Agenda item

Strategaeth Newid Hinsawdd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas yr adroddiad a rhoi cyflwyniad. Nododd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas mai adroddiad drafft ydoedd ar gyfer ymgynghoriad. Amlygodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas mai strategaeth y Cyngor ydoedd, ac y byddai strategaeth i Gasnewydd gyfan yn cael ei datblygu'n ddiweddarach. Roedd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas yn cydnabod rôl ddylanwadol allweddol y Cyngor, ac yn cydnabod bod cynlluniau'n datblygu i fod yn fwy cadarn gan fod y terfyn amser yn gymharol agos.

 

Nododd y Rheolwr Lleihau Carbon fod cyfanswm yr allyriadau carbon blynyddol yn y pedair blynedd diwethaf wedi gostwng yn sgil cynllun rheoli carbon. Nododd y Rheolwr Lleihau Carbon y cafwyd ymateb afreolaidd yn sgil Covid, ond gobeithiai y byddai'r cynnydd yn parhau. Cyflwynodd y Rheolwr Lleihau Carbon drosolwg o’r prosiectau sydd ar y gweill, gan gynnwys cyflwyno PV solar ar raddfa eang, gorsafoedd gwefru trydan, cael cerbydau fflyd newydd gan gynnwys lorïau sbwriel, ceir a faniau ysgafn, a fyddai i gyd yn cael eu trosglwyddo i drydan erbyn 2022. Yn ogystal â hynny, cyfeiriodd y Rheolwr Lleihau Carbon weithgareddau ymgysylltu gyda phlant ysgol lleol, ynghyd â thynnu hen oleuadau i osod goleuadau LED mwy effeithlon yn eu lle, yn benodol yn y Felodrom, a nododd fod

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

y Cyngor wedi llofnodi Siarter Teithio'n Iach Gwent a lansiwyd yn 2020, ac wedi cymeradwyo 2 gynllun tai carbon isel. 

 

Tynnodd y Rheolwr Lleihau Carbon sylw at y ffaith mai prif wahaniaeth y strategaeth hinsawdd oedd gorfod rhoi cyfrif am holl allyriadau carbon y sefydliad, ac y byddai'r tîm yn mabwysiadu safbwynt ehangach yn yr adroddiad newydd, gyda ffocws allweddol ar effaith caffael. 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth fod cynnydd wedi'i wneud, ond bod llawer ar ôl i'w wneud o hyd fel Cyngor. Dywedodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth wrth y pwyllgor eu bod yn bwriadu creu cynllun o amgylch chwe thema, yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru. 

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor-

       A fyddai disgwyliad cytundebol i gyflenwyr gyrraedd Sero Net, a sut y gallai'r Cyngor orfodi hynny?

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod gwaith eisoes ar y gweill i'r perwyl hwn, a nododd yr her o ran technoleg a chostau yn gysylltiedig ag allyriadau o adeiladau a cherbydau. Sicrhaodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth y pwyllgor y byddai'r fframwaith newydd ar gyfer asesu contractau newydd i'w caffael yn trafod materion fel gwerthoedd cymdeithasol ac allyriadau carbon. Dywedodd y Rheolwr Lleihau Carbon fod angen mireinio canllawiau newydd Llywodraeth Cymru, a sicrhaodd y Pwyllgor fod hyn yn broblem i'r holl sector cyhoeddus yng Nghymru, a allai arwain at gadwynau cyflenwi cyffredin mwy rhwng cynghorau.

       A fyddai fframwaith yn cael ei greu i'r rhai a fyddai ei angen? 

Cadarnhaodd y Rheolwr Lleihau Carbon y byddai hynny'n digwydd, y byddai hefyd yn rhoi cefnogaeth i asesu'r effaith o ran carbon ac adnoddau, ac y byddai'n rhaid ei ddatblygu'n fewnol.

       A fyddai'r Maer yn cael cerbyd sy'n rhedeg yn llwyr ar drydan yn lle'r car presennol, a phryd y byddai hynny'n digwydd? Nododd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod car y Maer yn hybrid, ond y dylai holl geir y fflyd fod yn drydan erbyn diwedd y flwyddyn. Tynnwyd sylw at y ffaith ei bod hi'n bwysig brandio'r fflyd trydan i ddangos esiampl i eraill ac i annog eraill i ddefnyddio cerbydau trydan.

Dywedodd aelod o'r pwyllgor na ddylid ond newid car y Maer pan fyddai angen, yn hytrach na gwneud hynny fel ymgyrch PR, gan fod hynny'n tanseilio'r ymdrech i wella'r amgylchedd.

       A oedd cynlluniau i osod rhagor o bwyntiau gwefru trydan, yn enwedig pwyntiau gwefru cyflym iawn?

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod cymysgedd o bwyntiau gwefru "arafach" mewn ardaloedd parcio hirdymor, ond sicrhaodd y pwyllgor eu bod yn gosod rhagor o bwyntiau gwefru "cyflym iawn" drwy gyllid y rhaglen. Cydnabu Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas ei bod hi'n her canfod lleoliadau lle byddai'r seilwaith yn gallu cynnal hyn.

       A oedd y swyddogion a oedd yn cyflwyno wedi cael amser i ddarllen adroddiad Llywodraeth Cymru, a oedd wedi cael ei ryddhau ddiwrnod cyn y cyfarfod, a chael amser i'w gymharu ag adroddiad Newid Hinsawdd Casnewydd?

Nododd Pennaeth Gwasanaethau’r Ddinas y byddai’n annhebygol o ddod ar draws unrhyw elfennau annisgwyl yn adroddiad Llywodraeth Cymru, ac y byddai'r strategaeth derfynol yn adolygu hynny, ond nododd ei bod hi'n annhebygol y byddai Strategaeth Newid Hinsawdd Casnewydd ac Adroddiad Llywodraeth Cymru'n gwbl gyson â'i gilydd gan fod y naill ddogfen a'r llall yn esblygu o hyd.

       A fyddai dogfen dechnegol i gefnogi adroddiadau yn y dyfodol, er mwyn esbonio sut y byddai newidiadau'n cael eu mesur?

Cytunodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas y gellid bod angen dogfen bellach, ond y byddai'n goleuo cynlluniau eraill y Cyngor. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas nad oeddent ond megis dechrau'r daith, ac y byddai'n rhaid rhoi mwy o fanylion i ddilyn.

       A fyddai'r Cyngor yn ystyried rhaglen gwrthbwyso Carbon?

Dywedodd y Rheolwr Lleihau Carbon mai ond ardal fechan o dir y Cyngor a oedd yn cynnwys coed, ac nad oedd yn cynnig rhyw lawer o gyfle i blannu coed i gasglu carbon. Tynnodd y Rheolwr Lleihau Carbon sylw at bwysigrwydd gwaith y Cyngor â phartneriaid a grwpiau i gynyddu hyn, ond nododd fod gwrthbwyso ymhellach i lawr yr hierarchaeth lleihau Carbon, ac na ddylai'r Cyngor ond gwrthbwyso'r ychydig o garbon sy'n weddill na ellir ei ddileu.

       A fyddai rheolau cynllunio’n cael eu haddasu i wneud iawn am yr angen am bympiau gwres mewn adeiladau newydd, neu fflatiau’n cael eu hadeiladu gyda rheseli beiciau neu drefniadau ailgylchu integredig?

Nododd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod cynllunio'n gallu bod yn heriol oherwydd y cyfyngiadau ar weithredu, ond sicrhaodd y pwyllgor eu bod wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru.  Cydnabu Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas y problemau godi pan na fydd caniatâd cynllunio a roddwyd yn flaenorol yn adlewyrchu gofynion y presennol.

       A fyddai'r ymgynghoriad yn clustnodi grwpiau penodol yng Nghasnewydd, er mwyn sicrhau bod grwpiau buddiant neilltuol fel y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid wedi'u cynrychioli?

       A fyddai'r ymgynghoriad yn ceisio addysgu preswylwyr, gweithwyr a Chynghorwyr Casnewydd ynghylch materion amgylcheddol?

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod llawer o grwpiau eisoes wedi'u clustnodi ar gyfer ymgynghoriad, ac y byddai'r awgrym yn cael ei ystyried. Cytunodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas â'r pwyllgor mai ymdrech partneriaeth oedd hon ac esboniodd mai'r rheswm bod y targedau mwyaf wedi'u gosod o flaen y sector cyhoeddus oedd er mwyn newid agwedd y cyhoedd, a chydnabod grym prynu'r Cyngor yng nghyd-destun ehangach y ddinas a'i phreswylwyr. Sicrhaodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas y pwyllgor fod rhai prosiectau eisoes yn cael eu cynnal mewn partneriaeth, a chytuno bod model bwrdd cynaliadwyedd amgylcheddol yn ddiddorol ac yn werth edrych arno. Atgoffodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas y pwyllgor fod yr agenda yn symud yn ei blaen yn gyflym, a bod y tîm a oedd yn ymdrin â'r materion hyn yn fach, er bod gobaith i hynny newid yn sgil ad-drefnu. Cytunodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod gwrthwynebiad o du'r cyhoedd o hyd, ond teimlai fod agweddau'n newid. Sut roedd allyriadau anuniongyrchol yn cael eu cyfrif?

Esboniodd y Rheolwr Lleihau Carbon fod cwmpas 1 yn canolbwyntio ar danwydd uniongyrchol a ddefnyddir mewn adeiladau a thrafnidiaeth, fod cwmpas 2 yn canolbwyntio ar ddefnydd anuniongyrchol fel y defnydd o drydan, a chwmpas 3 yn canolbwyntio ar allyriadau hollol anuniongyrchol fel caffael a threfniadau cymudo'r staff.

       Beth oedd cost arfaethedig y strategaeth?

Nododd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas nad oedd costau wedi'u cynnwys gan fod y materion dan sylw yn esblygu'n gyflym, a'i bod yn heriol pennu cost realistig ar gyfer y Strategaeth.

       A oedd cronfa bensiwn y staff wedi'i hariannu'n foesegol?

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas wrth y pwyllgor nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn rheoli'r gronfa bensiwn a'i buddsoddiadau, ond cytunai fod angen mynd i'r afael â hyn, ac amlygodd bryderon yr Arweinydd ynghylch ei statws moesegol.

       A oedd unrhyw wrthdaro rhwng yr adroddiad hwn ac adroddiad Llywodraeth Cymru?

Atgoffodd Pennaeth Gwasanaethau’r Ddinas y pwyllgor eu bod wedi ymwneud ag adroddiad Llywodraeth Cymru ond heb weld y drafft terfynol. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas wrth y pwyllgor y byddai'n cymryd ychydig ddyddiau i graffu ar adroddiad Llywodraeth Cymru, ac y byddai'r adlewyrchiad gorau bosib yn cael eu roi ohono. Sicrhaodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas y pwyllgor y byddai adroddiadau blynyddol yn ei gwneud hi'n bosibl i fyfyrio a gwneud newidiadau os oes angen, ac y byddai unrhyw newidiadau o bwys yn cael eu hadrodd gerbron y Pwyllgor Craffu. 

 

       Beth fyddai'n cael ei wneud i annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad?

Tynnodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth sylw at y ffocws ar bobl ifanc, a'r cynlluniau i siarad â'r grwpiau hyn ac i ymgysylltu drwy'r ysgolion. Dywedodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth y byddai'r dulliau ymgynghori arferol yn cael eu defnyddio, fel arolygon ar-lein ac ymgysylltu â phartneriaid, a thrwy rwydweithiau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a busnesau lleol. Dywedodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth wrth y pwyllgor y byddai'r ymgynghori'n dechrau cyn gynted ag y byddai'r gwaith cyfieithu wedi'i gwblhau.

Tynnodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth sylw at gynlluniau i greu a dosbarthu animeiddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

 

Dogfennau ategol: