Agenda item

Adroddiad Blynyddol Corfforaethol ac Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Croesawodd yr Arweinydd y pwyllgor i’r cyflwyniad a dweud ei bod yn bwriadu cychwyn yr eitem hon trwy roi trosolwg o’r adroddiad. Dechreuodd trwy fynegi ei bod yn bleser cyhoeddi’r 4ydd Adroddiad Corfforaethol Blynyddol am 2020-21 ar gynnydd Cyngor Dinas Casnewydd yn erbyn Cynllun Corfforaethol 2017-22. Atgoffodd yr Arweinydd y pwyllgor mai pwrpas yr adroddiad yw adfyfyrio ar y flwyddyn a aeth heibio, ac asesu’r llwyddiannau a gafwyd, y gwelliannau i’w gwneud, ac edrych ymlaen at weddill y tymor. Hysbysodd yr Arweinydd y pwyllgor yr adroddwyd yn fwy manwl ar berfformiad y Cyngor ar draws yr 8 maes gwasanaeth i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Mehefin a bod yr adroddiad a gyflwynir i’r pwyllgor heddiw yn crynhoi’r modd cyffredinol y gwnaeth y Cyngor gyflawni yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth, ac ystyried ar ofynion statudol eraill y Cyngor. Croesawodd y cyfle i’r pwyllgor roi adborth, argymhellion am wella, ac unrhyw beth nas ystyriwyd gan y Cabinet a’r Uwch-Swyddogion. Dywedodd wrth y pwyllgor y bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Hydref ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn Gymraeg a Saesneg.

Pwysleisiodd yr Arweinydd y dylid cadw mewn cof fod hyn wedi ei wneud yn ystod y pandemig, ac nad oedd yr holl ddata ar gael am i Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru atal peth meincnodi ar draws awdurdodau yn ystod 2020-21. Cydnabu’r Arweinydd mai cyfyngedig oedd y data meincnodi oedd ar gael am y cyfnod 2020-21 gan fod y 22 awdurdod yn canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau hanfodol ar yr adeg hon. 

Atgoffodd yr Arweinydd y pwyllgor yn 2017, y gosodwyd 4 amcan lles i wella bywydau’r etholwyr, sef: gwella sgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith; hybu twf economaidd ac adfywio, ac amddiffyn yr amgylchedd yr un pryd; galluogi pobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn; ac adeiladu cymunedau cydlynus a chynaliadwy. Nododd yr Arweinydd fod yr amcanion hyn wrth graidd Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i gyflwyno dros y tymor hwn.

Cydnabu’r Arweinydd fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol i’r Cyngor, y cymunedau a phartneriaid, a bod y pandemig wedi effeithio ar gymunedau ac economi Casnewydd ac y byddai’n dal i wneud hynny. Cydnabu ymhellach fod y Cyngor wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnal i bobl mwyaf bregus y ddinas, fod staff ac Aelodau yn cael eu hamddiffyn, a sicrhau bod gwasanaethau, busnesau a phobl yn cadw at gyfyngiadau a chyfarwyddyd. Dywedodd yr Arweinydd eu bod wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu gwersi a rhoi cydnabyddiaeth i bartneriaid y Cyngor a  chymunedau Casnewydd am eu hymdrechion.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at yr anghydraddoldeb a amlygwyd gan yr argyfwng, gan ddweud eu bod yn llawn ymwybodol o’r heriau a bod angen gwneud mwy o waith i oresgyn y bwlch hwn, ond yr oedd hefyd eisiau sicrhau y byddai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno yn gynaliadwy yn y tymor hir i’r cymunedau hyn. 

Dywedodd  fod y Cabinet yn cefnogi’r 4 nod adfer strategol er mwyn i’r Cyngor ymateb ac adfer, a bod y 4 nod yn cyd-fynd yn agos ag amcanion lles y Cynllun Corfforaethol. Y prif nod oedd sicrhau y gallai’r Cyngor ymateb i’r argyfwng, adfer ei wasanaethau, a dysgu a datblygu gyda chyfleoedd newydd. Y nodau adfer strategol oedd deall ac ymateb i heriau ychwanegol Covid-19 a’i effaith ar nodau amgylcheddol ac economaidd y ddinas , hyrwyddo ac amddiffyn iechyd a lles pobl, a rhoi iddynt yr adnoddau angenrheidiol wrth ddod allan o’r pandemig. Hysbysodd yr Arweinydd y pwyllgor fod cyflwyno’r nodau hyn yn cael ei fonitro gan gynlluniau gwasanaeth a’u hadolygu gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ym mis Mehefin, ac ychwanegodd fod Cabinet y Cyngor yn derbyn diweddariadau misol am yr ymateb i Covid-19 a’r cynnydd yn erbyn y nodau adfer.

 

Yr oedd yr Arweinydd am bwysleisio’r rhaglen gyfalaf: yn 2020-21, yr oedd y gwariant cyfalaf yn £26.2m ar asedau a phrosiectau i gynnal a gwella gwasanaethau. Yr oedd hyn yn cynnwys buddsoddiad o £7m mewn ysgolion dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, cynnal a chadw adeiladau ysgolion, £10m tuag at gynlluniau teithio llesol a throsi i gerbydau trydan i’r fflyd, £1.6m o fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol, a £7m tuag at brosiectau adfywio, a hyn oll yn cael ei wneud yn wyneb y pandemig.  Cyflwynodd yr Arweinydd yr amcan lles cyntaf a’r nod adfer strategol, oedd yn canolbwyntio ar addysg, lleihau anghydraddoldeb mewn addysg, rhoi i bobl y sgiliau a’r hyfforddiant i gynnal yr economi, a rhoi cyfleoedd am waith.

 

      Nododd yr Arweinydd fod yr amcan hwn yn cyd-fynd â’r nod adfer strategol o ddarparu amgylchedd diogel i blant, a sicrhau y gallai myfyrwyr gyrchu technoleg a dyfeisiadau i ddysgu. Nododd yr Arweinydd hefyd fod hyn yn canolbwyntio ar sicrhau na fyddai’r bwlch rhwng plant dan anfantais a phlant BAME yn lledu oherwydd y pandemig, yn ogystal â chefnogi’r sawl a gollodd eu swyddi yn yr argyfwng, gydag ail-hyfforddi a dychwelyd i waith - gwnaed cynnydd gyda hyn dros yr haf. 

 

                  Dywedodd yr Arweinydd, ar waetha’r heriau a wynebwyd gan fyfyrwyr ac ysgolion, y cafwyd

canlyniadau TGAU a Lefel A da. Atgoffodd yr Arweinydd y pwyllgor fod y Cyngor ac ysgolion yn cefnogi disgyblion gyda phrydau ysgol am ddim trwy ddefnyddio talebau archfarchnad, yn ogystal â darparu 6700 dyfais i ddisgyblion, 1300 uned MyFi i gyrchu’r rhyngrwyd. Soniodd hefyd fod plant bregus wedi derbyn cefnogaeth, gan ganolbwyntio ar fentrau allweddol ym maes lles ac iechyd meddwl. Crybwyllodd yr Arweinydd y gwaith ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif  a ddigwyddodd oherwydd cydweithio. 

 

    Dywedodd yr Arweinydd y dylai bwysleisio rôl allweddol y Tîm Adfywio Cymunedol o’r

Hybiau Cymunedol lle maent yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd a chymunedau. Dywedodd, ar waethaf yr heriau, eu bod wedi gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru ac o’r herwydd wedi gallu cynnig cyfarpar TG a chymorth gyda dysgu o bell trwy raglen Reach Restart, oedd yn cael ei chynnig i ffoaduriaid yn y ddinas, gyda 95 asesiad a chefnogi 74 o bobl i ennill sgiliau a chymwysterau.

 

    Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau am yr amcan, a nododd aelod pwyllgor y cytunwyd cyn y cyfarfod i wrando ar yr adroddiad cyfan, ac yna i gyflwyno cwestiynau. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr Arweinydd yn hapus i fwrw ymlaen â’r cyflwyniad, a chytunodd hithau. 

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr ail amcan lles, sef hyrwyddo twf economaidd ac adfywio, a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd.

 

 

    Nododd yr Arweinydd fod hyn yn cyd-fynd a Nod Adfer Strategol 2 oedd yn delio â chefnogi’r amgylchedd a’r economi, a’r adferiad economaidd o effeithiau Covid-19 a Brexit, ac yn cydnabod y gwaith a wneir i wella’r amgylchedd gydag ymrwymiad y Cyngor a Llywodraeth Cymru i fod ag allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

 

      Rhoddodd yr Arweinydd gydnabyddiaeth i gyfraniad eithriadol y timau, gan nodi yn benodol ymdrechion y Tîm Cyllid; yn 2020-21 yr oeddent wedi gweinyddu dros £19m mewn rhyddhad ardrethi, oed dyn golygu lleihau’r pwysau ar dros 1000 o fusnesau. Cydnabu’r Arweinydd y cydweithio rhwng y Cyngor a busnesau oedd wedi caniatáu iddynt ail-agor, a rhoddwyd cyngor am greu a chynnal amgylcheddau diogel rhag Covid. Pwysleisiodd yr Arweinydd ymdrech “aruthrol” timau gwarchod y cyhoedd i wneud hynny; yr oedd yn cydnabod fod gwaith wedi ei wneud i ganfod achosion o beidio â chydymffurfio, gyda bron i 5000 o ymweliadau i gefnogi busnesau a chynnal asesiadau cydymffurfio. Derbyniodd dros 2500 o fusnesau gyngor gan y tîm, ac yr oedd y Tîm Cefnogi Busnes wedi rhoi cyngor a chymorth ariannol i dros 4000 o fusnesau trwy Gronfa Grant Dewisol Llywodraeth Cymru, yn ychwanegol at y rhyddhad ardrethi, a chynlluniau grantiau eraill.

 

      Nododd yr Arweinydd fod prosiectau adfywio allweddol wedi eu taro gan y pandemig, ond er hynny, fod cynnydd wedi ei wneud, a rhoddodd enghreifftiau fel prosiect Arcêd y Farchnad, y Farchnad Dan Do, y swyddfa ddidol, yr Orsaf Wybodaeth a Th?r y Siartwyr. Atgoffodd y pwyllgor o’r arian sylweddol a dderbyniwyd ar gyfer atgyweirio’r Bont Gludo a datblygu canolfan newydd i ymwelwyr. Soniodd hefyd fod cynigion am brosiect hamdden newydd a chwarter gwybodaeth wedi cael derbyniad da gan y cyhoedd, ac yr oedd yn falch o ddweud fod cynlluniau wedi eu cyflwyno am y prosiect hamdden.

 

      Hysbysodd yr Arweinydd y pwyllgor fod y Cyngor a Waste Savers wedi parhau i ddarparu gwasanaethau gwastraff i drigolion a busnesau. Yr oedd yr Arweinydd yn cydnabod, er i rai meincnodau gael eu hatal gan Lywodraeth Cymru, lle’r oedd awdurdodau eraill wedi atal neu leihau’r gwasanaethau hyn, fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi parhau i’w darparu. 

 

      Tynnodd yr Arweinydd sylw at gyfraddau ailgylchu yng Nghasnewydd gan ddweud eu bod ymysg yr uchaf yng Nghymru; mai hwy oedd y cyngor cyntaf i brynu cerbyd gwastraff trydan; fod dros 20 o bwyntiau gwefru wedi eu gosod ledled Casnewydd, a bod gwell goleuadau stryd wedi eu gosod ar draws Casnewydd Fyw  a meysydd parcio. Mae ymdrechion wedi parhau i ymateb i dipio anghyfreithlon yn y ddinas, gan arwain at erlyniadau llwyddiannus, a  phrosiect “No Mow May” i wella bywyd gwyllt trefol  a bioamrywiaeth

 

 

Cyflwynodd yr Arweinydd drydydd  amcan yr adroddiad – galluogi pobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn, gan nodi fod hyn yn cyd-fynd â’r Nod Adfer Strategol o gefnogi iechyd a lles dinasyddion. 

 

      Nododd yr Arweinydd fod yr amcanion hyn yn canoli ar ofal cymdeithasol a’r gwaith ataliol mae’r Cyngor a’u partneriaid yn ei roi, ond maent hefyd yn cynnwys y gwaith ataliol ar deithiol llesol a lleihau’r defnydd o geir. Ehangodd ar y pwynt i gynnwys y gwaith ar gefnogi gofal cymdeithasol ledled y ddinas oherwydd y galw mawr fu ar y sector hwn yng Nghymru gyfan yn ystod y cyfnod hwn; yr oedd angen hefyd ystyried amddiffyn staff y Cyngor tra’u bod yn cyflwyno’r gwasanaethau angenrheidiol.  

 

      Tynnodd yr Arweinydd sylw at y ffaith fod y Cyngor wedi cynnal gwasanaethau cefnogi hanfodol i bobl fregus ledled y ddinas, i leihau effaith unigrwydd ac ynysu ar bobl,  a chadwodd y Cyngor mewn cysylltiad â thrigolion gyda theuluoedd trwy ddefnyddio technoleg a chyswllt rhithiol. Nododd yr Arweinydd ddatblygiad gwasanaeth estyn allan newydd, a fydd yn parhau, a thynnodd sylw hefyd at y cynnydd mewn cyfeiriadau iechyd meddwl, gan ddweud fod ymarferwyr yn dal i asesu wyneb yn wyneb, a phwysleisiodd effeithiau pellgyrhaeddol y pandemig. 

 

      Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi gallu cefnogi’r sawl ag anawsterau dysgu trwy gynllun tai newydd ym mis Mawrth, a bod y Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol wedi darparu gwasanaeth i dros 2000 o drigolion. Ychwanegodd yr Arweinydd fod y gwasanaethau plant wedi parhau, ac y datblygwyd model newydd o ofal preswyl i blant a phobl ifanc,  a bod Rosedale wedi agor ym Mawrth 2021. 

 

Dywedodd yr Arweinydd eu bod, ar waetha’r pandemig, wedi cynnal perthynas ac wedi gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac awdurdodau lleol eraill Gwent i ddatblygu gwasanaeth profi, olrhain ac amddiffyn llwyddiannus. Tynnodd sylw at bartneriaethau eraill, gan enwi Casnewydd Fyw a’r Gwasanaeth PHA am eu cefnogaeth yn y rhaglen frechu trwy sefydlu canolfannau brechu ar raddfa eang.

 

      Nododd yr Arweinydd y cynnydd mawr yn nifer y bobl sydd eisiau bod allan a chymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymarfer. Rhoddodd sylw i’r digwyddiad ym mis Hydref i gefnogi Diwrnod Awyr Lanach Cymru, ac y mae llwybrau teithio llesol newydd wedi eu cyflwyno; mae ymgynghoriad wedi agor i drigolion allu rhoi adborth ar y map teithio llesol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd y pedwerydd amcan, sef adeiladu cymunedau cydlynus a chynaliadwy. 

 

      Esboniodd yr Arweinydd fod yr amcanion hyn yn canoli ar gymunedau, tai a chefnogaeth i gymunedau bregus sydd dan anfantais. Esboniodd hefyd, gan gadw mewn cof y pandemig a phroblemau ehangach cymdeithas, ei fod hefyd yn cynnwys darparu cyfleoedd i unigolion a chymunedau i ymdrin â’r pryderon hyn gyda’r Cyngor. 

      Ar ddechrau’r pandemig, yr oedd y ffocws ar ddarparu llety, cefnogaeth iechyd meddwl a chorfforol i etholwyr digartref, ac ni fuasai hyn wedi bod yn bosib heb weithio gyda phartneriaid a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r Heddlu. Trwy hyn, llwyddodd y Cyngor i sicrhau fod pobl yn cael llety fforddiadwy a diogel. Nododd yr Arweinydd fod gan lawer o unigolion digartref fywydau cymhleth a heriol, a bod yr un bobl yn dod i’r lleoliadau dro ar ôl to. Mae gwaith dwys yn cael ei wneud ynghylch hyn, a phrosiectau yn cael eu cynnal yn y gobaith o gynyddu swm y llety fforddiadwy a diogel i 38 uned yn y dyfodol. 

 

      Tynnodd yr Arweinydd sylw at dimau’r Hybiau Cymdogaeth, sydd wedi gwneud dros 5000 o alwadau lles i drigolion oedd yn cysgodi, cludo parseli bwyd i deuluoedd ynysig a bregus, a chydgordio cynllun parseli bwyd Llywodraeth Cymru. Dywedodd yr Arweinydd fod cynllun wedi ei gychwyn yn  ward Ringland i dyfu bwyd cartref. Mae timau Dechrau’n Deg wedi gweithio ar sesiynau digidol i gefnogi rhieni, a chafwyd gweithio llwyddiannus gyda phartneriaid statudol, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Gweithredu ar Dipio Anghyfreithlon Cymru i greu dashfwrdd o ddata am ymddygiad gwrthgymdeithasol i ganoli ymdrechion a dod o hyd i atebion. Aeth yr Arweinydd ymlaen i gynnwys asesiadau effaith cymunedol, a arweiniodd at gyllidebu cyfranogol, gyda’r nod o helpu cymunedau i adfer; mae llawer o grwpiau lleol wedi bod yn llwyddiannus gyda hyn, gan gynnwys Rhieni dros Newid, Fit and Fed, a nifer eraill. Nododd yr Arweinydd fod grantiau’n cael eu dyfarnu trwy brosiect adolygu gan gyfoedion, fel y gall dinasyddion benderfynu’n uniongyrchol ar y prosiectau mae hwy am eu cefnogi.

 

 Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi cydweithio’n agos â chymunedau i ymdrin â geiriau casineb.

 

 Tynnodd sylw at wobrau’r Faner Werdd i Belle Vue a Beechwood, ac y mae’r gorsafoedd ail-lenwi ar gael. 

 

Diolchodd aelod pwyllgor i’r Arweinydd am gyflwyniad cynhwysfawr i’r adroddiad a nodi ei fod yn haws casglu holl haenau adroddiad manwl at ei gilydd fel hyn. Yr oedd am ofyn cwestiwn am amcan dau. Yr oedd yn llwyr gytuno â’r gwaith gwych a wnaeth y Cyngor i gefnogi busnesau yn ystod Covid-19, ond dywedodd fod lawer heb sylweddoli maint y broblem pan gychwynnodd y clo, ac er bod y rhan fwyaf o fusnesau wedi gallu dal ati trwy’r pandemig a dod drwyddo, yn anffodus, mae rhai wedi methu. Dywedodd yr aelod pwyllgor y buasai’n annheg peidio â chanmol y Cabinet, yr Arweinydd a Llywodraeth Cymru, a’i gwnaeth yn bosib cefnogi busnesau gydag arian, ac yr oedd yn canmol y gwaith mawr a olygodd fod busnesau wedi goroesi ac yn gallu edrych at y dyfodol. Cyfeiriodd yr aelod pwyllgor yr Arweinydd at dudalen 33 yr adroddiad ac esbonio ei bod wedi cymryd peth amser i sylweddoli bod y ddau dabl ar waelod y dudalen yn cyfeirio at nodau gwahanol - un yn ymdrin â thwf ac adfywio, a’r llall â’r economi, Nodwyd nad oedd y term “camau” yn glir iawn, a gofynnodd beth oedd yr union ystyr.

Teimlai fod yr adroddiad yn amserol iawn, a bod teimlad da am yr ardaloedd o gwmpas y farchnad, yn enwedig pan oedd y tafarndai a’r bwytai yn gallu agor, oedd i’w ganmol, er ei fod yn sylwi nad oedd cymaint o bobl o gwmpas yn ystod yr wythnos, a bod angen gwaith o hyd i ddenu mwy o bobl. Gobeithiai’r aelod pwyllgor y byddai adnewyddu Arcêd y Farchnad yn cyfrannu at hyn, a sylwodd fod mwy o fusnesau yn awr ar Stryd y Fasnach. Dywedodd, er hynny, fod llawer o siopau gwag, a mynegodd awydd i’r ddinas gael ei gweld mor ffafriol ag y bu yn y gorffennol, gan nodi ei fod wedi gweld ar y cyfryngau cymdeithasol ddarluniau yn dangos canol y ddinas yn brysur. Ychwanegodd y dylai’ siopau gwag gael eu llenwi, i wneud y ddinas yn fwy bywiog eto, a theimlai mai’r ffordd i wneud hyn oedd cael swyddi oedd yn talu’n dda i annog gwario yn y ddinas. Yr oedd gan yr aelod pwyllgor ddiddordeb mewn clywed barn yr Arweinydd am sut i greu’r newid hwn.

      Nododd yr Arweinydd fod syniadau mewn awdurdod lleol yn cymryd amser i’w gweithredu ac i ganlyniadau gael eu gweld. Tynnodd yr Arweinydd sylw at rai cynlluniau yn yr adroddiad gan gynnwys y farchnad dan do ac Arcêd y Farchnad, a’r ymgais i’w datblygu yn ystod oes y Cynllun Corfforaethol, ac yr oedd wrth ei bodd o glywed fod pobl yn sylwi ar y gwahaniaeth. Aeth ymlaen i drafod cyfleoedd am waith oedd wedi gweld twf yn y ddinas, gan gynnwys y gwaith rheilffordd oedd wedi darparu 300 o swyddi sgiliau uchel.  Tynnodd yr Arweinydd sylw at bwysigrwydd sicrhau llif o ddoniau a sgiliau yn y ddinas fel y gall pobl leol fanteisio ar gyfleoedd, aros yn y ddinas ac adeiladu cyfleoedd at y dyfodol. Nododd y bydd parhad mewn twf ac ehangu, yn enwedig yn y sectorau digidol a TG, gyda PDC a Choleg Gwent yn chwarae rhan bwysig yn hyn. Dywedodd yr Arweinydd fod y ffaith fod Coleg Gwent yn dod i’r ddinas, yn ogystal â’r cynlluniau am gyfleuster hamdden newydd, yn adlewyrchu ymrwymiad i Gasnewydd ond byddai hefyd yn dod â mwy o bobl i’r ddinas ac i fusnesau lleol. Yr oedd yr Arweinydd yn cytuno gyda’r aelod pwyllgor fod parhau â’r cynlluniau hyn yn ystod y cyfnod hwn yn llwyddiant mawr. Ond yr ydym yn dechrau gweld canlyniadau o’r cynllun i gynyddu twf economaidd ac adfywio. Pwysleisiodd bwysigrwydd technoleg a’r economi ddigidol wrth weld trawsnewid manwerthu. Nododd yr Arweinydd fod pobl yn chwilio am “fwy o brofiad” yn hytrach na dim ond disgwyliadau am werthu, a bod busnesau yn dechrau ffynnu o gwmpas y model hwnnw. Gorffennodd trwy nodi ei bod yn wych gweld gwytnwch busnesau a ffyniant dinas Casnewydd. 

 

      Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol fod yr Arweinydd wedi ymdrin â phrif bwyntiau’r cwestiwn, ond ychwanegodd fod yr aelod pwyllgor yn iawn i ddweud fod y Cyngor yn wynebu cyfnod heriol o gywasgu, er nad yw hyn yn unigryw i Gasnewydd.  Nododd y Prif Swyddog Gweithredol fod canol y ddinas yn debyg i drefi a dinasoedd eraill ar ddyddiau’r wythnos, a sicrhaodd y pwyllgor, ar gyfer cam nesaf y Cynllun Corfforaethol, y caiff ei gyfoesi i edrych ar y llwyddiannau a pha gynlluniau newydd fydd ar droed. Dywedodd fod cryn gynnydd wedi ei wneud, ond fod mwy eto i’w wneud. Mae dwyn mwy o bobl i’r ddinas yn fater mwy na phrosiectau adeiladu, a chytunodd gyda’r aelod pwyllgor mai mater o swyddi ydyw. Tynnodd sylw ar Adroddiad y Normal Newydd sy’n dod i’r Cabinet, ac mai ein ffocws fel sefydliad oedd cadw “ein calon yng nghraidd Casnewydd” a gweithio  gyda Chasnewydd Fyw, Coleg Gwent, PDC ac eraill i wrando ar eu bwriad i ddod â bywyd newydd i gampws y ddinas, ond bod yn rhaid i’r Cynllun Corfforaethol hefyd edrych ar ganol y ddinas  a’i ail-broffilio at y blynyddoedd i ddod.

 

Holodd yr aelod pwyllgor, gyda cholli’r cymorth a’r buddsoddiad o Awdurdod Datblygu Cymru (a ddaeth yn rhan o LlC), a oedd y Prif Swyddog Gweithredol yn teimlo y gallai Casnewydd elwa o gael partneriaeth ac ymgynghorwyr o’r fath eto?

    Nododd y Prif Swyddog Gweithredol y berthynas waith gref gyda Llywodraeth Cymru, yn y timau adfywio a buddsoddi, a’r hyn sydd wedi hwyluso perthynas wahanol gyda Llywodraeth Cymru ac sy’n ychwanegu gwerth at y gwaith yng Nghasnewydd yw’r gweithgaredd ynghylch Dinas-Ranbarth Caerdydd, a dywedodd mai Casnewydd oedd y cyntaf i dderbyn y buddsoddiad hwn. Nododd y Prif Swyddog Gweithredol nad oed ADC yn wir berthnasol gan fod y pwerau wedi eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, a bod y berthynas honno yn parhau.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol ei bod hi a’r Arweinydd yn cael sgyrsiau gyda swyddogion yn ôl y galw. Terfynodd trwy ddweud wrth y pwyllgor eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i lobïo, ond bod mwy i’w wneud o ran adfywio a buddsoddi, ac i bledio achos Casnewydd bob tro. 

 

Dywedodd aelod pwyllgor ei bod yn wych sut yr oedd busnesau lleol wedi eu cefnogi a thybiai y gellid bod wedi cynnwys mwy am hynny yn yr adroddiad. Holodd yr aelod pwyllgor sut y gellid adeiladu ar y berthynas honno gyda busnesau lleol. Aeth ymlaen i nodi fod miloedd o alwadau ffôn wedi eu gwneud i drigolion ac y cludwyd parseli bwyd. Yr oedd ganddo gwestiwn am gyflwyniad ar dudalen 8 yr adroddiad, gan nodi graff y gyllideb yn erbyn y ffigwr gwirioneddol, gan dybio y gellid bod wedi cyflwyno’r wybodaeth yn well. Holodd yr aelod pwyllgor am drefn yr eitemau, gan feddwl y gallent fod mewn trefn fwy rhesymegol; awgrymodd y byddai’n well eu cyflwyno fel wyth maes gwasanaeth yn yr adroddiad, a theimlai hefyd fod angen mwy o esboniad o’r ddwy eitem gyntaf. Symudodd yr aelod pwyllgor ymlaen at amcan dau, gan nodi fod camlas Casnewydd yn rhan bwysig o dreftadaeth y ddinas, ac y dylid ei gynnwys yn yr adroddiad. Wrtho sôn am fentrau a gyllidwyd gan yr UE a nodir ar dudalen 12 (Cronfa Gymdeithasol yr UE, Ysbrydoli i Weithio, Teithio i Weithio, Sgiliau yn y Gwaith etc)  a fyddai’r rhain yn dod i ben, ac os felly pryd, ac a fyddai rhywbeth yn eu lle? 

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at y grant diweddar o £1m i wella llwybr y gamlas rhwng y Betws a Chwmbrân.

 

      Gofynnodd y Prif Swyddog Gweithredol am eglurhad o leoliad y graffiau yn yr adroddiad. Dangosodd yr aelod pwyllgor lle’r oeddent, a dweud fod angen mwy o eglurhad am y ddwy eitem gyntaf yn ogystal â’r categorïau, gan gyfeirio’n ôl at yr awgrym blaenorol.

    Esboniodd yr Arweinydd wrth y Prif Swyddog Gweithredol beth oedd cwestiwn yr aelod pwyllgor. 

 

    Ymddiheurodd y Prif Swyddog Gweithredol, am ei bod yn cael rhai problemau technegol, ond esboniodd mai cost cyllido cyfalaf yw’r gost benthyca sy’n gysylltiedig ag unrhyw gyfalaf a fenthycir.

 

 Esboniodd yr Arweinydd fod y pennawd am gyllid heb fod yn ymwneud â gwasanaethau yn sôn am arian a wariwyd ar bethau nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno gwasanaethau, er enghraifft, swyddfa’r Prif Weithredwr a chost benthyca.  Awgrymodd yr Arweinydd y gallai’r swyddogion ail-ddatblygu’r graff gyda mwy o esboniad i helpu’r aelodau a’r cyhoedd trwy ymgynghori ag aelodau’r. 

  Yr oedd y pwyllgor yn hapus gyda’r esboniad hwn, a nododd aelod fod llawer o wybodaeth dda yn yr adroddiad, ac y byddai’n dda petai mwy yn ei ddarllen. 

 

    Cododd yr aelod pwyllgor gwestiwn pellach ynghylch ffyniant ariannol y ddinas a gofyn a fyddai modd cynnwys gwybodaeth megis faint o swyddi a busnesau sydd yma, y gyfradd ddiweithdra, etc., er mwyn rhoi darlun llawnach o’r sefyllfa ariannol.

 

      Ymddiheurodd y Prif Swyddog Gweithredol eto am y problemau technegol, a dywedodd y gellid cynnwys hyn a rhoi’r wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, ond dywedodd hefyd, wrth adrodd am dwf economaidd, y byddai’r wybodaeth hon eisoes mewn adroddiadau penodol sy’n mynd i’r Pwyllgor Craffu.

 

Nododd aelod o’r pwyllgor fod nodau ac amcanion Cynllun Corfforaethol 2017 wedi eu gosod allan yn glir, a’u bod wedi esblygu, ond mynegodd bryder wrth edrych ar gymariaethau. Rhoddodd enghraifft o ennill statws Baner Borffor am glybiau nos, ac yr oedd yn falch o hyn, ond sylwodd na fu dim cydnabyddiaeth o’r nodau gwreiddiol a dim ffordd o graffu i weld a gyrhaeddwyd hwy ai peidio. Yr oedd yr  aelod pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gwaith mawr ac amgylchiadau unigryw y 18 mis diwethaf, a diolchodd i bawb fu’n rhan o hyn. Yr oedd, er hynny, yn pryderu nad oedd yr hyn a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod wedi rhoi darlun cyflawn o Gasnewydd: yr oedd yr elfennau cadarnhaol wedi eu cyflwyno, ond nid y gwendidau. Nodwyd fod angen bod yn fwy realistig a chydnabod fod gwendidau yn bodoli, a soniodd am yr adeiladau gwag a’r diffyg pobl. Yr oedd yr aelod pwyllgor yn cydnabod fod y darlun a gyflwynwyd yn wahanol i’r hyn yr oedd trigolion yn ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe ddylid ymdrin â’r gwendidau. Dywedodd ei fod yn deall fod dangosyddion perfformiad wedi eu hatal yn ystod y pandemig, fod rhai heb ddata yn mynd yn ôl i 2017-18. Dywedodd ei fod yn anodd credu na chofnodwyd unrhyw ddata am y  cyfnod hwn, a thynnodd sylw at ddata o dudalen 45, sef nifer y pecynnau ail-alluogi a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn. Dylai’r Cyngor fod â data yn ei gylch ond yr heb ei gyflwyno, yn ogystal ag amlygu’r data a gyflwynwyd am grantiau cyfleusterau i’r anabl, gan nodi’r cynnydd o 171 diwrnod i 239 diwrnod, oedd yn gynnydd sylweddol. Dywedodd yr aelod pwyllgor fod cymariaethau wedi eu gwneud yn y blynyddoedd blaenorol yn erbyn awdurdodau lleol eraill, a theimlai y byddai hyn yn bwysig at y dyfodol, i weld a effeithiodd hyn yn fwy ar Gasnewydd nac ar awdurdodau lleol eraill. Pwysleisiodd yr aelod pwyllgor mor bwysig yw’r swyddogaeth craffu, a phe na bai’r Cyngor yn cymharu ag awdurdodau ledled y DU, y byddai’n anodd iawn craffu ar wendidau a chryfderau er mwyn gwella.

 Terfynodd trwy ddweud nad pwynt y cwestiwn oedd bod yn negyddol, gan ei fod yn cydnabod llwyddiannau’r Cyngor ond y carai weld dadl fwy cytbwys, a gofynnodd am esboniad am y data coll.

 

·       Nododd yr Arweinydd na allai wneud sylw am ddata gan mai mater gweithredol ydoedd, ond o ran data coll, yn ogystal ag atal meincnodi, y bu newid yn y dull o fesur. Dywedodd yr Arweinydd fod llawer o ddata am graffu ar berfformiad, ac atgoffodd y pwyllgor mai crynodeb o’r wybodaeth hon yw adroddiad blynyddol. Awgrymodd yr Arweinydd y gellid peri fod dolenni digidol yn cael eu rhoi at ddata arall a gyflwynwyd i bwyllgorau craffu eraill, fel y gallai aelodau gyrchu’r wybodaeth.

 

      Tynnodd yr Arweinydd sylw at y buddsoddiad sylweddol a wnaed o ran twf economaidd, a’r angen i gofio fod yr economi yn newid, a bod mwy o alw am rai sectorau, gyda rhai eraill yn crebachu, a bod y Cyngor yn ceisio bod ar flaen y gad gyda hyn. Mynegodd yr Arweinydd ei balchder yn y ffaith fod busnesau digidol a thechnoleg yn cael eu denu i Gasnewydd, a thynnodd sylw at y ffaith ei bod wedi mynd gyda Gweinidog yr Economi at Brand Lab yn hen Westy’r Queens, lle buddsoddwyd miliynau o bunnoedd; bydd hyn o fudd i bobl y ddinas. Ymwelodd hefyd a busnes cyfryngau digidol, sydd â chontractau gyda Channel 4 a’r BBC. Yr oedd yr Arweinydd yn cydnabod fod yr aelod pwyllgor yn gywir, ac y dylai cefnogaeth fod ar gael i sectorau traddodiadol hefyd. Terfynodd trwy nodi mai adlewyrchiad o’r flwyddyn a aeth heibio oedd yr adroddiad, a chan ein bod yn awr yn tynnu at derfyn y tymor, ei bod yn hyderus y cyflawnir yr holl amcanion. 

 

      Diolchodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes i’r aelod pwyllgor am y pwyntiau a godwyd, a chydnabod y problemau sylweddol a ddeilliodd o ddata meincnodi am flwyddyn 2020-21; yr oedd yn gobeithio rheoli disgwyliadau. Esboniodd fod llawer o ddata perfformiad yn cael ei ymgorffori mewn data sy’n mynd i bwyllgorau eraill, ac awgrymodd, petai’r pwyllgor yn teimlo fod angen atodiad, y gellid ei gynnwys fel bod y data ar gael ac y gallai’r pwyllgor sylwi ar dueddiadau. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod caveat, gan mai data meincnodi cyfyngedig oedd yn cael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru ar draws awdurdodau lleol, ac nad oedd felly yn hollol fanwl gywir. Petai’n haws, meddai’r Pennaeth Pobl a Newid Busnes, gellid darparu data cynnydd mewn tabl.

 

Nododd yr aelod pwyllgor fod yr adroddiad yn ddiffygiol mewn data, ac er ei fod yn deall fod   amgylchiadau wedi newid, fod peth data ar goll. Yr oedd yn deall fod newidiadau wedi eu gwneud, ond ni allai gredu fod adrannau cyfan wedi profi’r fath newid dramatig fel nad yw data bellach yn berthnasol i’w gyflwyno.

          Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y byddai’n gwirio’r data, ond nododd fod newid mewn gwasanaethau cydmeithasol yn arwyddocaol. 

 

      Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol fod llawer o’r data a’r wybodaeth ar gael, ond yr oedd am roi esiampl i’r pwyllgor o’r newid yn y dull o fesur. Esboniodd fod y fframwaith perfformiad yn seiliedig ar yr hyn yr oedd yn rhaid iddynt dan y gyfraith adrodd wrth Lywodraeth Cymru: yr oedd hyn yr hyn y byddai Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei alw yn “wybodaeth rheoli”, ond yr oedd am roi esiampl o hyn i’r pwyllgor, sut y mae wedi newid a pha mor ofalus mae’n rhaid iddynt fod wrth adrodd amdano. Nododd, yn 2018-19 y bu 3147 o asesiadau gofal cymdeithasol oedolion, y gwnaed 4038 yn 2019-20, ond yn 2020-21 mai dim ond 2500 a gyfrifwyd oherwydd yn newid yn y dull o gyfrif, gan gyfrif cysylltiadau newydd yn unig yn hytrach na’r rhai y cysylltwyd â hwy o’r blaen: yr oedd y cyfanswm felly yn fwy o lawer na’r hyn y llwyddwyd i adrodd amdano eleni. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y wybodaeth ganddynt, ond oherwydd oedi cyn gweithredu’r fframwaith perfformiad newydd, na fyddid yn adrodd amdano yn swyddogol.

Cydnabu’r aelod pwyllgor fod cael y wybodaeth yn fuddiol, a nododd, o safbwynt y pwyllgor, fod newidiadau wedi bod yn digwydd ers degawdau. Mynegodd ei rwystredigaeth, a dweud efallai y dylai argymhelliad fynd i’r Cabinet i ofyn i Lywodraeth Cymru am sefydlogrwydd.  Dywedodd aelod pwyllgor fod pwyntiau gwerthfawr wedi eu codi ynghylch data, nododd y crybwyllwyd cyfryngau cymdeithasol a chanfyddiadau trigolion o’r ddinas, nad oedd, ym marn aelod y pwyllgor, yn ddata gwrthrychol ac ni chredai y dylid defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel mesur ystadegol o lwyddiant neu fethiant Casnewydd. Atebodd  aelod arall i esbonio mai sylw cyffredinol oedd hwn, nid yn unig am y cyfryngau cymdeithasol, ond am sylwadau gan y trigolion a’r etholwyr, ac mai problem o ddelwedd ydoedd.  

 

Tynnodd yr aelod pwyllgor sylw at dudalen 32, ac yn benodol at y tabl am bobl ifanc yn trosi i addysg a’r byd mawr. Nododd fod y targedau hyn yn cael eu cyrraedd yn rhwydd, ac y dylid felly caledu rhywfaint arnynt. Yna tynnodd sylw at y perfformiadau coch, gan gydnabod y bu yn flwyddyn anodd ac eithriadol, a gofynnodd a oedd y bobl hyn wedi eu colli a’u hanghofio, neu a fyddai dilyniant? Yr oedd yr aelod pwyllgor yn gyffredinol yn croesawu Adroddiadau Corfforaethol, gan ddweud ei bod yn wych cael cymaint o wybodaeth er mwyn cymharu. Yr oedd yn derbyn y pwyntiau a wnaed gan y Prif Swyddog Gweithredol a’r Cyfarwyddwr. Gofynnodd yr aelod pwyllgor am gymhariaeth deg rhwng Casnewydd ac awdurdodau lleol eraill, a gorffen trwy ddiolch i’r Arweinydd a’r swyddogion. 

 

    Sicrhaodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y pwyllgor y byddai targedau yn cael eu herio mewn pwyllgorau craffu perfformiad. Yr oedd yn derbyn pwynt yr aelod am yr her gysylltiedig â ffigyrau, ond anogodd y pwyllgor i roi hyn yn ei gyd-destun: yn gymharol ddiweddar, byddai un o bob deg o bobl ifanc oedd yn gadael ysgol heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, sef y gyfradd uchaf yng Nghymru ar y pryd. Atgoffodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y pwyllgor o’r ymdrech enfawr oedd wedi mynd i sicrhau fod pobl ifanc oedd yn gadael addysg wedi cadw mewn cysylltiad â chyfleoedd i ddysgu, ac y bu angen ymdrech gan bartneriaid. Dywedodd fod y targedau, am eu bod wedi mynd trwy’r craffu ar berfformiad, yn briodol, ac y byddid yn olrhain y bobl ifanc a nodwyd fel anhysbys wedi addysg orfodol, gan geisio gweithio gyda hwy. 

 

    Rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd i’r pwyllgor fod gan yr Academi Ieuenctid a’r Academi gwaith dros 60 o bobl ifanc ar raglenni i ddwyn i mewn y sawl oedd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.

 

      Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol fod timau yn gweithio’n rheolaidd trwy’r ardaloedd coch ac yn treiddio’n ddwfn i unrhyw broblemau, ac er iddynt fod trwy bandemig, ac o ganlyniad eu bod am y  misoedd cyntaf yn canolbwyntio ar adfer ac ymateb, fod perfformiad yn dal yn flaenoriaeth er mwyn monitro a gwella. Dywedodd fod hyn yn hwyluso trafodaethau agored gyda phwyllgorau gan y byddai angen buddsoddi weithiau, a thynnodd sylw at y ffocws cryf am dueddiadau perfformiad. 

 

o Yr oedd y Prif Swyddog Gweithredol eisiau manteisio ar y cyfle i ateb cwestiwn blaenorol, gan fod y data ganddi yn awr. Atgoffodd y Prif Swyddog Gweithredol y pwyllgor fod a wnelo “Cost Cyfalaf” a chyllido prosiect neu raglen gyfalaf, a bod “Cyllid Canolog” am feysydd heb fod yn rhai gwasanaeth.  Sicrhaodd y pwyllgor y byddai cydweithwyr o’r adran gyllid yn rhoi diweddariad mwy manwl, ac yn adolygu’r modd y mae’r data hwn yn cael ei gyflwyno. 

 

Yr oedd yr aelod pwyllgor yn cydnabod gwaith caled y tîm, a brwdfrydedd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes dros y prosiect. Yr oedd am amlygu sylw’r Arweinydd am broblemau pobl ifanc fregus, a theimlai y byddai trin y problemau hyn yn help i sicrhau y byddai Casnewydd yn dod yn lle saffach.

 

Ymddiheurodd aelod o’r pwyllgor am golli rhan o’r cyfarfod oherwydd diffyg yn y cysylltiad. Nododd fod y gwariant o £1m ar y gamlas yn newyddion da, yn enwedig o ystyried gwaith Cwmbrân ar y gamlas, a gwaith strwythurol mawr Caerffili. Fodd bynnag, yr oedd yn teimlo fod modd iddynt wneud mwy fel cyngor. Mynegodd ei siom nad oedd y Llong Ganoloesol wedi ei rhestru, gan y bu’n hysbys ers 19 mlynedd, ac y byddai’r gwaith o ail-greu’r gwaith coed yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Dywedodd fod y Llong Ganoloesol yn ased diwylliannol o bwys, gydag £8m wedi ei wario hyd yma, gan annog hyd at 150,000 o ymwelwyr. Teimlai’r aelod pwyllgor ei bod yn bwysig iddi gael ei chynnwys fel ased diwylliannol: yr oedd yn fuddsoddiad, ac fe ddylid elwa o hynny. 

 

    Cydnabu’r Prif Swyddog Gweithredol fod hyn yn bwynt i’w drafod ymhellach. 

 

    Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn ased bwysig a chefnogodd ei ychwanegu at yr adroddiad. 

 

Canmolodd aelod pwyllgor yr adroddiad am fod yn hawdd i’w ddarllen, a theimlai fod cydbwysedd o ddulliau cyfathrebu, a thynnodd sylw at y calendr oedd wedi ei gynnwys. Diolchodd i bawb a wahoddwyd am eu hamser. 

 

 Diolchodd yr Arweinydd i’r pwyllgor am eu syniadau, gan adleisio sylwadau ei chydweithwyr am waith y swyddogion, a bod hyn oll wedi ei wneud yng nghyd-destun y pandemig. 

 

Nododd yr Ymgynghorydd Craffu fod angen eglurhad am rai pwyntiau. 

Gofynnodd yr Ymgynghorydd Craffu sut y carai’r aelod pwyllgor to eirio sylwadau am gyflwyno Casnewydd mewn “goleuni ffafriol”

 

Dywedodd yr aelod pwyllgor ei fod eisiau darlun realistig oedd yn cydnabod fod problemau yn bod, a chydbwyso hyn gydag optimistiaeth. 

Nododd yr Ymgynghorydd Craffu y sylwadau am ddiffyg cymhariaeth rhwng awdurdodau lleol, a hefyd yr argymhelliad i ychwanegu’r Llong Ganoloesol a’r camlesi at adran diwylliant yr adroddiad. Nododd yr Ymgynghorydd Craffu fod aelod o’r pwyllgor wedi dweud ei fod yn hapus gyda chyflwyniad yr adroddiad.

 

    Dywedodd aelod o’r pwyllgor fod angen adolygu’r graff ar dudalen 8, gyda mwy o esboniad o’r eitemau, a hefyd fod angen esboniad o feysydd gwasanaeth, a rhoi’r eitemau mewn trefn resymol. Dywedodd yr aelod pwyllgor ei fod yn cytuno fod angen ychwanegu’r camlesi i’r adran am dreftadaeth ddiwylliannol, a dywedodd hefyd fod angen mwy o wybodaeth am swyddi yng Nghasnewydd, sawl busnes sydd yng Nghasnewydd, a’u gweithwyr, ac y dylid cynnwys cyfraddau diweithdra gan eu bod yn fesur pwysig o ffyniant y ddinas.

 

·       Nododd y pwyllgor fod cyfleusterau GCA ar d.53 wedi eu rhoi dan y pedwerydd amcan lles, ond credir eu bod yn y lle anghywir.

·Nodwyd fod problem gyson o ran methu â gwneud cymhariaeth â dangosyddion perfformiad y blynyddoedd blaenorol a’u newid cyson,  ond nid i’r graddau fod y dulliau o fesur wedi newid, petai’r pwyllgor yn hapus i wneud  yr argymhelliad hwnnw

 

      Gwnaeth aelod o’r pwyllgor y pwynt fod pethau’n cael eu gwneud yn anodd wrth i ddulliau mesur gael eu newid gan Lywodraeth Cymru, ond argymhellodd y gellid rhoi rhai mesurau mewn atodiad i’r adroddiad. Er enghraifft, os oes rhaid dangos dangosydd perfformiad allweddol, byddai’n dda gweld sut yr oedd perfformiad wedi newid, ac awgrymodd, yn hytrach na’i gynnwys yn yr adroddiad, y dylai ddod i’r pwyllgor fel eitem ar wahân. 

 

·       Nododd aelod o’r pwyllgor y pwynt am ddarlun “ffafriol” o Gasnewydd fel un gwleidyddol, a holodd sut y byddai’n cael ei gofnodi. Teimlai y dylai fynd i bleidlais cyn ei gynnwys yn yr adroddiad. 

o       Teimlai aelod o’r  pwyllgor fod hyn yn mynd yn ôl i’r cwestiwn o’r modd y mae’r cofnodion yn cael eu llunio; a yw sylwadau yn cael eu cofnodi fel rhai “pwyllgor” neu aelodau unigol. Nododd yr aelod pwyllgor na chodwyd unrhyw bwyntiau am Lywodraeth Lafur Cymru, ac mai sylw cyffredinol a rhesymol ydoedd. Dywedodd na fyddai’n hapus i hynny fynd i bleidlais, gan ddweud mai sylw gwleidyddol oedd hynny. 

 

o          Nododd yr Ymgynghorydd Craffu y byddai’n cael ei gofnodi fel rhywbeth fel “gofynnodd aelod o’r pwyllgor i’r adroddiad fod yn gytbwys”, yn hytrach na’i argymell fel cam gan y pwyllgor cyfan.

 

o       Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu y dylid gwahanu sylwadau oddi wrth wleidyddiaeth, a phan fo unigolion yn cael eu henwi mewn cofnodion, ei fod yn cynyddu’r posibilrwydd o ddefnyddio sylwadau yn wleidyddol. 

 

o       Cytunodd aelod o’r pwyllgor fod “aelod pwyllgor” yn briodol o ran sylwadau blaenorol a drafodwyd. Dywedodd mai dim ond gwneud argymhellion y gall y pwyllgor, ac efallai na fyddid yn gweithredu arnynt, a nododd ei fod un hapus i gael ei nodi fel aelod pwyllgor. 

 

    Dywedodd y pwyllgor y dylid cyfoesi dangosyddion perfformiad sydd wedi dyddio os oes modd, ac na ddylid yn wastad defnyddio’r un dangosyddion perfformiad gan fod hynny yn creu problemau. 

o       Awgrymodd aelod pwyllgor y dylid cyflwyno gwybodaeth gefndir lle newidiwyd y dangosyddion perfformiad, ond nad oedd hyn yn fater i’r pwyllgor craffu. 

o          Teimlai aelod pwyllgor y byddai hyn yn ormod o waith darllen, ac nad atodiadau oedd yr ateb. Dywedodd y dylai adroddiadau fod yn glir, a derbyniodd nad oeddem yma i graffu ar adroddiadau, a’i fod yn teimlo fod aelod o’r pwyllgor yn ceisio gosod data ar y rhai a wahoddwyd nad oeddent ei eisiau, ond derbyniodd eu hesboniad gydag amheuon y byddai’r targedau yn cael eu haddasu. Teimlai’r aelod pwyllgor fod hyn yn groes i’r nod o wella cyson heb ail-asesu targedau, a chytunodd aelod arall o’r pwyllgor a hyn fel pwynt dilys.

 

 

Dogfennau ategol: