30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.
Cofnodion:
Rhoddodd yr Uwcharolygydd Mike Richards y newyddion diweddaraf am y blaenoriaethau presennol o ran plismona lleol, cyn gofyn am gwestiynau gan yr Aelodau.
Achubodd y Maer ar y cyfle i ddiolch i swyddogion yr heddlu a gymerodd ran mewn taith feicio noddedig o Gasnewydd i Aberhonddu yn ddiweddar, gan ddechrau yng Ngorsaf Heddlu Canol Casnewydd, i godi arian er budd Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau.
Bu'r Maer hefyd yn bresennol yng Nghlwb Ieuenctid Shaftesbury i gyflwyno gwobr i'r gr?p ieuenctid, ac roedd hefyd am ddiolch i'r swyddogion hynny a oedd yn bresennol am eu gwaith caled a'u cefnogaeth yn y gymuned.
Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd ddweud ambell air.
Rhoddodd yr Arweinydd adborth ynghylch y gweithgareddau plismona cadarnhaol a gyflawnwyd ar draws y ddinas. Roedd yr Arweinydd wrth ei bodd yn cael bod yn bresennol yn Niwrnod Hwyl Cymdeithas Cymuned Yemen Casnewydd, a gynhaliwyd yn y Pil, ac yng Ng?yl Maendy ym Mharc y Jiwbilî, ac roedd hi'n braf gweld yr heddlu, a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn bresennol yn y digwyddiadau hyn. Roedd yr holl gynrychiolwyr hyn yn cymryd rhan yn y gymuned ac yn cymryd rhan yn frwd yn y gweithgareddau. Roedd hyn yn adlewyrchiad cadarnhaol o'r gwaith caled sy'n digwydd yn gysylltiedig â chyfranogiad yr heddlu - da iawn bawb a gyfrannodd at hyn.
Cododd yr Arweinydd ddau fater - roedd a wnelo'r cyntaf â'r ymgeisiau i losgi'n fwriadol yn ward Malpas, ac roedd nifer yr ymgeisiau i losgi'n fwriadol yn y cae ger Hosbis Dewi Sant yn destun pryder neilltuol. Pa waith parhaus oedd yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân yn ei wneud i atal hyn.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddefnydd gwrthgymdeithasol o feiciau oddi ar y ffordd yn wardiau Malpas a Betws, a'r modd yr oedd yr Heddlu a Chartrefi Dinas Casnewydd yn mynd i'r afael â hyn. Cydnabu'r Arweinydd nad cyfrifoldeb yr Heddlu yn unig oedd hyn, ond roedd am wybod beth oedd yn cael ei wneud a chael sicrwydd bod gwaith ar y gweill i drechu hyn.
Sicrhaodd yr Uwcharolygydd M Richards yr Arweinydd y byddai'n ymchwilio i'r ymgais i losgi'n fwriadol ger Hosbis Dewi Sant. Drwy gydweithio â'r Gwasanaeth Tân, yr Awdurdod Lleol a landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys y tri sector ar draws Casnewydd, drwy gyfarfodydd gorchwyl, byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Arweinydd ynghylch yr ymgeisiau i losgi'n fwriadol, ar cynnydd hyd yma.
Roedd sefyllfa'n gysylltiedig â beiciau oddi ar y ffordd hefyd dan ystyriaeth ar y cyd â'r partneriaid uchod. Roedd y problemau'n gysylltiedig â beiciau oddi ar y ffordd hefyd yn cael eu harchwilio'n fanwl iawn drwy ddull partneriaeth.
Cwestiynau gan y Cynghorwyr:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Marshall at gwynion gan breswylwyr ynghylch rasio ar y ffyrdd, llygredd s?n ar Ffordd Ddosbarthu'r De a Tesco, Heol Caerdydd, a allai fod wedi symud o Tesco, Sbyty. Roedd pryderon hefyd ynghylch y defnydd o gyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn siopau Maesglas.
A chan gyfeirio at bostiad Trydar yr Heddlu ynghylch masnachwyr twyllodrus, gofynnodd y Cynghorydd Marshall a allai'r Heddlu hefyd hysbysu aelodau'r ward er mwyn iddynt hefyd allu hysbysu'r trigolion am unrhyw faterion a godir gan yr Heddlu. Byddai'r Uwcharolygydd yn trafod y materion hyn â'r tîm lleol, ac roedd hefyd yn ymwybodol o'r problemau yn siopau Maesglas. Nid oedd yr Uwcharolygydd wedi gweld y postiad ar Trydar ynghylch masnachwyr twyllodrus, ond byddai'n sicrhau bod aelodau etholedig yn gweld trydariadau tebyg yn gyntaf.
§ Diolchodd y Cynghorydd Rahman i'r Heddlu am fod yn bresennol yng Ng?yl Maendy, ac roedd yn mynychu cyfarfodydd misol â'r Arolygydd Cawley, a oedd yn fuddiol iawn. Gofynnodd y Cynghorydd Rahman beth oedd polisi Heddlu Gwent ynghylch achosion lefel isel o ddelio cyffuriau, gan fod preswylwyr yn pryderu nad oedd unrhyw beth yn cael ei wneud yn ward Fictoria ar ôl iddynt hysbysu'r Heddlu am y digwyddiadau hyn. Sicrhaodd yr Uwcharolygydd y cynghorydd nad oedd unrhyw newid o ran polisi na chyfarwyddyd, ac nad oedd oddefgarwch tuag at weithgarwch o'r fath.
§ Yn ddiweddar, roedd y Cynghorydd Spencer wedi bod i gyflwyniad Stopio a Chwilio gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a gofynnodd a ellid rhoi'r cyflwyniad i Gynghorwyr Casnewydd. Cytunodd yr Uwcharolygydd y gellid rhoi'r cyflwyniad drwy seminar i'r holl aelodau.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Whitehead hefyd at y llosgi bwriadol ger Hosbis Dewi Sant a chytuno â sylwadau'r Arweinydd. Dywedodd hefyd fod hyn wedi digwydd dros gyfnod gweddol hir. Soniodd y Cynghorydd Whitehead hefyd am gael y ffaith bod giât wedi'i thynnu ger y gamlas, a bod hynny wedi cynyddu gweithgarwch gwrthgymdeithasol ger yr hosbis. Byddai'r Uwcharolygydd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau ymdriniaeth â hyn.
§ Diolchodd y Cynghorydd Harvey i'r Uwcharolygydd am ei eiriau caredig yn gynharach, ac roedd am ddiolch hefyd i'r Arolygydd Cawley a oedd bob amser ar ben arall y ffôn. Yn ogystal â hynny, soniodd y Cynghorydd Harvey am ddwy Swyddog Cymorth Cymunedol, Robyn Hayes a Joanne Spiteri, a oedd yn patrolio ardal Alway yn gyson, ac yn chwilio am ffyrdd i symud rhai a oedd yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn e blaenau, yn ogystal â gweithredu mesurau atal i gau'r 'ali gyffuriau'. Roedd y Cynghorydd Harvey wedi ceisio ffonio 101 dros y penwythnos, ond bu'n aros am awr i gael ateb, ac yn y diwedd ffoniodd 999 i riportio digwyddiad. Roedd y Cynghorydd Harvey hefyd am sôn am y Prif Arolygydd Sarah Greening a oedd i ffwrdd o'i gwaith ar y pryd, ond a oedd bob amser ar ben arall y ffôn yn gwneud gwaith rhagorol. Roedd llif o feiciau modur a beiciau yn cael eu dwyn a'u rhoi ar dân. Roedd y Cynghorydd Harvey yn gwybod pwy oedd y drwgweithredwyr, a byddai'n riportio'r achosion hyn i'r Arolygydd Cawley. Diolchodd yr Uwcharolygydd i'r Cynghorydd Harvey am ei diolch a'i hadborth.
§ Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Arolygydd Cawley a oedd yn rhoi diweddariadau misol drwy Teams, a oedd yn llawn gwybodaeth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at Siopau Pontfaen, lle'r oedd biniau sbwriel wedi cael eu gosod fel nad oedd pobl yn gollwng sbwriel. Gofynnodd y Cynghorydd hefyd am batrolau ychwanegol gan yr Heddlu er mwyn mynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn. Roedd yr Uwcharolygydd yn ymwybodol o'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Siopau Pontfaen, a byddai'n darparu'r adnoddau i fynd i'r afael â'r broblem honno.