Agenda item

Monitor Cyllideb Refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

This was the first revenue monitor presented to Cabinet this financial year and it explained the current forecast position of the Authority as at July 2021.

 

Yn erbyn cyllideb net o £316miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw am fis Gorffennaf ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £5.3miliwn, sef amrywiad o 1.6% yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y sefyllfa hon yn cynnwys effaith ariannol parhaus pandemig COVID-19 ac yn rhagdybio yr ad-delir yn llawn y gwariant ychwanegol a’r incwm a gollwyd am weddill y flwyddyn. Yr oedd hyn yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y byddai’r Gronfa Galedi ar gael tan fis Mawrth 2022.  Yr oedd hyn yn ychwanegiad i’w groesawu i’r sefyllfa a ragwelwyd am eleni, oherwydd er i gyfyngiadau gael eu codi ac i’r economi ail-gychwyn oherwydd cyflwyno’r rhaglen frechu, yr oedd yn amlwg y byddid yn dal i deimlo’r effaith ariannol ar gyllideb y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 

Fel y gwelir yn yr adroddiad a’i Atodiadau, mae modd esbonio’r sefyllfa fel hyn:

 

-        Yn gyffredinol, yr oedd gwariant meysydd gwasanaeth fwy neu lai yn cadw at y gyllideb

-        Daeth y tanwariant o arbedion yn erbyn (i) y gyllideb gyllido cyfalaf(ii) y gyllideb refeniw wrth gefn nad oedd ei hangen ar hyn o bryd a (iii)rhai cyllidebau eraill heb fod yn rhai gwasanaeth nad oedd wedi eu hymrwymo ar hyn o bryd. Gyda’i gilydd, yr oedd hyn yn £5m o danwariant.

 

Er bod cyllidebau yn gytbwys yn gyffredinol yn y meysydd gwasanaeth, yr oedd rhai meysydd unigol yn dal i orwario yn erbyn gweithgareddau penodol. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, yr oedd a wnelo’r gorwariant hwn a meysydd lle’r oedd llawer o alw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol, ac felly yr oedd risg y gallant newid petae lefelau’r galw yn newid o’r hyn a ragwelir ar hyn o bryd.

 

Yn ychwanegol at hyn, yr oedd llawer ffactor anhysbys o ran effeithiau tymor-hwy y pandemig, fel yr effaith ar lefelau cyflogaeth pan fydd cefnogaeth ffyrlo i weithwyr yn dod i ben. Nid oedd y sefyllfa fonitro hon yn gwneud unrhyw ragdybiaethau o ran yr effaith hon, a byddai angen cadw golwg fanwl arni wrth i sefyllfa’r pandemig barhau i ddatblygu.

 

Ymysg y meysydd allweddol  oedd yn cyfrannu at y sefyllfa a ragwelwyd o £5.3miliwn y mae:

 

(i)               Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys lleoliadau plant y tu allan i’r ardal, asiantaethau maethu annibynnol a gofal cymunedol i oedolion. Cyfrannodd y tri maes hwn yn unig at orwariant o bron i £350k yn y gwasanaeth yn gyffredinol.

 

(ii)              Yn ychwanegol at y risgiau parhaus hyn, daeth problemau hefyd i’r wyneb yn ystod y flwyddyn, a byddid yn parhau i’w monitro. Ymysg y rhain, ond nid y rhain yn unig, yr oedd mabwysiadu rhyngasiantaethol, lleoliadau brys i blant, a chynnydd mewn costau i ddelio â chlefyd marwolaeth yr ynn. Y disgwyl oedd i’r gorwariant mewn meysydd lle deuai risg i’r amlwg yn fwy na £700k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

(iii)             Rhagwelwyddiffyg yn erbyn cyflwyno arbedion yn 2021/22 a blynyddoedd blaenorol o fwy na £600k, oedd i’w briodoli yn bennaf i oedi cyn cymryd camau angenrheidiol, yn bennaf oherwydd y pandemig. Er bod lefel yr arbedion na wnaed yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol, erys yr angen i gyflwyno’r holl arbedion yn llawn cyn gynted ag y bo modd, ac y mae’r swyddogion yn dal i weithredu er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd rhag blaen.

 

(iv)             Tanwarioyn erbyn cyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth oedd yn esbonio elfennau allweddol y tanwariant a ragwelwyd. Yn gyntaf, rhagwelwyd tanwariant o £2.7miliwn yng nghyswllt y gyllideb Cyllido Cyfalaf. Fel rhan o osod y gyllideb am 2021/22, talwyd ymlaen llaw am gostau cyllido cyfalaf y rhaglen gyfalaf gyfredol, a ddaeth i ben yn 2022/23. Arweiniodd hyn at arbediad yn y gyllideb Isafswm Darpariaeth Refeniw a chostau’r llog, gan nad oedd angen y gyllideb hon ar hyn o bryd. Yr oedd y tanwariant hwn yn hysbys ac yn ddealledig pan gytunwyd ar y gyllideb ym Mawrth eleni.

 

(v)              Ymhellach, o gofio y rhagwelwyd tanwariant ar y pwynt hwn yn y flwyddyn, nid oedd yn rhaid defnyddio cyllideb refeniw gyffredinol wrth gefn y cyngor o £1.3miliwn, a gyfrannodd at y tanwariant heb fod yn ymwneud â gwasanaeth.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith fod ysgolion yn gyffredinol yn rhagweld gorwariant net o £2miliwn, wedi caniatáu am ad-dalu gwariant cymwys ac incwm a golwg o’r Gronfa Galedi.

 

Er bod disgwyl i ysgolion orwario yn erbyn y gyllideb, dylid nodi fod ysgolion wedi cario balansau sylweddol uwch ymlaen ar derfyn blwyddyn ariannol 2020/21, o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Yr oedd y lefel uwch hon o falansau i’w phriodoli yn bennaf i grantiau Llywodraeth Cymru a roddwyd tua diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, oedd yn cael ei osod yn erbyn gwariant yr oedd yr ysgolion eisoes wedi cyllidebu ar ei gyfer. O’r herwydd, yr oedd yr ysgolion wedi cario ymlaen falansau uwch na’r hyn a ragwelwyd, ac yn y rhan fwyaf o achosion unigol, byddai hyn yn ddigon i wneud iawn am y gorwariant.

 

O gymharu â blynyddoedd blaenorol, dim ond pedair ysgol oedd yn disgwyl dal balansau diffyg, sef cyfanswm o £1.3miliwn, gyda dwy o’r rhain yn disgwyl y byddant yn is nag yn y flwyddyn flaenorol.

 

Yr oedd y sefyllfa bresennol o ran balansau ysgolion yn gweld cryn newid ers y pryderon a fynegwyd mewn blynyddoedd ariannol blaenorol. Yr oedd sefyllfa gyffredinol o warged yn awr yn cael ei ragweld, sef cyfanswm o £7.5miliwn, ac y mae’n debyg y byddai’n parhau am o leiaf y flwyddyn ariannol nesaf. Yr oedd yn bwysig, er hynny, canolbwyntio ar gyllidebau ysgolion er mwyn sicrhau na fyddid yn dychwelyd i’r sefyllfa fel y bu, cyhyd ag y bo modd. Rhaid cydbwyso hyn a cheisio osgoi sefyllfa lle byddai’r balansau yn ormodol, a byddai hyn felly'r  ystyriaeth allweddol wrth osod cyllidebau refeniw yn y dyfodol ac adolygu’r cynllun ariannol tymor canol. 

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at glefyd marwolaeth yr ynn mewn coed mawr o gwmpas Casnewydd.  Darparwyd cyfarpar arbenigol a byddai’r cyngor yn dal i weithio trwy’r ddinas i symud y coed a ddioddefodd o’r clefyd. Yr oedd LlC wedi rhoi peth cyllid, ac yr oedd hyn yn rhywbeth yr oedd yn rhaid i’r Cyngor ddelio ag ef, ar gryn gost.

 

Soniodd y Cynghorydd Cockeram fod y gorwariant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn fater difrifol, a bod lleoli plant yng Nghasnewydd yn gam mentrus, ond y byddai’r cyfalaf yn gwneud iawn am y gorwariant. Yr oedd ymgyrch gref o blaid maethu annibynnol, ac ar Fedi 20, byddai Gofalwyr Maeth Casnewydd yn cael eu hyrwyddo am gyfnod o bythefnos. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y gorwariant net mewn Gwasanaethau Addysg ac er y derbyniwyd grant, yr oedd gwarged yn y gyllideb.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Llywodraethwyr a’r gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth.

 

Penderfyniad:

Fod y Cabinet yn

§  Nodi’rsefyllfa gyffredinol a ragwelwyd yn y gyllideb a’r potensial am danwariant ar derfyn y flwyddyn ariannol.

§  Nodi’rheriau ariannol cyson a wynebir gan rai gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan y galw a’r angen am reolaeth ariannol gadarn yn y meysydd hynny, yn ogystal â’r lefel o arbedion cyllideb na wnaethpwyd.

§  Nodi’rrisgiau a gafodd eu hadnabod yn yr adroddiad ac yn sylwadau’r PC, yn enwedig o ran y blynyddoedd y ddod ac effeithiau parhaol y pandemig.

§  Nodi’rsymudiadau a ragwelwyd yn yr arian wrth gefn.

§  Nodi’rgwelliant cyffredinol yn y sefyllfa o ran ysgolion, o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, ond nodi hefyd y sefyllfaoedd diffyg sydd weddill i rai ysgolion a’r risg y bydd hen broblemau yn ail-godi os na fydd cynllunio a rheoli ariannol da yn digwydd.

 

Gweithredu gan:

Y Cabinet / Pennaeth Cyllid / Tîm Rheoli Corfforaethol:

 

§  PG yn parhau i adolygu’r meysydd allweddol o ran risg costau a gweithredu, gydag Aelodau’r Cabinet, i symud ymlaen tuag at sefyllfa a gytunwyd i’r cyllidebau hynny y rhagwelir ar hyn o bryd fydd yn gorwario.

§  PG yn cyflwyno arbedion cyllideb 2021/22 mor fuan ag sy’n ymarferol bosib, ond erbyn diwedd y flwyddyn ariannol fan bellaf.

§  PG a deiliaid cyllideb i gadw golwg fanwl ar effaith llacio cyfyngiadau’r pandemig ac adnabod, cynyddu a lliniaru risgiau sy’n ymddangos yn amserol.

Aelodau’r Cabinet a PG i hyrwyddo a sicrhau rhagolygon cadarn ar hyd yr holl feysydd gwasanaeth, gan gynnwys cytuno ar a gweithredu camau priodol i gydbwyso’r gwariant a’r cyllidebau sydd ar gael.

 

Dogfennau ategol: