Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

 

·         Gwasanaeth bws Fflecsi

Roedd hi'n wych gweld cynllun bws Fflecsi yn cael ei ehangu ar draws y ddinas dros yr haf.

 

Yn dilyn llwyddiant y peilot fflecsi cyntaf yng Nghymru a gafodd ei lansio yn Nh?-du a Sain Silian, roedd partneriaeth rhwng y Cyngor, Trafnidiaeth Cymru a Bws Casnewydd yn golygu bod fflyd o naw bws newydd sbon bellach yn gwasanaethu pob rhan o Gasnewydd.

 

Roedd y bysus fflecsi yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn galluogi preswylwyr i fynd ar amrywiaeth llawer ehangach o deithiau, o'r peth cyntaf yn y bore hyd at yn hwyr yn y nos. Cam arall ymlaen yn ein hymrwymiad i fod yn ddinas wyrddach.

 

·         Gwasanaethau wyneb yn wyneb

Yn dilyn blwyddyn heriol iawn o ran darparu gwasanaethau allweddol, roedd yr Arweinydd yn falch iawn fod nifer o wasanaethau wyneb yn wyneb bellach wedi ailgychwyn.

 

Roedd staff canolfan gyswllt Cyngor Dinas Casnewydd bellach yn gweithio o swyddfa dros dro ar Lannau'r Afon, ac roedd apwyntiadau ar gael i breswylwyr ag ymholiadau ynghylch tai, budd-dal tai, y dreth gyngor a phenodeion.

 

Fodd bynnag, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddai staff y Cyngor yn parhau i weithio gartref lle bynnag y bo modd, ac roeddem yn annog pobl i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein a ffôn ar gyfer y mwyafrif o ymholiadau.

 

Ein cynllun tymor hwy oedd symud y gwasanaethau hyn i'r Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa, yng nghanol ein dinas.

 

·         Gorymdaith Rhyddid

Yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, roeddem yn falch o ddyfarnu Rhyddid y Ddinas i'r Lleng Brydeinig Frenhinol, i gydnabod y rhan yr oedd wedi'i chwarae yng nghymuned y lluoedd arfog am 100 o flynyddoedd.

 

Byddai hyn yn cael ei ddathlu'n ffurfiol ddydd Iau 28 Hydref drwy gynnal Gorymdaith Rhyddid drwy'r ddinas. Roedd yr Arweinydd am i gynifer o bobl ag a oedd yn bosibl gymryd rhan er mwyn helpu i ddangos ein gwerthfawrogiad o'r sefydliad anhygoel hwn.  Gofynnodd yr Arweinydd i'r rhai a oedd yn bresennol nodi'r dyddiad yn eu dyddiadur, ac i gadw golwg am fanylion pellach yn nes at yr amser.

 

·         HMS Hafren

Gan barhau â'r thema filwrol, roedd hi hefyd yn anrhydedd cael HMS Hafren wedi'i hailgysylltu'n ffurfiol â'r ddinas.

 

Gollyngodd y llong ei hangor ddiwethaf yn Nociau Alexandra, ac arfer Rhyddid y Ddinas, yn hwyr yn 2017 cyn yr oedd i fod i gael ei datgomisiynu.

 

Fodd bynnag, ni chafodd HMS Hafren ei gwerthu gan y Llynges Frenhinol oherwydd Brexit, a phenderfynwyd ei chadw a'i hailgomisiynu - mae hi hyd yn oed wedi cael côt newydd o baent!

 

Byddai’n dychwelyd i’r ddinas ym mis Tachwedd a byddai cynrychiolwyr yn ymuno â ni ar gyfer gwasanaeth a Gorymdaith y Cofio. Edrychwn ymlaen i groesawu'r llong, ei Chapten a'i chriw yn ôl i'r ddinas.

 

·         Cynllunio canolfannau hamdden

Atgoffodd yr Arweinydd y rhai a oedd yn bresennol hefyd fod ymgynghoriad bellach wedi dechrau ar y cais cynllunio ar gyfer y ganolfan hamdden arfaethedig yng nghanol y ddinas, a bod modd gweld y cynlluniau ar ein porth cynllunio ar-lein.

 

Bu'r ymateb i'r ymgynghoriad gwreiddiol yn ardderchog a chadarnhaol - ac roedd sylwadau ein preswylwyr a'n partneriaid mor bwysig yn y broses hon.

 

Roedd disgwyl iddo gael ei gyflwyno gerbron pwyllgor cynllunio llawn yn ddiweddarach eleni, a phryd hynny byddai penderfyniad yn cael ei wneud.

 

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai'n cael ei adeiladu'n unol â'r safonau amgylcheddol a chynaliadwy uchaf posibl, a byddai'n ganolfan bwrpasol, gyda chyfleusterau modern, wedi'i lleoli mewn safle allweddol ar lannau'r afon.

 

Cwestiynau i'r Arweinydd

 

Cynghorydd M Evans:

Pam bod yr Arweinydd wedi cyhoeddi Cais Casnewydd i fod yn Ddinas Diwylliant drwy ddatganiad i'r wasg, heb wneud y penderfyniad yn ffurfiol drwy'r Cabinet, a heb ymgynghori â phreswylwyr na thrafod â gwrth-bleidiau.

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd hyn ond yn golygu mynegi diddordeb yn y gystadleuaeth ar hyn o bryd, a bod 19 o ddinasoedd eraill hefyd wedi mynegi diddordeb yn y gystadleuaeth. Gan hynny nid oedd angen penderfyniad ffurfiol i fynegi diddordeb mewn cystadleuaeth.  Serch hynny, roedd yr Arweinydd y falch o'r adborth gan gymuned greadigol Casnewydd, a chan aelodau etholedig ar draws y rhanbarthau a'n partneriaid mewn cynghorau cyfagos, a oedd hefyd yn ein cefnogi yn ein mynegiant o ddiddordeb.

 

Atodol:

Ailadroddodd y Cynghorydd Evans ei gwestiwn uchod, a dywedodd fod y gr?p Ceidwadol bob tro wedi ymgynghori â'r Weinyddiaeth bresennol ynghylch ei holl benderfyniadau.  Dywedodd y Cynghorydd M Evans fod y weinyddiaeth bresennol yn gweithredu fel gwladwriaeth un blaid yn hytrach na democratiaeth.   Byddai'r gr?p Ceidwadol yn cefnogi'r mynegiant hwn o ddiddordeb, ond teimlai ei bod hi'n biti na chafodd y gr?p ceidwadol ei ystyried yn rhan o'r broses ddemocrataidd hon.

 

Ymateb:

Awgrymodd yr Arweinydd, pe bai'r Cynghorydd M Evans ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb yn dymuno mesur lefel y diddordeb yn y gystadleuaeth, y dylent edrych ar y llythyrau cefnogol a oedd wedi'u dangos ar wefan y Cyngor. Roedd y rhain yn cynrychioli ystod o grwpiau ac unigolion ar draws Casnewydd.

 

Cynghorydd Whitehead:

O ran y duedd anffodus i oryrru ar bont ffordd ddosbarthu'r de, a wnaeth yr Arweinydd gysylltu â Capita i gynnal adolygiad iechyd a diogelwch ac, os felly, a allai'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor.

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd fod Capita wedi cael ei gomisiynu i gynnal adolygiad ond nad oedd ganddi wybodaeth wrth law. Er hynny, byddai'n rhoi ymateb ysgrifenedig.

 

Cynghorydd Carmel Townsend:

A oedd yr Arweinydd o'r farn fod y trothwy HMO o 10% yn ardaloedd mewnol mwy adeiledig y ddinas o gymharu ag 15% yn rhannau eraill o'r ddinas yn deg, neu a ddylai Casnewydd fod yn edrych ar drothwy llawer is yn yr ardaloedd hynny lle'r oedd y galw am fannau parcio a phryderon eraill yn llawer uwch.

 

Ymateb:

Mae cyfyngiadau ar ddwyseddau HMO wedi'u cynnwys yn ein Canllawiau Cynllunio ac yn rhoi syniad o'r hyn a allai fod yn dderbyniol. Y trothwyon mewn gwirionedd yw 15% yn ardal adeiledig y craidd mewnol a 10% yn rhannau eraill o'r ddinas. Fodd bynnag, hoffwn eich atgoffa bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch pob cais yn ôl ei rinweddau ac yn amodol ar asesiad o'i gyd-destun neilltuol. Gall tai HMO wedi'u rheoli'n dda gynnig llety hygyrch a fforddiadwy i amrywiaeth o wahanol breswylwyr, a gellir eu hintegreiddio'n dda i'n cymunedau. Pwrpas ein canllawiau cynllunio yw sicrhau nad yw crynhoadau o ddefnyddiau o'r fath yn creu effeithiau andwyol ar ein cymunedau, ac fel cyn-aelod o'r Pwyllgor Cynllunio rwy'n ymwybodol bod ceisiadau'n cael eu hystyried yn ofalus a rhesymau manwl yn cael eu rhoi i gyfiawnhau'r penderfyniadau a wneir. Caiff llawer o'r penderfyniadau i wrthod caniatâd eu herio drwy apêl am y rhesymau rydych chi'n eu rhoi, ond nid ydym wedi cael tystiolaeth i gefnogi'r pryderon hyn, a bu ein hymgais i amddiffyn yr heriau hynny'n aflwyddiannus. Rhoddodd y Prif Arolygydd Cynllunio hefyd hyfforddiant i'r Pwyllgor Cynllunio ar HMOs, ac roedd yr hyfforddiant hwnnw'n ddefnyddiol i'r Aelodau Pwyllgor wrth ystyried beth fyddai effeithiau gwirioneddol unrhyw gynigion.

 

Cynghorydd Hourahine:

A allai'r Arweinydd hysbysu'r Cyngor faint y byddai'r codiad mewn Yswiriant Gwladol yn ei gostio i'r Awdurdod Lleol ac i drethdalwyr mewn cyfraniadau cyflogaeth.

 

Ymateb:

Soniodd yr Arweinydd fod y cwestiwn yn cyfeirio at gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch y codiad mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyllido iechyd a gofal cymdeithasol.  Cynhaliwyd trafodaeth yr wythnos gynt yng nghyfarfod CLlLC â'r Arweinwyr.  O fis Ebrill 2022 byddai cynnydd o 1.25% yng nghyfraniadau cyflogeion a chyflogwyr.  Roedd hyn mewn gwirionedd yn golygu 2.5% o gynnydd mewn enillion cyflogaeth.  Byddai hyn yn effeithio ar bobl mewn gwaith a thros oed cyflogaeth.   Gwnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) sylwadau ar hyn a dweud bod y cyfuniad o ffactorau dan sylw yn golygu bod hyn yn fwy cymhleth nag yr oedd ei angen, ac y byddai wedi bod yn well cyflwyno cynnydd bach i'r dreth incwm.  O fis Ebrill 2023 ni fydd y cyfraniad hwn yn seiliedig ar YG mwyach, ond yn rhan o dreth ag enw newydd, sef yr ardoll iechyd a gofal cymdeithasol.  O ran yr hyn y byddai'r ardoll yn ei olygu i CDC fel cyflogwr ac i breswylwyr Casnewydd - pobl o oed gwaith fyddai'n ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r taliad gan ei fod yn seiliedig ar YG.  Roedd hyn yn golygu bod y cynnydd yn creu pwysau cyllido blynyddol ychwanegol o £47M i Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn creu cost sylweddol i drethdalwyr Casnewydd o oddeutu £825 y flwyddyn, neu gynnydd o 1.5% i'r Dreth Gyngor i wneud iawn am y diffyg.

 

Atodol:

A allai'r Arweinydd ddadansoddi hyn ar sail aelwydydd unigol yng Nghasnewydd. 

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd fod LlC wedi neilltuo £40M i gefnogi gofal cymdeithasol, a bod hynny'n rhywbeth i'w groesawu. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael gan y llywodraeth ganolog ac nid oedd unrhyw gynlluniau i ddiwygio gofal cymdeithasol. Byddai hyn yn effeithio ar 16,000 o aelwydydd, ynghyd â'r penderfyniad i dynnu credyd cynhwysol yn ôl, gan adael aelwydydd £1k ar eu colled bob blwyddyn.