Agenda item

Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 20/12

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad byr i’r adroddiad.  Yr oedd ynddo wybodaeth am sut y llwyddwyd i gynnal gwasanaethau trwy gyfnod hynod heriol 2020/21. Er bod gwybodaeth am berfformiad yn yr adroddiad, yr oedd y system o adrodd am berfformiad yn newid wedi ei atal dros y cyfnod hwnnw oherwydd y pandemig, sy’n golygu nad oedd yr holl fanylion ar gael yn llawn. Felly ni fu modd cynnwys rhai  o’r mesuriadau hanesyddol, ond byddai modd eu rhoi ar lafar yn y cyfarfod hwn, petai angen.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

-  Gyda’r gofynion adrodd wedi newid, sut mae modd i ni wneud cymariaethau heb ffigyrau meincnodi?

Ateb y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion oedd bod yr holl fframwaith adrodd am berfformiad wedi newid oherwydd i Lywodraeth Cymru sylweddoli nad oedd y mesuriadau blaenorol yn rhoi iddynt y wybodaeth oedd arnynt ei angen. Nid oes unrhyw dargedau wedi eu gosod eto gan y bydd angen blwyddyn lawn o ddata i sefydlu meincnod am berfformiad y dyfodol. Yr oedd y fframwaith perfformiad wedi newid, felly byddai cymharu yn erbyn y flwyddyn flaenorol yn broblemus. Byddai’n synhwyrol felly trin y cyfnod hwn fel set waelodlin o ffigyrau i adeiladu setiau data’r dyfodol arnynt ac i gynnal tystiolaeth am lwyddiant, arferion da a phwysau ar y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

-Cafwyd cynnydd mewn asesiadau – pa fath o asesiadau oeddynt? Yr oedd tua 30-40% yn asesiadau am therapi galwedigaethol, a’r garfan fawr arall o bobl oedd y rhai oedd eisiau asesiad am ofal a chefnogaeth. Yn aml, nid oedd y teuluoedd yn sicr am ba fath o gefnogaeth fyddai ei angen, felly byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda hwy a’u teuluoedd i bennu pa fath o gefnogaeth oedd ei angen, boed yn ofal yn y cartref, yn y gymuned, gofal seibiant neu ofal preswyl. Er mai pobl h?n oedd y rhan fwyaf o bobl fyddai’n destun asesiad, yr oedd hefyd oedolion o oedran gwaith, oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol, neu iechyd meddwl. Yr oedd nifer y bobl a aseswyd gydag anawsterau iechyd meddwl wedi cynyddu o ryw draean yn ystod y cyfnod hwn, ac yr oedd peth o hynny i’w briodoli i’r pandemig a’r dirywiad yn lles meddyliol pobl. Cafwyd hefyd nifer sylweddol o bobl gyda dementia cynnar a dementia yr oedd modd ei reoli o’r blaen, ond fod cyfuniad o ffactorau cysylltiedig â’r pandemig ac ynysu cymdeithasol wedi golygu nad oedd hyn bellach yn wir.  

Mewn ymateb i gwestiwn dilynol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai aelod o’r teulu yn aml fyddai’n cyfeirio pobl yr amheuwyd fod dementia arnynt i’w hasesu. Yr oedd pobl wedi dod ymlaen yn hwyrach oherwydd y pandemig ac felly, am fod eu cyflwr wedi dirywio, yr oedd eu hanghenion yn fwy cymhleth. Er ein bod yn ymdopi yng Nghasnewydd ac y byddai’r gefnogaeth oherwydd Covid gan LlC yn parhau tan fis Mawrth 2022, yr oedd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru i weld sut i ateb yr her hon. 

 

 

-  Beth oedd y sefyllfa gydag asesiadau iechyd meddwl?

Y mae hwn yn wasanaeth sydd dan bwysau cyson, ac yn awr wedi gweld cynnydd o draean mewn asesiadau iechyd meddwl.  Mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu rota dyletswydd iechyd meddwl cymeradwy 7 diwrnod yr wythnos a’r tu allan i oriau; mae hyn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill. Yr oedd prinder o bobl gyda’r hyfforddiant cywir, felly yr oeddem wedi ymrwymo i ddarparu yn fewnol, ond wedi gweld yn aml fod yr aelodau staff hyn, unwaith iddynt gymhwyso, yn symud ymlaen i awdurdodau eraill oedd yn gallu cynnig mwy o gymhellion i staff gyda’r cymwysterau addas. Gan fod yr arian i hyfforddi staff yn dod o Lywodraeth Cymru, nid oes modd i ni ychwanegu unrhyw gymalau clymu fyddai’n sicrhau bod y staff yn aros gyda’r  awdurdod unwaith iddynt gymhwyso. Y mae gan Gasnewydd enw da fel cyflogwr, a chyfradd gadw dda, ond gyda phrinder cyffredinol o staff hyfforddedig, yr oedd y system yn wastad dan bwysau.

 

-  Sut y bu cynllun talu’n ôl i’r gymuned y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithredu yn ystod y cyfnod hwn?

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y cynllun wedi dal ati yn ystod y pandemig, er mwyn ffordd wahanol. Yr oeddem wedi ceisio symud i ffwrdd oddi wrth y cynlluniau mwy traddodiadol a gwneud pethau oedd yn fwy ystyrlon o ran cynlluniau cymunedol. Er enghraifft, bu grwpiau o bobl ifanc yn rhoi pecynnau maldodi at ei gilydd i staff y GIG, a hefyd buont yn gofalu am randir. Y gobaith oedd y byddai’r newid yn y tymor hwy yn rhywbeth cadarnhaol ac yn helpu pobl ifanc i ddatblygu ymdeimlad at eraill.  

 

  - Faint o bobl oedd yn ddigartref ar hyn o bryd a beth oedd yr heriau o ran dod o hyd i lety addas?

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y byddai’n cadarnhau ac yn adrodd am y nifer, gan fod y ffigyrau yn dibynnu ar ba ddiffiniad o ‘ddigartrefoedd yn cael ei ddefnyddio. Yr Adran Tai oedd yn rhoi’r ffigyrau at ei gilydd, ac yr oedd rhai oedd yn ddigartref yn barhaol yn hytrach na rhai oedd, er enghraifft, yn symud o soffa i soffa ac felly ond yn ddigartref dros dro.

Serchhynny, yr oedd canfod llety parhaol i bobl yn gryn her, dim ond o ran y llety oedd ar gael ar hyn o bryd. Yn ystod y pandemig a thrwy ymdrechion cydweithwyr yn y timau tai, gwasanaethau cymdeithasol a chefnogaeth tai, heb sôn am gysylltu â phartneriaid a gwaith gyda’r sector wirfoddol, fe wnaethom yn si?r ein bod yn gallu symud pobl i mewn i lety a’u cadw’n ddiogel. Yr her yn awr fydd ceisio trosi peth o hynny yn atebion tymor hir i gael pobl i lety parhaol, ynghyd â delio â rhai o’r heriau a olygodd eu bod yn y picil hwn yn y lle cyntaf: yr oedd cyffuriau ac alcohol yn faes lle’r oedd angen llawer o waith. Cynigiwyd llety i bawb, ond i rai, am amrywiaeth o resymau cymhleth iawn, naill ai nid oeddent wedi gallu aros yn y llety a gynigiwyd neu eu bod wedi gwrthod help. 

 

 

-Pa ofal arbenigol fyddwn ni yn ei ddarparu i bobl â dementia?

 

Yr ydym wedi gwneud newidiadau i’r modd yr ydym yn darparu gwasanaethau dydd i’r henoed a chefnogaeth i bobl h?n, ac yn benodol wedi rhoi darpariaeth a chefnogaeth arbenigol i bobl â dementia, ac y mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn canoli fwyfwy arno. Ochr yn ochr â hyn, yr oedd darparu seibiant a chefnogaeth i ofalwyr pobl â dementia yn hollbwysig. Darparwyd hyfforddiant arbenigol i’n staff, ac yr ydym hefyd wedi gwella newid amgylchedd ffisegol ein cartrefi gofal i’w gwneud mor addas ag y gallwn i bobl â dementia.

 

-A oedd Casnewydd yn rhan o’r ymdrech i adsefydlu ffoaduriaid o Afghanistan?

 

Arhyn o bryd, nid yw manylion y rhaglen adsefydlu yn hysbys, gan fod hynny yn rhan o gylch gorchwyl y Tîm Partneriaethau, er pan ddeuai yn fater o blant bregus, y byddai

Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd yn ymwneud â’r agwedd deuluol. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd ac yr oedd y Gwasanaethau Plant yn gweithio i gefnogi plant oedd yn ceisio lloches ac oedd heb neb gyda hwy. Rhagwelwn gynnydd yn nifer y plant sy’n cyrraedd o Afghanistan ac yn dod i’r porthladdoedd; mae nifer o blant yn awr wedi cael eu gosod gan y Swyddfa Gartref mewn gwestai, sy’n bell o fod yn foddhaol.  Yr ydym yn edrych i weld sut y gallwn gynnig llety a chefnogaeth i’r plant fyddai’n cael eu cyllido gan y Swyddfa Gartref, er y byddai oblygiadau cost i’r awdurdod lleol oherwydd problemau staffio. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant i gyflwyno adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol am y gwaith sy’n cael ei wneud gyda phlant oedd yn ceisio lloches ac oedd heb neb gyda hwy, ac yr oedd y Cadeirydd yn croesawu hyn.

 -Nododd Aelod y carai glywed gan Weinidogion y Llywodraeth yn y dyfodol.

 

-Sut ydym ni wedi addasu ein ffyrdd o weithio a beth oedd y sefyllfa yn y llysoedd? 

 

Busnesfel arfer fu hi i lawer o swyddogaethau oedd yn wynebu’r cyhoedd, ond gan addasu i gyfyngiadau Covid a rhoi rheoliadau ar waith megis PPE, pellter cymdeithasol, etc. Bu mwy o weithio o gartref gyda chyfarfodydd dros Teams etc. a’r staff yn addasu i weithio yn fwy hyblyg. Bu’n haws cydgordio cyfarfodydd strategaeth ac yn fwy effeithlon eu cynnal yn rhithiol yn hytrach na cheisio cael y cyfranogwyr i gyd at ei gilydd, felly bu hyn yn welliant. Yr adborth oedd bod hyn yn fwy poblogaidd, felly at y dyfodol, mae’n debyg y byddai’r dull hybrid hwn o weithio yn parhau. Fodd bynnag, ni ddylid anwybyddu’r pwysau ar y staff, a byddai’n rhaid ystyried eu lles hwy dros y gaeaf, er mwyn gwneud yn siwr fod eu hiechyd meddwl yn cael sylw. 

Yroedd achosion llys oll wedi symud ar-lein ar ddechrau COVID-19 ac yr oedd problemau o hyd gyda gwahanol lwyfannau TG yn cael eu defnyddio. Un fantais oedd nad oedd yn rhaid i’n gweithwyr cymdeithasol dreulio oriau maith yn y llys, ond yr oedd achos dros geisio cael pobl yn ôl i’r llys ar gyfer rhai gwrandawiadau. I rai rhieni, yr oedd yn haws o lawer bod yn y llys a chlywed a deall beth oedd yn digwydd; agwedd gymysg oedd yn cael ei chymryd ar hyn o bryd ledled Cymru a Lloegr. Y nod ar gyfer datrys achosion yn y Llys Teulu oedd chwe wythnos ar hugain, ond bu cryn oedi i gyrraedd y targed hwn. Y cyfnod cyfartalog o aros i blant yn y llys oedd trideg pedair wythnos. Yng Nghasnewydd, cafwyd gostyngiad y nifer yr achosion yn y Llys Teulu, ond yr oedd y rhain yn achosion arwyddocaol oedd yn drawmatig iawn i’r staff ddelio â hwy, ac yn anffodus, nid oedd unrhyw welliant mewn amseroedd aros yn debygol am amser maith.

 

-Bu cryn danwariant mewn Gwasanaethau Oedolion a Chymuned oherwydd darpariaethau grantiau Covid. A fu’n bosib buddsoddi’r arian hwn a’i ddefnyddio yn rhywle arall?

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a’r Aelod Cabinet fod y tanwariant wedi bod yn ganlyniad i grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ac amddiffyn gwasanaethau gofal, a gwelsom hefyd ostyngiad yn nifer yr henoed oedd dan ein gofal oherwydd i gyfradd y marwolaethau godi. Yr oedd arian y grant wedi ei dargedu’n benodol i atal cartrefi gofal rhag cau, ac yr oedd cyfyngiadau ynghylch ei ddefnyddio, felly ni fu modd i ni ddefnyddio’r gyllideb honno ar gyfer prosiectau cyfalaf. Yr oeddem wedi buddsoddi’r arian lle’r oedd orau, megis cyflogi mwy o staff mewn cartrefi gofal lle’r oedd modd, ac yr oeddem hefyd wedi uwchraddio’r system alwadau yn ein cartrefi gofal. Fodd bynnag, ni fu modd i ni ymgymryd ag unrhyw ymrwymiadau tymor-hir fel codi cyflogau yn y tymor hir, gan mai arian tymor byr oedd y grant.

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymuned am ei hadroddiad oedd yn dangos fod yr adran wedi dal ati i weithio’n dda dros ben yn ystod y pandemig.

 

Dogfennau ategol: