Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.
Cyfoesiad oedd Adroddiad nesaf y Cabinet ar drefniadau wedi Brexit / masnach.
Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Gorffennaf, aeth deufis heibio ers y terfyn amser (30 Mehefin 2021) i ddinasyddion yr UE/AEE ymgeisio am Statws Sefydlog yr UE.
Dywedodd Llywodraeth y DU (Swyddfa Gartref) y derbyniwyd dros 98,000 cais gan ddinasyddion yr UE/AEE oedd yn byw yng Nghymru.
Dangosodd ystadegau Llywodraeth y DU fod mwyafrif sylweddol o geisiadau naill ai wedi arwain at ganiatáu statws sefydlu llawn neu statws cyn-sefydlu.
Er hynny, yr oedd llawer o bobl naill ai heb glywed canlyniad eu cais neu heb lwyddo i gael eu statws.
Nid oedd yn glir faint o bobl yng Nghasnewydd a fethodd derfyn amser y cais neu a fethodd ennill eu statws.
Yr oedd y Cyngor yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl a’u teuluoedd oedd angen cefnogaeth gan na allent bellach gyrchu arian cyhoeddus. Byddai hyn yn ychwanegol at y bobl a’r teuluoedd yr oedd y Cyngor yn eu cefnogi fel rhan o raglenni’r Swyddfa Gartref ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Byddai gwasanaethau’r Cyngor yn dal i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn sicrhau eu bod yn gallu cyrchu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth angenrheidiol.
Ers i’r DU adael y farchnad sengl ym mis Rhagfyr 2020, gwelodd rhai sectorau yn yr economi gryn effeithiau o ran cyflenwad a galw am nwyddau, a hefyd gynnydd ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau. Cafodd argyfwng Covid hefyd effaith wrth i’r economi adfer o’r pandemig.
Soniodd llawer o fusnesau yng Nghymru eu bod yn cael problemau gyda chyflenwad llafur megis gyrwyr HGV, gweithwyr mewn adeiladu a ffermio.
Yr oedd timau meysydd gwasanaeth Cyllid a phrosiectau’r Cyngor yn cadw llygad fanwl ar y materion hyn ac yn asesu eu heffaith ar gyflwyno a’r gost i’r Cyngor. Byddid yn adrodd am hyn yn y cyfoesiadau Cyllid i’r Cabinet.
Gyda phrisiau yn debygol o godi hefyd yn yr hydref, yr oedd yn debygol y byddai llawer o aelwydydd yn dioddef o’r newidiadau hyn, gan eu gwneud yn anodd i’r sawl oedd ar incwm isel. Yr oedd yn bwysig i’r aelwydydd hyn gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth allai roi cyngor a chefnogaeth.
Soniodd yr Arweinydd am y gefnogaeth sy’n cael ei roi i geiswyr lloches a ffoaduriaid; yr oedd Casnewydd yn ddinas noddfa ac yn croesawu pobl o bob cenedl oedd eisiau ymgartrefu yma.
Bu’n cymryd rhan mewn cynllun i gefnogi pobl fregus o Afghanistan dros y pum mlynedd diwethaf, ac yr oedd yn cymryd mwy o deuluoedd yn ystod yr argyfwng, gan wneud popeth yn eu gallu i ddarparu llety i ffoaduriaid. Yr oedd llety ar gael, a chefnogaeth. Byddai gwybodaeth ar gael ar y wefan i’r sawl oedd eisiau rhoi rhyw fath o gefnogaeth, neu roi rhoddion.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
Ategodd y Cynghorydd Jeavons sylwadau’r Arweinydd a sôn am y prinder gyrwyr HGV. Nid peth hawdd oedd ennill trwydded HGV, ac nid oedd y Cyngor yn gallu osgoi effaith hyn, fel gyda’r loriau sbwriel. Yr oedd y Cynghorydd yn cydnabod hyn ac yn dweud nad oedd y gyrwyr hyn wedi siomi’r trigolion o ran parhau â’r gwasanaethau.
Soniodd y Cynghorydd Harvey, fel rhiant i filwr oedd yn gwasanaethu, y dylid derbyn cyfieithwyr i’r wlad hon, ac mai ein tro ni oedd eu helpu hwy, am eu bod hwythau wedi achub bywydau yn Afghanistan. Yr oedd y Cyngor yn croesawu ffoaduriaid yma.
Ategodd y Cynghorydd Rahman deimladau’r Cynghorydd Harvey ac ystyried Casnewydd yn ddinas noddfa oedd yn gwneud y peth iawn wrth gefnogi ffoaduriaid.
Penderfyniad:
Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi ymateb y Cyngor i Brexit.
Dogfennau ategol: