Cofnodion:
Rheolwr Cynorthwyol Lleihau Carbon – Mathew Preece
Rhoddodd y Rheolwr Cynorthwyol Lleihau Carbon (MP) gyflwyniad i'r Pwyllgor mewn perthynas â Gr?p Ynni Cymunedol Cymru (Egni Co-op) yn cynnig gosod paneli solar ar doeau gwastad a thoeau ar oleddf yn Amlosgfa Gwent.
Mae angen i sector cyhoeddus Cymru gyfan gael ei ddad-garboneiddio erbyn 2030. Mae gosod ynni adnewyddadwy fel paneli solar yn un o'r atebion gorau i ddatgarboneiddio unrhyw drydan y mae'r safle yn ei ddefnyddio.
Er bod Amlosgfa Gwent yn cael ei rheoli gan y Cyd-bwyllgor, Cyngor Dinas Casnewydd sy'n gyfrifol am yr allyriadau carbon o'r adeilad. Felly, mae angen i Gyngor Dinas Casnewydd lunio strategaeth i ddatgarboneiddio'r safle hwnnw er mwyn i’r Cyngor fwrw ei darged o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Dywedodd MP wrth y Pwyllgor fod gr?p ynni Egni Co-op wedi cysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd yn ôl yn 2018 gyda'u cynnig i osod paneli solar ar do nifer o'i adeiladau. Cynhaliwyd gwerthusiad busnes ac ystyriwyd bod y dull perchnogaeth gymunedol penodol hwn yn fwy effeithiol na'r Cyngor yn ei wneud ei hun yn fewnol.
Dros yr 18 mis diwethaf, mae systemau paneli solar wedi'u gosod ar doeau 27 o safleoedd, gan gynyddu capasiti cynhyrchu ynni Cyngor Dinas Casnewydd o 35kW i 2300kW. Esboniodd y Swyddog i roi syniad o'r raddfa hon; byddai hyn yn 390 o baneli unigol i 7000 o baneli. Roedd hyn dim ond yn bosibl drwy ddefnyddio'r model ynni cymunedol hwn oherwydd diffyg adnodd mewnol y Cyngor i allu rheoli'r raddfa honno o waith mewn cyfnod mor fyr.
Y Trefniant
Siaradodd y Swyddog am drefniant y Model Perchnogaeth Ynni Cymunedol a sut mae'n gweithio. Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen oedd perchnogion cyfreithiol yr Amlosgfa a byddai angen iddo roi Prydles 21 mlynedd ar gyfer gofod to i'r gr?p ynni cymunedol. Fodd bynnag, byddai cytundeb gefn wrth gefn rhwng Torfaen a Chyngor Dinas Casnewydd, fel rheolwyr yr adeilad, i gydymffurfio â rhwymedigaethau'r landlord yn y brydles ac i indemnio Torfaen yn unol â hynny. Byddai Cytundeb Prynu P?er hirdymor yn cael ei roi ar waith i werthu p?er o'r paneli i'r Cyd-bwyllgor ar gyfradd ffafriol, a sicrhawyd y byddai hyn yn llai na'r tariffau ynni presennol. Bydd Egni Co-op yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw yn ystod y 21 mlynedd ac yn talu costau'r holl yswiriant angenrheidiol. Os oes angen symud y paneli am ryw reswm ar gyfer gwaith yn ystod y 20 mlynedd, bydd Co-op Egni yn talu iddynt gael eu symud a'u hailosod yn ystod tymor y Brydles. Ar ôl i’r Brydles 21 mlynedd ddod i ben, gall Egni Co-op naill ai drosglwyddo perchnogaeth o'r gosodiad i'r Cyd-bwyllgor neu symud y gosodiad ar eu cost.
Wrth wneud hynny, byddai'r Cyd-bwyllgor yn cael y budd llawn o'r paneli solar o'r pwynt hwnnw.
Mae opsiwn i brynu'r system gyfan yn ystod y Brydles, os teimlir ei bod yn well gwerth am arian. Nodwyd y byddai Amlosgfa Gwent yn talu 10% yn is na'r tariff amser dydd gan y darparwr ynni presennol ar gyfer trydan a gynhyrchir gan y paneli solar.
Byddai Tîm y Prosiect yn goruchwylio'r gwaith o osod y paneli solar ar do Amlosgfa Gwent fel y mae wedi'i wneud gyda'r 27 o safleoedd eraill yng Nghasnewydd. Y buddion fyddai arbedion carbon ac arbedion ariannol, a fyddai o fudd uniongyrchol i Gyngor Dinas Casnewydd gan ei fod yn talu'r biliau ar gyfer Amlosgfa Gwent ond byddai hynny'n lleihau'r costau gweithredu i'r Cydbwyllgor ac yn cynyddu unrhyw ddosbarthiad neu gyfran elw i'r awdurdodau eraill.
Egni Co-op – Sefydliad Cymunedol
Sefydliad cymunedol sy'n ariannu ac yn rheoli’r gwaith o osod paneli solar yng Nghymru yw Egni Co-op. Eu prif nod yw lleihau allyriadau carbon, cynnwys pobl mewn gweithredu ar yn y newid yn yr hinsawdd ac nid ydynt o reidrwydd yn ymwneud â gwneud elw. Mae ganddynt dros 3 megawat ar doeau ledled Cymru ar amrywiaeth o adeiladau gwahanol. Byddai'r gr?p cymunedol hwnnw'n rheoli'r gosodiad o safbwynt cleient o ran iechyd a diogelwch.
Dyluniad a Gynigir
Cyflwynodd MP ddyluniad y cynnig ar gyfer y gosodiad. Byddai'n 99 o baneli solar gyda 50 o optimeiddwyr p?er ac 1 gwrthdröydd. Byddai ganddo arae 36kWp, gallai'r safle gymryd mwy ond mae’r gofod to yn cyfyngu ar hyn. Dau fath gwahanol o do, sef gwastad ac ar oleddf felly bydd gofyn am dechnegau mowntio gwahanol.
Buddion y Prosiect
Tynnodd MP sylw at fuddion y prosiect hwn gan y gallai'r Cyd-bwyllgor gyflawni arbedion refeniw ar gyfer y safle o flwyddyn un, gyda chyfraddau trydan is wedi'u gwarantu drwy'r Cytundeb Prynu P?er a heb unrhyw gost i'r cyd-bwyllgor am gofrestru.
Byddai'n dosbarthu fel datblygiad a ganiateir gan ei fod yn llai na 0.5 hectar a byddai'n cydymffurfio â'r gofynion dylunio fel y'u rhestrir yn y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.
Siaradodd y Swyddog hefyd am fanylion caffael a chyflawni'r gosodiad, byddai amrywiad contract cytunedig i’r contract presennol rhwng Cyngor Dinas Casnewydd ac Egni Co-op, byddai Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithredu fel rheolwr y contract ac mae eisoes wedi archwilio’r partner gosod. Mae wedi llwyddo i ddarparu ar safleoedd eraill gyda Chasnewydd ochr yn ochr ag awdurdodau eraill Cymru. Mae gwersi hefyd wedi cael eu dysgu o osodiadau blaenorol i'w defnyddio ar gyfer y gosodiad hwn a byddai data byw hefyd yn cael ei ddarparu gan y system fesurydd i weld faint o arbedion ariannol a charbon sydd wedi cael eu gwneud drwy'r gosodiad.
Lliniaru Risg
Mewn perthynas â'r achos busnes a ddosbarthwyd i'r pwyllgor, trafododd y swyddog y mesurau lliniaru risg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi drafftio'r Brydles i ddiogelu'r landlord bob amser, hyd yn oed i'r pwynt lle mae angen atgyweirio/disodli’r to. Os byddai angen hyn ar gyfer yr amlosgfa, byddai’r gr?p ynni cymunedol paneli solar yn talu am symud ac ailosod y paneli yn llawn er mwyn i'r gwaith atgyweirio fynd yn ei flaen.
Risg arall yw, os yw'r safle'n cael ei ddymchwel neu ei werthu, mae angen prynu'r paneli hynny gan nad oes gan y gr?p ynni unrhyw warant i werthu'r trydan yn ôl i'r safle os caiff y berchenogaeth ei newid. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai hyn yn cael ei ystyried yn risg eithaf bach gan nad oes bwriad ar unwaith i werthu Amlosgfa Gwent.
Roedd MP eisoes wedi trafod y risg o her gaffael gydag uwch swyddogion a Phennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio. Y consensws oedd nad ydynt yn teimlo bod risg ac y gellir ymdrin â hyn fel estyniad ac amrywiad i'r contract presennol.
Byddai Casnewydd i bob pwrpas yn gweithredu ar ran y Landlord ac yn gwneud y gwaith sydd ei angen er mwyn i’r paneli solar gael eu gosod. Gan y gellir gwerthfawrogi efallai na fydd gan Dorfaen yr un mynediad i'r adeilad os oes angen, byddai Casnewydd yn indemnio Torfaen yn erbyn pob atebolrwydd dan y Brydles.
Safbwyntiau Amgylcheddol ac Ariannol
I grynhoi, o safbwynt amgylcheddol; byddai caniatáu gosod paneli solar yn symud y Cydbwyllgor tuag at y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o ran sectorau ynni adnewyddadwy, gydag ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth gymunedol ac yn unol â tharged 2030 y sector cyhoeddus yn sefydliadol ac yn genedlaethol.
O safbwynt ariannol, nid oes cost i'r cyd-bwyllgor am gofrestru gan fod y system yn eiddo i'r gr?p ynni cymunedol ac yn cael ei gweithredu ganddo. Yr unig gost i'r pwyllgor fyddai prynu'r ynni adnewyddadwy gan y cwmni, ond bydd hyn yn rhatach na’i brynu gan ynni'r darparwr.
Esboniodd y swyddog y byddai arbedion refeniw yn cael eu gweld o flwyddyn 1 gyda chyfraddau is wedi’u gwarantu drwy'r Cytundeb Prynu P?er. Dros ugain mlynedd, gallai hyn ddod i tua £30,000. O'r flwyddyn gyntaf amcangyfrifir y bydd yr arbedion tua £1800.
Oherwydd yr amrywiad contract cytunedig, byddai ymarfer symlach i ddarparu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau gan y Pwyllgor i’r Rheolwr Cynorthwyol Lleihau Carbon i'w hateb ar y mater.
Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:
· Gofynnodd y Cynghorydd Jeavons a fu asesiad i gael gwybod a yw'r to yn ddigon cryf ar gyfer y paneli hyn.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cynorthwyol Lleihau Carbon y bydd arolwg adeileddol yn cael ei wneud cyn i'r paneli gael eu gosod. Gweithir yn unol â Newport Norse i sicrhau nad oes angen gwneud gwaith atgyweirio mawr cyn y gosodiad, gan y byddai hyn yn wrthgynhyrchiol ar gyfer yr atgyweiriadau cychwynnol sydd eu hangen.
· Gofynnodd y Cynghorydd Evans a oes bwriad i godi ar y Cyngor o ran faint o ynni mae’n ei ddefnyddio; sut byddai'r tîm yn gwybod y byddai'n gystadleuol yn y farchnad, o ystyried y sefyllfa bresennol gyda phrisiau biliau ynni.
Ymatebodd MP gan ddweud y byddai gostyngiad wedi’i warantu ar yr hyn y byddai'r cyd-bwyllgor neu'r safle yn ei dalu i’r darparwr trydan rheolaidd. Er enghraifft, yn hytrach na thalu i EDF Energy 15 ceiniog yr uned o drydan fel arfer o'r grid cenedlaethol, byddai'r Cyngor yn defnyddio'r ynni o'r paneli solar ar gyfradd is, felly byddai’n talu 14 ceiniog, gan arbed 1 ceiniog. Trwy’r flwyddyn byddai hynny’n arwain at arbediad o £2000.
· Dywedodd y Cynghorydd Evans fod costau biliau ynni fel arfer yn codi bob chwarter, yn ogystal â chostau uned. A fyddent yn aros yn sefydlog neu'n cynyddu?
Esboniodd MP y byddai'n tracio’r gyfradd fesul uned o ddechrau'r flwyddyn ariannol. Er enghraifft, pe bai EDF yn cynyddu i 16c y flwyddyn ganlynol oherwydd chwyddiant; byddai arbediad o 0.6c.
Dywedodd Karl Donovan (Newport Norse) y comisiynwyd contractwr i wneud gwaith ymchwiliol ar atgyweirio'r to. Bydd yn cynnwys sgaffaldiau ar bob ochr i'r amlosgfa. Ni fydd modd gwybod maint llawn yr hyn sydd o'i le ar y to nes ei archwilio.
Cytunwyd:
Roedd y Pwyllgor yn deall pwysigrwydd lleihau carbon, a chytunodd i opsiwn 3 yr adroddiad.
Cytunodd i ganiatáu i'r paneli solar gael eu gosod a chaniatáu i Gyngor Dinas Casnewydd ac Egni Co-op gyflawni'r cynllun erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon yn amodol ar archwilio'r to ymlaen llaw.
Dogfennau ategol: