Agenda item

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mayer yr adroddiad, gan atgoffa’r pwyllgor, dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, fod gofyn i’r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed dan yr amcanion cydraddoldeb strategol, a bod gofyn iddynt hefyd fel awdurdod lleol gyhoeddi data am gydraddoldeb staff. Tynnodd y Cynghorydd Mayer sylw at bartneriaethau newydd oedd yn cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, a’u bod yn ymwneud â’r gymuned. Nododd fod ymwneud cymunedau ar lawr gwlad yn sicrhau deilliannau penodol i’r cymunedau hynny. Yr oedd yn cydnabod fod cryn heriau o ran cyflwyno mewn rhai meysydd, ond bod cynnydd yn cael ei wneud mewn meysydd eraill. Nododd fod yn rhaid i waith ar gydraddoldeb fod yn hyblyg er mwyn trin heriau newydd. Esboniodd i’r pwyllgor fod gadael yr UE wedi taro’r gymuned o fudwyr yn galed, ac y dylid canolbwyntio ar gefnogi pobl i aros yng Nghasnewydd ac amddiffyn eu hawliau. Nododd y Cynghorydd Mayer eu bod hefyd yn bwrw golwg ar drefniadau monitro ac unrhyw welliannau y gellid eu gwneud iddynt. Terfynodd trwy sicrhau bod materion cydraddoldeb yn cael eu cymryd o ddifrif fel Cabinet, ac atgoffodd y pwyllgor ei fod yn cadeirio’r gr?p Cydraddoldeb Strategol. 

 

Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes mai hwn oedd y cynllun blynyddol cyntaf oedd yn seiliedig ar y cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd, a bod 6 phwynt allweddol. Cyfeiriwyd at dudalennau 119-121 lle’r oedd crynodeb o’r deilliannau a’r llwyddiannau allweddol. 

 

Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod y Cyngor yn rhan o bolisi Dim Goddefgarwch Siarter Cyngor Hil Cymru a Siarter Cefnogi Dioddefwyr Troseddau Casineb. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y bu newid mewn deddfwriaeth am y ddyletswydd gymdeithasol-economaidd a ddaeth i rym ac a wreiddiwyd mewn gwneud penderfyniadau. Soniodd fod grwpiau staff wedi eu creu ynghylch amrywiaeth, LGBTQ+ ac anableddau er mwyn sicrhau y clywir lleisiau’r staff, a thynnwyd sylw hefyd at y gr?p hygyrchedd rhanddeiliaid. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y gwaith manwl a wnaed gyda’r gr?p Profi, Olrhain ac Amddiffyn i sicrhau yr ystyrir cydraddoldeb ac amrywiaeth diwylliannol, gan gydnabod yr effaith anghymesur ar rai cymunedau lleiafrifol. Dywedodd fod canllaw Gwrth-Fwlio Llywodraeth Cymru wedi ei wreiddio mewn prosesau a pholisïau, a thynnodd sylw at gynllun newydd i’r sawl ag anableddau dysgu i gynyddu byw yn annibynnol a’r ffaith fod Cysylltwyr Cymunedol wedi gweithio gyda 302 o drigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. 

 

Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes mai Casnewydd oedd un o’r ychydig awdurdodau lleol sy’n cyhoeddi ei fwlch tâl rhwng y rhywiau bob blwyddyn; adroddwyd am hyn yn y Cyngor, a nodwyd ei fod yn dal i wella. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes yr angen i ganolbwyntio ar y bwlch tâl sy’n gysylltiedig â nodweddion eraill, a gwnaed llawer o waith ar hyn. Dywedodd fod gwaith yn cael ei wneud i wella prosesau recriwtio, heb gau allan unrhyw nodweddion.  Cydnabu’r Pennaeth Pobl a Newid Busnes ddylanwad sylweddol Covid ar gymunedau, ac ymateb y Cyngor i statws sefydlu’r UE; sicrhaodd y pwyllgor eu bod yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ar y materion hyn.

Ategodd aelod o’r pwyllgor  sylwadau’r Cynghorydd Mayer fod bod ar y Pwyllgor Cydraddoldeb Strategol yn rhywbeth i’w fwynhau, a bod gwaith y swyddogion y  golygu bod Casnewydd yn dod yn ddinas fwy cynhwysol. Nododd yr aelod pwyllgor fod yr adroddiad wedi ei lunio’n dda. 

 

Nododd aelod pwyllgor ei bod yn dweud ar dudalen 123 fod Arweinydd y Cyngor wedi sefydlu cyfarfod bord gron cymunedol i ddwyn pobl o gefndiroedd ethnig at ei gilydd i drafod cydraddoldeb hil a gofynnodd am esboniad sut y penderfynir ar aelodaeth y gr?p, a soniodd aelod pwyllgor nad oedd wedi clywed am y gr?p o’r blaen

 

      Hysbysodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y pwyllgor mai gr?p anffurfiol ydoedd lle mae’r Arweinydd yn cwrdd â chynrychiolwyr y gymuned BAME ac yr oedd yn rhannol yn ymateb i Covid ond hefyd i faterion Black Lives Matter a materion eraill yng Nghasnewydd. Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod y gr?p hwn yn cyfarfod bob 3 mis.

 

    Nododd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig fod yr hwb cymunedol wedi hen sefydlu, a bod ynddo ryw 23 o fudiadau cymunedol ar lawr gwlad. Hwb rhithiol yw hwn, a’r aelodau yn cael eu henwebu gan y mudiadau. Nododd hefyd fod yr aelodau yn dod yn bennaf o’r prif fudiadau cydraddoldeb hil gan gynnwys Cyngor Hil Dwyrain Cymru etc., a dywedwyd ei fod wedi ei sefydlu ar gefn ymgyrch Black Lives Matter a diffyg hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus ar y pryd. 

 

Cododd aelod pwyllgor bryder am gynrychiolwyr hunan-benodedig nad ydynt o raid yn cynrychioli barn pobl eraill yn y gymuned.  Soniodd yr aelod pwyllgor am y cyfarfodydd pythefnosol gyda Heddlu Gwent a chyfarfodydd partneriaeth gyda’r Cyngor, a gofynnodd a oedd y rhain yn rhai tebyg, a sut yr oedd pobl yn cael eu penodi i’r pwyllgor bord gron.  

 

      Dywedodd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig wrth y pwyllgor fod y mater yn rhywbeth yr oeddent yn hynod ymwybodol ohono, a bod yr Arweinydd yn awyddus iawn i glywed lleisiau o lawr gwlad, yn hytrach na rhai hunan-benodoedig. Dywedodd wrth y pwyllgor fod yno gymysged dda o bobl nad oedd eu lleisiau wedi eu clywed o’r blaen a’r rhai sy’n gynrychiolwyr diwylliannol profiadol. Soniodd am y cyfarfodydd partneriaeth a’r  cyfarfodydd rhithiol bob pythefnos dan arweiniad yr heddlu a sefydlwyd yn gynnar yn y cyfnod clo, gan ddweud fod gwahoddiad agored iddynt i unrhyw un o bob cwr o Went.

 

Yroedd aelod pwyllgor eisiau canmol yr Arweinydd am ei brwdfrydedd dros ymwneud â chymunedau ethnig lleiafrifol, ond dywedodd fod angen bod yn bwyllog, gan bwysleisio pwysigrwydd pwynt yr aelod blaenorol. Nododd yr aelod pwyllgor bwysigrwydd cyfansoddiad iawn i bwyllgorau a grwpiau, a dweud ei bod yn bwysig i  Aelodau wybod am grwpiau o’r fath, pwy oedd arnynt, sut yr oeddent yn cyfarfod a pha mor aml, a pham eu bod yn dod i’r cyfarfodydd neu yn eu cyrchu. Dywedodd yr

aelodpwyllgor y dylem ofalu rhag tocenistiaeth, a phwysleisiodd bwysigrwydd ymwneud â gwahanol gymunedau yng Nghasnewydd a bod o ddifrif am gydlynu cymunedol. Holodd yr aelod pwyllgor am bwrpas Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Un Casnewydd a pham na chodwyd rhai materion os oedd asiantaethau yn cwrdd yno. Yr oedd am argymell rhoi cyfansoddiad cywir ar waith i’r pwyllgor hwnnw ac i gynnwys y gymuned wen. Cododd bryder ynghylch pobl ifanc a all deimlo diffyg cyswllt, a chael eu gelyniaethu yn fwy fyth o weld sut mae cymunedau eraill yn cael eu cynnal a’u cefnogi. Lleisiodd bryder am natur anffurfiol y pwyllgor, gan deimlo y dylai fod yn fwy ffurfiol, a chael ei hysbysebu. Yr oedd gan yr aelod pwyllgor bwynt arall o bryder ynghylch ceisiadau gan yr heddlu i atal a chwilio pobl o gymunedau lleiafrifol ethnig yn bennaf, a holodd pam na wnaed rhywbeth am hynny. Yr oedd yr aelod pwyllgor wedi cwrdd ag uwch-swyddog o’r Heddlu am hyn, ond nid oedd dim wedi digwydd.

Sonioddyr aelod pwyllgor y bu dau adroddiad yn y South Wales Argus oedd yn dangos fod cyfradd uchel Casnewydd o atal a chwilio,  a bod hyn yn bryder i gymunedau Du, Moslemaidd ac Asiaidd. Dywedodd ei fod am i hyn gael ei godi a’i fod am ddeall mwy am y peth. Dywedodd fod swyddog o’r heddlu wedi dweud wrtho fod cyfiawnhad i’r rhan fwyaf o achosion, ond mai dim ond 25% achos o atal a chwilio a ddangosodd fod trosedd wedi ei chyflawni. Tynnodd yr aelod pwyllgor sylw at y 75% o bobl oedd wedi cael eu hatal am  ddim rheswm. Ategodd yr aelod pwyllgor y dylid ffurfio’r gr?p bord gron yn gywir am nad oedd am i faterion gael eu gwthio o’r neilltu oherwydd bod pwyllgor arall mewn bodolaeth.

 

Atgoffodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y pwyllgor nad yw’r gr?p Cydraddoldeb Strategol yn bwyllgor, ond yn hytrach yn gr?p o bencampwyr, heb gyfansoddiad ac yn rhan o estyn allan gan Aelodau’r Cabinet i brofi barn. Petai’r pwyllgor am wneud argymhelliad ynghylch hynny, mai mater iddynt hwy fyddai hynny. Yr oedd yn cydnabod y pwyntiau eraill ynghylch ymwneud â chymunedau a dywedodd ei bod yn anodd weithiau clywed lleisiau eraill, ac yr oedd am sicrhau’r pwyllgor fod y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig  a’i thîm yn gweithio y tu hwnt i eitemau a drafodir, er mwyn sicrhau fod lleisiau pobl yn cael eu clywed a bod trafodaethau yn digwydd. Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y sylwadau a wnaed, a fydd yn cael eu hystyried, ac atgoffodd y pwyllgor mai eu hawl hwy oedd gwneud argymhelliad. 

 

Cydnabuaelod o’r pwyllgor ei bod yn anodd bod â gweithlu oedd yn cynrychioli poblogaeth Casnewydd. Yr oedd yr aelod pwyllgor yn pryderu am arddangos data am gynrychiolaeth, a holodd a fyddai’n berthnasol i gyd-destun y gweithlu.  Rhoddodd enghraifft o anabledd, gyda 2.1% ‘r gweithlu ag anabledd, a holodd sut yr oedd hyn yn cymharu â’r boblogaeth gyfan, ac a fyddai’n rhaid cyfyngu hyn i’r rhai dan 65 oed gan mai dyma yw’r oedran ymddeol.  Nododd fater tebyg ynghylch cyfeiriadedd rhywiol, lle’r oedd 1.3% o’r gweithlu yn uniaethu fel LGBTQ+ ac os felly a fyddai’r boblogaeth gyfan yn cael ei chymharu gan nad oedd a wnelo hyn ag oedran? Holodd a oedd modd gwneud cymhariaeth i ddangos pa mor gynrychioliadol yr oedd y gweithlu. Dywedodd yr aelod pwyllgor hefyd fod 76% o’r gweithlu yn fenywod, a thybiodd fod hyn oherwydd natur y rolau, a bod y ffigyrau penodol hyn ymhell o gydnabod cydbwysedd. Holodd y pwyllgor a oedd gwahaniaeth am statws priodasol ac nid oeddent yn si?r pa mor berthnasol ydoedd, a gofynnodd sut y byddai’r pwyllgor yn gwybod pa mor gynrychioliadol yr oedd y gweithlu, pa mor dda mae’r Cyngor yn gwneud ar hyn o bryd, a pha gynnydd oedd yn cael ei wneud.

 

      Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y gall gwahanol bwysiadau gael eu rhoi yn erbyn data, ond y nodweddion gwarchodedig sydd yn Neddf Cydraddoldeb. Sicrhaodd y pwyllgor, lle mae data ar gael, y gellir ei gynnwys i gymharu â data diweddaraf y cyfrifiad. Hysbysodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y pwyllgor mai dangosydd oedd y wybodaeth, nid absoliwt, am mai dyma a ddywedodd y gweithwyr. O ran y rhywiau oedd yn cael eu cyflogi, o’i roi mewn cyd-destun gan y Cyngor ac o edrych ar y gweithlu mewn ysgolion, er enghraifft, fod 3500 yn gweithio ydynt, a’i fod yn faes lle cyflogir menywod yn bennaf. Gorffennodd trwy ddweud fod modd cynnwys hynny mewn cymhariaeth â’r boblogaeth.

Dywedodd yr aelod pwyllgor fod ethnigrwydd yn faes i ganoli arno er mwyn cael gweithlu cynrychioliadol, a holodd sut y byddai modd cydnabod y gwahaniaeth rhwng y cyhoedd yn gyffredinol a’r gweithlu, gan fod y cyhoedd yn gyffredinol ar gyfartaledd yn h?n. Dywedodd y byddai’n dda gwybod sut mae’r cyngor yn wneud o ran cynrychiolaeth ac nad oedd yn siwr fod yr adroddiad yn adlewyrchu hynny yn llawn.

      Rhoddodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes sicrwydd i’r pwyllgor y byddai gwybodaeth ychwanegol yn cael ei gynnwys. Dywedodd, o ran anabledd, fod modd cymharu ag oedran, a nododd fod gan y Cyngor weithwyr dros 67 oed, gan nad oes gofyniad cyfreithiol i ymddeol, a bod anogaeth i weithwyr abl sy’n meddu ar sgiliau i ddal ati i weithio. Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod y pwyllgor blaenorol wedi trafod y Normal Newydd, a’r posibilrwydd o gadw mwy o weithwyr a fuasai fel arall wedi gadael eu swyddi oherwydd afiechyd. Dywedodd fod sylwadau’r aelod pwyllgor wedi eu nodi ac y bydd tabl yn cael ei gyhoeddi, gyda caveat ynghylch oedrannau.

·       Yroedd aelod o’r pwyllgor yn ategu pwynt y Pennaeth Pobl a Newid Busnes am effaith Covid ar amodau gwaith, sy’n golygu y gellir cadw mwy o bobol.

 

Gofynnwyd am eglurhad o’r ail frawddeg ar d. 123 – a oeddgorfodolyn y cyd-destun hwn yn golygu ei fod wedi ei gymeradwyo ac y bydd yn dechrau ym mis Ebrill 2022?

    Nododd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod hyfforddiant mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth hyd yma heb fod yn orfodol, a’i fod yn awr yn orfodol i’r staff. Dywedodd y byddai sesiynau yn cael eu trefnu i aelodau. 

 

    Dywedodd yr aelod pwyllgor fod angen ail-eirio’r frawddeg, a gwnaeth y Pennaeth Pobl a Newid Busnes nodyn o hyn. 

 

Nododd yr Ymgynghorydd Craffu y pwynt ynghylch a ddylid ffurfioli grwpiau cymunedol er mwyn cynrychioli eu cymunedau yn gywir. 

      Yr oedd y pwyllgor yn canmol y fenter bord gron cymunedol o ran dwyn cymunedau i mewn, ond eisiau i delerau’r gwahoddiad gael eu hegluro ac i grwpiau gael eu ffurfioli fel y gall cymunedau ymddiried yn y sawl sy’n eu cynrychioli.

 Argymhellodd y pwyllgor y dylid ail-enwi’r grwpiau bord gron cymunedol o ran sensitifrwydd i fudiad Bord Gron  Casnewydd.

    Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r grwpiau bord gron gael eu hagor i’r gymuned yn ehangach.

    Dywedodd aelod o’r pwyllgor fod yr adroddiadau yn dderbyniol, ond nad oedd digon o frys yn cael ei gyfleu, yn ogystal â pheidio ag ymdrin â phroblemau cyfredol yn gyffredinol. Yr oedd yr aelod pwyllgor yn cefnogi’r sylwadau blaenorol, ond yn teimlo fod angen mwy o frys yn y gr?p. 

 Gofynnodd y pwyllgor am wybodaeth am ba mor gynrychioliadol y mae gweithlu  Cyngor Dinas Casnewydd  yn ei gyd-destun. 

 

Dogfennau ategol: