Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yr oedd gofyn i’r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol sydd yn eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi data am gydraddoldeb staff, ac yr oedd hyn hefyd yn yr adroddiad hwn. Mae a wnelo’r Adroddiad Blynyddol hwn â blwyddyn gyntaf cyflwyno yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb Strategol newydd y Cyngor, a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2020.

 

Datblygwyd yr Amcanion newydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymwneud helaeth â’r gymuned. Bu dwyn i mewn gymunedau ar lawr gwlad yn fodd o sicrhau, tra bod y Cynllun yn cyflwyno gweledigaeth strategol am gydraddoldeb yng Nghasnewydd, y bydd hefyd yn sicrhau canlyniadau amlwg i gymunedau ar lawr gwlad.

 

Yr oedd y pandemig wedi rhoi heriau sylweddol o ran cyflwyno yn erbyn rhai meysydd gwaith, er enghraifft, gwasanaethau i gwsmeriaid. Fodd bynnag, yr oedd rhai ardaloedd ar eu hennill o ganlyniad uniongyrchol i effaith COVID-19.  Bu’n rhaid i waith y Cyngor ar gydraddoldeb eleni fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau oedd yn ymddangos, yn enwedig o ran mynediad at wybodaeth, addysg, ac ymdrin â throseddau casineb hiliol.

 

Teimloddein cymunedau oedd wedi ymfudo yma o’r UE effaith ddofn wedi i’r DU adael yr UE, ac yr oedd ein canolbwynt ar gefnogi pobl i aros yng Nghasnewydd ac amddiffyn eu hawliau yn parhau. Yr oedd y Cyngor hefyd wedi mesur pa effeithiol oedd y trefniadau monitro trwy gydol y flwyddyn, ac wedi cymryd camau i’w gwella.

 

Dyma rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a aeth heibio:

 

·        Ymunodd y cyngor â Pholisi Dim Goddef Hiliaeth Cyngor Hil Cymru, a Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr 

·        SefydloddArweinydd y cyngor gyfarfod bord gron i’r gymuned Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, sy’n cwrdd bob chwarter

·        Yr oedd dyddiadau arwyddocaol gan gynnwys Mis Balchder, 365 Hanes Du, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Coffau’r Holocost ac Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn cael eu cydnabod a’u hyrwyddo ledled y ddinas, gan gynnwys yn ein hysgolion 

·        Sefydlwydgrwpiau cyflwyno thematig i gyflwyno yn erbyn pob Amcan Cydraddoldeb

·        Adolygwyd a chyfoeswyd cylch gorchwyl ac aelodaeth Gr?p Cydraddoldeb Strategol (GCS) y cyngor, ac y mae’r Gr?p bellach yn derbyn adroddiadau cynnydd bob chwarter

·        Yr oedd cyfrifoldebau dan y Ddyletswydd Cymdeithasol-Economaidd wedi eu gwreiddio ym mhrosesau’r cyngor, gan gynnwys penderfyniadau strategol

·        Yr oedd gan y cyngor rwydwaith staff Amrywiaeth (lleiafrifoedd ethnig) LGBTQ+ ac Anabledd, a’r cyfan wedi eu cynrychioli ar y GCS

·        Dosbarthwyd £100,000 i brosiectau cymunedol ar lawr gwlad, wedi ei oruchwylio gan Gomisiwn Tegwch Casnewydd a gr?p llywio oedd yn cynrychioli’r gymuned

·        SefydlwydGr?p Rhanddeiliaid Hygyrchedd, i gynghori ar brosiectau’r cyngor, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd i  bob anabl

·        Rhoddwydcefnogaeth i’r holl staff Profi, Olrhain Amddiffyn i sicrhau bod yr ymateb i COVID-19 yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol sensitif

·        Mae adolygiad o bolisi cwynion y cyngor wedi ei gwblhau, ac mae’n rhoi canllawiau clir ar sut y bydd y cyngor yn ymateb i gwynion am gamwahaniaethu

·        Yr oedd rhaglen bartneriaeth a gyflwynwyd gyda Ffilm Cymru yn annog grwpiau a dangynrychiolwyd i ddysgu mwy am yrfaoedd yn y sector ffilmiau 

·        Sefydlwydgr?p gweithlu a gwnaed cyfoesiadau i ffurflenni cais (tynnu allan fanylion personol) a phroses cyfweliadau gadael (ystyried profiadau o gamwahaniaethu)

·        Rhoddwydcryn gefnogaeth i ddinasyddion yr UE, a chafwyd lefel uchel o geisiadau SSUE gan drigolion Casnewydd (10,500 ar hyn o bryd)

·        GwreiddiwydCanllaw Gwrth-Fwlio newydd Llywodraeth Cymru mewn prosesau lleol

·        Datblygodd y Cyngor Ieuenctid ganllawiau LGBTQ+ i ysgolion

·        Lansiwydcynllun newydd i bobl ag anableddau dysgu i gynyddu cyfleoedd i fyw yn annibynnol

·        Cefnogwyd 302 o bobl gan Gysylltwyr Cymunedol lleiafrifoedd ethnig y cyngor

·        Cyflwynwyd seminar ar-lein ar droseddau casineb mewn partneriaeth a’r Ganolfan dros Wrthweithio Casineb Digidol a Hope not Hate i weithwyr proffesiynol a grwpiau cymunedol 

 

Amlygodddadansoddiad o ddata ein gweithlu fannau allweddol ar gyfer gwella, gan gynnwys gwella’r lefel o ddata cydraddoldeb sy’n cael ei gofnodi, asio categorïau yn well gyda data’r cyfrifiad, a deall pam bod lefelau gadawyr yn uwch i rai grwpiau (e.e., pobl o gefndir ethnig lleiafrifol a phobl anabl).

 

Aros yr un fath wnaeth cynrychiolaeth ethnig lleiafrifol y Cyngor eleni ar waethaf gostyngiad bach yn nifer y staff, a gostyngodd bwlch tâl rhwng y rhywiau am y cyfnod hwn. Mae gwaith gan y cyngor i’w wneud o hyd i wella’r gynrychiolaeth o staff o leiafrifoedd ethnig ar bob lefel yn y sefydliad, a dyma fydd ffocws ein gwaith yn ystod 2021/22. Sefydlodd y cyngor weithgorau Recriwtio a Chynrychioli Gweithlu penodol i fwrw ymlaen â hyn. 

 

Adolygwyd yr Adroddiad Blynyddol hefyd gan y Pwyllgor Craffu yn gynharach y mis hwn, a chynhwyswyd eu sylwadau yn Adroddiad y Cabinet.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau i annerch y Cabinet.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau mai crynodeb oedd yr adroddiad o’r gwaith a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd. Yr oedd yn gosod allan ymrwymiad y Cyngor i ddiwylliant yn y gweithle ac agwedd at gyflwyno gwasanaethau oedd yn rhoi gwerth ar gynhwysiant ac amrywiaeth.

 

Byddwnyn parhau i fwrw ymlaen a’r gwaith hwn dros y 12 mis nesaf, ac y mae’r Adroddiad Blynyddol yn gosod allan flaenoriaethau clir ar gyfer y cyfnod nesaf, seiliedig ar adolygu data am ein gweithlu a chynnydd yn erbyn ein Hamcanion Cydraddoldeb hyd yma.

 

Cyflwynwydgwaith eleni yn erbyn cefndir heriol, a olygodd ganolbwyntio ar anghydraddoldeb a chraffu ar ymateb gwasanaethau cyhoeddus i’r pandemig, yn enwedig o ran cefnogi cymunedau lleiafrifol. Cryfder mawr yn y cyfnod hwn oedd y rhan a chwaraewyd gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys ein cymunedau ar lawr gwlad a’n staff o leiafrifoedd. Nid yn unig y bu hyn yn sail i ymateb y Cyngor i COVID-19, ond ei flaenoriaethau hefyd yn ystod y cyfnod adfer a gwaith cydraddoldeb ehangach.

 

CafoddGr?p Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ei adfywio ac y mae bellach yn derbyn adroddiadau chwarterol; mae’r Pencampwyr o blith yr Aelodau Etholedig a Chadeiryddion Rhwydweithiau yn bresennol, ac y mae’n canoli fwy ar ddeilliannau wrth gefnogi’r gwaith hwn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Mayer am ei waith caled.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Davies mai darn o ddeddfwriaeth statudol oedd hwn, oedd yn mynnu cadw at y ddyletswydd gymdeithasol-economaidd, a diolchodd i’r swyddogion am sicrhau bod hyn wedi ei wreiddio yn y ddeddfwriaeth. Yr oedd hefyd yn galluogi cynghorwyr i ganolbwyntio ar gydraddoldeb yng Nghasnewydd a chefnogi’r sawl oedd dan fwyaf o anfantais. Yr oedd yn croesawu gwaith y swyddogion i sicrhau hyfforddi cynghorwyr a’r staff am y ddeddfwriaeth hon.

 

·        Bu’rCynghorydd Hughes yn ddiweddar yng nghyfarfod Partneriaeth Strategol Cymru, lle’r oedd gwaith awdurdodau lleol yn cael ei gydnabod, ac yn arbennig, Casnewydd, gan y Swyddfa Gartref ac yn rhyngwladol. Yr oedd am nodi sylwadau FEIA, a’r effaith gadarnhaol a gafodd Casnewydd ar gymunedau ethnig, ac yr oedd yn falch fod Casnewydd a Chymru yn cael eu gweld fel lloches a llefydd croesawgar i bobl oedd yn dod i’r ddinas.

 

·        Gwnaeth y Cynghorydd Cockeram sylw am wasanaeth canmoliaeth a chwynion gan gwsmeriaid i’r Cyngor ac nad oedd canmoliaeth yn cael ei gynnwys. Y gobaith yn y dyfodol oedd y buasem yn edrych ar ganmoliaeth yn ogystal â chwynion.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Cabinet Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20 i’w ystyried gan y Cyngor ym mis Tachwedd.

 

 

Dogfennau ategol: