Agenda item

Adroddiad y Rheolwr

Cofnodion:

Nododd Rheolwr y Tîm (PD) fod gwerthiannau cofebion bob amser yn newid ond bod niferoedd amlosgiadau wedi tyfu. Ar hyn o bryd mae Amlosgfa Gwent yn elwa o'r teyrngedau gweledol sy’n boblogaidd. Mae'r opsiwn hwn wedi creu refeniw ychwanegol trwy wasanaethau. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ar yr hyn y mae'r ymwelwyr yn ei weld.

 

Mae hefyd yn arwain at fwy o amlosgiadau gan fod sefyllfaoedd lle byddai pobl yn mynd i angladdau eraill gan fod gan leoedd eraill y cyfleuster hwn pan nad oedd gan Amlosgfa Gwent.

 

Mae'r niferoedd ar gyfer angladdau bellach yn tyfu’n fawr ac mae Amlosgfa Gwent yn llawn bron bob dydd sy'n dda ar gyfer refeniw.

 

Gwefan

Mae'r wefan yn boblogaidd iawn oherwydd y llai o ryngweithio wyneb yn wyneb o effaith y pandemig.

 

Gosod Offer Sain

Aeth popeth yn ôl y bwriad o ran gosod yr offer sain. Roedd gan y tîm ychydig ddyddiau o amser segur felly cafodd y gwaith ei wneud ar yr un pryd. Felly ni wnaeth yr amlosgfa golli mwy o ddefnydd o'r adeilad nag yr oedd angen.

Mae'r gwelliant yn boblogaidd iawn ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn y capel.

 

Awgrym Sgrin gan y Cwmni Cyfryngau

Awgrymwyd gwelliant pellach i Reolwr y Tîm gan y Cwmni Cyfryngau.

 

Dywedodd y cwmni y gallai'r amlosgfa ddisodli'r sgrin 50 modfedd yn ardal y clwysty, gyda gwaith gwifrau ac offer trydan ychwanegol. Er mwyn sicrhau, pan fo teyrngedau gweledol yn cael eu harddangos ar y sgrin deledu, yn hytrach na gweld delwedd y camera o fewn y capel yn unig, byddai sgrin y clwysty’n dangos y teyrngedau gweledol felly byddai'r sgrin lawn yn cael ei llenwi â delweddau o'r hyn y mae'r teulu wedi’i awgrymu.

 

Nodwyd bod hyn yn sicr yn rhywbeth y mae cystadleuwyr yr amlosgfa yn ei gynnig.

 

Rhoddwyd pris o £2885 i PD gan gynnwys yr holl geblau a’r gwaith gosod. Nid oes angen gwneud hyn ond os yw'r pwyllgor yn ei gymeradwyo, yna gallai'r rheolwr drefnu iddo gael ei wneud.

 

Strwythur Prisio – eitemau dewisol

Mae'r pwyllgor eisoes wedi cymeradwyo'r gost am deyrngedau gweledol ond yn dilyn hynny mae'r rheolwr wedi cael gwybod am bethau eraill y gallai'r amlosgfa eu gwneud ond nid oedd yn gwybod pryd y byddai'r gwaith gosod yn cael ei wneud.

Nododd PD syniad pwysig ar gyfer y rhestr brisiau, i'r cyfleuster godi £75 am archebion a wneir ar ôl y torbwynt ar gyfer archebu teyrngedau gweledol (mae'r torbwynt ar ôl 72 awr). Nid oes unrhyw elw wrth wneud hyn, ond mae'n ffi y mae'r cwmni'n ei chodi gan anfon delweddau o'r fath yn hwyr yn achosi anhawster. Felly byddai'n fater o anfon y ffi yn ôl at y teuluoedd.

 

Awgrymodd PD ddileu'r ffioedd presennol ar gyfer recordiadau CDau, USBau a DVDau, nid yw CDau erioed wedi bod yn boblogaidd ac mae'r cwmni cyfryngau yn cael trafferth gwneud y rhain gan fod y rhan fwyaf o'r staff yn gweithio gartref nawr.

Awgrymwyd ailenwi'r eitemau hyn, cadw'r ffi £92 a chynnig ffeiliau y gellir eu lawrlwytho; yr un peth ond gan gynnwys teyrngedau gweledol o ffotograffau teuluol ar y ffeil a lawrlwythwyd. Nid oes gwahaniaeth yng nghost hyn. A chynnig yr un peth gyda CDau a DVDau ond am £92 ar ben y £92 arall am y ffeiliau y gellir eu lawrlwytho. Undod o gost ar draws yr eitemau a fyddai'n fwy addas i bobl.

 

Amseroedd Gwasanaethau

Mae'r cynnydd yn amser gwasanaethau wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd sydd wedi rhoi adborth cadarnhaol. Mae wedi bod yn allweddol wrth gynyddu nifer y gwasanaethau y mis, felly mae wedi bod yn llwyddiannus.

 

Gan fod yr amlosgfa bellach yn cynnig gwasanaethau 45 munud o hyd, nid oes angen mwyach i estyn gwasanaethau. Cynigiodd Rheolwr y Tîm ddileu’r opsiwn hwnnw o'r rhestr o wasanaethau. Nid yw'r cyhoedd wedi gofyn am estyniad ers cynyddu amser gwasanaethau.

 

O ran y cynnig ar gyfer gwasanaeth coffa; ar hyn o bryd mae Amlosgfa Gwent yn codi £196 am Wasanaeth Coffa, lle mae pobl yn dod â lludw neu lle mae gwasanaeth wedi digwydd mewn amlosgfa arall ac maent yn gwneud gwasanaeth gyda'u teuluoedd lleol yn Amlosgfa Gwent.

 

Mae hyn yn dileu’r amser ar gyfer amlosgi, ac felly'n lleihau’r amser aros ar gyfer gwasanaethau; hoffai'r rheolwr archwilio sut y codir tâl am hynny.

 

Felly, cynigiodd PD ffi amlosgi safonol o £828, gan ddileu cost amlosgiad heb neb yno sy'n £450 sy'n gadael tâl o £378. Mae hyn yn rhoi ein refeniw lle dylai fod dan amgylchiadau arferol. Byddai'n ychwanegu eglurder i'r strwythur prisio.

 

Mae'r Amlosgfa wedi llwyddo i gadw gwobr y faner werdd am y bumed flwyddyn yn olynol. Ac mae wedi llwyddo i gadw ei gwobr aur am gynllun meincnodi siartr y galarwyr am y trydydd tro yn olynol.

 

Byddai'r newid i amseroedd gwasanaethau hirach a phrisiau teyrngedau gweledol yn ychwanegu at hyn ac yn atgyfnerthu sefyllfa'r Amlosgfa.

 

Tynnu Sylw at Ymddeoliad Aelod Staff Hirsefydlog

Dywedodd Rheolwr y Tîm wrth y Pwyllgor fod y Doctor Brian Wilcox sydd wedi bod yn ganolwr meddygol yn yr amlosgfa ers 1982 yn ymddeol ar y diwrnod hwn. Fe yw’r canolwr meddygol sydd wedi gwasanaethu’r hiraf yn y wlad ac mae wedi bod yn gaffaeliad enfawr wrth redeg yr amlosgfa; yn ogystal â ffrind a chydweithiwr gwych i dîm yr amlosgfa dros y blynyddoedd.

 

Trosglwyddodd y Pwyllgor ddymuniadau da am ei ymddeoliad ac awgrymodd y pwyllgor anfon llythyr i ddiolch iddo am ei wasanaethau dros y blynyddoedd.

 

Cytunwyd:

1.    Cymeradwyodd y Pwyllgor y gost a roddwyd o £2885 am ganiatáu’r gwaith i ddangos teyrngedau gweledol ar y sgrin.

2.    Gwnaeth y Pwyllgor gytuno a chymeradwyo newid y CDau/DVDau i ffeiliau y gellir eu lawrlwytho gyda ffeil weledol gan gynnwys teyrngedau i aros ar £92. Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm fod trefnwyr angladdau yn ymwybodol ar bob achos o’r torbwynt ac mai dim ond un achos lle roedd angen codi tâl.

3.    Gwnaeth y Pwyllgor gytuno a chymeradwyo’r awgrym i gost Gwasanaeth Coffa adlewyrchu gwir gost amlosgiad, heb y gost am amlosgiad heb neb yno; gan y cadarnhaodd Rheolwr y Tîm gyda'r Pwyllgor mai anaml iawn y gofynnir am hyn. Gwnaeth ystyried y ffaith y byddai'r gwasanaeth yn cymryd amser, ac ystyried dileu’r opsiwn i estyn amser ac mae’n hapus i adennill taliadau os oes angen.

4.    Cytunodd y Pwyllgor y gall yr amlosgfa ddileu'r opsiwn am amseroedd gwasanaethau estynedig.

5.    Byddai Clerc y Pwyllgor yn ysgrifennu llythyr o ddiolch i Dr Brian Wilcox ar ran y Pwyllgor i ddiolch iddo am ei wasanaeth rhagorol.