Agenda item

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf

Cofnodion:

Cyfnod 3 – A wnaeth yr Aelod fethu â dilyn y Cod? 

 

1.            Gwahoddodd y Pwyllgor sylwadau gan Mr McAndrew ynghylch a oedd y Cynghorydd Watkins, ar sail y ffeithiau diamheuol y cytunwyd arnynt, wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

 

2.            Dywedodd Mr McAndrew mai’r mater perthnasol oedd a oedd y Cynghorydd Watkins wedi methu â chydymffurfio â darpariaeth ganlynol y Cod Ymddygiad:

 

7 Na ddylai – (a) yn ei rôl swyddogol neu fel arall, ddefnyddio neu geisio defnyddio ei safle yn amhriodol i roi neu sicrhau mantais iddi hi ei hun neu berson arall, neu greu neu osgoi anfantais iddi hi ei hun neu berson arall.

 

3.            Er bod paragraff 7(a) o’r Cod yn berthnasol i bob aelod bob amser, ac nid dim ond pan fyddent yn gweithredu yn rhinwedd rôl swyddogol, haerodd Mr McAndrew fod y Cynghorydd Watkins yn gweithredu bob amser yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd. Roedd wedi cyflwyno ei hun fel Cynghorydd yn ystod y galwadau ffôn i’r feddygfa ac, yn yr ail alwad, roedd wedi datgan ei bod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod o’r bwrdd iechyd. Gwnaethpwyd y cwynion dilynol i’r bwrdd iechyd am y feddygfa hefyd yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd ac fe’i hanfonwyd o’i chyfrif e-bost swyddogol fel Cynghorydd.

 

4.            Derbyniodd Mr McAndrew fod y Cynghorydd Watkins yn ceisio bod yn gymwynasgar i ddechrau pan gysylltodd â’r feddygfa ar ran claf oedrannus ond roedd yn haerllug yn y ffordd y siaradodd â’r Llyw-wyr Gofal. Roedd hi hefyd wedi bygwth mynd at Brif Weithredwr y bwrdd iechyd yngl?n â’u gwrthodiad i’w throsglwyddo i’r meddyg ar alwad. Dywedodd ei bod yn anodd gweld sut yr oedd sylwadau’r Cynghorydd Watkins o gymorth i’r feddygfa neu’r claf. Er bod y claf wedi cysylltu â’r Cynghorydd mewn trallod, ni allai’r llid ar eu hamrannau fod wedi’i ystyried yn argyfwng meddygol. Felly, haerodd fod y Cynghorydd Watkins wedi defnyddio ei safle fel Cynghorydd ac aelod o’r bwrdd iechyd yn amhriodol i geisio cael mantais i’w hetholwraig dros gleifion eraill y feddygfa, y gallai eu hanghenion meddygol fod wedi bod yn fwy difrifol, a bod ei chamau gweithredu yn gyfystyr â thramgwyddo paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

 

5.            Roedd y Cynghorydd Watkins wedi dweud yn ystod yr ymchwiliad ei bod wedi profi ei phroblemau personol ei hun gyda’r feddygfa o’r blaen ynghylch ei gofal iechyd ei hun a haerodd Mr McAndrew y gallai hyn fod wedi dylanwadu ar ei hymddygiad tuag atynt.

 

6.            Fel aelod o’r Cyngor a’i gynrychiolydd ar y bwrdd iechyd, dylai’r Cynghorydd Watkins fod wedi bod yn ymwybodol o’r angen i weithredu’n deg ac yn briodol yn ei rôl. Dywedodd Mr McAndrew fod ymdrechion y Cynghorydd Watkins i ddefnyddio ei safle fel cynrychiolydd y Cyngor ar y bwrdd iechyd i roi pwysau ar staff y feddygfa i weithredu y tu allan i’w gweithdrefnau safonol, unwaith eto, yn dramgwyddiad diamheuol o baragraff 7(a) y Cod Ymddygiad.

 

7.            Roedd y Cynghorydd Watkins wedi cyfaddef yn y cyfweliad na ddylai fod wedi dweud ei bod yn “gweithredu fel aelod o’r bwrdd iechyd”, gan nad oedd eirioli dros gleifion unigol yn y modd hwn yn rhan o’i rôl gynrychioliadol. Dywedodd Mr McAndrew fod hyn i bob pwrpas yn gyfaddefiad ei bod wedi ceisio defnyddio ei safle yn amhriodol gan dorri’r Cod Ymddygiad.

 

8.            Er ei fod yn derbyn bod y Cynghorydd Watkins yn gweithredu “yn y foment” yn ystod ei galwad ffôn gychwynnol i’r feddygfa, haerodd Mr McAndrew na ellid ystyried ei bygythiad dilynol i godi’r mater gyda Phrif Weithredwr y bwrdd iechyd fel ymateb digymell neu er budd gorau’r claf, gan fod y feddygfa eisoes wedi cysylltu â hi’n uniongyrchol.

 

9.            Ymhellach, haerodd nad oedd y Cynghorydd Watkins yn bendant yn gweithredu “yn y foment” pan gyflwynodd ei ch?yn gyntaf i’r bwrdd iechyd 13 diwrnod ar ôl y galwadau ffôn. Yn wyneb yr amser a aeth heibio, cafodd gyfle sylweddol i fyfyrio ac ystyried ei gweithredoedd. Roedd y cwynion a wnaed gan y Cynghorydd Watkins am y feddygfa yn anghywir ac nid oeddent yn adlewyrchu gwir natur a chynnwys y sgyrsiau ffôn. Cadarnhaodd y recordiadau a wnaed o’r galwadau fod y feddygfa wedi glynu’n briodol at ei gweithdrefnau safonol a bod y staff yn gadarn ond yn parhau i fod yn gwrtais. Fodd bynnag, roedd cwynion y Cynghorydd Watkins yn awgrymu nad oedd y staff wedi bod yn gymwynasgar a bod ganddynt ymagwedd wael. Cwynodd y Cynghorydd Watkins hefyd nad oedd y feddygfa wedi cysylltu â’r claf, pan oedd yn amlwg ei bod wedi gwneud hynny. Dywedodd Mr McAndrew nad oedd cwynion y Cynghorydd Watkins yn deg nac yn wir. Mewn gwirionedd, roedd y Cynghorydd Watkins wedi cyfaddef mewn cyfweliad ei bod “efallai wedi mynd yn rhy bell” yn ei ch?yn am y staff.

 

10.          Awgrymodd Mr McAndrew mai gweithred gosbol oedd cwyn y Cynghorydd Watkins i’r bwrdd iechyd am nad oedd y feddygfa yn ildio i’w dymuniadau. Yn ei farn ef,

ymgais oedd y g?yn gan y Cynghorydd Watkins i ddefnyddio ei safle yn y bwrdd iechyd i danseilio gweithredoedd y feddygfa a chreu anfantais iddi a bod y gweithredoedd hyn yn gyfystyr â thramgwyddo paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

 

11.          Yna gwahoddodd y Pwyllgor y Cynghorydd Watkins i ymateb i’r sylwadau gan y Swyddog Ymchwilio a rhoi rhesymau pam nad oedd yn ystyried ei bod wedi torri’r Cod Ymddygiad

 

12.          Dywedodd y Cynghorydd Watkins fod hon yn g?yn flinderus a dialgar gan y feddygfa. Nid oedd yn ffrind personol agos i’r ddynes dan sylw, ond roeddent wedi cyfarfod trwy wasanaeth cyfeillio lle’r oedd y Cynghorydd Watkins yn gweithio fel gwirfoddolwr. Roedd y ddynes yn fregus iawn ac yn oedrannus ac roedd yn dioddef o gyflwr llygaid. Roedd y ddynes mewn trallod mawr pan siaradodd â’r Cynghorydd Watkins am fethu â chael apwyntiad gyda’r feddygfa ar gyfer ei chyflwr llygaid ac roedd y Cynghorydd Watkins wedi cynnig helpu. Dim ond apwyntiad gyda’r nyrs ymhen naw diwrnod yr oedd y feddygfa wedi cynnig iddi a dim triniaeth feddygol. Roedd y Cynghorydd Watkins wedi cyfarfod â’r ddynes yng Nghaerllion ychydig wythnosau ynghynt ac roedd yn ymddangos yn ofidus gan mai ei chyfeirio at optegydd a wnaeth nyrs y feddygfa.

 

13.          Roedd yr alwad ffôn gyntaf i’r feddygfa rhwng 5pm a 5.30pm pm ar nos Wener ac roedd y Cynghorydd Watkins eisiau siarad â’r meddyg i ofyn am bresgripsiwn i’r ddynes. Dim ond cynorthwyo gwraig oedrannus, sy’n byw ar ei phen ei hun, yr oedd hi’n dymuno ei wneud. Dywedodd y Cynghorydd Watkins ei bod wedi’i siomi’n aruthrol gan yr ymateb, er ei bod yn derbyn, o edrych yn ôl, efallai ei bod wedi gorymateb. Roedd y Cynghorydd Watkins wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd ei hun am 42 mlynedd ac roedd y feddygfa yn ei hadnabod yn dda.

 

14.          Dywedodd y Cynghorydd Watkins ei bod wedi gwneud y penderfyniad i gwyno i’r bwrdd iechyd am y feddygfa yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd lleol oherwydd ei bod yn teimlo nad oedd y staff wedi bod yn gymwynasgar ac y gallai’r meddyg fod wedi helpu drwy roi presgripsiwn i’r ddynes, y gallai’r Cynghorydd Watkins fod wedi’i gasglu iddi. Os oedd wedi bod yn rhy haerllug, byddai’n ymddiheuro ond ni fyddai’n ymddiheuro am geisio helpu gwraig oedrannus a oedd mewn trallod.

 

15.          I gefnogi’r Cynghorydd Watkins, dywedodd y Cynghorydd Routley nad oedd hi, yn ei farn ef, yn euog o dorri’r Cod Ymddygiad gan mai ceisio helpu’r wraig oedrannus hon ydoedd, yn y bôn, ac nid ceisio sicrhau unrhyw fudd na mantais bersonol iddi hi ei hun. Dim ond ceisio siarad â’r meddyg ydoedd er mwyn cael presgripsiwn ar gyfer y ddynes. 

 

16.          Ailadroddodd y Cynghorydd Routley mai, yn ei farn ef, cwyn ddialgar gan y feddygfa yn erbyn y Cynghorydd Watkins oedd hon. Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty yn flaenorol ac wedi cael apwyntiad gyda’r feddygfa i’r meddyg roi presgripsiwn morffin iddi ar gyfer lleddfu poen. Fodd bynnag, pan aeth i’r apwyntiad, anfonodd y derbynnydd hi i weld nyrs y feddygfa, er ei bod yn ymwybodol nad oedd y nyrs yn gallu rhoi presgripsiwn am forffin. Roedd y Cynghorydd Watkins wedi mynnu gweld rheolwr y feddygfa ond, yn lle hynny, fe’i hanfonwyd at nyrs y feddygfa, a wnaeth iddi deimlo’n ofidus iawn, yn enwedig gan ei bod yn dal mewn poen. Yn dilyn y digwyddiad hwn, bu cyhuddiadau ar gyfryngau cymdeithasol bod y Cynghorydd Watkins wedi bod yn siarad yn erbyn y feddygfa, a oedd yn anwiredd.

 

17.          Dywedodd y Cynghorydd Routley fod y Cynghorydd Watkins wedi gwneud y galwadau ffôn i’r feddygfa ar ran etholwraig, yr oedd hi wedi cwrdd â hi trwy ei gwasanaeth cyfeillio. Roedd hi’n wraig oedrannus, a chanddi broblemau golwg a chydbwysedd gwael, nid dim ond llid yr amrannau, ac roedd y Cynghorydd Watkins yn pryderu am ei lles. Roedd y Cynghorydd Watkins wedi gweithio am dros 40 mlynedd fel nyrs ac, felly, roedd ganddi arbenigedd meddygol. Nid oedd y Cynghorydd Watkins yn defnyddio ei safle er budd na mantais bersonol.

 

18.          Fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Routley fod y Cynghorydd Watkins wedi ymddiheuro ac wedi dysgu bod ei brwdfrydedd wedi’i gamddehongli. Roedd hi wedi gweithredu “yn y foment” ac wedi cael hyfforddiant i sicrhau na fyddai’n ymwneud â’r mathau hyn o gwynion yn y dyfodol.

 

19.          Eglurodd Mr McAndrew, er y gallai’r Cynghorydd Watkins fod wedi gweithredu “yn y foment” yn ystod yr alwad ffôn gyntaf i’r feddygfa, gwnaed ei ch?yn dilynol i’r bwrdd iechyd 13 diwrnod ar ôl y digwyddiad.

 

20.          Yna ymneilltuodd y Pwyllgor i ystyried yn breifat a oedd y Cynghorydd Watkins wedi torri’r Cod Ymddygiad. Wrth ddod i’w penderfyniad, rhoddodd y Pwyllgor sylw i adroddiad y Swyddog Ymchwilio a’r dogfennau cefndir, y ffeithiau diamheuol y cytunwyd arnynt a hefyd y cyflwyniadau a wnaed gan Mr McAndrew a chan y Cynghorydd Watkins a’r Cynghorydd Routley.

 

21.          Canfu’r Pwyllgor fod paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad yn ymwneud â’r mater hwn a bod y Cynghorydd Watkins, ar bob adeg berthnasol, yn dweud ei bod yn gweithredu fel Cynghorydd a hefyd yn aelod cynrychioliadol o’r bwrdd iechyd. Cyfaddefodd y Cynghorydd Watkins ei bod yn mynd ar drywydd y mater hwn ar ran etholwraig yn ei ward, ei bod wedi cyfeirio ati ei hun fel “y Cynghorydd Watkins” trwy gydol ei sgyrsiau ffôn gyda staff y feddygfa, a’i bod wedi gwneud y g?yn i’r bwrdd iechyd yn rhinwedd ei swydd. At hynny, yr oedd hefyd wedi ceisio dibynnu ar ei safle fel aelod o’r bwrdd iechyd i ddylanwadu’n ormodol ar y feddygfa a chyfaddefodd wedi hynny na ddylai fod wedi dweud ei bod yn gweithredu yn rhinwedd y swyddogaeth hon. Nid oedd y Pwyllgor o’r farn ei bod yn rhan o rôl gynrychioliadol y Cynghorydd Watkins i weithredu fel eiriolwr dros gleifion unigol yn y modd hwn ac, felly, roedd yn ceisio defnyddio ei safle, fel aelod etholedig ac fel aelod o’r bwrdd iechyd, at ddiben amhriodol ac yn torri’r Cod Ymddygiad.

 

22.          Derbyniodd y Pwyllgor fod cymhellion y Cynghorydd Watkins pan gysylltodd gyntaf â’r feddygfa â’r bwriadau gorau a’i bod yn ceisio helpu etholwraig oedrannus yr oedd yn wirioneddol bryderus yn ei chylch. Derbyniodd y Pwyllgor hefyd nad oedd y Cynghorydd Watkins yn ceisio sicrhau unrhyw fudd na mantais bersonol yn ei gweithredoedd, bryd hynny. Fodd bynnag, canfu’r Pwyllgor fod y Cynghorydd Watkins wedi ceisio defnyddio ei safle fel Cynghorydd ac aelod o’r bwrdd iechyd yn amhriodol i gael blaenoriaeth feddygol yn annheg i’w hetholwraig dros gleifion eraill yn y feddygfa a oedd ag anghenion meddygol mwy difrifol. Er ei bod yn oedrannus ac yn agored i niwed, roedd y ddynes yn dioddef o lid yr amrannau ac yr oedd wedi cael ei hasesu’n briodol gan y feddygfa o ran blaenoriaeth ar gyfer apwyntiad a phresgripsiwn. Wrth geisio defnyddio ei safle i osgoi’r broses hon, roedd y Cynghorydd Watkins wedi tramgwyddo paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

 

23.          Canfu’r Pwyllgor hefyd, wrth geisio sicrhau mantais i’w hetholwraig o ran triniaeth feddygol, fod y Cynghorydd Watkins hefyd wedi ceisio defnyddio ei safle i roi pwysau amhriodol ar staff y feddygfa i fynd yn groes i’w gweithdrefnau gweithredu safonol, o ran cyfrinachedd cleifion ac asesiad meddygol. Roedd mynnu siarad â’r meddyg am fater meddygol cyfrinachol, heb yr awdurdod priodol, yn dramgwyddiad diamheuol o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac roedd ceisio sicrhau triniaeth feddygol ffafriol i glaf â chyflwr llygaid nad oedd yn fater brys yn gwbl amhriodol. O ystyried ei phrofiad sylweddol yn y gwasanaeth iechyd ac fel aelod etholedig, dylai’r Cynghorydd Watkins fod wedi bod yn ymwybodol iawn bod hyn yn gamddefnydd o’i safle.

 

24.          Derbyniodd y Pwyllgor fod y Cynghorydd Watkins wedi gweithredu “yn y foment” pan ffoniodd y feddygfa gyntaf yn hwyr ar nos Wener, 7 Awst 2020. Fodd bynnag, canfu’r Pwyllgor na allai hyn esbonio nac esgusodi ei hymddygiad dilynol. Ar ôl cael gwybod y byddai’r feddygfa yn cysylltu â’r claf yn uniongyrchol i drefnu apwyntiad a meddyginiaeth, dylai hynny fod yn ddiwedd ar y mater. Canfu’r Pwyllgor ei bod yn arwyddocaol ei bod yn ymddangos nad oedd y Cynghorydd Watkins wedi cymryd unrhyw gamau i gysylltu â’r wraig wedyn i weld a oedd y mater wedi’i ddatrys er boddhad iddi. Yn lle hynny, aeth ar drywydd yr hyn na ellid ond ei ddisgrifio fel cwyn bersonol yn erbyn y feddygfa.

 

25.          Cyfeiriodd y Cynghorydd Watkins a’r Cynghorydd Routley at y g?yn hon fel un “blinderus” a “dialgar” a chyfeiriasant hefyd at faterion personol blaenorol rhwng y Cynghorydd Watkins a’r feddygfa ynghylch ei gofal iechyd ei hun. Nid oedd y Pwyllgor yn derbyn bod y g?yn hon yn erbyn y Cynghorydd Watkins, mewn unrhyw ffordd, yn weithred ddialgar ar ran staff y feddygfa. I’r gwrthwyneb, canfu’r Pwyllgor, wrth fynd ar drywydd ei chwynion dilynol yn erbyn y feddygfa, fod y Cynghorydd Watkins wedi’i dylanwadu gan ei hanghydfod blaenorol â’r staff. Roedd y Pwyllgor o’r farn nad oedd y Cynghorydd Watkins yn gwneud y cwynion hyn ar ran y claf, ond ar ei chyfrif ei hun a’i bod yn mynd ar drywydd ei ch?yn bersonol ei hun oherwydd y digwyddiad cynharach a hefyd oherwydd bod y staff wedi peidio ag ildio iddi pan gysylltodd â nhw yn wreiddiol am y claf hwn.

 

26.          Nid oedd y Cynghorydd Watkins wedi gofyn am awdurdod na chaniatâd ei hetholwraig i wneud y cwynion hyn ar ei rhan ac, yn wir, nid oedd tystiolaeth ei bod hyd yn oed wedi cysylltu â’r wraig i wirio a oedd ei phroblemau wedi’u datrys. Rhyw 13 diwrnod yn ddiweddarach, ar 20 Awst 2020, y cyflwynodd y Cynghorydd Watkins ei ch?yn ysgrifenedig gyntaf i’r bwrdd iechyd. Roedd honno’n amlwg yn weithred ystyriol a bwriadol, nid yn adwaith digymell “yn y foment”. Ar ben hynny, roedd ei hymateb dilynol, ar 15 Medi 2020, 38 diwrnod ar ôl y digwyddiad gwreiddiol. Erbyn hynny, ni fyddai cwyn o’r fath wedi sicrhau unrhyw fudd na mantais i’r claf gan y byddai hi, erbyn hyn, wedi cael apwyntiad yn y feddygfa. Felly, ar sail cydbwysedd y dystiolaeth, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod cymhelliad y Cynghorydd Watkins i fynd ar drywydd y g?yn hon yn ymwneud yn fwy â’i chwynion ei hun yn erbyn y feddygfa. Trwy ddefnyddio ei safle fel Cynghorydd ac aelod o’r bwrdd iechyd i wneud cwyn o’r fath, roedd y Cynghorydd Watkins nid yn unig wedi ceisio creu anfantais i’r feddygfa ond hefyd wedi ceisio sicrhau mantais iddi hi ei hun o ran canlyniad llwyddiannus i’w ch?yn. Penderfynodd y Pwyllgor fod y camddefnydd hwn o’i safle yn gyfystyr â thramgwyddiad diamheuol o baragraff 7(a) y Cod Ymddygiad.

 

27.          Daeth y Pwyllgor i’r casgliad hefyd fod natur a chynnwys y cwynion a wnaed gan y Cynghorydd Watkins i’r bwrdd iechyd yn

 gamliwiad amlwg o’r gwir ac yn gorliwio’r materion yn fawr. Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r trawsgrifiad ysgrifenedig o’r sgyrsiau ffôn a gynhwyswyd yn y dystiolaeth ddogfennol ac roedd o’r farn nad oeddent yn cadarnhau’r cyhuddiadau personol a wnaed gan y Cynghorydd Watkins yn ei ch?yn ysgrifenedig. Roedd staff y feddygfa wedi glynu’n briodol at eu gweithdrefnau safonol ac, er eu bod yn gadarn gyda’r Cynghorydd Watkins, roeddent wedi parhau i fod yn gwrtais drwy’r amser. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu eu bod mewn unrhyw ffordd yn “anghwrtais” nac yn “anghymwynasgar”, fel yr honnid neu o gwbl.  Yn ogystal, roedd y Cynghorydd Watkins wedi cwyno nad oedd y feddygfa wedi cysylltu â’r claf, pan oedd yn amlwg ei bod wedi gwneud hynny. Felly, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod cwynion y Cynghorydd Watkins am staff y feddygfa yn annheg ac yn anwir. Roedd hi wedi cyfaddef wedyn ei bod “efallai wedi mynd yn rhy bell” yn ei ch?yn am y staff. Wrth wneud cwyn y gwyddai ei bod wedi’i gorliwio ac, felly, yn annheg ac yn anwir, roedd y Cynghorydd Watkins unwaith eto yn defnyddio ei safle yn amhriodol mewn modd dialgar fel dial yn erbyn staff y feddygfa. Unwaith eto, penderfynodd y Pwyllgor fod y camau hyn yn gyfystyr â thramgwyddo paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

 

28.          Yna ailgynullodd y cyfarfod a chyhoeddodd y Cadeirydd benderfyniad unfrydol y Pwyllgor fod y Cynghorydd Watkins wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

 

Cam 4 – Penderfynu ar sancsiwn

 

29.          Gwahoddodd y Pwyllgor sylwadau gan Mr McAndrew ynghylch y sancsiwn priodol y byddai’r Ombwdsmon yn ystyried i fod yn berthnasol yn yr achos hwn, ac a oedd unrhyw achosion eraill o natur debyg a allai roi arweiniad i’r Pwyllgor o ran sancsiwn.

 

30.          Cyfeiriodd Mr McAndrew y Pwyllgor at Ganllawiau Sancsiynau Panel Dyfarnu Cymru. Cyfeiriodd y Pwyllgor hefyd at ddau benderfyniad tebyg gan Bwyllgorau Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych. Roedd copïau o’r holl ddogfennau hyn wedi’u dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

31.          Dywedodd Mr McAndrew, mewn perthynas ag unrhyw ffactorau lliniarol, mai ceisio cynorthwyo etholwraig oedrannus a wnaeth y Cynghorydd Watkins i ddechrau a’i bod hefyd wedi dilyn hyfforddiant pellach ac wedi dysgu ei gwersi. Fodd bynnag, roedd wedi dibynnu’n amhriodol ar ei safle fel Cynghorydd ac aelod o’r bwrdd iechyd, hyd yn oed os mai ceisio helpu ei hetholwraig ydoedd hi.

 

32.          Dywedodd Mr McAndrew ymhellach fod ffactorau gwaethygol yn yr achos hwn. Nid digwyddiad “untro” oedd hwn; roedd wedi gwneud dwy alwad ffôn i’r feddygfa a ch?yn ysgrifenedig i’r bwrdd iechyd 13 diwrnod wedi hynny, a oedd yn anghywir ac wedi beirniadu’r staff yn annheg. Hefyd, roedd hyn ynghanol brigiad o achosion COVID-19, pan oedd y gwasanaeth iechyd dan bwysau difrifol. Roedd y ddwy g?yn wedi’u gorliwio ac, er ei bod yn dibynnu ar y ffaith ei bod yn gweithredu “yn y foment”, cafodd gyfle i fyfyrio cyn yr ail alwad ac yn sicr cyn y g?yn ddilynol 13 diwrnod yn ddiweddarach.

 

33.          Dywedodd fod y tramgwyddiad hefyd yn fwy difrifol oherwydd canlyniadau’r hyn roedd hi’n ceisio rhoi pwysau ar y staff i’w wneud, a fyddai wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt weithredu y tu allan i reoliadau diogelu data a hefyd blaenoriaethu achos meddygol nad oedd yn fater brys yn ystod pandemig.

 

34.          Oherwydd bod y tramgwyddiad hwn hefyd yn cynnwys camddefnyddio’i safle fel aelod cynrychioliadol o’r bwrdd iechyd, haerodd Mr McAndrew y gallai’r pwyllgor ddymuno ystyried gwaharddiad rhannol o’i rôl ar y bwrdd iechyd.

 

35.          Cyfeiriodd Mr McAndrew y Pwyllgor at achosion tebyg o ddefnydd amhriodol o safle Cynghorydd yn groes i baragraff 7(a) o’r Cod a’r sancsiynau a osodwyd gan Bwyllgorau Safonau Wrecsam a Sir Ddinbych. Yn achos Sir Ddinbych, roedd yr aelod dan sylw wedi ei wahardd am gyfnod o ddau fis, er ei fod yn cydnabod bod achosion eraill o dorri’r Cod Ymddygiad a gafodd eu hystyried yn yr achos hwnnw. Yn achos Wrecsam, roedd y Cynghorydd wedi’i wahardd am dri mis, er bod achosion eraill o dramgwyddo paragraff 4(b) ac (c) o’r Cod, yn ymwneud â methiant i ddangos parch a bwlio honedig, a oedd yn destun apêl. Serch hynny, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y sancsiynau yn deg ac yn rhesymol ar gyfer achosion o’r natur yma.

 

36.          Yna gwahoddodd y Pwyllgor y Cynghorydd Watkins i ymateb ar gwestiwn sancsiynau ac unrhyw ffactorau lliniarol yr oedd am i’r Pwyllgor eu hystyried. Dywedodd ei bod wedi gwneud dwy alwad ffôn i’r feddygfa ac roedd yn cofio ei bod wedi gofyn a allai’r meddyg ei ffonio’n ôl. Nid oedd hi byth wedi bwriadu tynnu sylw’r meddygon i ffwrdd o unrhyw ofal brys. Roedd hi’n ymwybodol iawn o’r anawsterau yr oedd y feddygfa yn eu wynebu yn ystod pandemig COVID-19. Dywedwyd wrthi, yn anecdotaidd, fod y ddynes hon wedi’i chyfeirio at y nyrs a bod angen iddi weld optegydd. Roedd y wraig yn 80 oed ac yn fregus iawn. Dywedodd y Cynghorydd Watkins ei bod wedi gweithio am 30 mlynedd fel nyrs ardal a deng mlynedd fel nyrs gymunedol a’r cyfan yr oedd hi eisiau ei wneud oedd helpu. Roedd hi’n fodlon ymddiheuro os oedd hi wedi bod yn rhy haerllug ond roedd hi wedi gweithredu “yn y foment” gan ei bod hi’n hwyr ar nos Wener.

 

37.          Dywedodd y Cynghorydd Watkins ei bod yn meddwl ei bod wedi gwneud y g?yn i’r bwrdd iechyd yn gynharach na 13 diwrnod ar ôl y digwyddiad. Yr oedd wedi cymryd amser i fyfyrio ond teimlai ei bod wedi cael ei siomi gan y feddygfa. Cadarnhaodd y Cynghorydd Watkins fod “hanes” rhyngddi hi a rheolwr y feddygfa. Roedd wedi cyrraedd y feddygfa ar gyfer apwyntiad gyda’i meddyg teulu, ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty, ac wedi cael ei chyfeirio at y nyrs er na allai roi presgripsiwn morffin ar gyfer lleddfu poen.

 

38.          Dywedodd y Cynghorydd Watkins fod yn rhaid i chi, fel Cynghorydd, sefyll dros eich etholwyr. Roedd hi’n amlwg yn ffonio’r feddygfa fel Cynghorydd ar ran yr etholwraig hon, ac nid oedd yn ffrind personol yr oedd yn ceisio unrhyw ffafrau arbennig iddi. Dim ond pan nad oedd yn gwneud unrhyw gynnydd gyda’r staff y cyfeiriodd ati ei hun fel “Cynghorydd”. Os oedd wedi ymddangos yn rhy haerllug, byddai’n ymddiheuro. Roedd hi wedi dysgu ei gwers o’r profiad hwn, ac wedi hynny bu dau achos arall lle’r oedd etholwyr wedi codi pryderon am y feddygfa gyda hi ond roedd wedi gwrthod cael ei thynnu i mewn.

 

39.          Atebodd Mr McAndrew fod hwn yn ymateb anffodus a’i fod yn dangos diffyg dirnadaeth gan y Cynghorydd Watkins. Roedd y digwyddiad wedi digwydd 30 mis yn ôl ond nid oedd wedi ymddiheuro i’r feddygfa. Mater clinigol i’r feddygfa ei benderfynu oedd y penderfyniad ynghylch y blaenoriaethau meddygol a’r driniaeth briodol ar gyfer y ddynes hon. Roedd y ddynes yn dioddef o lid yr amrannau a chynigiwyd apwyntiad iddi o fewn naw diwrnod, a oedd o fewn y safon arfer da o 10 diwrnod, fel y nodwyd ar Galw Iechyd Cymru.

 

40.          Ymatebodd y Cynghorydd Watkins drwy ddweud fod y ddynes yn dioddef o lid yr amrannau ond nad oedd yn gallu gweld a bod hynny’n effeithio ar ei symudedd.

 

41.          Dywedodd y Cynghorydd Routley nad oedd y Cynghorydd Watkins yn credu y gallai fynd at y feddygfa i ymddiheuro tra’r oedd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i’r g?yn hon, yr oedd bellach yn deall ei bod yn gamsyniad. Fodd bynnag, roedd hi wedi cael hyfforddiant ychwanegol a siaradwyd â hi am ei chanfyddiad, a oedd yn amlwg yn wahanol, ond roedd yn deall hynny nawr.

 

42.          Eglurodd Mr McAndrew fod yr adroddiad drafft wedi’i gyflwyno i’r Cynghorydd Watkins ym mis Mehefin 2021 ac roedd yn amlwg o’r drafft hwnnw y gallai fynd at y feddygfa yn uniongyrchol i ymddiheuro, ond roedd yn dal wedi methu â gwneud hynny. Roedd tystiolaeth ddogfennol hefyd bod y g?yn wedi’i gwneud ar 20 Awst 2020, 13 diwrnod ar ôl y digwyddiad, ac nid yn gynharach fel y credai’r Cynghorydd Watkins.

 

43.          Yna ymneilltuodd y Pwyllgor i ystyried ei benderfyniad, o ystyried y cyflwyniadau a wnaed yn y gwrandawiad, yr achosion tebyg eraill a ddyfynnwyd gan y Swyddog Ymchwilio a’r ddogfen Canllawiau Sancsiynau a luniwyd gan Banel Dyfarnu Cymru.

 

44.          Wrth ddod i benderfyniad ar y lefel briodol o sancsiwn, dilynodd y Pwyllgor y broses pum cam a nodir yn y Canllawiau Sancsiynau. Y cam cyntaf oedd asesu difrifoldeb y tramgwyddiad a’i ganlyniadau. Roedd y Pwyllgor o’r farn bod gweithredoedd y Cynghorydd Watkins yn gwbl fwriadol ac nid yn anfwriadol. Nid oedd ychwaith yn un digwyddiad unigol ond yn gwrs ymddygiad parhaus dros nifer o wythnosau. Er nad oedd unrhyw elfen o fudd personol, roedd yn amlwg bod y Cynghorydd Watkins yn defnyddio ei safle i fynd ar drywydd cwyn bersonol yn erbyn y feddygfa. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi rhoi pwys mawr ar y ffaith bod y Cynghorydd Watkins wedi dangos diffyg dirnadaeth ac ymwybyddiaeth o’r hyn yr oedd wedi’i wneud ac nad oedd wedi mynegi unrhyw edifeirwch. Roedd wedi datgan y byddai’n ymddiheuro os oedd wedi bod yn rhy haerllug, ond methodd â deall nad ei ffordd hi yn unig oedd yn amhriodol ond ei dibyniaeth ar ei safle fel Cynghorydd ac aelod o’r bwrdd iechyd. Roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn bod canlyniadau gwirioneddol a phosibl y tramgwyddiad yn sylweddol. Byddai goblygiadau difrifol wedi bod i staff y feddygfa pe baent wedi torri cyfrinachedd cleifion ac wedi ildio i geisiadau’r Cynghorydd Watkins, a hefyd pe bai ei ch?yn annheg yn eu herbyn wedi’i chadarnhau. Cafodd ei chamddefnydd o’i safle fel Cynghorydd ac aelod o’r bwrdd iechyd hefyd niwed sylweddol i enw da’r cyngor ac yr oedd yn tanseilio hyder y cyhoedd. O ystyried yr ystyriaethau hyn, canfu’r Pwyllgor fod hyn yn achos difrifol o dorri’r Cod Ymddygiad.

 

45.          Wrth ystyried natur eang y sancsiwn i’w osod, ystyriodd y Pwyllgor yr holl sancsiynau sydd ar gael iddo, gan ddechrau gyda’r sancsiynau sy’n cael yr effaith leiaf. Nid oedd y Pwyllgor o’r farn bod Dim Camau Gweithredu yn briodol o ystyried natur ddifrifol y tramgwyddiad.

 

46.          Roedd y Pwyllgor o’r farn nad oedd Cerydd yn briodol o ystyried natur ddifrifol y tramgwyddiad a’u pryder ei bod yn ymddangos bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth yn rhan o ymddygiad y Cynghorydd Watkins.

 

47.          Penderfynodd y Pwyllgor mai gwahardd dros dro oedd y sancsiwn mwyaf priodol o ystyried difrifoldeb y tramgwyddiad. Ystyriwyd bod angen atal dros dro o’i rôl i gadarnhau difrifoldeb yr hyn yr oedd y Cynghorydd Watkins wedi’i wneud, i weithredu fel ataliad effeithiol ac i adfer hyder y cyhoedd.

 

48.          Yna bu’r Pwyllgor yn ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol neu waethygol perthnasol a sut y gallai’r rhain effeithio ar gyfnod y gwaharddiad. Derbyniodd y Pwyllgor fod ffactorau lliniarol mewn perthynas â’r alwad ffôn wreiddiol gan y Cynghorydd Watkins, sef nad oedd yn ceisio unrhyw fudd na mantais bersonol, roedd yn ceisio helpu claf oedrannus a oedd mewn trallod ac roedd wedi gweithredu “yn y foment”. Fodd bynnag, yng ngoleuni canfyddiadau’r Pwyllgor

nad oedd bellach yn gweithredu “yn y foment” yn ystod yr ail alwad i’r feddygfa, a phan aeth ymlaen â’r cwynion diweddarach i’r bwrdd iechyd, a hefyd y canfyddiad bod hon yn fwy o g?yn bersonol, yna nid oedd unrhyw ffactorau lliniarol mewn perthynas â’r gweithredoedd hyn.

 

49.          Roedd y Pwyllgor o’r farn bod nifer o ffactorau gwaethygol yn yr achos hwn. Yn gyntaf, roedd y Cynghorydd Watkins wedi dangos diffyg dealltwriaeth llwyr am y camymddwyn a’i ganlyniadau. Roedd hi’n dal i geisio beio eraill yn annheg, gan awgrymu bod hon yn g?yn “blinderus a dialgar” gan staff y feddygfa a bod ei gweithredoedd wedi cael eu “camddehongli”. Yr oedd hi a’r Cynghorydd Routley wedi cyfeirio dro ar ôl tro at fater blaenorol rhyngddi hi a’r feddygfa hon ynghylch ei gofal iechyd ei hun ac awgrymodd fod hyn wedi ysgogi’r staff i wneud y g?yn hon amdani. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi canfod mai cwynion y Cynghorydd Watkins am y feddygfa oedd yn fwriadol ac yn ddialgar, a’i bod wedi cael ei hysgogi i wneud y g?yn hon oherwydd ei ch?yn bersonol yn erbyn y feddygfa, a hefyd oherwydd bod y staff wedi methu ag ildio iddi hi pan gysylltodd â nhw am y claf oedrannus. Roedd hon yn weithred fwriadol a chosbol ac roedd defnyddio ei safle fel Cynghorydd ac aelod o’r bwrdd iechyd i hyrwyddo’r g?yn hon yn gamddefnydd difrifol o ymddiriedaeth a ph?er. Gwaethygwyd hyn gan y ffaith bod y Cynghorydd Watkins wedi gorliwio’r sgwrs gyda staff y feddygfa yn ei ch?yn yn fwriadol ac wedi camliwio’r ffeithiau yn annheg.

 

50.          Roedd y Pwyllgor hefyd o’r farn ei bod yn ffactor gwaethygol bod y Cynghorydd Watkins yn Gynghorydd profiadol ac yn rhywun â phrofiad sylweddol o weithio yn y gwasanaeth iechyd. Felly, dylai fod wedi bod yn ymwybodol o ddifrifoldeb posibl y camau yr oedd yn rhoi pwysau ar staff y feddygfa i’w cymryd, mewn perthynas â chyfrinachedd cleifion a thramgwyddo GDPR, a hefyd o ran blaenoriaethau gofal clinigol. Ffactor gwaethygol pellach oedd bod y digwyddiad hwn wedi digwydd yn ystod pandemig COVID-19 parhaus a’r cyfyngiadau symud, pan oedd y gwasanaeth iechyd yn wynebu pwysau digynsail.

 

51.          Yn olaf, roedd y Pwyllgor o’r farn bod methiant y Cynghorydd Watkins i ymddiheuro am ei gweithredoedd yn ffactor gwaethygol arall yn yr achos hwn. Er bod y Cynghorydd Routley yn haeru nad oedd y Cynghorydd Watkins yn ymwybodol y gallai fod wedi ymddiheuro i’r feddygfa tra bod ymchwiliad yr Ombwdsmon yn mynd rhagddo, roedd yr adroddiad drafft wedi’i gyhoeddi fisoedd yn ôl ac roedd arwydd clir y byddai ymddiheuriad wedi bod yn briodol. Er bod y Cynghorydd Watkins wedi datgan yn y gwrandawiad y byddai’n barod i ymddiheuro os oedd wedi bod yn rhy “haerllug”, nid oedd hyn yn gydnabyddiaeth gyflawn o’i hymddygiad amhriodol.

 

52.          Am y rhesymau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod y ffactorau gwaethygol yn yr achos hwn yn llawer mwy nag unrhyw fesurau lliniaru. Yna aeth y Pwyllgor ymlaen i  ystyried hyd priodol y gwaharddiad yng ngoleuni’r ffactorau gwaethygol a lliniarol hyn. Nododd y Pwyllgor fod y ddogfen Canllawiau Sancsiynau yn nodi bod cyfnod gwahardd o lai na mis yn annhebygol o gyflawni amcanion y drefn sancsiynau. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried y cyfnodau atal o dri mis a dau fis yn y drefn honno a osodwyd yn achosion Wrecsam a Sir Ddinbych am achosion tebyg o dramgwyddo paragraff 7(a). Er bod y Pwyllgor yn cydnabod bod achosion eraill o dorri’r Cod Ymddygiad wedi’u hystyried yn yr achosion hyn, ystyriwyd bod y ffactorau gwaethygol yn achos y Cynghorydd Watkins yn golygu y dylai’r gwaharddiad fod ar lefel uchaf y raddfa honno.

 

Felly, penderfynodd y Pwyllgor mai lefel deg a chymesur o waharddiad yn yr achos hwn oedd tri mis, o ystyried difrifoldeb yr ymddygiad, effaith ataliol y sancsiwn a’r angen i adfer ffydd a hyder y cyhoedd. Yn ogystal, roedd y Pwyllgor o’r farn bod camddefnydd amlwg y Cynghorydd Watkins o’i safle ar y bwrdd iechyd yn golygu na ddylai barhau yn y rôl hon. Felly, penderfynodd y Pwyllgor argymell i’r Cyngor bod y Cynghorydd Watkins yn cael ei diswyddo a’i disodli fel cynrychiolydd ar y bwrdd iechyd.

Dogfennau ategol: