Agenda item

Rhybudd o Gynnig: Datganiad Bioamrywiaeth Caeredin

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Cynnig a ganlyn i'w chyd-aelodau, a chadw ei hawl i siarad yn ddiweddarach yn y drafodaeth:

 

Yr ydym ni Gyngor Dinas Casnewydd yn galw ar Bartïon y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i:

 

1.     Gymryd camau cryf a dewr er mwyn trawsnewid pethau, fel yr amlinellir yn adroddiad asesu byd-eang IBPES, i roi terfyn ar golli bioamrywiaeth.

2.      Cydnabod rôl hanfodol llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol, er mwyn gwireddu gweledigaeth 2050 y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020, a chenhadaeth 2030 fel y'i nodir yn y ddogfen Drafft Sero; a chynnwys y gydnabyddiaeth honno'n eglur drwy holl destun y fframwaith, gan gynnwys y fframwaith monitro ar gyfer y nodau a'r targedau.

3.      Cefnogi mabwysiadu COP15, sef Penderfyniad penodol newydd i gynnwys llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol o fewn fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020;sy'n adeiladu ar y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer Llywodraethau Is-genedlaethol, Dinasoedd ac Awdurdodau Lleol Eraill (2011-2020) fel y cafodd ei gymeradwyo o dan Benderfyniad X/22ac sy'n codi'r uchelgais ar gyfer gweithredu'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020 yn is-genedlaethol, mewn dinasoedd ac yn lleol dros y degawd nesaf.

4.      Sefydlu llwyfan aml-randdeiliad sy'n sicrhau cynrychiolaeth o lywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol i gefnogi gweithredu fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020.

 

Yr ydym ni, Cyngor Dinas Casnewydd yn sefyll yn barod i wynebu'r her o gyflawni, ochr yn ochr â Phartïon, fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020, ac i chwarae rhan gryfach yng ngweithrediad y fframwaith, drwy Gynllun Gweithredu wedi'i adnewyddu a llawer mwy dwys i lywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol ar gyfer y degawd sydd i ddod, a

 

Bod y Cyngor hwn yn penderfynu cefnogi datganiad Caeredin ynghylch bioamrywiaeth, ac yn awdurdodi'r Arweinydd i lofnodi'r datganiad ar ran y Cyngor.

 

 Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hughes, a oedd hefyd wedi cadw ei hawl i siarad.

 

Ni chynigiwyd unrhyw ddiwygiadau.

 

Sylwadau ar y Cynnig gan y Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Lacey wrth ei chyd-aelodau y byddai'n esgeulus iddi beidio siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, fel hyrwyddwr bioamrywiaeth y ddinas.

 

Roedd gan Gasnewydd gyfoeth o ecosystemau morol a thirol, ac fel aelodau etholedig y ddinas hon roedd hi'n ddyletswydd arnynt i wneud popeth o fewn eu gallu i warchod yr ecosystemau hynny.

 

Er bod llawer iawn o waith wedi'i wneud i droi Casnewydd yn ddinas sy'n gyfeillgar â gwenyn, a llwyddiant mawr y gwaith hwnnw, nid oedd hynny'n ddigon ynddo'i hun.

 

Roedd angen i'r Cyngor gydweithio ag eraill i warchod a gwella bioamrywiaeth, gan rannu arfer da ar draws y rhanbarthau hyn a chymryd camau dewr ac arloesol a fyddai'n creu canlyniadau cyd-fuddiannol am genedlaethau i ddod.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Truman y cynnig i wella a gwarchod yr amgylchedd.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Whitehead y cynnig a chytuno bod bioamrywiaeth yn bwysig iawn. Soniodd hefyd fod nifer yr adroddiadau am jac y neidiwr a oedd yn mygu'r nant ym Metws wedi cynyddu, a gobeithiai y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn rhan o'r cynnig. 

 

§  Dywedodd y Cynghorydd M Evans wrth ei gyd-aelodau y byddai'r gr?p Ceidwadol yn cefnogi'r cynnig hwn, a hefyd yn cefnogi mentrau blaenorol o fewn y cyngor, fel y cynnig Cyfeillgar â Gwenyn a gyflwynwyd gerbron y Cyngor yn flaenorol.  Roedd angen i Gynghorwyr ganu o'r un llyfr emynau er mwyn mynd i'r afael â'r newid hinsawdd ar raddfa leol, a dylent felly gefnogi bioamrywiaeth fel gweddill y byd.  Roedd y Cynghorydd M Evans felly'n cefnogi'r cynnig.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod y cynnig hwn yn fynegiant o'n pryder dwys ynghylch goblygiadau mawr colli bioamrywiaeth a'r newid hinsawdd i'n bywoliaeth a'n cymunedau, a bod hyn yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau.

 

Gallem eisoes weld yr effaith bron yn ddyddiol yn y penawdau newyddion.

 

Roedd ymateb y bydd hyd yma wedi bod yn annigonol, a dylem beidio edrych yn ôl ar gyfleoedd a gollwyd yn dilyn Glasgow, fel y digwyddodd yn achos Paris.

 

Wrth basio’r cynnig hwn cydnabu’r Cyngor fod yn rhaid iddo adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud yn y rhanbarth gan Lywodraeth Cymru, Cynghorau a grwpiau cymunedol. 

 

Yng Nghasnewydd roedd gennym agwedd benderfynol ac uchelgeisiol i fynd i'r afael â´r heriau anodd hyn, ac i beidio trosglwyddo problemau yr oeddem wedi'u creu i'n plant.

 

Rhaid i uchelgeisiau Casnewydd fod yn wyrdd - does dim dewis arall os ydym am osgoi sefyllfa lle mae effaith negyddol y newid hinsawdd yn difetha ac yn gorthrymu ar ddyfodol ein plant.

 

Rydym yn dibynnu ar natur i fod yn iach, yn hapus ac i ffynnu. Roedd gwarchod ein hamgylchedd naturiol yn golygu ei gadw er budd cenedlaethau'r dyfodol, ac roedd yn rhaid inni gynnal ecosystem iach ac amgylchedd iach.

 

Mae Gwastadeddau Gwent yn gweithredu fel ysgyfaint ein rhanbarth. Roedd bywyd yn dychwelyd yno i safonau ffafriol, yn sgil gwaith anhygoel gan Fwrdd y Gwastadeddau, yr RSPB a gwirfoddolwyr. Cafodd 27km o ffosydd cae agored eu hadfer ac roedd rhywogaethau mwy prin o fywyd gwych yn dychwelyd, fel y gardwenynen feinlais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hughes i’w gyd-aelodau gefnogi'r cynnig hwn yn eu rhinwedd fel arweinwyr cymunedol, i roi'r amgylchedd yn gyntaf.  Fel Cyngor unedig gallem ddangos ein gofal a'n hagwedd gadarnhaol tuag at drawsnewid ac achub ein hamgylcheddau naturiol.

 

§  Diolchoddyr Arweinydd i bawb a siaradodd o blaid y cynnig.  Roedd rhai enghreifftiau o'r gwaith parhaus a oedd yn digwydd gyda chefnogaeth partneriaethau ar draws y ddinas yn cynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Gardd Gymunedol Lysaght, Llwybrau Coetiroedd, y Rhwydwaith Mannau Gwyrdd a Diogel, Caerllion Werdd, Maindee Unlimited, Balchder ym Metws, a llawer o grwpiau eraill ar draws y ddinas. Roedd cymunedau'n gweithio'n galed i gadw bioamrywiaeth yng Nghasnewydd.  Roedd hi'n hollbwysig inni barhau â'r gwaith caled hwn, ac roedd y cynnig yn hanfodol er mwyn cynnal hyn.  LlC oedd y senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng natur.  Rhannodd yr Arweinydd lythyr â chydweithwyr oddi wrth y Bumblebee Conservation Trust, a oedd yn canmol y Cyngor am ei gyfraniad at gynnal cynefin i wenyn yng Nghasnewydd.  Roedd cymaint o gamau y gallai preswylwyr Casnewydd eu cymryd yn ogystal ag ymrwymiad strategol, a fyddai'n parhau ymhell i'r dyfodol.

 

Penderfynwyd:

Derbyn y Cynnig yn unfrydol.