Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl)

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Cadarnhaodd y Cyngor llawn yr adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Casnewydd ym mis Mai eleni. Derbyniodd proses adolygu’r Cyngor hefyd gymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth Cymru. 

 

Galwyd am safleoedd ymgeisio, a bu’r Cyngor hefyd yn ymgynghori ar Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig. Byddai’r adroddiad hwn yn fodd i sicrhau bod cynaliadwyedd wrth galon y CDLl newydd. Byddai’n cynnwys asesiadau ar gydraddoldeb, iaith, iechyd a lles, a byddai’n allweddol i asesu safleoedd ymgeisio a’r holl bolisïau newydd fyddai yn y CDLl.

 

Yr oedd yr Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig arfaethedig yn cynnwys fframwaith sydd yn canoli ar ddeg thema:

 

·        Economi a chyflogaeth

·        Poblogaeth a chymunedau

·        Iechyd a lles

·        Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

·        Trafnidiaeth a symud

·        Adnoddau naturiol

·        Bioamrywiaeth

·        Amgylchedd hanesyddol

·        Tirwedd

·        Newid hinsawdd

 

Byddai angen ystyried safleoedd arfaethedig a pholisïau drafft yn erbyn y themâu hyn. Yr oedd y themâu yn cynnwys nifer o gwestiynau asesu, sydd i’w gweld yn Atodiad A Adroddiad y Cabinet. I grynhoi, byddai gan safleoedd a pholisïau a gafodd atebion cadarnhaol i’r cwestiynau asesu hyn fwy o gyfle o gael eu cynnwys yn y CDLl fyddai’n cael ei fabwysiadu.

 

Yr oedd yr Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig a’r fframwaith yn destun ymgynghori gan y cyhoedd. Gellid gweld y sylwadau a dderbyniwyd yn Atodiad B, ynghyd a’r newidiadau a wnaed wedi’r ymgynghori.

 

Ymysg y materion yr ymdriniwyd â hwy yn yr ymatebion yr oedd:

 

·        Pwysigrwydd seilwaith gwyrdd

·        Datganiad Llywodraeth Cymru o Argyfwng Natur

·        Buddsoddi yng nghanol y ddinas

·        Gwarchod mwy ar Wastadeddau Gwent

 

I  grynhoi, gofynnwyd i’r Cabinet ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd a chymeradwyo’r Adroddiad Cwmpasu Mantoli Cynaliadwyedd Integredig a’r Fframwaith a gyfoeswyd wedi’r ymgynghori. Petae’n cael ei gymeradwyo, gofynnir i’r Cyngor hefyd gytuno y gallai’r swyddogion symud ymlaen i gam nesaf paratoi’r CDLl newydd. Mae hyn yn golygu ymwneud a rhanddeiliaid er mwyn paratoi drafft o weledigaeth ac amcanion arfaethedig ar gyfer y CDLl newydd, a thrafod lefel y twf, yn enwedig o ran tir ar gyfer tai a chyflogaeth y dymunwn ei gyflwyno yng Nghasnewydd. 

 

Byddai pob cynnig ac adborth ar y cyfnod ymwneud nesaf hwn yn dod yn ôl i’r Cabinet ar gyfer trafodaeth ac ystyriaeth bellach yn y dyfodol.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet

·        Sylwodd y Cynghorydd Hughes ar sylwadau yn yr ymgynghoriad yn yr adroddiad gan bartneriaid a rhanddeiliaid y Cyngor, megis Cyfeillion Gwastadeddau Gwent a llawer eraill. Croesawodd y  Cynghorydd Hughes yr angen i warchod y tirwedd gwledig, a bod y gwaith sy’n cael ei wneud yn cael ei gydnabod yn genedlaethol ac wedi derbyn sylw gan y BBC, a nododd fod Casnewydd ar y blaen mewn llawer maes cadwraeth.

 

·        Cefnogodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Cynghorydd Hughes cam Wastadeddau Gwent gan ganolbwyntio ar fioamrywiaeth a’r adar. Yr oedd hyn yn sylfaenol i’r CDLl er mwyn lles trigolion Casnewydd at y dyfodol, ac yr oedd yn falch felly fod y CDLl yn ystyried hyn.

 

Penderfyniad:

 

Gwnaeth y Cabinet:

1.      Nodi ac ystyried y sylwadau o’r ymgynghoriad a dderbyniwyd am Adroddiad MCI ynghyd ag ymatebion y swyddogion.

2.      Cymeradwyo y Fframwaith ac Adroddiad MCI (a gyfoeswyd wedi’r ymgynghoriad).

3.      Cytuno y gallai’r swyddogion ddechrau ymwneud â rhanddeiliaid er mwyn paratoi drafft o Weledigaeth ac Amcanion ar gyfer Casnewydd a dewisiadau twf am gyfnod y cynllun. (Byddai’r cynigion a’r adborth wedyn yn cael eu dychwelyd at y Cabinet i’w hystyried). 

 

Dogfennau ategol: