiol a chynhwysol yn ôl dymuniad y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant). 

 

 Nododd y pwyllgor fod camgymeriadau yn Atodiad 1 o ran wardiau a lleoliad parciau, a holwyd a fyddai’r adroddiad yn cael ei gywiro cyn ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd bod nifer o anghysonderau.

 

      Holodd aelod pwyllgor sut y byddai’r mannau lle mae mathau gwahanol o eithrio yn cael eu diffinio yn ymarferol, o ran y Glebelands yn benodol, lle’r oedd coetiroedd, ac a fyddai angen rheolaeth briodol yno. Dywedodd y pwyllgor fod y gyfraith yn mynnu fod c?n yn cael eu meicrosglodio; yn yr un modd, a ellid edrych i mewn i’r syniad o yswiriant trydydd-parti am anifeiliaid dof?

Ymddiheurodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden am y gwallau, gan ddweud wrth y pwyllgor y byddid yn edrych i mewn i hyn ac y câi’r pwyllgor gopi cywir. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai lleiniau yn cael eu marcio i’w gwneud yn hawdd eu hadnabod, ac er efallai na fyddai llinellau gwynion ym mhobman, y gellid eu marcio trwy eu llosgi neu ddefnyddio chwynladdwr. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod dryswch o ran cyfeirio at y Glebelands, gan na ddangoswyd hyn yn y cyflwyniad. Dywedodd aelod o’r pwyllgor  mai ei ddefnyddio fel esiampl a wnaed, a dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai gorchymyn rheoli priodol yn gymwys i bob tir mewn perchenogaeth, ac y byddai cyfyngiadau pellach ar y mannau priodol. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden i gwestiwn yswiriant, gan ddweud y byddai angen holi’r adran Gyfreithiol, ond yn ei barn hi, byddai’n anodd ei orfodi. Pe na bai modd fforddio yswiriant, golygai hyn y byddai’r ci wedi ei eithrio o ddefnyddio mannau agored. Casgliad y Rheolwr Gwasanaeth oedd y byddai mynnu cael yswiriant trydydd parti er mwyn defnyddio mannau agored yn anodd iawn i’w weithredu, yn cyfyngu ar rai pobl, ac yn anodd i’w blismona. 

 

    Soniodd y pwyllgor fod nifer o gwynion wedi eu derbyn am faw c?n ym Mynwent Sant Gwynllyw. Mae aelod o’r pwyllgor wedi siarad â gweithwyr y fynwent fydd yn gwneud eu gorau i sicrhau na fydd hyn yn digwydd, ac yr oedd yr aelod pwyllgor yn credu bod hyn yn drefniant cystal ag y gallant gael. Mynegodd y  pwyllgor bryder nad oedd yr adroddiad yn enwi Mynwent Sant Gwynllyw, ond sicrhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Mynwent Sant Gwynllyw wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.

       Gofynnodd aelod o’r pwyllgor am eglurhad am ba hyd y mae gofyn i g?n fod ar dennyn ym Mharc Belle Vue.

Cydnabu’r Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden na fu’r aelod o’r pwyllgor yn bresennol ar ddechrau’r cyflwyniad, ac esboniodd y byddai’r GGMC Parciau  yn disodli’r holl is-ddeddfau presennol a gorchmynion rheoli c?n ar rai safleoedd. Ymddiheurodd yr aelod pwyllgor am ei absenoldeb rhannol, ond holodd am Barc Belle Vue yn benodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden, fel y nodir yn y GGMC, fod yn rhaid i g?n ym mharciau’r ddinas fod dan reolaeth gywir, yn dibynnu ar lefel yr hyfforddiant a gafodd y ci neu a oes angen ei reoli â thennyn. Dan delerau’r GGMC, bydd yn rhaid rhoi c?n ar dennyn os bydd warden neu weithiwr parciau yn mynnu hynny.

    Holodd yr aelod pwyllgor a yw ceidwaid parciau yn dal ar gael i aelodau’r cyhoedd.

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden y gallai ceidwaid parciau roi cyfarwyddyd, a phetai rhywun yn gwrthod, yna gellid cyfeirio at yr heddlu. Mae modd, dan y gorchymyn, cymryd camau eraill petae angen. Yr oedd yr aelod pwyllgor yn deall ei hesboniad, ond ni wyddai a oedd ceidwad parciau ar gael ym Mharc Belle Vue a phryd y gellid disgwyl iddynt fod yn bresennol i weithredu’r GGMC. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden fod staff  ar y safle yn rheolaidd, gan gynnwys ceidwaid sy’n ymweld i wagio’r biniau, a staff gerddi. Gofynnwyd am yr oriau y mae’r gwasanaeth ar gael. Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) yn ystod yr wythnos waith, fod staff gerddi ar y safle rhwng 7am-3pm yn yr haf, a 9am-5pm yn y gaeaf. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) yn ystod yr haf fod ceidwaid parciau ar y safle yn dechrau am 1pm-8pm, a hyn yn newid fel mae golau dydd yn newid wrth nesáu at y gaeaf. Dywedodd hefyd fod ceidwaid parciau ar gael dros y penwythnos yn y gaeaf. Gofynnodd yr aelod pwyllgor lle mae canolfan y ceidwaid parciau yn y parc. Atebodd y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) nad oes un man i’r ceidwaid am eu bod yn gweithio yn y parc cyfan, er bod cyfleusterau iddynt ar y safle i gael cinio a seibiant yn hen safle’r feithrinfa. Dywedodd y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) ei bod yn sylweddoli fod y parc yn un mawr. Gofynnodd yr aelod pwyllgor am gadarnhad y bydd ceidwad parciau ar gael i rywun fynd atynt, a sicrhaodd y Rheolwr Tîm (Parciau ac Adloniant) mai diben eu cael yno yw i helpu’r cyhoedd bob tro.

Dogfennau ategol: