Agenda item

Diweddariad ar Ymateb ac Adferiad Covid-19

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Yr oedd yr Adroddiad yn rhoi cyfoesiad am ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 gan gefnogi’r ddinas, yn drigolion a busnesau, i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol a bwrw ymlaen gyda Nodau Adfer Corfforaethol y Cyngor. 

 

Yr oedd gwybodaeth fwy cyfoes ar gael ar  Ddashfyrddau Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymruam y ffigyrau diweddaraf a chan Lywodraeth Cymru hefyd am y newid i’r cyfyngiadau. 

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cabinet ym mis Medi, yr oedd cyfradd yr achosion yng Nghasnewydd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn dal yn uchel wrth i’r cyfyngiadau lacio ac i bobl gymdeithasu mwy a dilyn trefn fwy normal.

 

Atgoffodd yr Arweinydd y sawl oedd yn bresennol ei bod yn bwysig i bobl ddal i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran gwisgo mygydau, cadw pellter cymdeithasol (lle bo modd) a bod yn ymwybodol o bobl, boed ffrindiau neu deulu, sydd yn dal yn fregus ac yn agored i’r firws.

 

Mae ysbytai yng Nghasnewydd a Gwent yn dal i weld pobl yn cael eu trin am Covid ac er nad oedd y niferoedd mor uchel â’r hyn a welwyd y gaeaf diwethaf, yr oeddent yn dal yn ddigon uchel i gael effaith ar wasanaethau eraill y GIG. Dywedodd Llywodraeth Cymru y gellid dal i osod cyfyngiadau ychwanegol petai’r GIG yn dweud fod amrywiolion eraill yn dod i’r amlwg. 

 

I bobl dros 50 oed a’r rhai mwyaf bregus, yr oedd brechiadau atgyfnerthu yn cael eu cynnig yn ogystal â’r brechiad ffliw tymhorol.

 

Yr oedd y rhai 12 i 15 oed yn cael y brechiad.

 

Yr oedd yn dal yn bwysig i drigolion fanteisio ar y cynigion hyn ac i’r rhai sydd yn y grwpiau oedran eraill dderbyn y brechiad. 

 

Yr oedd cymunedau hefyd yn wynebu effeithiau economaidd ehangach wrth i’r economi adfer o Covid.  Fel y dywedwyd yn adroddiad Brexit i’r Cabinet hwn, byddai’r gaeaf yn gweld mwy o gostau ar aelwydydd oherwydd cynnydd mewn prisiau bwyd ac ynni, yn ogystal â phroblemau cyflenwi. Byddai hyn yn cael llawer o effaith ar aelwydydd ar incwm isel yng Nghasnewydd ac yn rhoi mwy o bwysau ar y Cyngor a chefnogaeth y trydydd sector. 

 

Cyfoesiad gan Gyngor Dinas Casnewydd

  

Yr oedd gwasanaethau rheng-flaen yn dal i gael eu cyflwyno ac yr oedd y Cyngor yn dal i ddilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru i’r staff (lle medrant) i barhau i weithio o gartref. 

 

Yr oedd hyn yr un mor wir i Aelodau, a byddai mynediad at y Ganolfan Ddinesig a’r swyddogaethau democrataidd yn dal i gael eu cynnal yn rhithiol.

 

Mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn rhoi’r gofynion technegol a’r protocolau angenrheidiol i gynnal cyfarfodydd hybrid yn y Cyngor.

 

Byddai’r Cyngor yn adrodd yn ôl ar y Normal Newydd i’r Cabinet ym mis Tachwedd am y newidiadau polisi, gan gynnwys y buddion, risgiau ac effeithiau cysylltiedig. 

Daeth yr ysgolion yn ôl ym mis Medi, ac yr oedd y gyfradd bresenoldeb yn is na’r disgwyl oherwydd achosion positif o covid, disgyblion heb symptomau yn cael eu cadw gartref a rhieni yn peidio ag anfon disgyblion i’r ysgol oherwydd Covid-19

 

Yr oedd yr holl Hybiau Cymunedol a llyfrgelloedd ar agor ac ar gael i bobl gyrchu gwasanaethau, hyfforddiant a gwasanaethau eraill y cyngor.

 

Lansiodd Cyngor Casnewydd Gronfa Fusnes gwerth £300,000 i Gasnewydd i fusnesau newydd ac egin-fusnesau dyfu.

 

Yr oedd timau rheoleiddio’r Cyngor yn dal i sicrhau fod mannau busnes yn cydymffurfio a chyfyngiadau covid.

 

Parhaodd tîm safonau masnach y Cyngor i wneud gwaith gorfodi er mwyn sicrhau nad oedd busnesau yn gwerthu pethau i bobl dan oed.

 

The Cyngor was making preparations to launch its next participatory budget to community groups to support the Covid recovery of the City.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru, gan annog pobl o bob cymuned i fanteisio ar y brechiad.

 

Byddai mwy o gyfoesiad am gynnydd y Cyngor yn cael ei roi y mis nesaf.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet

 

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y cynnydd yn nifer yr achosion ers i’r ysgolion agor, a bod Casnewydd ar lefel oren er mwyn sicrhau bod plant yn aros yn ddiogel ac i gadw mesurau megis amseroedd cyrraedd/gadael gwahanol, amser chwarae a symud mewn coridorau i leihau’r risg o ledaenu’r firws. Yr oedd yn falch fod rhaglen frechu i rai 12-15 oed, a’i bod yn hanfodol cadw apwyntiadau brechu. Yr oedd y Cynghorydd Davies hefyd ynd erbyn briffiadau ddwywaith yr wythnos gyda’r swyddogion ar lefelau heintiad a phresenoldeb mewn ysgolion. Ni allwn oddef presenoldeb yn disgyn, ac yr oedd llawer o rieni yn pryderu; fodd bynnag, gyda’r brechu, fe ddylai lefelau pryder leihau. Yr oedd golwg fanwl yn cael ei gadw ar ddiffyg presenoldeb am resymau heb fod yn ymwneud â covid, ac yr oedd gan blant yr hawl i’r cyfle gorau o ran addysg, a byddai hyn yn digwydd petaent yn mynd i’r ysgol.

 

·        Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at broblemau cyflenwi, a’r staff rheng-flaen oedd heb y diogelwch o weithio o gartref. Soniodd y Dirprwy Arweinydd hefyd am brinder tanwydd a’r diffyg gyrwyr HGV oedd yn tanlinellu’r ffaith nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd gallu dianc rhag hyn a bod cynlluniau yn cael eu sefydlu ar fyrder gan y Cyngor i ymdrin â hyn, a diolchodd i’r staff am eu gwaith caled.

 

·        Lleisiodd y Cynghorydd Harvey ei phryder am y toriad diweddar mewn Credyd Cynhwysol a’r anghydraddoldebau fyddai’n digwydd yn sgil hyn i blant mewn tlodi, ac y byddai prinder bwyd, heb sôn am y codiad oedd i ddigwydd toc mewn tanwydd wrth i’r gaeaf nesáu. Byddai teuluoedd yn cael trafferth penderfynu a ddylent fwydo’r teulu neu wresogi’r t?.

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Truman fod codi cyfyngiadau yn golygu bod y staff Gorfodi yn gweithio’n agos gyda pherchenogion busnesau trwyddedig a siopau, gan roi cyngor a chyfarwyddyd yn ogystal â’u helpu gydag asesiadau risg.

 

·        Yr oedd y Cynghorydd Cockeram yn cefnogi sylwadau’r Cynghorydd Harvey a nododd fod pob maes gwasanaeth wedi dioddef o effeithiau Covid, ac ar draws Gwent fod 540 lle mewn cartrefi gofal a phreswyl. Yr oedd hyn oherwydd cyfyngiadau covid ac yr oedd hyn yn rhoi pwysau ar ryddhau o ysbytai, ac ar y cyngor o ran darparu pecynnau gofal cartref. Er hynny, fe fu newid er gwell gyda rheolwyr cartrefi gofal unigol yn gwneud penderfyniadau am lenwi’r llefydd hynny.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn hanfodol cadw’r eitem hon ar Agenda’r Cabinet o ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gan Aelodau’r Cabinet.

 

Penderfyniad:

Nododd y Cabinet y cynnydd hyd yma  a’r risgiau oedd yn dal i wynebu’r Cyngor a’r ddinas.

 

 

Dogfennau ategol: