Agenda item

Adroddiad Blynyddol Corfforaethol 2020/21

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Hwnoedd y pedwerydd Adroddiad Blynyddol ar Adroddiad Corfforaethol pum-mlynedd y Cyngor.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd adfyfyrio ar 2020/21 ac asesu llwyddiannau’r Cyngor hwn, gweld lle gallwn wella, ac edrych at y dyfodol yng ngweddill yr Adroddiad Corfforaethol.

 

2020/21 oedd un o’r cyfnodau mwyaf heriol y bu’n rhaid i’r Cabinet hwn a swyddogion ar hyd a lled y Cyngor reoli wrth i ni ymateb i bandemig Covid-19 a chefnogi cymunedau Casnewydd.

 

Arwaethaf yr heriau hyn, daeth cymunedau Casnewydd at ei gilydd i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, gan estyn allan at eu cymdogion a helpu ein busnesau lleol i adfer a ffynnu eto.

 

Mae’radroddiad yn rhoi trosolwg o’r hyn a gyflawnodd Cyngor Casnewydd a’i bartneriaid yn erbyn cenhadaeth y Cabinet hwn o ‘Wella Bywydau Pobla’r pedwar Amcan Lles

 

1.        Gwellasgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith

2.        Hyrwyddotwf economaidd ac adfywio ac amddiffyn yr amgylchedd yr un pryd

3.        Galluogipobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn

4.        Adeiladucymunedau cydlynus a chynaliadwy

 

Arhyd y pandemig, effeithiwyd ar lawer o wasanaethau’r Cyngor gan y cyfyngiadau, ac ymrwymodd y Cyngor i’r pedwar Nod Adfer Corfforaethol i gefnogi’r ymateb a chael gwasanaethau, cymunedau a busnesau Casnewydd i adfer. Dyma’r Nodau Adfer Corfforaethol:

 

1.        Deall ac ymateb i’r heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil Covid-19 gan gynnwys colli gwaith, yr effaith ar fusnesau ac ar gynnydd, llwyddiant a lles dysgwyr prif-ffrwd a bregus.

 

2.        Deall ac ymateb i effaith Covid-19 ar nodau economaidd ac amgylcheddol y ddinas er mwyn galluogi Casnewydd i ffynnu eto.

 

3.        Hyrwyddo ac amddiffyn iechyd a lles pobl, gan ddiogelu y rhai mwyaf bregus ac adeiladu cymunedau cryf a gwydn.

 

4.        Rhoii bobl yr adnoddau a’r gefnogaeth maent eu hangen i symud allan o’r argyfwng, gan ystyried yn benodol effaith Covid-19 ar ein cymunedau lleiafrifol ac ymylol .

 

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ym mis Medi i Bwyllgor Trosolwg a Rheoli Craffu y Cyngor. Yr oedd trafodaethau manwl am ymateb y Cyngor i Covid-19 ac adborth ar hynny yn yr Adroddiad Blynyddol.  Cafodd argymhellion y Pwyllgor eu hystyried a’u cyfoesi yn y fersiwn derfynol hon o’r adroddiad a gyflwynir heddiw.

 

Yn dilyn cadarnhad y Cabinet, bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi a bydd ar gael yn Gymraeg. 

 

Llynedd, bu’n rhaid i Gyngor Casnewydd ymaddasu i gyflwyno gwasanaethau a bu’n rhaid newid arferion oedd wedi hen sefydlu, er mwyn ymateb i anghenion brys yr argyfwng. Newidiodd gwasanaethau yn anhygoel o gyflym lle bo modd i ffyrdd o weithio o bell, galwadau fideo, a gwisgo dillad gwarchod i leihau lledaeniad y firws.

 

Erscychwyn y pandemig, blaenoriaeth y Cyngor hwn oedd amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymunedau.

 

Ni ellid bod wedi gwneud hyn heb yr agwedd gydweithredol a gymerodd Cyngor Casnewydd, y sector cyhoeddus a mudiadau’r trydydd sector i ymgyrraedd at hyn, a’r gobaith oedd mai dyma waddol y profiad y gellid ei gynnal ac adeiladu arno at y dyfodol.

 

Dangosodd yr Adroddiad Blynyddol fod y Cyngor yn dal i wneud cynnydd da yn erbyn ei Amcanion Lles ar waethaf yr her, a’r pwysau ariannol cynyddol ar wasanaethau rheng-flaen y Cyngor.

 

Yr oedd sefyllfa ariannol y Cyngor mewn lle da ar ddiwedd 2020/21, a hyn wedi ei helpu gan gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi ymateb y Cyngor i’r pandemig. 

 

Yr oedd y Cabinet yn ymwybodol o heriau ariannol newydd wrth i wasanaethau wynebu mwy o alw, a fyddai’n golygu y byddai’n rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau anodd a mentrus at y dyfodol.

 

Amlygodd yr adroddiad hefyd rai meysydd yn y Cyngor fyddai angen eu gwella a lle byddai’r Cyngor yn gwneud y newidiadau angenrheidiol wrth gyflwyno gwasanaethau.  Y rhain yw:

 

AmcanLles 1 (Gwella sgiliau, deilliannau addysgol a chyfleoedd am waith) - Addysg / Adfywio.

 

·        Arwaethaf yr heriau, cafodd ysgolion a disgyblion ganlyniadau da yn eu TGAU a Lefel A.

·        Cydnabu’rCyngor yr angen i sicrhau nad oedd y bwlch cyrhaeddiad yn lledu i’r disgyblion mwyaf difreintiedig yn y dyfodol.

·        I ysgolion, disgyblion a’u teuluoedd, yr oedd dysgu gartref yn her. Gallodd y Cyngor ddarparu dyfeisiadau a mynediad at y rhyngrwyd i lawer o ddisgyblion i sicrhau nad oeddent ar eu colled o ddysgu.

·        Trwygydol y flwyddyn, cefnogodd ysgolion ddisgyblion oedd yn cael prydau ysgol am ddim, a’u teuluoedd, trwy ddarparu talebau i archfarchnadoedd.

·        Effeithiodd y pandemig ar raglen Ysgolion yr  21ain y Cyngor, ond ar waethaf hyn, byddai prosiectau sydd eisoes ar y gweill yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Ysgol Basaleg, ysgol Gyfun Caerllion ac ysgol newydd yn Whiteheads yn cael eu cyflawni yn 2021/22.

·        Effeithiodd y pandemig ar y Tîm Adfywio Cymunedol, a’i gwnaeth yn anodd cynnig rhaglenni wyneb yn wyneb. Ar waethaf hyn, gan weithio gyda Chymunedau Digidol Cymru, gallodd y Cyngor gynnig cyfarpar TG a chefnogi pobl i ddysgu o bell.

·      Cynigiodd y Cyngor hefyd gefnogaeth ar-lein a rhithiol trwy raglen Reach / Restart i ffoaduriaid yn y ddinas, a arweiniodd at 95 o asesiadau a chefnogi 74 o bobl i ennill sgiliau a chymwysterau cyflogadwyedd.

·      Yr oedd gweithio ar y cyd gyda’r AGPh, Gyrfa Cymru, Dysgu Cymunedol Oedolion Coleg Gwent yn hanfodol o ran rhoi cyfle i lawer o bobl yn y ddinas ail-hyfforddi, ennill cymwysterau newydd a chael gwaith.

·      Yr oedd Academi Ieuenctid Casnewydd ac Aspire wedi galluogi pobl ifanc heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant i ennill cymwysterau a mynd at waith ac addysg bellach.

·        Yr oedd arwyddion clir fod Casnewydd fel canolfan i’r diwydiannau digidol yn parhau i ffynnu, gan greu swyddi a chyfleoedd o’r radd flaenaf.

 

AmcanLles 2 (Hyrwyddotwf economaidd ac adfywio ac amddiffyn yr amgylchedd yr un pryd) - Adfywio, Buddsoddi a Thai, Gwasanaethau’r Ddinas.

 

·        Yr oedd cefnogi busnesau yn hanfodol, gan helpu 1,000 o fusnesau i gyrchu gwerth £19 miliwn o’r gefnogaeth ariannol oedd ar gael gan Lywodraethau Cymru a’r DU, a bod yn gyfrwng i sianelu cyngor a chefnogaeth yn genedlaethol.

·        Cynlluniwydmeithrinfa ar gyfer busnesau newydd yn y sectorau digidol, technoleg a chreadigol yn yr Orsaf Wybodaeth sydd eisoes yn gartref i’r Academi Meddalwedd Cenedlaethol.

·        Yr oedd ail-ddatblygu Marchnad Casnewydd ac Arcêd y farchnad ymysg rhoi o brosiectau mwyaf cyffrous y ddinas.

·        Unwaitheto, cydnabuwyd Casnewydd fel un o’r awdurdodau oedd yn perfformio orau ar wastraff ac ailgylchu yng Nghymru a’r DU.

·        Casnewyddoedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i brynu cerbydau trydan i gasglu gwastraff fel rhan o’n rhaglen gyson i uwchraddio fflyd y Cyngor i gerbydau trydan.

·        Gosodwyd 20 pwynt gwefru ar draws Casnewydd i gerbydau trydan, ac uwchraddio goleuadau stryd/parcio yn y meysydd parcio.

·        Cafwydarian sylweddol i drwsio’r Bont Gludo a datblygu Canolfan Treftadaeth.

·        Parhawydi weithio i leihau ac ymateb i dipio anghyfreithlon, a gweithio ar nifer o brosiectau i wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn y ddinas, megis No Mow May.

 

1.     AmcanLles 3 (Galluogipobl i fod yn iach, annibynnol a gwydn) - GwasanaethauCymdeithasol, Gwasanaethau’r Ddinas, Cyfraith a Rheoleiddio,

 

·        Gweithiodd y timau gwasanaethau cymdeithasol ac adfywio cymunedol yn ddiflino trwy gydol y pandemig gyda’n partneriaid gofal cymdeithasol a’r GIG i gefnogi rhai o’n trigolion mwyaf bregus.

·        Galluogoddgwaith arloesol ni i ddatblygu pecyn cymorth i blant mewn perygl o gam-fanteisio oedd yn cael ei fabwysiadu ledled Gwent a’i rannu ar hyd a lled Cymru.

·        Datblygwydgwasanaeth estyn allan newydd i leihau unigrwydd yn ystod y pandemig, a deuai’n wasanaeth fyddai’n cael ei gynnig yn barhaol i gynnig seibiant yn absenoldeb y gwasanaeth blaenorol i ddinasyddion Casnewydd.

·        Darparodd y tîm Cyswllt Cymunedol wasanaeth i dros 2,000 o drigolion gan roi gwybodaeth, cyngor dros y ffôn, a chefnogaeth un-i-un.

·        Cefnogodd y Cyngor a Chasnewydd Fyw y GIG trwy gydol y rhaglen frechu, gan ddarparu adeiladau, staff a chyfleusterau eraill fel bod cynifer o bobl ag oedd modd yn cael eu brechu yn y ddinas.

·        Yr oedd Cyllid Gofal Canolraddol (CGC) yn galluogi cyflogi Therapydd Galwedigaethol Trosiannol i helpu trosiant pobl ifanc i fyd oedolion.

·        Dangosodd y pandemig hefyd fanteision peidio â dibynnu ar geir i deithio o gwmpas y ddinas. Yr oedd prosiectau teithio llesol a gyflwynwyd eleni wedi dangos manteision cerdded, beicio  a defnyddio cludiant cyhoeddus. Bu gwelliant yn ansawdd aer y ddinas wrth i bobl gael eu hannog i weithio o gartref.

·        Byddein gwaith gyda Dinas-Ranbarth Caerdydd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a Phorth y Gorllewin yn dechrau dwyn i mewn gryn fuddsoddiad dros y ddegawd nesaf i wella ein seilwaith, gan ei wneud yn fwy integredig ar draws y rhanbarth.

 

1.      AmcanLles 4 (Adeiladucymunedau cydlynus a chynaliadwy) -Pobl a Newid Busnes,

Adfywio, Buddsoddi a Thai

·        Taclodigartrefedd trwy gydol y pandemig gyda llety, cefnogaeth iechyd meddwl a chorfforol trwy ein perthynas dda gyda sefydliadau sy’n bartneriaid, a chyllid gan Lywodraeth Cymru.  Yr ydym yn benderfynol o adeiladau ar ein llwyddiannau.

·        Cefnogoddtimau Canolfannau Cymdogaeth drigolion mewn angen, trwy 5,000 o alwadau ffôn i drigolion oedd yn hunan-ynysu, a chludo 800 o barseli bwyd i deuluoedd ynysig a bregus, cyd-gordio cynllun Parseli Bwyd Llywodraeth Cymru, a menter tyfu bwyd gartref yn Ringland.

·        Darparoddlleoliadau Dechrau’n Deg ofal plant i blant gweithwyr allweddol trwy gyfnodau clo a gwyliau’r haf.

·        Creoddgwaith partneriaeth cryf ddashfwrdd data am ddiogelwch ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i ganoli ymdrechion ar y cyd a dod o hyd i atebion i wneud mannau gwyrdd yn ddiogel a hygyrch i bawb.

·        Bu gan Gasnewydd hanes maith o gynnig croeso a lloches i bobl a ddewisodd ymgartrefu yn y ddinas, ac y mae’n falch o’i chymunedau amrywiol. Trwy gydol y flwyddyn a aeth heibio, mae’r Cyngor hwn wedi cefnogi a chyd-sefyll gyda’r cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig wrth i fudiad Black Lives Matter ennill momentwm, ac erys y Cyngor yn ymrwymedig i daclo pob math o drosedd casineb gyda’n partneriaid yn Heddlu Gwent.

·        Gweithioddein tîm cydlynu cymunedol yn galed  gyda’n partneriaid o’r trydydd sector i sicrhau fod ein trigolion o’r UE ac eraill yn derbyn cefnogaeth i barhau i fyw a gweithio yng Nghasnewydd.

·        Byddwnhefyd yn parhau i gefnogi teuluoedd o ffoaduriaid sydd wedi gorfod symud o’u gwledydd oherwydd y gwrthdaro yn Syria ac Afghanistan. 

·        CynnalAsesiadau Effaith Cymuned i ddeall effaith Covid-19 a mesurau cloi ar gymunedau yng Nghasnewydd.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Cockeram mai hwn oedd y cynllun corfforaethol mwyaf cadarnhaol a welodd yn hanes y Cyngor. Tynnodd sylw at eitemau a wnaeth argraff arno ef yn yr adroddiad. Yr oedd Home First yn wasanaeth ail-alluogi oedd yn atal derbyn i ysbyty yn ddiangen, ac yr oedd y fenter hon hefyd yn creu arbedion. Yr oedd Cysylltwyr Cymunedol yn cefnogi trigolion oedd yn defnyddio ein gwasanaethau.  Yr oedd y Cynghorydd Cockeram yn falch o fod yn rhan o’r cynllun, a diolchodd i’r Arweinydd a esboniodd yr adroddiad yn dda, gan longyfarch pawb fu’n rhan o’i lunio.

 

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y gwaith adfer strategol a wnaed yng nghyswllt ysgolion, gan gynnwys gweithredu’r Ddyletswydd Gymdeithasol-Economaidd. Yr oedd dysgu o bell yn heriol i ddisgyblion, a thrwy ddefnyddio arian LlC, gallodd y Cyngor ddarparu dros 6,000 o ddyfeisiadau yng nghartrefi plant, yn ogystal â gosod wifi i’r disgyblion hynny heb fynediad at y rhyngrwyd. Yr  oedd gwaith ar y gweill i helpu myfyrwyr a staff gyda’u lles emosiynol wedi covid. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar lwyddiant canolfannau Cymunedol i gyflwyno rhaglenni addysg megis Academi Ieuenctid Casnewydd ac Aspire, oedd yn rhoi hyfforddiant unswydd ac yn sicrhau bod oedolion ifanc yn cael eu paratoi am waith ac i ymwneud â’r system.  Cafodd rhaglen Reach/Restart ei chyflwyno ledled Casnewydd ar waethaf y pandemig, gyda llawer o fodiwlau cefnogi ar gael i ffoaduriaid.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Truman sylwadau’r Cynghorydd Cockeram mai hwn oedd yr adroddiad gorau hyd yma ar waethaf y pandemig.  Cafodd y system Profi, Olrhain a Gwarchod (POG) ei sefydlu’n gyflym,  a hon oedd un o’r rhai gorau yng Nghymru.  Yr oedd yr uned brofi symudol, hybiau cymunedol, cefnogaeth i gysgwyr allan, yn ogystal â’r nifer o wasanaethau eraill a ymatebodd i’r pandemig yn dyst i’r gwaith caled a wnaed gan y Cyngor.  Diolchodd y Cynghorydd Truman i holl weithwyr Cyngor Dinas Casnewydd a ddaeth at ei gilydd ac a gyfrannodd at gynnwys cadarnhaol yr adroddiad.

 

·        Soniodd y Cynghorydd Hughes fod swyddogion wedi cwrdd â heriau cynaliadwyedd a’r amgylchedd yng Nghasnewydd i gwrdd â’r targed Sero Net Carbon Niwtral erbyn 2030. Ymysg llwyddiannau yr oedd newid goleuadau LED i rai ynni isel, a Chasnewydd oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno loriau gwastraff trydan. Derbyniodd Cyngor Dinas Casnewydd hefyd wobr Alan Clarke am ynni lleol/cymunedol, yn y Gwobrau Solar a Storage ym mis Rhagfyr 2020. Cyfeiriodd y Cynghorydd hefyd at lwyddiant gwahanol brosiectau i wella amgylchedd y ddinas.

 

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Harvey at adfywio cyson y ddinas, gan gynnwys T?r y Siartwyr, y Farchnad Dan Do, Arcêd y Farchnad, ac adeilad Swyddfa’r Post ym Mill Street, pont droed Devon Place, a’r Orsaf Wybodaeth i enwi dim ond rhai. Llongyfarchodd y Cynghorydd Harvey yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd am yr adroddiad ac yr oedd yn falch o uwch-dîm y  cyngor am eu gwaith caled a’u hymwneud â’r adroddiad.

 

·        Cafodd y Dirprwy Arweinydd argraff ffafriol o’r adroddiad, a diolchodd i bawb fu’n rhan o’i lunio. Diolchodd i’r trigolion, a chrybwyll y cam o gyflwyno biniau gwastraff llai, gydag ailgylchu wedi cyfrannu at ostyngiad yn swm y gwastraff. Ategodd sylwadau’r Cynghorydd am adfywio’r ddinas, a chyfeirio hefyd at y cynllun teithio llesol, a gynyddwyd o 47% eleni.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Mayer sylwadau’r cydweithwyr, a thynnu sylw at y nifer o weithiau y crybwyllwyd yr hybiau Cymdogaeth a Deallus yn yr adroddiad, gan nodi eu bod wedi cynyddu yn ystod y cyfnod heriol. Cyfeiriodd at dudalen 33 yr adroddiad oedd yn dangos astudiaeth achos o’r hybiau, ac yn rhoi llawer o wybodaeth.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’w chydweithwyr am eu sylwadau treiddgar.

 

Penderfyniad:

Fod y Cabinet yn cadarnhau Adroddiad Blynyddol 2020/21 fel bod modd ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref 2021.

 

Dogfennau ategol: