Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Cofnodion:

Roedd yna bedwar cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau'r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet: Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cynghorydd J Watkins:

Tybed a all yr Aelod Cabinet esbonio'r Polisi a'r sail resymegol ar gyfer ceisiadau am fannau parcio i bobl sy'n anabl, ac sydd angen y cyfleuster.

 

A yw'r Aelod Cabinet o'r farn fod y polisi'n deg a'i fod yn bodloni anghenion y rhai sydd angen ymgeisio, ac a yw o'r farn fod y Polisi'n wahaniaethol.

 

Ymateb:

Roedd llwybr clir wedi'i sefydlu i ddarparu Man Parcio i Bobl Anabl, gyda pholisi a phroses a oedd ar gael i bawb.

 

Roedd y polisi a'r broses i gefnogi darparu man parcio i bobl anabl eisoes wedi bod drwy broses ddemocrataidd. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o'r modd y gellid rheoli'r ddarpariaeth i dargedu'r rhai â'r mwyaf o angen o fewn cyllideb benodol, a galluogi'r gwasanaethau da sylw i amserlennu a rheoli'r gwaith angenrheidiol.

 

Yn y gorffennol, ac o dan y system gyfredol, mae gormod o geisiadau wedi cael eu gwneud am fannau parcio ac nid yw'r mannau hynny bob amser wedi cael eu darparu mewn modd teg. Roeddem yn cydnabod nad oedd y system gyfredol, o bosib, yn bodloni gofynion penodol pob unigolyn, ond nid oedd yr un system a fyddai'n gweddu i bob sefyllfa. Roedd y broses gyfredol yn sicrhau tegwch a bod y meini prawf y sefydlwyd ac y cytunwyd arnynt yn cael eu defnyddio ar gyfer pob cais.

 

Roedd y polisi a’r broses bresennol yn caniatáu un garfan flynyddol, a oedd yn cynnwys ffenestr o 3 mis i'r rhai a oedd yn cysylltu ac yn bodloni'r trothwy cychwynnol i wneud cais am ystyriaeth. Y rheswm dros y system hon oedd sicrhau bod y broses ar agor yn deg, yn hytrach na'i bod yn wasanaeth "y cyntaf i'r felin" bob blwyddyn.

 

Roedd y dull symlach a oedd yn cael ei ddefnyddio bellach yn ein galluogi i adolygu ceisiadau mewn modd teg a chyfartal, fel bod y rhai mwyaf anghenus yn derbyn ystyriaeth am wasanaeth y mae llawer gormod o alw amdano. Byddai'r gallu i wneud cais ar sail ad hoc, neu y tu allan i'r meini prawf cytunedig drwy gydol y flwyddyn yn tanseilio'r dull teg hwn. Roedd hi'n anochel y byddai achosion brys yn codi, gan greu her, ond er mwyn ceisio sicrhau bod adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ac yn rhesymol, dyma oedd y broses a'r defnydd mwyaf deallus o adnoddau.  

 

Roedd y broses symlach hon yn galluogi Gwasanaethau'r Ddinas i reoli'r gofynion cyfreithiol. Roedd y rheiny'n gostus ac yn cymryd amser i'w gweithredu. Byddai dull ad hoc yn anodd iawn i'w reoli yng nghyd-destun y gofynion cyfreithiol, a byddai'n cynyddu cyfanswm y costau ac o bosib yn cynyddu'r amser a gymerir i ddarparu man parcio.

 

Roedd fframwaith ymgeisio un cohort yn galluogi'r defnydd gorau o gyllideb benodol, ac felly'n golygu bod modd darparu mwy o fannau parcio.  Byddai prosesu un man parcio ar y tro yn cynyddu costau'n sylweddol ac felly'n lleihau cyfanswm y mannau parcio y gellid eu darparu.

 

O ddefnyddio'r broses hon gallem gydgysylltu ceisiadau i ddileu yn erbyn ceisiadau yn fwy effeithiol.

Roedd darparu man parcio yn golygu mwy na phaentio llinellau ar y ffordd. Roedd yn rhaid bodloni gofynion cyfreithiol llym, gan weithredu Gorchymyn Rheoli Traffig, ac roedd hynny'n golygu costau uchel ac cymryd amser hir. Gan hynny, nid oedd modd darparu'r gwasanaeth i fodloni angen brys ac uniongyrchol, neu am y tymor byr.

 

Cytunwyd ar y polisi a'r broses yn ffurfiol drwy'r broses ddemocrataidd, ac er ein bod yn cydnabod nad yw'r broses gyfredol yn dderbyniol gan bawb, rydym yn ymdrechu i fodloni gofynion yn y modd mwyaf effeithiol, effeithlon a theg ag sy'n bosibl.

 

Nid yw darparu man parcio yn wasanaeth statudol, felly nid oedd y broses sydd ar waith yn groes i unrhyw ddeddfwriaeth. Roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o fewn yr holl ofynion, ond er mwyn cynnig gwasanaeth teg roedd yn rhaid i'r gwasanaeth hwnnw fod yn unol â'r broses gytunedig.

 

Roedd hi'n bwysig felly, wrth i bobl wneud ymholiadau ynghylch y broses, eu bod yn derbyn cyngor priodol i leihau eu disgwyliadau.

 

Cwestiwn Atodol:

A all yr Aelod Cabinet ddweud a yw'n teimlo bod y polisi'n cefnogi'r awdurdod lleol yn hytrach na chefnogi unigolyn anabl.

 

Ymateb:

Roedd y Cynghorydd Cockeram wedi bod yn angerddol o blaid mannau parcio i bobl anabl ar hyd y blynyddoedd.  Nid oeddem ond yn gallu gweithredu'n unol â'n gallu, a darparu cyllid drwy'r grant diogelwch yn y cartref a'r asesiad ar sail anghenion.  Roedd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu â'r arian a oedd ar gael. Nid oedd mannau parcio i bobl anabl yn ofyniad statudol, ac nid oedd y rhan fwyaf o awdurdodau'n eu darparu. Roedd hi'n anodd gosod mannau parcio mewn llefydd fel strydoedd â rhesdai, lle gallai cymdogion wrthwynebu, ond gallai pobl â bathodynnau glas ddwbl-barcio y tu allan i d?.

 

Cwestiwn 2 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Mogford:

Ar 16 Ebrill 2021, adroddodd y South Wales Argus am sefyllfa sbwriel yng Nghasnewydd. 

https://www.southwalesargus.co.uk/news/19265515.newport-updated-dramatic-rise-fines-litter-fly-tipping-city/

 

Roedd yr erthygl yn cynnwys dyfyniad gan y Cyng. Jeavons, sef bod sbwriel a thipio anghyfreithlon yn cael eu creu gan "unigolion anghyfrifol a chanlyniad hynny yn y pen draw yw effaith negyddol sylweddol ar ein cymunedau a baich ar adnoddau'r cyngor".

 

O sylfaen isel o erlyniadau yn 2019 a 2020 (saith a 61 yn y drefn honno), honnwyd bod erlyniadau 2021 bellach wedi codi dros 700%.

 

A allai'r Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf yn y frwydr barhaus yn erbyn gollwng sbwriel, gan gynnwys:

·         Beth yw nifer cyfredol yr erlyniadau llwyddiannus ar gyfer 2021?

·         A yw'r baich ar adnoddau'r cyngor wedi cynyddu neu leihau?

·         Ymhle y mae'r mannau problemus yn Ninas Casnewydd, ac a yw'r rheiny wedi newid ers mis Ebrill 2021.

 

Ymateb:

Roedd mynd i'r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, ac er gwaethaf yr holl broblemau a'r cyfyngiadau dros y 18 mis diwethaf, bu cynnydd yn y gweithredu yn erbyn hyn.

 

Y ffigurau diweddaraf sydd gennym ar gyfer eleni yw 25 Hysbysiad Cosb Benodedig am ollwng sbwriel.

 

O ran erlyniadau, roedd llawer iawn o achosion wedi ôl-gronni yn y llysoedd yn sgil y pandemig, ond dros y ddau fis diwethaf clywyd chwech o'n hachosion yn y llys, ac roedd dyddiadau am wrandawiad llys wedi'u pennu ar gyfer 26 o achosion eraill dros y tri mis nesaf.

 

Roedd gennym hefyd 15 o ymchwiliadau ar y gweill

 

Arweiniodd ymgyrch gudd fawr ar hen ffordd fynediad LG, sydd wedi bod yn ardal broblemus dros yr ugain mlynedd diwethaf, at nifer o erlyniadau, ac roedd disgwyl i achosion pellach ymddangos gerbron y llys.

 

Roedd nifer o ymgyrchoedd cudd ar y gweill ar draws y ddinas, ond am resymau amlwg ni fyddai'r Cyngor yn datgelu'r lleoliadau dan sylw.

 

O ran sbwriel, roedd y weinyddiaeth hon ar y trywydd iawn i ddyblu nifer y biniau sbwriel ar draws y ddinas erbyn diwedd eleni.

 

Atodol:

Nid oedd y 'ffordd i unman' sef hen ffordd fynediad LG ar ochr orllewinol Casnewydd yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn ar gyfer tipio anghyfreithlon.  Sut y byddai modd cael gwared â'r tipio anghyfreithlon?

 

Ymateb:

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd eto fod ymgyrchoedd cudd ar y gweill, a bod hen ffordd fynediad LG yn rhan o hynny, felly ni fyddai modd rhoi rhagor o wybodaeth ar y pryd.

 

Cwestiwn 3 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Mogford:

Roedd rhifyn 3 Medi 2020 y South Wales Argus yn cynnwys erthygl ar lifogydd


"Why Newport flood risk plan won't be published'

https://www.southwalesargus.co.uk/news/18694120.newport-flood-risk-plan-wont-published/

 

Honnwyd yn yr erthygl honno fod 'dros hanner Casnewydd wedi'i nodi'n ardal risg llifogydd mewn cynllun newydd gan y Cyngor'. [cyfieithiad o'r Saesneg gwreiddiol]

 

Fodd bynnag, ni fydd y cynllun gwirioneddol yn cael ei ddatgelu i'r cyhoedd er mai 'Llifogydd ar hyn o bryd yw'r argyfwng sydd â'r risg fwyaf o ddigwydd yn ardal CDC.

 

Hefyd, mae pedair ardal risg llifogydd newydd wedi'u nodi

  • Maendy
  • Crindai
  • Dyffryn
  • Llyswyry 

 

Yn ogystal â hynny, byddai'r cynllun yn effeithio ar y rhan fwyaf o wardiau cyngor oherwydd cwmpas eang y risg llifogydd.

 

A allai’r Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa fesurau sydd wedi’u cymryd ac a fydd yn cael eu cymryd yn unol â’r cynllun ers iddo gael ei gymeradwyo, a sut mae hyn yn cyd-fynd â'r adroddiad Adran 19 sydd wedi cael ei grybwyll droeon yn y Cyngor llawn. A allai'r Aelod Cabinet hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y bydd y cynllun yn effeithio'n gadarnhaol ar Ward Langstone, yr effeithiwyd arni'n ddifrifol gan lifogydd, ynghyd â llawer o wardiau eraill, ar ddiwedd 2020.

 

Ymateb:

Roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i greu cynllun i sicrhau bod ganddo drefniadau priodol i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yn y ddinas.

 

Roedd yn ofyniad gan Lywodraeth y DU i bennu'r cynllun hwn yn "swyddogol a sensitif", am resymau masnachol a diogelwch, gan fod y cynllun yn cynnwys gwybodaeth fel mapiau cronfeydd d?r.

 

Fodd bynnag, roedd yr holl wybodaeth a oedd yn hanfodol i'r cyhoedd wedi'i chofnodi'n dda, ac ar gael yn gyhoeddus, ac roedd hynny'n cynnwys risgiau llifogydd yn y ddinas yn ogystal â chyfrifoldebau'r holl asiantaethau dan sylw.

 

Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru wybod am y pedair ardal risg llifogydd newydd yn rhan o'i gofrestr o gymunedau sy'n wynebu risg. Roedd y Cyngor yn disgwyl am y data gan CNC a fyddai'n dangos maint y risg llifogydd, ac ar ôl derbyn y data byddai gwaith yn dechrau i werthuso pa mor ddifrifol yw'r risg llifogydd, a byddai hynny'n sail ar gyfer ein gwaith cynllunio a'n strategaethau risg llifogydd i'r dyfodol.

 

Fel y soniwyd eisoes, roedd adroddiad adran 19 yn trafod casgliadau ymchwiliadau gan yr awdurdodau perthnasol amrywiol, a byddai'n cael ei gyhoeddi ar ôl iddo gael ei gwblhau.

 

Cwestiwn Atodol:

A allai'r Aelod Cabinet roi'r newyddion diweddaraf am y sachau tywod a oedd wedi'u gosod mewn mannau strategol yng Nghasnewydd.

 

Ymateb:

Cafwyd hyd y leoliadau addas, ac roedd y Dirprwy Arweinydd wedi cael cymeradwyaeth gan y preswylwyr ynghylch ble i osod y sachau tywod hyn. Roedd y gwaith yn mynd rhagddo, a chyn gynted ag y byddai rhagor o sachau tywod yn cyrraedd, byddai modd bwrw ymlaen â'r gwaith.

 

Cwestiwn 4 – Aelod Cabinet: Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Cynghorydd Mogford:

Mae llygredd a’r amgylchedd wedi’u datganoli i Gymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

 

Mae aelod o Lywodraeth Lafur Cymru wedi cael ei ddyfynnu yn cyfaddef:

"Bob blwyddyn, ledled Cymru, mae llygredd aer yn cyfrannu at bron i 1,400 o farwolaethau cyn pryd ac yn costio bron £1biliwn i GIG Cymru.

 

"Gwyddom y gall cynnydd sydyn mewn llygredd aer am gyfnod byr yn unig effeithio ar iechyd rhai pobl, a bydd cysylltiad hirdymor hefyd yn cynyddu eich risg o ddatblygu cyflyrau fel clefyd y galon, dementia, canser yr ysgyfaint, diabetes a mwy." Aeth ymlaen i ddweud "Mae lleihau'r ddibyniaeth ar geir yn hollbwysig er mwyn gwella ansawdd yr aer yng Nghasnewydd". Cyfeiriodd hefyd at fesurau i'r perwyl hwn yn Adroddiad Burns, a nodai gyfres o ffyrdd i wella trafnidiaeth o amgylch y ddinas ar ôl cefnu ar ffordd liniaru'r M4.

 

O weld effaith y ciwiau ar yr M4 o gyfeiriad Langstone, a'r ceir sy'n gorlifo i ffyrdd lleol yn sgil hynny, nid yw'r sefyllfa ond yn gwaethygu. Ar yr un pryd, ymddengys nad oes unrhyw ffordd i ddatrys yn rhag digwydd y naill wythnos ar ôl y llall, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

A allai’r Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor ynghylch yr ardaloedd gwaethaf o ran llygredd aer yng Nghasnewydd, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i leihau problemau parhaus yn gysylltiedig â thraffig a nifer y marwolaethau yng Nghasnewydd a gysylltir ag ansawdd gwael yr aer.

 

Ymateb:

Hoffwn gyfeirio'r wybodaeth fanwl a ddarparwyd gennyf yn flaenorol yng nghyfarfod y Cyngor mewn ymateb i gwestiynau ynghylch rheoli ansawdd yr aer i sylw'r Cynghorydd Mogford.

 

Roedd hi'n amlwg mai'r ardaloedd gwaethaf o ran ansawdd yr aer yng Nghasnewydd oedd yr 11 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer a ddatganwyd gan y Cyngor, yr oedd pump ohonynt wedi'u lleoli ar hyd coridor yr M4. Roedd lefelau'r deuocsid nitrus a gofnodwyd yn yr ardaloedd hynny yn uwch na'r amcanion ansawdd aer a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, datganwyd yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer hynny nifer o flynyddoedd yn ôl ac, fel y dywedais wrth y Cyngor yn flaenorol, roedd lefelau'r allyriadau yn yr holl ardaloedd hynny wrth ymyl yr M4 yn gostwng yn raddol, a phob un ohonynt yn symud tuag at lefelau cydymffurfio. Yn wir, mae ARhAA Sain Silian ar fin cael ei diddymu gan nad yw wedi torri'r amcanion ansawdd aer ers sawl blwyddyn. Rydym felly'n gwneud cynnydd da i leihau allyriadau a gwella ansawdd yr aer.

 

Byddai Iechyd yr Amgylchedd yn parhau i fonitro ansawdd yr aer ac yn diweddaru Cynllun Gweithredu Ansawdd yr Aer y Cyngor i gynnwys camau i wella ansawdd yr aer yn yr ardaloedd RhAA hyn. Rhan allweddol o'r cynllun gweithredu fyddai sefydlu grwpiau gweithredu lleol i ymgysylltu â'r cymunedau lleol, gan fod addysgu'r cyhoedd ac annog newidiadau o ran ymddygiad yn hanfodol er mwyn inni leihau effeithiau llygredd yr aer ar iechyd y cyhoedd. Roeddem ar fin sefydlu'r gr?p gweithredu lleol cyntaf yng Nghaerllion a byddai hwnnw wedyn yn cael ei gyflwyno yn yr holl ardaloedd RhAA eraill. Fel y dywedais o'r blaen, nid oedd hyn yn rhywbeth y gallai'r Cyngor ei ddatrys ar ei ben ei hun.

 

Roedd y Cyngor hefyd wedi cyhoeddi strategaeth teithio cynaliadwy ac yn datblygu llwybrau teithio llesol.  Rhoddais amlinelliad yn flaenorol i'r Cyngor o'r mentrau teithio cynaliadwy sy'n cael eu datblygu, gan gynnwys y defnydd o gerbydau trydan. Roedd ansawdd yr aer, y newid hinsawdd, a lleihau carbon oll yn rhan o'r un agenda iechyd cyhoeddus.

 

O ran materion traffig, roedd hi'n glir bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder o 50mya ar ddarnau o'r M4 wedi cael effaith gadarnhaol ar allyriadau ansawdd yr aer. Fodd bynnag, materion i Lywodraeth Cymru oedd rheoli traffig a thagfeydd ar yr M4. Hefyd, byddai gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn sgil Adroddiad Burns yn cael eu datblygu ar lefel ranbarthol yn rhan o bolisi trafnidiaeth strategol.  Os oedd gan y Cynghorydd Mogford unrhyw gwestiwn ynghylch cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus neilltuol, byddai angen iddo holi fy nghyd-aelod ar y Cabinet, y Cynghorydd Jeavons.

 

Cwestiwn Atodol:

Pwy oedd y gr?p gweithredu lleol y cyfeiriodd yr Aelod Cabinet ato yn ei ymateb?

 

Ymateb:

Roedd gr?p Caerllion yn cynnwys swyddogion, cynghorwyr ac aelodau o'r cyhoedd, yr oedd gan bawb ohonynt ran fawr i'w chwarae yn hyn, a byddai cyfarfod a chynnwys preswylwyr hefyd o gymorth i sicrhau gwelliannau.