Agenda item

Monitor Cyllideb Refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn amlygu’r sefyllfa a ragwelir am gyllideb refeniw y Cyngor a’r risgiau a’r cyfleoedd ariannol oedd yno ar Fedi 2021.

 

Yn erbyn cyllideb net o £316miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw ym Medi ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o bron i £8miliwn, sef amrywiad o 2.5% yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y sefyllfa yn cynnwys effaith ariannol parhaus pandemig COVID-19 ac yn rhagdybio y bydd yr holl gostau arwyddocaol a’r incwm a gollwyd am weddill y flwyddyn yn cael eu had-dalu. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y Gronfa Galedi ar gael am weddill y flwyddyn, yr oedd newidiadau yn cael eu gwneud i delerau’r Gronfa a bod disgwyliad y byddai awdurdodau lleol a’u partneriaid yn dechrau symud ymaith oddi wrth ddibyniaeth ar gefnogaeth ariannol ychwanegol. Oherwydd bod posibilrwydd y byddai telerau’r Gronfa yn dal i newid dros y misoedd nesaf, yn dibynnu ar sefyllfa Covid dros yr hydref a’r gaeaf, efallai y bydd angen i’r rhagolygon newid yn unol â hynny wrth i’r newidiadau ddod yn hysbys.

 

Fel y gwelir yn yr adroddiad a’i Atodiadau, esboniwyd y sefyllfa fel a ganlyn:

 

§  Er bod meysydd gwasanaeth yn adrodd am danwariant yn erbyn y gyllideb yn deillio o anawsterau/oedi wrth recriwtio a gweithgareddau cysylltiedig â covid yn cael eu had-dalu gan y Gronfa Galedi, yr oedd llawer o’r tanwariant yn deillio o gyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth.

§  Daeth y tanwariant heb fod yn wasanaeth o arbedion yn erbyn (i) y gyllideb cyllido cyfalaf (ii) Cynllun Gostwng Treth Cyngor a chasglu’r Dreth Cyngor (iii)  y gyllideb refeniw wrth gefn nad oedd ei hangen ar hyn o bryd a (vi) rhai cyllidebau eraill heb fod yn wasanaeth nad oedd wedi eu hymrwymo ar hyn o bryd. Gyda’i gilydd, yr oedd y rhain wedi cynhyrchu £6m o danwariant.

 

Er i feysydd gwasanaeth adrodd am danwariant yn gyffredinol, yr oedd rhai meysydd unigol yn dal i orwario yn erbyn gweithgareddau penodol, ac y mae manylion am hyn yn yr adroddiad.  Yn ystod y blynyddoedd blaenorol, yr oedd a wnelo’r gorwariant hwn â meysydd gweithgaredd oedd yn cael eu harwain gan y galw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, nid oedd y ddwy flynedd a aeth heibio yn gwir adlewyrchu’r heriau yr oedd y meysydd hynny yn wynebu oherwydd y pandemig a’r ad-daliadau am gostau ychwanegol a dderbyniwyd o’r Gronfa Galedi.  O gofio’r ansicrwydd a’r ansefydlogrwydd yn y meysydd hynny, yr oedd risg y gallai lefelau’r galw eleni newid o’r hyn oedd yn cael ei ragweld ar hyn o bryd.

 

Ymysg y meysydd allweddol a gyfrannodd at y sefyllfa a ragwelwyd o £8miliwn yr oedd:

 

§  Yn ychwanegol at y risgiau parhaus mewn gofal cymdeithasol, daeth problemau i’r wyneb yn ystod y flwyddyn a byddid yn parhau i’w monitro. Ymysg y rhain yr oedd costau cynyddol i ddelio â chlefyd marwolaeth yr ynn, a’r gwaith adfer a thrwsio ar draws y stad fasnachol a diwydiannol. Yr oedd disgwyl i’r gorwariant yn y meysydd lle’r oedd risg yn ymddangos fod yn fwy na £600k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

§  Rhagwelwyd diffyg yn erbyn cyflwyno arbedion 2021/22 a’r flwyddyn flaenorol o bron i £600k, yn bennaf oherwydd oedi cyn cymryd camau angenrheidiol, a pheth o hyn yn ganlyniad i’r pandemig. Er bod lefel yr arbedion na wnaed yng nghyswllt y flwyddyn ariannol gyfredol yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol, yr oedd angen o hyd i sicrhau y byddai’r holl arbedion yn cael eu cyflwyno’n llawn, mor fuan ag sydd modd, ac yr oed dy swyddogion yn dal i weithredu er mwyn sicrhau y bydd hyn yn digwydd y cyfle cyntaf a geir.

§  Yr oedd tanwario yn erbyn cyllidebau heb fod yn wasanaeth yn esbonio elfennau allweddol y rhagolwg. Yn gyntaf, rhagwelwyd tanwariant o £2.7miliwn yn y gyllideb Cyllido Cyfalaf. Fel rhan o osod y gyllideb am 2021/22, talwyd ymlaen llaw am gostau cyllido cyfalaf y rhaglen gyfalaf bresennol, a ddaeth i ben yn 2022/23. Arweiniodd hyn at arbediad yn y gyllideb Isafswm Darpariaeth Refeniw a chostau’r llog taladwy, gan nad oedd angen y gyllideb hon eto. Yr oedd y tanwariant hwn yn hysbys ac yn ddealledig pan gytunwyd ar y gyllideb ym Mawrth eleni.

§  Yr oedd disgwyl arbedion hefyd o ryw £900k yn erbyn cyllideb cynllun gostwng treth y cyngor oherwydd i lai na’r disgwyl hawlio budd-dal treth y cyngor, a chasglu treth y cyngor. Yn amlwg, erys elfen o ansicrwydd yn y maes hwn o ran nifer yr hawlwyr, a’r effaith ar gyfraddau casglu yn y dyfodol, o gofio fod y cynllun ffyrlo wedi dod i ben.

§  Ymhellach, o gofio bod sefyllfa o danwariant yn cael ei ragweld yn y pwynt hwn yn y flwyddyn, nid oedd angen defnyddio cyllideb refeniw gyffredinol wrth gefn y cyngor o £1.3miliwn, ac yr oedd hyn felly yn ychwanegu at y tanwariant heb fod yn wasanaeth.

 

Amlygodd yr adroddiad hefyd, yn gyffredinol, fod ysgolion yn rhagweld gorwariant net o £2.2miliwn, wedi caniatáu am ad-dalu gwariant cymwys ac incwm a gollwyd o’r Gronfa Galedi.

 

Er bod disgwyl i ysgolion orwario yn erbyn y gyllideb, nodwyd fod ysgolion wedi dwyn ymlaen falansau sylweddol uwch ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21, o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Yr oedd hyn yn bennaf oherwydd grantiau a roddodd Llywodraeth Cymru tua diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, oedd yn cael ei roi yn erbyn gwariant yr oedd yr ysgolion eisoes wedi cyllidebu ar ei gyfer. O’r herwydd, dygodd ysgolion ymlaen falansau uwch na’r rhai a ragwelwyd, ac yn y rhan fwyaf o achosion, byddai hyn yn fwy na digon i wneud iawn am y gorwario yr adroddwyd amdano.

 

O gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, dim ond tair ysgol oedd yn rhagweld y byddai ganddynt falansau diffyg, cyfanswm o £879k, gyda dwy yn disgwyl i’r swm fod yn llai na’r flwyddyn cynt.

 

Yr oedd sefyllfa bresennol balansau ysgolion yn gryn newid o’r pryderon a fynegwyd yn y blynyddoedd ariannol blaenorol. Yn awr fod y rhagolygon am warged cyffredinol, y tybid fyddai tua £7.5miliwn, a bod hyn yn debyg o barhau am o leiaf y flwyddyn ariannol nesaf, yr oedd yn bwysig dal i ganolbwyntio ar gyllidebau ysgolion, er mwyn gwneud yn si?r, cyhyd ag y bo modd, na fyddid yn dychwelyd i’r sefyllfa fel yr oedd. Rhaid cydbwyso hyn a cheisio osgoi sefyllfa lle byddai’r balansau yn ormodol, ac felly byddai’n ystyriaeth allweddol wrth osod cyllidebau refeniw at y dyfodol ac adolygu’r cynllun ariannol tymor-canol. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Ystyriai’r Cynghorydd Davies y dylai Cyngor Dinas Casnewydd barhau i fod yn gefnogol i ysgolion o ran rhoi fframwaith gosod cyllideb ar waith, i’w helpu hwy yn ogystal â darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod gan athrawon well dealltwriaeth o’r gyllideb a monitro unrhyw ddiffygion posib yn y blynyddoedd i ddod.

 

Dim ond dwy ysgol oedd yn dangos diffyg, a’r teimlad oedd eu bod mewn lle da, oherwydd bod swyddogion y cyngor wedi rhoi cefnogaeth ychwanegol i staff ysgolion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at danwariant y gwasanaethau cymdeithasol, er bod cyllid LlC yn talu am wasanaethau craidd.  Nid oedd y Cyngor yn gallu bwrw ymlaen â rhai pecynnau gofal oherwydd y pandemig. 

 

Yr oedd gostyngiad yn nifer y plant oedd yn derbyn gofal, ond fe ellid gweld cynnydd mewn problemau iechyd meddwl mewn plant a theuluoedd.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

§   Nodi’r sefyllfa a ragwelwyd am y gyllideb yn gyffredinol a’r potensial am danwariant er derfyn y flwyddyn ariannol.

§   Nodi’r heriau ariannol parhaus sy’n wynebu rhai gwasanaethau a arweinir gan y galw, a’r angen am reolaeth ariannol gadarn yn y meysydd hyn, yn ogystal â lefel yr arbedion nad oedd yn cael eu gwneud ar hyn  o bryd yn y gyllideb.

§   Nodi’r risgiau a welwyd yn yr adroddiad ac yn sylwadau’r Pennaeth Cyllid, yn enwedig o ran y blynyddoedd i ddod ac effeithiau parhaol y pandemig.

§   Nodi’r symudiadau a ragwelwyd yn yr arian wrth gefn.

§   Nodi’r gwelliant yn sefyllfa gyffredinol yr ysgolion o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, ond nodi hefyd sefyllfa diffyg rhai ysgolion a’r risg y byddai hen broblemau yn ail-godi pe na byddai cynllunio a rheoli ariannol da yn digwydd.

 

Dogfennau ategol: