Agenda item

Diweddariad ar ôl Brexit

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.

 

Yr oedd Adroddiad nesaf y Cabinet yn gyfoesiad am drefniadau trosiannol y trefniadau wedi gadael yr UE ers i’r DU adael y r UE ym mis Rhagfyr 2020.

 

Cynnyddhyd yma

·      Ers yr adroddiad blaenorol ym Medi, tarfwyd ar economi Cymru a’r DU gan sawl digwyddiad a gafodd effaith ar aelwydydd a busnesau ledled Casnewydd.

·      Gwelsom yr effaith yr oedd y farchnad lafur yn gael ar draws gwahanol sectorau megis logisteg yn tarfu ar  gyflenwadau bwyd a thanwydd, gofal cymdeithasol, adeiladu, ffermio a lletygarwch. 

·      Yr oedd hyn hefyd yn cael effaith ar wasanaethau’r Cyngor gyda tharfu ar Wasanaethau’r Ddinas a gofal cymdeithasol. 

·      Yr oedd cost ynni (trydan a nwy) wedi cynyddu, a byddai aelwydydd ar dariffau safonol a thalu-ymlaen-llaw yn gweld cynnydd mewn costau ynni. I aelwydydd ar incwm isel yng Nghasnewydd byddai hyn yn cael effaith sylweddol ac yn rhoi mwy o bwysau ar yr aelwydydd bregus hyn.

·      Yr oedd prisiau bwyd yn codi, a chyda tharfu ar gyflenwi, yr oedd rhai bwydydd heb allu cyrraedd archfarchnadoedd ac yn cael effaith ar fanciau bwyd ledled Casnewydd a Chymru.

·      Er bod y materion hyn wedi eu priodoli yn unig i’r DU yn gadael yr UE a bod effaith Covid wedi cyfrannu’n sylweddol, daeth effaith Brexit ar fusnesau yn amlycach, am eu bod yn gallu gweithredu’n effeithiol cyn gadael.

·      Yr oedd tîm Argyfyngau Sifil y Cyngor yn cefnogi tîm Aur y Cyngor i ymateb i’r materion hyn ac yn cydweithredu gydag awdurdodau lleol eraill fel rhan o’i Fforwm Gwytnwch Lleol ehangach.

·      Yr oedd timau Cyllid y Cyngor hefyd yn monitro’r sefyllfa fel rhan o’u monitro misol a chynllunio refeniw. 

·      Aethdros dri mis heibio ers i’r terfyn amser basio i ddinasyddion yr UE/AEE wneud cais am Statws Sefydledig yr UE. 

·      Yng Nghasnewydd derbyniwyd 10,990 cais ers i’r broses gychwyn.

·      Derbyniodd 5,410 o ddinasyddion yr UE/AEE Statws Sefydlu llawn  tra derbyniodd 3,620  o ddinasyddion Statws Cyn-sefydlu. 

·      Er hynny, yr oedd dros 1,000 o drigolion yn dal i aros am benderfyniad.

·      Yr oedd y Cabinet hwn eisiau ailadrodd eu cefnogaeth i ddinasyddion yr UE / AEE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, gan fod gan bawb ran i’w chwarae i wneud Casnewydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Anogodd yr Arweinydd unrhyw un oedd yn dal i aros am benderfyniad neu’n cael anhawster cwblhau eu cais i gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth. 

·      Yr oeddCyngor Casnewydd yn dal i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau y gallai dinasyddion yr UE gyrchu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth oedd arnynt eu hangen.

·      Yr oedd y Cyngor yn gweithio gyda GAVO i wneud trefniadau i gefnogi mwy o waith ar dlodi bwyd.

·      Yr oedd swyddogion Cydlynu Cymunedol yn awr yn canolbwyntio ar hawliau wedi Brexit ac yn gwneud yn si?r fod dinasyddion yr UE, busnesau a gwasanaethau yn deall eu hoblygiadau i gyrchu gwasanaethau.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet

 

·        Adleisiodd y Cynghorydd Harvey ei sylwadau blaenorol ar yr eitem gynharach ar yr agenda.

 

·        Cytunodd y Cynghorydd Davies gyda sylwadau’r Cynghorydd Harvey, a mynegodd bryder am argyfwng tanwydd y gaeaf a’r effaith ar brif gyflogwyr Casnewydd fel y gwaith dur lleol. Gyda’r posibilrwydd o ddiffyg tanwydd yn y gadwyn gyflenwi, gallai hyn gael cryn effaith ar swyddi a’u colli.

 

·        Adleisiodd y Cynghorydd Truman sylwadau’r Arweinydd a chydweithwyr a chyfeiriodd at drafferthion posib oedd yn cael eu hwynebu gan deuluoedd oedd yn cael trafferthion ariannol i dalu am fwyd ac ynni y gaeaf hwn.

 

·        Yr oedd y Cynghorydd Hughes ar fwrdd ymddiriedolwyr un o fanciau bwyd Casnewydd, ac yn rhannu pryder ei gydweithwyr, ond dywedodd hefyd fod gwirfoddolwyr yng Nghasnewydd yn gweithio’n galed iawn yn ystod y pandemig.  Mynegodd y Cynghorydd Hughes ei ddiolchgarwch i i’r gwirfoddolwyr oedd yn gweithio yn y banciau bwyd. Yr oedd yn anffodus fod eu hangen, ond yr oedd eu gwaith yn bwysig.

 

·        Mynegodd y Cynghorydd Mayer ei bryderon am annhegwch ac anghydraddoldeb, a chytunodd gyda’i gydweithwyr.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Jeavons ei sylwadau blaenorol am yrwyr HGV, a chyfeirio at yr 20 o yrwyr lori o dramor gafodd fisa i weithio ym Mhrydain, ac yr oedd yn gobeithio y deuai mwy ymlaen.

 

·        Rhannodd y Cynghorydd Cockeram bryderon ei gydweithwyr am fanciau bwyd.

 

Fel y dywedwyd yn yr eitem flaenorol ar yr agenda, dywedodd yr Arweinydd ei bod yn hanfodol cadw’r eitem hon ar Agenda’r Cabinet o ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gan Aelodau’r Cabinet.

 

Penderfyniad:

Fod y Cabinet yn nodi ymateb y Cyngor i Brexit.

 

 

Dogfennau ategol: