Cofnodion:
Gwahoddwyd:
Gareth Price Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio
Rhys Thomas Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio
Michelle Tett Rheolwr Gwarchod Cymunedol
Arolygydd Jodie Davies Heddlu Gwent
Diolchodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i’r pwyllgor am wneud lle i eitemau ar yr agenda. Esboniodd fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn gofyn am barhad o’r GGMC sydd yn bod eisoes. Atgoffodd y pwyllgor fod y GGMC yn dod i ben ar 23 Awst 2021 a bod yr adroddiad hwn yn ymgynghori ar barhad yr angen am GGMC ac a yw cyfyngiadau GGMC y Ddinas yn dal yn berthnasol.
Gorchymynlleol yw GGMC y Ddinas a wneir gan awdurdod lleol, ac y mae’n erfyn i ateb y problemau a osodir allan yn yr adroddiad; mae gan bartneriaid ar y bwrdd gwasanaeth brosesau eraill y gellir eu defnyddio hefyd.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wrth y pwyllgor y gallant ddewis adnewyddu heb ymgynghori, ond y dylid ymgynghori â’r cyhoedd. Dywedodd mai’r dewisiadau oedd adnewyddu gyda’r un cyfyngiadau, adnewyddu gyda chyfyngiadau wedi eu hychwanegu, eu hamrywio neu eu newid, neu fe all y pwyllgor benderfynu nad oes angen bellach am GGMC Canol y Ddinas, a dod ag ef i ben.
Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod GGMC Pilgwenlli wedi ei adolygu’n ddiweddar, a dywedodd fod ‘gwersi wedi eu dysgu’ o ran y GGMC cyfredol. Argymhellodd y dylid cynnal ymgynghoriad am fis Awst 2021, a nododd yr awgrym a wnaed cyn y cyfarfod y dylid cynnwys perchenogion busnes yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod GGMC yn sylfaen i waith arall mewn ardal, a’i fod yn rhan o brosesau a ddefnyddiwyd ar gyfer problemau gwrthgymdeithasol ehangach.
Agorodd y cadeirydd y llawr i gwestiynau.
Diolchodd y pwyllgor i’r Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio am ei gyflwyniad ac am gynnwys ardaloedd busnes yn yr ymgynghoriad. Holodd aelod o’r pwyllgor am nifer y digwyddiadau a roddwyd yn atodiad 2, yn benodol yr anghysondeb o 25 yn 2020 holodd a oedd hyn wedi ei achosi gan Covid-19. Yr oedd yr aelod pwyllgor yn cydnabod effeithiolrwydd y GGMC, ond nododd hefyd, pan fo niferoedd yn gostwng, a yw mor effeithiol ag y bu? Holodd yn benodol beth ddigwyddiad yn 2020 gyda’r cynnydd mawr mewn niferoedd, ac a yw’n bosib fod y pandemig wedi anffurfio’r niferoedd?
Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio trwy ddweud na wyddai am unrhyw reswm penodol, ond nododd, o Chwefror 2020 ymlaen, wrth i’r cyfyngiadau ddod i rym, y tueddodd y niferoedd i ostwng. Esboniodd y daeth y GGMC i rym gyntaf yn 2018 ac y bu cyfnod cyflwyno graddol, gydag esbonio a chynghori cyn cymryd camau gorfodi ar unrhyw gwynion a dderbyniodd y cyngor. Dywedodd hefyd y gallai’r niferoedd fod yn is oherwydd COVID. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio mai gorchymyn adweithiol ydyw, a all esbonio’r niferoedd is, ac atgoffodd y pwyllgor fod tueddiadau yn cael eu hadlewyrchu dros 3 blynedd, sydd yn gyfnod adrodd byr.
Dywedodd aelod pwyllgor ei fod, fel aelod ward, yn cefnogi parhau â’r gorchymyn. Yr oedd yn cydnabod fod y GGMC wedi gwneud gwahaniaeth o ran atal problemau blaenorol megis yfed yng nghanol y ddinas, a’r sbwriel oedd yn deillio o hyn. Dywedodd, o ganlyniad i’r gorchymyn dros y tair blynedd ddiwethaf, y gwelwyd peth newid. Ategodd ei gefnogaeth i barhau â’r gorchymyn a dywedodd fod yr adroddiad ei hun wedi ei osod allan yn dda, er y buasai crynodeb ar y dechrau wedi bod yn fuddiol. Yn olaf, mynegodd yr aelod pwyllgor bryder y gadawyd pethau mor hwyr cyn adolygu’r angen i barhau â GGMC Canol y Ddinas a gofynnodd i’r swyddogion gadarnhau y cyfnod rhwng diwedd yr hen GGMC a dechrau’r un newydd, gan ofyn beth fyddai’n digwydd yn y cyfamser.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio mai mater o amseru oedd hyn a chael y cyngor i weithredu. Pwysau Covid oedd i gyfrif fod y GGMC yn dod yn hwyr i’r Pwyllgor Craffu. Dywedodd ei fod yn iawn caniatáu cyfnod o ymgynghori ac ystyried. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio sicrwydd i’r pwyllgor fod pwerau gan yr awdurdod lleol a’r Heddlu i drin unrhyw broblemau yn y cyfamser, ac atgoffodd y pwyllgor nad y GGMC oedd yr unig orchymyn. Ymatebodd yr aelod pwyllgor i’r sicrwydd hwn ac yr oedd yn falch fod ‘gwedd newydd’ ar ganol y ddinas, ac nad oedd am i arferion drwg ddychwelyd. Ategodd, yn ystod y cyfnod rhwng GGMC, fod y pwyllgor eisiau arddangos ‘gwedd newydd’ y ddinas, a phrofi eu bod yn hyderus. Gorffennodd trwy ddweud ei fod yn gobeithio y gellir ymdrin â’r problemau yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac y bydd y Cyngor yn penderfynu parhau â GGMC Canol y Ddinas.
Mynegodd y pwyllgor bryder am niferoedd Rhybuddion Cosb Benodol am gardota am eu bod yn ymddangos yn is o lawer na nifer y cwynion a wnaed gan aelodau’r cyhoedd. Holodd y pwyllgor am y broses o wneud cwyn, a mynegi pryder, yn hytrach na gwneud cwyn fod y cyhoedd yn ‘goddef’ yr ymddygiad. Holodd aelod o’r pwyllgor a ellid codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd fod modd iddynt grybwyll problem neu wneud cwyn, gan y teimlai’r aelod pwyllgor fod hon yn broblem barhaus.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio mai’r broses oedd, pe na bai Swyddogion neu Wardeniaid yn ymdrin yn syth â phroblem ar y safle, y gallai aelodau’r cyhoedd adrodd am broblem naill ai dros y ffôn, trwy’r wefan neu yn bersonol. Dywedodd fod swyddogion yn mynd i fannau i geisio symud troseddwyr ymlaen, ac atgoffodd y pwyllgor fod y GGMC hwn am atal a gwrthweithio ymddygiad ymosodol. Soniodd am yr ymwneud rhwng y Tîm TCC a swyddogion, sydd yn anfon swyddogion i’r fan a’r lle os ydynt yn y cyffiniau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod Heddlu Gwent hefyd yn gwneud yr un peth. Ychwanegodd y Sarjant Butt fod arolygon a chymorthfeydd rheolaidd yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas gan yr Heddlu lleol, a bod hyn yn digwydd deirgwaith yr wythnos mewn adeilad newydd a gawsant yn Friars Walk, lle’r oedd SCCH ar gael, a bod anogaeth i aelodau’r cyhoedd adrodd am droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ychwanegodd y Sarjant Butt fod SCCH a Wardeniaid wedi rhoi Rhybuddion Cosb Benodol lle bo angen i droseddwyr allweddol, yn ogystal â Rhybuddion Gwarchod Cymunedol a Gorchmynion Ymddygiad Troseddol, a all helpu i leihau’r niferoedd. Nododd fod y rhain yn cael eu rhoi i droseddwyr aml a chyson yn unig, a bod defnydd yn cael ei wneud o’r amodau a map y GGMC i gyfyngu ar symudiadau troseddwyr o’r fath. Dywedodd wrth y pwyllgor y delir tri ar ddeg o Orchmynion Ymddygiad Troseddol, a bod a wnelo wyth ohonynt a chardota ymosodol, ond bod y gorchmynion hyn yn sicrhau fod troseddwyr yn gadael canol y ddinas, a bod hyn hefyd wedi lleihau’r niferoedd.
Nododd aelod pwyllgor fod cardota yn cael ei wahardd yn unig gerllaw peiriannau arian, a galwodd am waharddiad llwyr ar gardota oherwydd problemau gyda chardota mewn meysydd parcio ac o gwmpas canol y ddinas.
Nododd y Sarjant Butt fod nifer o fesurau eraill wedi eu rhoi ar waith i atal cardota ac y gall yr heddlu ddelio ag aflonyddu y tu hwnt i gylch gorchwyl y GGMC. Nododd y Sarjant Butt hefyd fod problemau moesegol a chyhoeddus am wahardd cardota yn llwyr. Cytunodd Rheolwr y Maes Gwasanaeth i gynnwys cwestiwn ar wahardd cardota yn llwyr yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Cododd aelod o’r pwyllgor fater e-feiciau ac e-sgwteri, gan ddweud eu bod yn niwsans mewn ardaloedd i gerddwyr, gyda mwy o bwyslais ar sgwteri trydan. Yr oedd yr aelod pwyllgor wedi gobeithio am ateb mwy pendant gan y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio, ond ei fod yn sylw o nifer o wardiau ac adroddiadau mai sgwteri trydan oedd hoff ddull ‘masnachwyr cyffuriau ar raddfa fechan’. Diolchodd yr aelod pwyllgor i’r cadeirydd a dywedodd y dylid trafod beth fydd yn yr ymgynghoriad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, fel y nodir yn yr adroddiad, fod cyfyngiadau ar e-sgwteri, beicio a sglefrfyrddau. Esboniodd, er mwyn eu cynnwys yn y GGMC, y byddai’n rhaid cael tystiolaeth, a’i fod wedi ceisio darparu hyn. Y cam gorau fyddai adolygu’r ymgynghoriad cyn mynd ymlaen. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, wrth iddo adolygu’r cofnodion, y soniwyd am nifer o negeseuon testun gan aelodau’r cyhoedd yn gysylltiedig â’r adroddiad. Dywedodd hefyd ei bod yn bosib cyfyngu ar e-sgwteri, gan fod cynsail mewn GGMC cyfagos am Heol Caerdydd, lle gellid addasu’r geiriad i sicrhau cysondeb. Gofynnodd yr aelod pwyllgor i’r Sarjant Butt am ei sylwadau, a dywedodd y Sarjant Butt fod gan yr Heddlu bwerau am e-feiciau /e-sgwteri dan Adran 59 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002. Dywedodd eu bod wedi cymryd tri o e-sgwteri rhwng Pilgwenlli a chanol y ddinas. Dywedodd hefyd fod Adran 165 Deddf Trafnidiaeth y Ffyrdd yn crybwyll yswiriant am for e-sgwteri, ac y dylai e-sgwteri fod ag yswiriant, ac mai dan y Ddeddf honno y cipiwyd y sgwteri. Dywedodd wrth y pwyllgor mai problem, fwyaf yr Heddlu yw ‘mynd i’r afael’ oherwydd natur yr e-feic/sgwter pan fydd swyddogion ar droed , ond rhoes sicrwydd i’r pwyllgor fod yr Heddlu a Wardeniaid yn dibynnu’n drwm ar TCC yn yr achosion hyn i’w hadnabod a’u hatafaelu.
Cefnogodd y Pwyllgor gynnwys cwestiwn am e-sgwteri ac e-feiciau yn yr ymgynghoriad.
Cododd y pwyllgor bwynt am waharddiad llwyr ar gardota, gan gydnabod profiad diraddiol digartrefedd a’r angen am gardota. Atgoffodd yr aelod pwyllgor fod hyn eisoes wedi ei drafod yn llawn; yr oedd yn cydnabod fod llawer o blaid gwahardd cardota yn llwyr, ond ni fyddai hyn yn gwneud i ffwrdd a’r broblem. Aeth ymlaen i nodi, o edrych ar y data yn yr adroddiad, nad oedd llawer wedi newid o ran dilysrwydd gwahardd cardota yn gyfan gwbl. Yr oedd yr
aelod pwyllgor o blaid cynnwys y cwestiwn, ond yn cydnabod na fyddai hyn yn ystyried pob problem ynghylch cardota.
Dywedodd aelod o’r pwyllgor fod y ddinas mewn sefyllfa od lle na chaiff ceir deithio ar fwy na 20mya ar y ffyrdd ond bod e-sgwteri yn gallu cyrraedd 30 mya ar balmentydd, oedd yn achos pryder.
Cefnogodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio farn Sarjant Butt a’r Heddlu am e-sgwteri, ond gan gydnabod hefyd y byddai’n briodol i’r GGMC fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a chan gadw mewn cof fod gan Gyngor Dinas Casnewydd fel corff corfforaethol gyfrifoldeb dros deithio llesol a gwarchod yr amgylchedd. Ychwanegodd fod mater e-sgwteri wedi ei drafod yn GGMC Pilgwenlli a’i fod yn hapus i gynnwys cwestiwn am hyn fel rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r GGMC, ond atgoffodd y pwyllgor na ellid gwneud teithio llesol yn drosedd i deithwyr cyfreithlon. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio sicrwydd hefyd i’r pwyllgor fod yr Heddlu yn gwneud penderfyniadau synhwyrol seiliedig ar risg, heb dargedu aelodau cyffredin y gymuned sy’n defnyddio beiciau trydan a sgwteri yn gyfreithlon.
Dywedodd aelod o’r pwyllgor ei fod yn fodlon codi mater e-feiciau/sgwteri fel cwestiwn.
Dogfennau ategol: