Agenda item

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf ac Ychwanegiadau

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn gosod allan y sefyllfa monitro cyfalaf ar  Fedi 2021.

 

Gosododd y Cyngor raglen gyfalaf helaeth oedd yn adlewyrchu ymrwymiadau am saith mlynedd. Dangosodd Tabl Un yr adroddiad sut y newidiodd hynny dros y flwyddyn ariannol a sut yr oedd ymrwymiadau cyfalaf y Cyngor a’u gwariant yn y ddinas yn dod i gyfanswm o £285m dros einioes y rhaglen, ar draws yr holl feysydd gwasanaeth.

 

Gofynnwyd i’r Cyngor hefyd gymeradwyo, fel arfer, ychwanegu prosiectau cyfalaf newydd neu estynedig i’r rhaglen yn gyffredinol. Yr oedd Tabl Dau yn yr adroddiad yn rhoi manylion y prosiectau cyfalaf newydd hyn, oedd yn dod i gyfanswm o £1.931m, a sut y byddid yn talu am bob un o’r prosiectau.

 

Yr oedd Tabl Tri yn yr adroddiad yn dangos y sefyllfa fel y’i rhagwelwyd ym Medi 2021, sef canolbwynt yr adroddiad hwn. Yr oedd y sefyllfa gyfredol yn dangos y disgwylid tanwariant bychan o £216k ac y mae manylion am hyn yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Dangosodd y tabl hefyd fod ail-broffilio wedi digwydd ers yr adroddiad diwethaf, sef cyfanswm o £6.550m. Yr oedd manylion am lle digwyddodd hyn hefyd yn yr adroddiad. Fodd bynnag, wedi cyfuno hyn â’r ychwanegiadau/newidiadau i’r rhaglen, yr oedd hyn yn dal i adael rhaglen gyfalaf o £65.985m ar gyfer 2021/22, oedd yn uchel iawn o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Byddai mwy o waith yn parhau trwy weddill y flwyddyn ar ragfynegi ac ail-broffilio er mwyn sicrhau bod y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu amserlen fwy realistig i’r prosiectau gael eu cyflwyno, a gofynnwyd i’r swyddogion adolygu prosiectau yn gyson a chyfoesi proffil y prosiect wrth i gynlluniau fynd rhagddynt.

 

O ran monitro gwariant, cadarnhaodd yr adroddiad wariant isel o £16.465 miliwn yn erbyn cyllideb o £65.985m (25% hyd yma. Nid oedd y patrwm hwn yn anghyffredin, gan fod llawer o’r gost wedi ei broffilio ar gyfer hanner olaf y flwyddyn. Ond yr oedd risg o lithriad, ac felly yr oedd angen monitro cadarn trwy gydol gweddill y flwyddyn. Wedi dweud hyn, yr oedd cynnydd yn digwydd ar nifer o brosiectau, ac yr oedd manylion amdanynt yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr arian cyfalaf rhydd (cyllideb nad oedd gwariant wedi ymrwymo ar ei gyfer ar hyn o bryd), yn £6.1m, oedd yn cynnwys £1.2m o arian Cyd-Fenter nas neilltuwyd. Yr oedd y galw am wariant cyfalaf yng Nghasnewydd yn fwy na lefel yr adnoddau, ac yr oedd angen i’r Cyngor flaenoriaethu yn ofalus o ran lle i wario’r adnodd cyfalaf hwn

 

Cyfeiriodd yr adroddiad at ddarn o waith y gofynnwyd amdano gan yr Arweinydd am y risgiau ariannol a chyflwyno oedd yn deillio o bandemig COVID-19 a Brexit. Er bod gwaith ar hyn yn parhau, yr oedd yn amlwg fod ansicrwydd yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd, a heriau arbennig gyda phris deunyddiau fel dur a phren, yr oedd galw mawr amdanynt ar hyn o bryd, a dim digon yn cael eu cyflenwi. Yr oedd gofyn i reolwyr prosiectau a chyllidebau fonitro effaith hyn yn ofalus a rheoli eu cynlluniau yn gadarn.

 

Yr oedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet nodi a chymeradwyo’r canlynol:

 

§  Y newidiadau i’r rhaglen a ddigwyddodd ers y tro diwethaf yr adroddwyd am y sefyllfa. Yr oedd hyn yn cynnwys cymeradwyo'r prosiectau new cyfalaf newydd a’r gwelliannau, sef cyfanswm o £1.931m a £132k.

§  Yr adnoddau cyfalaf presennol sydd ar gael (‘arian rhydd’) a blaenoriaethu gwariant cyfalaf yn y dyfodol er mwyn cynnal gwariant o fewn yr hyn y gellid ei fforddio ar y pryd.  

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Harvey fod gwasanaethau pwysig fel Dechrau’n Deg a gwasanaethau trais yn erbyn menywod yn dod dan y gyllideb hon. Yr oedd llawer o wasanaethau yn cael eu darparu gan y cyngor ar draws Casnewydd, ac efallai nad oedd trigolion yn ymwybodol ohonynt, ac yr oedd y Cynghorydd Harvey yn falch o’r adroddiad a’r ffaith fod y Cyngor yn dal i gyflenwi gwasanaethau i fwy na 140,000 o drigolion yng Nghasnewydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram hefyd at gost deunyddiau crai o ran masnach, ac effaith hyn ar y prosiectau adeiladu yng Nghasnewydd. Efallai bod hyn wedi peri oedi gyda’r gwaith, ond nid oedd hyn yn rhywbeth yr oedd modd i ni reoli. Yr oedd cost pren a dur yn cynyddu, ond byddid yn dal i gyflwyno prosiectau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at dudalen 47a Grantiau Gwasanaethau’r Ddinas. Byddai’n rhaid i reolwyr weithio’n galed i gael hyn yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn. Yr oedd gwrth-lithriad yn erbyn archebu cerbydau newydd, a hyn yn aml yn cymryd amser.

 

Soniodd y Cynghorydd Hughes am y swm enfawr o waith oedd yn cael ei wneud gan y cyngor i gefnogi’r amgylchedd, a rhestrodd nifer o brosiectau amgylcheddol yn y ddinas yn ogystal â’r wobr Amgylcheddol a dderbyniwyd yn ddiweddar, a gafodd gydnabyddiaeth yn genedlaethol. Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r swyddogion am eu cyfraniad a’u gwaith caled.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

 

1.      Cymeradwyo’r ychwanegiadau a’r newidiadau i’r rhaglen gyfalaf (Atodiad A), gan gynnwys defnyddio arian wrth gefn a derbyniadau cyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad

2.      Cymeradwyo ail-broffilio £6,550k i flynyddoedd y dyfodol

3.     Nodi’r cyfoesiad am weddill yr adnoddau cyfalaf (‘arian rhydd’) hyd at ac yn cynnwys 2022/23

4.     Nodi’r sefyllfa a ragwelwyd o ran gwariant cyfalaf fel ar Medi 2021

 

Dogfennau ategol: