Agenda item

Monitor Cyllideb Gyfalaf

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Rhoddodd yr adroddiad hwn y sefyllfa monitro cyfalaf ar Orffennaf 2021.

 

Gosododd y Cyngor raglen gyfalaf helaeth oedd yn adlewyrchu ymrwymiadau saith mlynedd.

 

Yr oedd Tabl Un yn yr adroddiad yn dangos sut y newidiodd hyn dros y flwyddyn ariannol ac yn dangos ymrwymiadau cyfalaf y Cyngor a bod gwariant yn y ddinas yn awr yn gyfanswm o £282m dros einioes y rhaglen, ar draws yr holl feysydd gwasanaeth.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo, fel arfer, ychwanegu prosiectau cyfalaf newydd at y rhaglen yn gyffredinol.

 

Yr oedd Tabl Dau yn yr adroddiad yn rhoi manylion y prosiectau cyfalaf newydd a sut y talwyd am bob un ohonynt.

 

Dangosodd Tabl Tri yn yr adroddiad y sefyllfa fel y’i rhagwelwyd ar Orffennaf 21, sef canolbwynt yr adroddiad hwn. Yr oedd y sefyllfa gyfredol yn dangos tanwariant bychan o £159k ac y mae manylion hyn yn Atodiad C  yr adroddiad.

 

Yr oedd y tabl hefyd yn amlygu’r ffaith y digwyddodd ail-broffilio hyd yma o £30.2m. Yr oedd manylion o’r lle y digwyddodd yr ail-broffilio hwn hefyd yn yr adroddiad.  Er hynny, yr oedd hyn yn dal yn gadael rhaglen gyfalaf o £70.4m am 21/22, oedd yn uchel iawn. Byddai angen gwneud mwy o waith am ragweld ac ail-broffilio er mwyn sicrhau bod y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu amserlen fwy realistig i gyflwyno’r prosiectau, a gofynnwyd i’r swyddogion adolygu prosiectau yn gyson a chyfoesi proffiliau’r prosiectau wrth i gynlluniau fynd rhagddynt.

 

O ran monitro gwariant, cadarnhaodd yr adroddiad wariant isel o ychydig dan £11 miliwn ar gyllideb o £70.4m. Nid oedd y patrwm hwn yn anghyffredin, oherwydd bod llawer o’r gost wedi ei ragweld ar gyfer hanner olaf y flwyddyn. Er hynny, yr oedd hyn yn dwyn gydag ef risg o lithriad, ond byddai’r gwaith pellach a amlinellwyd yn helpu yn hynny o beth. Wedi dweud hynny, yr oedd nifer o brosiectau yn mynd rhagddynt, yn benodol rhaglen ysgolion Band B, yr oedd manylion amdanynt yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr arian cyfalaf rhydd yr adroddwyd amdano (cyllideb nad oedd gwariant wedi ei ymrwymo ar ei gyfer), yn £7.6m, oedd yn cynnwys £1.2m o arian Cyd-Fenter nas neilltuwyd. Yr oedd y galw am wariant cyfalaf yng Nghasnewydd yn fwy na lefel yr adnoddau a rhaid oedd i’r Cyngor flaenoriaethu’n ofalus lle mae’n gwario’r adnodd cyfalaf hwn

 

Er nad ymdriniwyd â hyn yn yr adroddiad, yr oedd yn fuddiol nodi fod yr Arweinydd wedi gofyn am beth gwaith ar risgiau ariannol a chyflwyno’r rhaglen gyfalaf oherwydd ansefydlogrwydd mewn costau deunyddiau crai/llafur a phroblemau cyflenwi. Yn bennaf oherwydd Covid a Brexit, mae’r rhain yn amlwg yn cael effaith ledled y DU a bydd swyddogion yn asesu hyn i raglen y Cyngor ac yn adrodd yn ôl yn y man. Mae’r gwaith hwn yn dal i ddigwydd. 

 

Fel cabinet, mae’r adroddiad yn gofyn i ni nodi a chymeradwyo’r canlynol

-        Yr ail-broffilio a wnaed hyd yma yn y flwyddyn ariannol o £30.2m ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

-        Prosiectau cyfalaf newydd a newidiadau i Raglen Gyfalaf y Cyngor, gan gynnwys defnyddio arian wrth gefn a derbyniadau cyfalaf

-        Nodi’r adnoddau cyfalaf sydd ar gael ar hyn o bryd (‘arian rhydd’),  

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Yr oedd y Cynghorydd Davies yn edrych ymlaen at adroddiad i’r Cabinet yn y dyfodol am raglen ehangu Ysgol Basaleg. Cyfeiriodd hefyd at y gwaith eithriadol a wnaed yn St Andrews, gyda chefnogaeth wych gan y staff, athrawon a’r corff llywodraethol. Y gobaith oedd y byddai’r ysgol yn derbyn arian gan LlC yn fuan.

 

Dywedodd y Cynghorydd Cockeram y byddai dros 200 o brosiectau wedi eu cwblhau erbyn diwedd 2022 i helpu pobl fregus, ysgolion, a chanolfannau hamdden, oedd yn gadarnhaol i’w weld.

 

Bu’r Cynghorydd Jeavons yn y Ganolfan Gyswllt yn St Andrews a llongyfarchodd yr ysgol am waith da, a diolch i bawb am eu gwaith caled, yn ogystal â diolch i Ysgol Gynradd Lliswerry oedd wedi derbyn plant blwyddyn chwech St Andrews.

 

Soniodd y Cynghorydd Rahman fod hon yn flwyddyn annhebyg i’r un arall, ond fod gan yr awdurdod gynlluniau cadarnhaol at y dyfodol. Yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo i wella canol y ddinas, gyda’r cynllun mwyaf i adfywio marchnadoedd yn y DU.  Yr oedd teithio llesol yn mynd rhagddo yn dda, ac yr oedd canolfan hamdden Casnewydd yn brosiect uchelgeisiol. Yr oedd Casnewydd yn arwain y DU gyda phrosiectau adfywio yn ogystal â gweithio gyda grwpiau cymunedol fel Maendy Diderfyn.

 

Cynghorydd Mayer commended swyddogion for their gwaith caled behind the scenes.  Investments which were in place enabled service delivery to run efficiently.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Harvey sylwadau cydweithwyr, ac o ystyried mai hwn oedd yr amser gwaethaf yn ein cenhedlaeth oherwydd Covid, yr oedd y Cyngor yn dal i gyflwyno gwasanaethau, ac yr oedd yn falch o Gyngor Dinas Casnewydd ac o’r Cabinet

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

 

1.     Cymeradwyo’r ychwanegiadau a’r newidiadau i’r rhaglen gyfalaf (Atodiad A), gan gynnwys defnyddio’r arian wrth gefn a’r derbyniadau cyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad

2.     Cymeradwyo’r ail-broffilio £30,228k i’r blynyddoedd i ddod

3.     Nodi’r cyfoesiad am yr adnoddau cyfalaf sydd weddill (‘arian rhydd’) hyd at a chan gynnwys 2022/23

4.     Nodi’r sefyllfa a ragwelir am wariant cyfalaf fel ar Orffennaf 2021

 

Dogfennau ategol: