Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.
Adroddiad i’r Cabinet oedd hwn ar ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 o ran cefnogi’r ddinas (trigolion a busnesau) i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol a’r cynnydd gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol.
Ers cyfarfod diwethaf y Cabinet ym mis Gorffennaf, amrywiolyn Delta oedd y straen amlycaf ledled Cymru a’r DU.
Parhaodd cyfradd achosion Casnewydd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn uchel wrth i gyfyngiadau lacio, fel bod pobl yn cymdeithasu mwy a dilyn trefn fwy normal.
Er hynny, yr oedd yn bwysig i bobl barhau i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran gwisgo mygydau, cadw pellter cymdeithasol (lle bo modd), a bod yn ymwybodol o bobl, boed gyfeillion neu deulu, oedd yn fregus ac yn agored i’r firws.
Yr oedd ysbytai yn dal i drin pobl am Covid ac wrth i wyliau’r haf ddod i ben ac i bobl ddychwelyd i’r gwaith, ysgolion a phrifysgolion, byddai’r misoedd nesaf yn dal yn beryglus wrth i ni weld beth fyddai’r effaith. Fel y dywedodd Llywodraeth Cymru, gellid ail-osod cyfyngiadau petai’r cyfraddau yn codi, mwy yn mynd i’r ysbyty neu amrywiolion eraill yn dod i’r fei.
Mae’r rhaglen frechu yn dal yn llwyddiannus iawn yng Nghasnewydd a ledled Cymru. Yr oedd y mis diwethaf yn canoli ar bobl ifanc a’r sawl sydd heb eto dderbyn brechiad. Ni allai’r Cabinet or-bwysleisio pwysigrwydd brechu pawb oed dyn gymwys i gael y brechiad. Nid yn unig y bydd hyn yn eich amddiffyn chi, ond y rhai o’ch cwmpas hefyd.
Yr oedd y Cyngor yn dal i roi gwasanaethau i drigolion a chymunedau ar hyd a lled Casnewydd, ac y mae cyfran helaeth o staff y Cyngor yn dal i ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb.
Byddai’r Cyngor (yn staff ac Aelodau) yn dal i weithio o gartref lle medrent. Yr oedd asesiadau risg yn cael eu cynnal i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod adeiladau, staff a’r cyhoedd yn ddiogel.
Dros yr wythnosau nesaf, byddai gwaith yn parhau i gyflwyno model busnes y Normal Newydd, a byddai cyfoesiadau pellach yn dod ym mis Hydref.
Dros wyliau’r haf, bu timau cymunedol, ysgolion, addysg a Chasnewydd Fyw yn cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd, gan ddarparu gwahanol raglenni a thalebau archfarchnad i ddisgyblion oedd yn cael prydau ysgol am ddim.
Yr oedd yn galonogol gweld busnesau a’r sector lletygarwch yn dychwelyd, gan gynnwys Theatr y Riverfront. Yr oedd y Cyngor yn dal i gynnig grantiau i fusnesau i’w helpu i adfer, a byddai’r Cabinet yn annog busnesau i fanteisio ar hyn.
Yr oedd llawer o wasanaethau’r Cyngor wedi dychwelyd i waith normal wyneb yn wyneb (yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru).
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o weld canol y ddinas yn adfywio a llefydd fel Theatr y Riverfront yn agor.
Neilltuwyd £500k hefyd i’r Cyngor dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi grwpiau a phrosiectau cymunedol. Byddai’r Cyngor yn cyhoeddi mwy o fanylion yn y man am sut y gallai cymunedau wneud cais am yr arian hwn.
Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru, gan annog pobl o bob cymuned i fanteisio ar y brechiad.
Byddai cyfoesiadau pellach am gynnydd y Cyngor yn cael eu darparu fis nesaf.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
Adleisiodd y Cynghorydd Harvey sylwadau’r Arweinydd ac atgoffa’r cyhoedd fod modd iddynt gael eu heintio hyd yn oed os ydynt wedi derbyn y brechiad dwbl, ac anogodd aelodau’r cyhoedd i ddal ati i wisgo mygydau i gadw ei gilydd yn ddiogel.
Penderfyniad:
Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud hyd yma, a’r risgiau a wynebir o hyd gan y Cyngor a’r ddinas.
Dogfennau ategol: