Agenda item

Adroddiad Blynyddol: Canmoliaeth, Sylwadau a Rheoli Cwynion 2020

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd mai cyfoesiad oedd yr adroddiad hwn am berfformiad y Cyngor ar Ganmoliaeth, Sylwadau a Chwynion yn ystod 2020/2021. 

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Asedau ac Adnoddau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod Cabinet bwrpas yr adroddiad hwn, sef rhoi trosolwg i’r Cabinet o’r holl Ganmoliaeth, Sylwadau a ChwynionCorfforaethol a Gwasanaethau Cymdeithasol a dderbyniwyd yn ystod 2020/2021. Yr oedd yn rhoi crynodeb o’r ganmoliaeth a dderbyniwyd ac argymhellion ar gyfer gwella, a chyfoesiad am y dyletswyddau statudol a gynhaliwyd yn unol â Deddf Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus 2019, a dderbyniodd y Cydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2019.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon am 2020/2021 i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Ers yr adroddiad blynyddol diwethaf, yr oedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r Polisi Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion diwygiedig fel ei fod yn asio gyda’r canllaw a roddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yr oedd gan yr Ombwdsmon yn awr bwerau newydd dan y Ddeddf oedd yn cynnwys derbyn cwynion yn llafar, nid dim ond yn ysgrifenedig, y gallu i gynnal ‘ymchwiliadau ar ei liwt ei hun’ pan oedd yr  Ombwdsmon o’r farn eu bod er budd y cyhoedd, a chasglu data am gwynion gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn chwarterol ar gyfer cwynion yn unig.

 

Yn ystod 2020/2021, derbyniwyd cyfanswm o 162 o sylwadau canmoliaethus Corfforaethol, a 12 i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Derbyniwyd cyfanswm o 3104 o sylwadau am wasanaethau Corfforaethol a 7 i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwnaed sylwadau pan oedd mynegiant o anfodlonrwydd neu benderfyniad gan y Cyngor wedi ei weithredu neu ei gymhwyso’n gywir. Dyma’r nifer uchaf o sylwadau a gofnodwyd, oherwydd bod angen i lawer o benderfyniadau gael eu cymryd yn sydyn yn ystod y pandemig er mwyn cadw’r cyhoedd a staff yn ddiogel, megis cyflwyno system archebu ar gyfer gwastraff ac ailgylchu. Derbyniodd y Cyngor gyfanswm o 202 o gwynion, ac aeth 14 ohonynt at yr Ombwdsmon.  Ymyrrodd yr Ombwdsmon mewn pum achos. Dadansoddodd y Tîm Cwynion yr holl sylwadau a’r cwynion i adnabod tueddiadau a chyfleoedd ar gyfer gwella, gan gysylltu gyda’r meysydd gwasanaeth perthnasol.  Yr oedd y Tîm Cwynion yn parhau i ddatblygu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, i gwrdd â deddfwriaeth a disgwyliadau trigolion. Amcanion y tîm dros y 12 mis nesaf fyddai canolbwyntio ar barhau i godi proffil a dealltwriaeth o Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar hyd Cyngor Casnewydd a’u partneriaid a pharhau i weithio gyda meysydd gwasanaeth yn eu cynlluniau gwella parhaus.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Yr oedd y Cynghorydd Cockeram yn siomedig na chafodd y gwasanaethau plant ganmoliaeth, ac yr oedd yn gobeithio y byddai’r tri chyfarwyddwr strategol yn pwysleisio wrth uwch-reolwyr bwysigrwydd cofnodi canmoliaeth. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn ystyried ei fod yn adroddiad da iawn, a diolchodd i Wasanaethau’r Ddinas am eu gwaith caled. Cafodd y pum cwyn at yr ombwdsmon hefyd eu dadansoddi gan yr Aelod Cabinet, a esboniodd fod dau yn rhai wedi’u dyblygu.

 

Soniodd y Cynghorydd Hughes fod yr adroddiad yn nodi fod rhai o’r staff dan bwysau. Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r staff am eu gwaith caled.

 

Soniodd y Cynghorydd Jeavons am bwysigrwydd cydnabod canmoliaeth oherwydd bod y staff wedi eu rhoi eu hunain mewn perygl trwy weithio yn ystod y pandemig, yn enwedig y staff rheng-flaen yng Ngwasanaethau’r Ddinas.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Harvey sylwadau cydweithwyr, gan ddweud nad oedd neb yn berffaith, a bod y staff yn cydnabod eu camgymeriadau ac yn eu cywiro. Bu’r staff yn gweithio’n galed yn ystod y pandemig ac ni fu oedi gyda chasglu gwastraff. Yr oedd y  staff wedi cyflawni eu gwaith.

 

Yr oedd y Cynghorydd Truman hefyd yn cytuno gyda’r adroddiad a gweithredoedd cadarnhaol y staff.  Soniodd yr Aelod Cabinet mai peth da oedd gweld beth oedd yn cael ei wneud yn dda yn y Cyngor, a’i bod yn iawn fod y Cyngor yn destun craffu.

 

Diolchodd yr Arweinydd hefyd i’r cyhoedd am eu sylwadau.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad am broses a pherfformiad canmoliaeth, sylwadau a chwynioncorfforaethol y Cyngor am 2020/21.

 

Dogfennau ategol: