Agenda item

PSPO Canol y Ddinas

Cofnodion:

Dechreuodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio drwy esbonio'r

broses ddemocrataidd hyd yma. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio wrth y pwyllgor y cafwyd 108 o ymatebion dienw i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor eu bod wedi nodi a bwrw ymlaen â'r egwyddorion yr oedd y pwyllgor wedi gofyn iddynt eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwn ar gyfer y gwaith cymharol rhyngddo a'r ymgynghoriad ar PSPO Pillgwenlli. Amlygodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod wedi cadw'r arddull a'r cwestiwn a'r fformat wrth ddefnyddio PSPO Pillgwenlli ar gyfer y broses ymgynghori hon, gan gynnwys rhai o'r cwestiynau a'r arsylwadau a wnaed gan y pwyllgor hwn ynghylch y PSPO blaenorol; roedd y rhain yn cynnwys rhoi disgrifiad manylach o breswylwyr a busnesau a oedd yn ymateb, ac ychwanegu cwestiynau ynghylch profiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf. Hysbysodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor fod yr ymgynghoriad wedyn yn parhau â'r fformat blaenorol, lle byddai'n mynd drwy gyfyngiadau gan gynnig opsiwn cytuno/anghytuno i ymatebwyr. Hysbysodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor mai'r briff cyffredinol oedd fod cefnogaeth eang tuag at y PSPO hwn; cytunwyd y dylid cadw'r ardal dan sylw yr un peth, er bod nifer nodedig o ymatebwyr yn nodi y dylid ehangu'r ardal. Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod rhai ceisiadau penodol i'r pwyllgor ymgynghori mwy ar y cyfyngiadau ar gardota ymosodol o amgylch peiriannau codi arian, a diwygiwyd proses yr holiadur er mwyn ystyried hynny. 

 

Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor fod yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o natur yr ymatebion, er bod peth testun penodol o'r ymatebion wedi'i gynnwys. 

 

Amlygodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio yr argymhellion yn yr adroddiad: y dylai'r pwyllgor argymell i'r Cyngor y dylid gweithredu'r PSPO newydd, gyda mesurau rheoli ychwanegol yn gysylltiedig â defnydd anniogel a pheryglus o e-sgwteri a beiciau, yn ogystal â pheidio cynnwys rheolaeth ar droethi neu ymgarthu, er i'r Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio atgoffa'r pwyllgor nad oedd hyn wedi'i ddiystyru'n llwyr, ac y gellid ei ychwanegu pe bai angen. 

 

Mynegodd aelod o'r pwyllgor siom ynghylch nifer yr ymatebion a gafwyd, ac atgoffodd wahoddedigion a'r pwyllgor fod y pwyllgor wedi gofyn am gael hysbysebu'r ymgynghoriad yn fynych, a bod yr hysbyseb wedi'i gweld yn wythnosol, er bod y diffyg ymateb yn dal yn drueni. Teimlai aelod y pwyllgor fod yr ymatebion a gafwyd yn pegynnu i'r naill eithaf a'r llall. Cymeradwyodd aelod o'r pwyllgor fod e-feiciau wedi'u cynnwys yn yr arolwg, fel y gofynnwyd. 

 

 Nododd aelod o'r pwyllgor y gellid camddehongli cwestiwn 5C yn yr arolwg yn rhwydd,

sef yn hytrach na holi a oedd gwahardd cardota o fewn 10 metr yn briodol, a fyddai gwaharddiad ehangach ar gardota yn briodol. Teimlai'r aelod o'r pwyllgor fod y cwestiwn hwn yn rhy amwys.

 

    Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio yr anhawster a gafwyd wrth eirio'r cwestiwn hwn ac ailadroddodd fod y cwestiwn yn gofyn a oedd y cyswllt rhwng gwaharddiadau ar gardota a mannau codi arian yn dal i fod yn berthnasol i'r cyhoedd.

 

 

Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio nad oedd cardota yn anghyfreithlon, ac nad oedd wedi'i wahardd, ac y dylid rhoi cefnogaeth i bobl pe baent yn eu cael eu hunain yn y fath sefyllfa. Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mai rôl swyddogion oedd "canfod ffordd drwy hyn", ac er nad oedd cardota yn anghyfreithlon, roedd brawychu ac ymddygiad ymosodol yn anghyfreithlon, a dyna pam y cafodd y cyfeiriad at beiriant codi arian ei gynnwys. Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod cynnwys y cyswllt hwn yn seiliedig ar adborth gan yr Heddlu a swyddogion a oedd wedi gorfodi'r mesur a chanfod ei fod yn ymyriad effeithiol.  

 

Gofynnodd yr aelod o'r pwyllgor a oedd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio yn deall y gellid camddehongli'r cwestiwn gan dybio ei fod yn gofyn a ddylid gwahardd cardota yn llwyr.  

 

    Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio mai pwrpas y cwestiwn oedd deall a oedd y cyhoedd yn teimlo y dylai'r cyfyngiad ar gardota fod yn gysylltiedig â man codi arian ai peidio, ac er bod amrywiaeth o safbwyntiau wedi dod i law, nid oeddent mor glir â rhai o'r ymatebion eraill. 

 

 Nododd aelod o'r pwyllgor fod 78.5% o'r ymatebion yn cytuno y dylid cael gwared â'r cyswllt, a chadarnhawyd hynny gan Reolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio. 

 

Gofynnodd yr aelod o'r pwyllgor am gadarnhad na fyddai'r cyswllt yn cael ei ddileu, er gwaethaf ymateb y cyhoedd.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio na fyddai'r cyswllt yn cael ei ddileu. 

 

Cytunodd aelod o'r pwyllgor fod y cwestiwn yn amwys. Er gwaethaf yr ymatebion i'r ymgynghoriad, mynegodd yr aelod o'r pwyllgor siom na fyddai'r cyhoedd yn cael gwrandawiad yn yr achos hwn, a mynegodd bryder ynghylch y neges a fyddai'n cael ei chyfleu, o beidio gwrando ar y cyhoedd.  Mynegodd yr aelod o'r pwyllgor hefyd siom ynghylch nifer yr ymatebion, gan deimlo ei bod hi'n annhebygol mai bodlonrwydd ymhlith y cyhoedd oedd wrth wraidd y nifer fach o ymatebion. Teimlai'r aelod o'r pwyllgor y dylid bod wedi hysbysebu'r ymgynghoriad yn ehangach ar y cyfryngau cymdeithasol, ac awgrymodd y dylid bod wedi cynnal arolygon dros y ffôn er mwyn ymgysylltu'n well â'r cyhoedd. Nododd yr aelod pwyllgor nad oedd 21% yn gyfran arbennig o fawr o bobl o ran yr ymateb i'r cwestiwn ynghylch y cyswllt rhwng mannau codi arian a chardota.

Tynnodd yr aelod o'r pwyllgor hefyd sylw at y cwestiwn ynghylch profiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, lle adroddodd canran fawr o bobl eu bod wedi profi ymddygiad wrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas. Holodd yr aelod o'r pwyllgor beth fyddai'n cael ei wneud ynghylch hyn o ran gweithio gyda'r Heddlu, a nododd fod yr Heddlu, y tro diwethaf iddo siarad â nhw, o blaid cael pwerau ychwanegol. Roedd yr aelod pwyllgor yn cydnabod na fyddai hyn yn datrys pob problem, ac y dylid gwrando ar bryderon y cyhoedd. 

 

    Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddiol y pwyllgor eu bod wedi hysbysebu'r neges a'r ymgynghoriad cyn belled ag y gallent, a bod yr arolwg wedi mynd allan yn unol â'r ymatebion wythnosol ac y gellir bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

 

Amlygodd aelod pwyllgor yr ymatebion i gwestiwn 2A a gofynnodd beth oedd y trothwy ar cyfer cynnwys hyn, yr oedd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wedi'i grybwyll yn flaenorol. Nododd yr aelod pwyllgor mai'r ymddygiad gwrthgymdeithasol y daethpwyd ar ei draws fwyaf oedd gollwng sbwriel. Er nad oedd wedi profi troethi cyhoeddus nac aflonyddu geiriol, nododd yr aelod pwyllgor fod hynny'n annymunol, a mynegodd y byddai'r cyhoedd yn debygol o gytuno.  Teimlai aelod y pwyllgor mai prif broblem yr arolwg oedd na ellid gwybod a oedd yn arolwg da heb ei ryddhau yn gyntaf. Teimlai'r aelod pwyllgor fod anghysondeb rhwng yr hyn a brofwyd a'r hyn yr oedd y cyhoedd yn ei wrthwynebu'n gryf. 

                                  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio

 fod yn rhaid i unrhyw beth a oedd yn cael ei gynnwys fel cyfyngiad fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac er bod ymgynghori yn rhan bwysig o'r broses, nad oedd modd cynnwys cyfyngiad heb dystiolaeth briodol ar gyfer y PSPO fod hynny'n broblem. Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddiol y pwyllgor fod deddfwriaeth arall yn ymdrin â materion penodol nad oeddent wedi'u cynnwys yn y PSPO.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddiol wrth y pwyllgor nad oedd trothwy rhifiadol i gynnwys cyfyngiadau, ond wrth ddarllen yr ymatebion, ei ddealltwriaeth ef a'r swyddog oedd fod mwy o gefnogaeth drwy'r adborth/sylwadau'n codi pryder ynghylch e-sgwteri na throethi. 

 

    Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor fod canllawiau ynghylch llunio PSPOs yn nodi bod yn rhaid i PSPO gynrychioli'r dull mwyaf priodol o ymdrin â'r materion dan sylw. Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid cynnwys hyn yn ddiweddarach, neu ei ychwanegu yn dilyn adolygiad pellach pe bai angen. 

 

Teimlai aelod pwyllgor y dylid cynnwys cyfyngiad ynghylch troethi cyhoeddus/ymgarthu.

 

Nododd aelod pwyllgor fod yr ymgynghoriad yn arolwg diffygiol oherwydd prinder yr ymatebion. Dywedodd yr aelod o’r pwyllgor fod y pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth gan yr Heddlu a swyddogion eraill ynghylch gweithrediad y PSPO dros y cyfnod diwethaf. Nodwyd mai anaml yr oedd y PSPO wedi cael ei ddefnyddio a hynny'n aml oherwydd problemau staffio o fewn yr Heddlu a'r Cyngor. Teimlai aelod y pwyllgor nad oedd rhyw lawer o bwysau i newid y PSPO o'i fersiwn flaenorol. Mynegodd yr aelod pwyllgor y dylid cydnabod gwaith caled yr Heddlu a swyddogion ac y dylid argymell cadw'r PSPO fel y mae.

 

Adleisiodd aelod pwyllgor fod llawer o waith wedi cael ei wneud yn y cefndir, ac roedd yn gwerthfawrogi'r gwaith hwnnw a'r ffaith bod sylwadau'r pwyllgor wedi cael ystyriaeth. Cytunai'r aelod pwyllgor y dylid bwrw ymlaen â'r PSPO fel yr oedd. Amlygodd yr aelod pwyllgor ei bod hi'n dda gweld e-sgwteri'n cael eu cynnwys. 

 

Mynegodd aelod pwyllgor fod yr ymateb gwan i'r ymgynghoriad yn drueni. Teimlai'r aelod pwyllgor

na ellid defnyddio'r data cyfredol i wneud unrhyw argymhellion ystyrlon. Dywedodd yr aelod pwyllgor y dylai caffael y data ar gyfer yr holiadur, ac o'r holiadur, fod wedi cael ei ystyried yn dasg frys. Mynegodd aelod y pwyllgor fod rhyngweithio â thrigolion Casnewydd yn arf werthfawr er mwyn rhoi gwrandawiad i'r gymuned. 

 

Cytunodd aelod o’r pwyllgor y dylid ystyried dulliau gwell o gynnal arolwg, ac y dylid ailystyried sut i ymgynghori â'r cyhoedd wrth symud ymlaen. 

 

Cytunodd aelod pwyllgor y dylid parhau â'r PSPO cyfredol. Mynegodd yr aelod pwyllgor fod yn rhaid i'r ddinas gael PSPO, gan ei fod wedi gwneud gwahaniaeth.

 

Teimlai'r aelod pwyllgor nad problem i'r pwyllgor hwn ac i'r ymgynghoriad hwn yn unig oedd prinder yr ymatebion, ac roedd angen mynd i'r afael â'r broblem drwy gynnig amrywiaeth o ffyrdd i gasglu ymatebion i ymgyngoriadau. Atgoffodd yr aelod  y pwyllgor na chafwyd llawer o amser i ystyried y PSPO hwn na'r ymgynghoriad gan fod y

PSPO blaenorol wedi dod i ben, a bod angen i'r Cyngor gymeradwyo PSPO newydd. Roedd yr aelod pwyllgor yn anghytuno y dylid gadael y PSPO fel y mae, gan fod beiciau/sgwteri/byrddau sgrialu yn achosi problemau mewn ardaloedd i gerddwyr yn y ddinas, ac roedd pobl oedrannus wedi mynegi bod hyn yn broblem. Teimlai'r aelod pwyllgor y gallai rheoli'r dulliau hyn o deithio wneud i breswylwyr deimlo'n fwy cyffyrddus yng nghanol y ddinas. Nododd yr aelod pwyllgor, er cyn lleied yr ymatebion, fod llawer o breswylwyr wedi nodi bod hyn yn broblem, ac y byddai felly'n chwith peidio ychwanegu'r cyfyngiad hwnnw, yn unol â PSPO Pillgwenlli. Teimlai'r aelod pwyllgor y byddai peidio cynnwys y cyfyngiad, er i ymgynghoriad gael ei gynnal â'r cyhoedd, yn edrych yn wael. Amlygodd aelod y pwyllgor na fyddai'r mesur yn gwrthdaro â theithio llesol gan fod mesurau eraill ar waith, fel cynlluniau i gysylltu llwybrau beicio.

Eglurodd aelod pwyllgor fod yr ymadrodd "fel y mae" yn gysylltiedig â'r PSPO yn golygu'r adroddiad PH yn hytrach na'r PSPO a oedd eisoes wedi'i weithredu.

 

    Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio y pwyllgor fod swyddogion hyfforddedig y Cyngor a’r Heddlu yn gwneud defnydd doeth o unrhyw gyfyngiad, a bod y Cyngor wedi ymrwymo i’r rhwydwaith teithio llesol, ac y byddai hyn yn cael ei orfodi mewn modd priodol yng nghyswllt gweithgarwch anniogel, peryglus neu droseddol ar feiciau/e-sgwteri. 

 

Teimlai aelod pwyllgor na ddylid anghofio'r ymdrech a wnaed hyd yma gyda'r PSPO, gan fod hynny'n dal i fod yn berthnasol. Ategodd yr aelod pwyllgor y byddai mwy o ymgysylltu wedi cael ei groesawu, ac yn y dyfodol y dylid gwneud mwy o ymdrech i gael ymatebion gan y cyhoedd gan fod y sampl yn rhy fach i seilio'r dyfodol arno. Sicrhaodd aelod y pwyllgor bawb nad oedd neb ar fai am y diffyg ymateb, ond dylid derbyn yn gyffredinol bod angen gwella wrth symud ymlaen.

 

Nododd y Cynghorydd Thomas fod cyfran fawr o’r ymatebion yn dangos bod trigolion wedi dod ar draws troethi ac ymgarthu, ac er nad oedd y Cynghorydd ond wedi dod ar draws ymgarthu cyhoeddus ddwywaith mewn cyfnod o ddeng mlynedd, credai'r Cynghorydd y byddai llawer o breswylwyr yn cael eu cynhyrfu wrth feddwl am y weithred, ond na fyddent o'r farn ei bod yn broblem gyffredin.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Thomas yr hyn a oedd wrth wraidd yr ymatebion - hynny yw, a oedd yr ymatebwyr yn mynegi'r hyn yr oeddent yn ei deimlo oedd yn broblemau cyffredin, neu a oeddent hwy eu hunain wedi profi'r broblem. Mynegodd y Cynghorydd Thomas bryder nad oedd digon o dystiolaeth yn sylfaen i gymryd camau priodol. Nododd y Cynghorydd Thomas fod yr heddlu a swyddogion yn ymwybodol o'r rhai a oedd yn cardota'n ymosodol yn gyson, ond teimlwyd bod yr ymatebion yn fwy o adlewyrchiad o bryderon y cyhoedd ynghylch gweithredoedd

 

nag adlewyrchiad o'u profiadau. Nododd y Cynghorydd Thomas fod yna ymdeimlad cyffredinol o anhrefn yng nghanol y ddinas, ond tynnwyd sylw at y ffaith bod rhywfaint o ymddygiad gwrthgymdeithasol i'w gael ym mhob dinas, a byddai'n drueni cyflwyno newidiadau eithafol ac ehangu cyfreithiau lle nad oedd angen hynny, lle nad oedd hynny'n briodol. 

 

Ategodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio fod yn rhaid cadw cysylltiad â thystiolaeth. Atgoffwyd y pwyllgor gan Reolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio fod Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i PSPO, a bod gwaith yn cael ei wneud i gynghori cyn cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig, nad oedd Hysbysiadau Cosb Benodedig (o'u talu) yn creu unrhyw gofnod troseddol, ac mai ond mewn sefyllfaoedd lle nad oedd yr Hysbysiad yn cael ei dalu y byddai'r system llysoedd yn mynd ar drywydd y mater.

 

Teimlai aelod pwyllgor fod angen darparu cyfleusterau toiled 24 awr yng nghanol y ddinas. O wneud hynny, teimlai'r aelod pwyllgor nad oedd unrhyw esgus i ymgarthu na throethi'n gyhoeddus, a gofynnodd am y Swyddog Heddlu a oedd yn bresennol a oedd o'r farn y byddai hyn yn fuddiol. 

 

    Nododd yr Arolygydd Jodie Davies ei bod yn anodd profi pwy oedd wedi cyflawni’r drosedd, ac fel roedd yr arolwg yn ei awgrymu, roedd y cwynion ynghylch hyn yn brin. Dywedodd yr Arolygydd Jodie Davies y gellid defnyddio pwerau gwahanol i ymdrin â'r broblem hon, ac nad oedd angen ei chynnwys ar unwaith yn y PSPO.  

 

 

 Gofynnodd yr aelod pwyllgor a fyddai'n fuddiol cael toiledau 24 awr, a dywedodd yr Arolygydd Jodie Davies y byddent, yn enwedig ac ystyried yr economi gyda'r nos yng Nghasnewydd.

 

Adleisiodd aelod o'r pwyllgor nad oedd yn brofiad dymunol dod ar draws rhywun yn troethi'n gyhoeddus. Nododd yr aelod pwyllgor ei fod wedi dod ar draws y broblem hon, a bod hynny wedi digwydd er bod TCC yn weladwy. Adleisiodd yr aelod pwyllgor y teimladau blaenorol, sef bod angen edrych ar y sefyllfa, nad oedd ymateb y cyhoedd yn dda, a bod angen gwneud mwy o waith i annog ymatebion yn yr arolygon nesaf. 

 

Mynegodd aelod o'r pwyllgor bryder ynghylch cardota nad yw'n ymosodol. Er nad oedd yr aelod pwyllgor o blaid gwneud hynny'n drosedd, roedd hi'n ddigalon gweld pobl yn cardota a'r offer cysylltiedig, ac effaith hynny yng nghanol y ddinas. Dywedodd yr aelod pwyllgor wrth y pwyllgor fod cwynion wedi dod i law gan fusnesau lleol fod preswylwyr yn eistedd y tu allan i siopau'n cardota, a'u bod yn teimlo bod hynny'n creu delwedd wael o'r ddinas. Holodd yr aelod pwyllgor a ellid gwneud unrhyw beth ynghylch yr offer, a phe bai gwaharddiad llwyr ar gardota ddim yn cael ei gynnwys, sut y gellid ymdrin â'r mater. 

 

    Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio y pwyllgor mai pwrpas PSPO oedd ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod yn rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gysylltiedig â hynny; os nad oedd cardota yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol, ni ddylid ei gynnwys.

 

Amlygodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio fod rhwydweithiau'n gweithio ar draws Casnewydd i fynd i'r afael â hyn. Roedd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio yn cydnabod y pwynt ond yn teimlo nad dyma oedd y dull o ymdrin â'r broblem.

 

    Derbyniodd yr aelod pwyllgor yr ateb hwn. Nododd yr aelod pwyllgor fod dinasoedd eraill wedi gwahardd cardota yn llwyr, ac roedd yn teimlo y byddai hynny'n fwy dymunol na'r hyn a oedd yn cael ei weld yng Nghasnewydd ar hyn o bryd. Er nad oedd am swnio'n annynol, mynegodd yr aelod pwyllgor y gallai hyn greu'r argraff fod y Cyngor yn caniatáu i'r broblem barhau, yng nghyd-destun yr ymdrech i adfywio canol y ddinas, a'r feirniadaeth a gafwyd ynghylch hynny o du'r cyhoedd. Mynegodd yr aelod pwyllgor nad oedd trosglwyddo cyfrifoldeb rhwng yr Heddlu a'r Cyngor yn gynhyrchiol, a holodd a ddylid gwneud argymhelliad i fynd i'r afael â'r broblem cardota a goblygiadau ehangach hynny, yn enwedig o ran offer, eitemau'n cael eu gadael a bwyd ac ati. 

 

    Er bod llawer o faterion i fynd i'r afael â nhw yng Nghasnewydd, teimlai Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio mai'r ffocws ar hyn o bryd oedd y PSPO, a bod hon yn ffrwd waith wahanol a chanddi oblygiadau pwysig yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac asesiadau effaith. Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio y pwyllgor fod llinellau gwaith niferus o fewn y tîm Wardeniaid Diogelwch Cymunedol ac o fewn tîm y Bartneriaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn, a bod y Rheolwr Cymunedol wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar lawer o’r materion hyn.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio, pe bai'r pwyllgor yn teimlo y dylid gweithio ar PSPO i gynnwys y problemau hyn, byddai hwnnw'n ddarn gwahanol iawn o waith, a byddai angen ei wneud ar wahân i'r PSPO cyfredol. 

 

Nododd aelod pwyllgor y dylid sicrhau cysondeb rhwng PSPO Pillgwenlli a PSPO Canol y Ddinas i leihau dryswch.

 

    Cytunodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio, gan amlygu'r ffaith bod elfennau sylweddol eisoes yn gyffredin rhwng y naill a'r llall, a rhai darnau a oedd yr un peth air-am air, er y gellid bod angen gwneud rhywfaint o resymoli. 

 

Cytunodd aelod o'r pwyllgor â'r pwynt blaenorol a godwyd ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â sefyll/eistedd y tu allan i siopau, gan deimlo y gellid ystyried y presenoldeb hwnnw'n frawychus. Teimlai'r aelod pwyllgor y dylai'r cyhoedd gael eu diogelu, a bod gan lawer o gardotwyr broblemau na ellid eu datrys yn gynhyrchiol drwy roi arian iddynt. Cydnabu’r aelod o’r pwyllgor fod sefydliadau cymorth yn bodoli i helpu gyda'r problemau hyn, od holodd a oedd dinasoedd a threfi eraill wedi defnyddio PSPO i ymdrin â nhw. Gofynnodd yr aelod pwyllgor am gadarnhad mai methu â gwneud hyn yr oedd y Cyngor, yn hytrach na bod diffyg ewyllys i ddefnyddio PSPO i ymdrin â hyn.

 

    Atgoffodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio y pwyllgor fod PSPO yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pe bai'r Cyngor yn gwahardd cardota yn gyffredinol, ac ar ben hynny, yr offer cysylltiedig, dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio y byddai hynny'n creu goblygiadau sylweddol o ran hawliau dynol. Ailadroddodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod yn rhaid yn rhaid cael tystiolaeth ar gyfer mesurau PSPO, a bod yn rhaid iddynt fod yn angenrheidiol ac yn gymesur â'r problemau. Oni fyddai tystiolaeth glir yn cael ei darparu i ddangos bod gwaharddiad yn ymateb cymesur, byddai PSPO o'r fath y agored i'w herio, ac yn sgil hynny gallai'r PSPO yn ei gyfanrwydd gael ei herio, gan olygu na ellid gweithredu unrhyw fesur. Awgrymodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio y dylid symud ymlaen gyda'r GDMC fel yr oedd yn yr adroddiad ac edrych ar faterion ehangach yn rhan

o'r rhaglen adolygu. 

 

Dywedodd aelod pwyllgor y byddai'n amhriodol gorfodi dirwy gan fod rhywun yn ystyried bod rhywun arall yn frawychus oherwydd ei ymddangosiad, a bod hynny'n tresmasu'n ormodol ar hawliau dynol yr unigolyn, ac yn amhriodol. 

 

Dywedodd aelod pwyllgor fod rhai preswylwyr yn teimlo'n rhy ofnus i fynd i ganol y ddinas, ac nad oedd hynny'n briodol, nac o unrhyw fudd i'r naill na'r llall. Cyfeiriodd yr aelod pwyllgor at y ffaith bod sefydliadau cymorth a banciau bwyd ar gael i bobl ddigartref, ac roedd yn teimlo bod llawer o bobl yn cardota i brynu cyffuriau neu alcohol, a bod angen cymorth a chefnogaeth arnynt. Serch hynny, teimlai na ddylai preswylwyr na masnachwyr deimlo'n ofnus, a bod hynny hefyd yn tresmasu ar eu hawliau dynol hwythau. 

 

Dywedodd aelod pwyllgor, yn ôl yr hyn a ddeallai, os oedd pobl yn gofyn am arian, fod hynny'n gardota ymosodol, ac na ddylid, ac na ellid rhoi dirwyon i breswylwyr a oedd yn sefyll wrth fynedfa neu ar y stryd. 

 

Nododd aelod pwyllgor mai rhywbeth goddrychol oedd yr ymdeimlad o fraw. 

 

Derbyniodd aelod pwyllgor nad y PSPO oedd y cyfrwng i'w ddefnyddio i wahardd cardota, ac nid oedd am beryglu'r PSPO, ond teimlai fod angen i rywun fynd i'r afael â'r broblem neu byddai'n parhau. Teimlai'r aelod pwyllgor fod gweld pobl yn eistedd ar y stryd yn cardota yn brofiad eang a chyffredin, ac waeth beth fo'r dull o gardota, nid oedd yn brofiad braf i'r preswylwyr. Er gwaethaf y sicrwydd gan sefydliadau cymorth a chyfraniadau elusennol, teimlai'r aelod pwyllgor fod y broblem yn parhau. Teimlai'r aelod pwyllgor fod angen i rywun fynd i'r afael â'r broblem, ac o leiaf fynd i'r afael â'r broblem yn gysylltiedig ag offer. Nododd yr aelod pwyllgor nad oedd hyn yn rhoi delwedd dda o ganol y ddinas, a'i fod yn atal pobl rhag dod i siopa ac ymweld â'r ardal. Roedd yr aelod pwyllgor yn cydnabod bod hyn yn broblem mewn dinasoedd eraill, ond ei fod yn amlwg iawn yng Nghasnewydd. Cytunai'r aelod pwyllgor nad dyma oedd y lle i drafod y mater yn uniongyrchol, ond gofynnodd i'r pwyllgor argymell y dylid edrych ar y mater hwn ar y lefel gywir, ac amlygu pa mor ddifrifol yw'r broblem. 

 

Symudodd y pwyllgor i bleidlais. Y canlyniad oedd 6 o blaid ac 1 yn erbyn, a neb yn ymatal. 

 

Diolchodd y pwyllgor i'r swyddogion a'r gwahoddedigion am eu hamser a'u hymdrech.

 

Gofynnodd aelod pwyllgor am ddiffiniad o gardota ymosodol gan yr Arolygydd Jodie Davies. 

    Eglurodd yr Arolygydd Jodie Davies fod cardota ymosodol yn golygu cardota gan weiddi, rhegi neu weithredu'n gysylltiedig â hynny. Cydnabu'r Arolygydd y gallai gofyn yn unig gael ei ystyried yn gardota ymosodol, er nad oedd yn cyd-fynd yn dechnegol â'r diffiniad. 

    Sicrhaodd yr Arolygydd Jodie Davies y pwyllgor fod problemau yng nghanol y ddinas yn derbyn ystyriaeth ac yn cael eu trafod. Roedd hi'n cydnabod hefyd fod angen mynd i'r afael ag achosion wrth wraidd cardota, a dyna'r hyn yr oedd yr Heddlu'n gobeithio'i wneud gyda chymorth partneriaid.

 

Dogfennau ategol: