Agenda item

Rhan 2 Eitemau Eithriedig neu Gyfrinachol

Ystyried gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod cyfan neu ran ohono tra bod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried ar y sail y bydd yn cynnwys datgelu gwybodaetheithriedigfel y’i diffinnir yn atodlen 12 A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) ac a yw’r eithriad yn gorbwyso budd y cyhoedd mewn datgelu.

Cofnodion:

1.            Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Watkins a oedd hi’n dymuno gofyn i’r Pwyllgor wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r gwrandawiad cyfan neu ran ohono ac a oedd hi’n ystyried y dylid cadw unrhyw rai o bapurau’r agenda yn gyfrinachol ar hyn o bryd.

Roedd cynrychiolwyr yr Ombwdsmon eisoes wedi nodi cyn y gwrandawiad nad oeddent yn gweld unrhyw reswm dros gynnal y gwrandawiad yn breifat nac i’r papurau gael eu cadw’n gyfrinachol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Watkins nad oedd yn dymuno gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan nad oedd ganddi unrhyw beth i’w guddio ac nid oedd ganddi wrthwynebiad i adroddiad yr ymchwiliad a’r papurau cefndir gael eu gwneud yn gyhoeddus. Felly, cynhaliwyd y gwrandawiad yn gyhoeddus yn unol â phrotocol cyfarfodydd o bell y Cyngor, ac eithrio’r rhannau hynny o’r gwrandawiad lle ymneilltuodd y Pwyllgor Safonau er mwyn trafod yn breifat. Cafodd rhannau cyhoeddus y cyfarfod eu recordio a’u lanlwytho i wefan y Cyngor i’r cyhoedd eu gweld. Roedd adroddiad ymchwiliad yr Ombwdsmon a’r papurau cefndir eraill a ddosbarthwyd yn flaenorol gydag agenda’r cyfarfod fel dogfennau Rhan 2 hefyd ar gael ar wefan y Cyngor i’r cyhoedd eu harchwilio.

 

2.            Cadarnhaodd y Cadeirydd fod pawb wedi cael copi o drefn y gwrandawiadau a’u bod yn deall y broses y byddai’r Pwyllgor yn ei dilyn wrth benderfynu ar y mater.

 

Cam 2 – Canfyddiadau Ffeithiol

 

3.            Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Watkins gadarnhau a oedd unrhyw ffeithiau a oedd yn destun dadl, fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio. Roedd adroddiad yr ymchwiliad wedi nodi dau faes posibl o ffaith y gellid dadlau yn eu cylch:-

 

A oedd y Cynghorydd Watkins yn gweithredu “yn y foment” wrth gysylltu â’r feddygfa dros y ffôn a gwneud ei ch?yn i’r bwrdd iechyd?

 

A wnaeth y Cynghorydd Watkins orliwio ymddygiad staff y feddygfa wrth wneud ei ch?yn i’r bwrdd iechyd?”

 

4.            Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cynghorydd Watkins fod y Pwyllgor wedi cymryd y farn ragarweiniol nad oedd y rhain yn ffeithiau dadleuol, fel y cyfryw, gan nad oedd yn ymddangos bod unrhyw fater ynghylch pa ddigwyddiadau a ddigwyddodd a beth a ddywedwyd. Roedd y rhain yn faterion a gofnodwyd, gan fod trawsgrifiad llawn o’r sgyrsiau ffôn wedi’i gynnwys yn Atodiad 12 i adroddiad yr ymchwiliad ac roedd ei chwynion ysgrifenedig i’r bwrdd iechyd hefyd wedi’u dogfennu’n dda. Roedd yn ymddangos bod y materion o anghydfod a nodwyd yn ymwneud â’i chyflwr meddwl a’i bwriad a oedd, yn eu tro, yn fwy perthnasol i ba un a oedd wedi torri’r Cod Ymddygiad ac, os felly, difrifoldeb tramgwyddiad o’r fath.

 

5.            Eglurodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Watkins y byddai’n dal i gael y cyfle i gyflwyno sylwadau ar y materion hyn yn ystod camau dilynol y gwrandawiad. Ar y sail honno, cadarnhaodd y Cynghorydd Watkins fod y ffeithiau, fel y’u nodwyd yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio, i gyd wedi’u cytuno.

 

6.            Felly, aeth y Pwyllgor ymlaen i Gam 3 o’r gwrandawiad, ar sail y ffeithiau diamheuol a ganlyn:-

 

(a)          Gwnaeth y Cynghorydd Watkins ddwy alwad ffôn i’r feddygfa ar 7 Awst 2020 i drafod gofal a thriniaeth claf;

 

(b)          Roedd y Cynghorydd Watkins yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod o’r Cyngor ac fel cynrychiolydd a benodwyd gan y Cyngor i’r bwrdd iechyd wrth eirioli ar ran y claf;

 

(c)           Roedd y Cynghorydd Watkins yn ceisio cynorthwyo claf oedrannus;

 

(d)          Canfu’r Llywiwr Gofal, Mrs Simmons, fod y Cynghorydd Watkins yn awdurdodol iawn yn ystod yr alwad gyntaf. Deliodd Mrs Simmons â’r claf yn uniongyrchol.

 

(e)          Canfu’r Llywiwr Gofal, Ms Dowsell, fod y Cynghorydd Watkins yn fygythiol yn ystod yr ail alwad a theimlai fod y Cynghorydd Watkins yn ceisio defnyddio ei safle fel aelod o’r bwrdd iechyd yn amhriodol ac mewn ffordd fygythiol.

 

(f)            Roedd staff y feddygfa yn gweithredu’n unol â pholisïau diogelu data’r feddyga.

 

(g)          Gwnaeth y Cynghorydd Watkins ddwy g?yn i Uned Gofal Sylfaenol y bwrdd iechyd, ar 20 Awst a 15 Medi 2020. Ni chadarnhaodd y bwrdd iechyd yr un o gwynion y Cynghorydd Watkins.

 

(h)          Roedd gan y Cynghorydd Watkins faterion hanesyddol gyda’r feddygfa yn ymwneud â’i gofal iechyd ei hun.