Agenda item

Adroddiad Blynyddol Craffu 2020-21

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Lacey yn falch o gyflwyno Adroddiad Craffu Blynyddol 2019/20 i'r Cyngor.

 

Un o swyddogaethau Cynghorau yng Nghymru a Lloegr yw craffu, ac fe'i cyflwynwyd yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 2000, gan greu swyddogaethau Cabinet a Chraffu ar wahân mewn Awdurdodau Lleol. Cafodd rôl craffu ei chryfhau yn sgil pasio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae'r Ddeddf y ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor roi adroddiad blynyddol i'r Cyngor ar y gwaith y mae wedi'i gyflawni dros y 12 mis diwethaf, a'i flaenraglen waith. Ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae gan y swyddogaeth Graffu hefyd rôl statudol i graffu ar waith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Egwyddor sylfaenol trefniadau Craffu yw sicrhau bod y broses benderfynu'n agored, yn atebol ac yn dryloyw.

 

Cyflawnir y swyddogaeth graffu yng Nghyngor Dinas Casnewydd gan bedwar pwyllgor craffu. Mae'r pwyllgorau hyn wedi'u ffurfio o Aelodau Etholedig nad ydynt yn aelodau o Gabinet y Cyngor, ynghyd â chynrychiolwyr wedi'u cyf-ethol. Dyma'r pwyllgorau: Pwyllgor Craffu Perfformiad Lleoedd a Materion Corfforaethol, Pwyllgor Craffu Perfformiad Pobl, Pwyllgor Craffu Perfformiad Partneriaethau a'r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu.

 

Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i’r Cyngor ac i bartïon eraill a buddiant beth yw rôl y pwyllgorau craffu, a pha waith a gyflawnwyd ganddynt yn ystod blwyddyn y Cyngor yn 2019/20.

 

Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys y cyfnod rhwng Mai 2019 ac Ebrill 2020.  Mae’r Adroddiad yn amlygu’r gwaith pwysig a wnaed gan y Pwyllgorau Craffu yn ystod y cyfnod hwn, er gwaethaf yr aflonyddwch a achoswyd gan gyfyngiadau cyfnodau clo Covid-19. Roedd y cyfnod adrodd yn heriol, gyda llai o gyfarfodydd wedi'u cynnal yn y 6 mis cyntaf nag arfer, gan fod y Cyngor yn canolbwyntio adnoddau ar ymateb y Cyngor i Covid-19.

 

Er gwaethaf y digwyddiad digynsail hwn, mae’r Pwyllgorau Craffu Perfformiad ar gyfer Lleoedd a Materion Corfforaethol, a Phobl wedi bod yn craffu ar berfformiad, gan gynnwys sut mae’r Cyngor wedi addasu ac ymateb i’r heriau a wynebir gan wasanaethau a chymunedau oherwydd y pandemig.

 

Mae'r ddau Bwyllgor hefyd wedi derbyn adroddiadau ar ymatebion y Cabinet i Argymhellion blaenorol y Pwyllgorau ynghylch cynigion y Gyllideb Ddrafft, yn rhan o'r cylch gwaith Craffu i fesur ac asesu effaith a gwerth yr Awdurdod.

 

Mae adroddiadau eraill yn cynnwys adroddiadau ar Deithio Llesol, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gorfodi Cyfyngiadau COVID a Fusnesau.

 

Bu'r Pwyllgor Craffu Perfformiad Partneriaethau yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Cynllun Llesiant a gyflwynwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac yn cyflwyno sylwadau i'w rhannu â'r BGC.

 

Yn yr un modd, bu'r Pwyllgor hefyd yn craffu ar berfformiad yn erbyn Cynllun Llesiant 2020-21 ac yn cyflwyno sylwadau i'w hystyried gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyflwynwyd cynnig i drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl gan bartneriaid o'r Bwrdd Iechyd, a Chynllun Busnes 2021-22 gan bartneriaid o'r Gwasanaeth Addysg, i'w hystyried ac i dderbyn sylwadau gan y Pwyllgor.

 

Effeithiodd y pandemig ar y camau a gynlluniwyd ar gyfer y cyfnod adrodd, ond roedd y Cynghorydd Lacey yn falch o adrodd bod yr hyfforddiant i aelodau craffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) wedi'i gwblhau, er mwyn sicrhau dealltwriaeth ac ystyriaeth o'r Ddeddf wrth gyflawni gweithgarwch craffu.

 

Roedd y Cynghorydd Lacey yn edrych ymlaen at gael Cadeirio'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dros weddill blwyddyn y Cyngor, gan weithio ochr yn ochr ag aelodau pwyllgor i sicrhau eu bod yn herio penderfyniadau'r awdurdod lleol mewn modd gwrthrychol a chynhyrchiol.  Achubodd ar y cyfle i ddiolch i'w chyd-aelodau craffu ac Aelodau'r Cabinet, i Swyddogion yr Awdurdod Lleol ac i bartneriaid am eu cefnogaeth barhaus.

 

Eiliodd yr Arweinydd yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cytuno ar gynnwys yr adroddiad blynyddol fel sail ar gyfer gwaith y Pwyllgorau Craffu yn y flwyddyn a oedd i ddod.

 

Dogfennau ategol: