Agenda item

Adroddiad Diweddaru Covid

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef cyfoesiad am ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 o ran cefnogi trigolion a busnesau’r ddinas i gydymffurfio â’r cyfyngiadau cyfredol a’r cynnydd ar Nodau Adfer strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor. 

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cabinet ym mis Hydref, yr oedd cyfradd yr achosion am Gasnewydd ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn dal yn uchel wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio gan ganiatáu i bobl gymdeithasu mwy a dilyn trefn fwy normal.

 

Er hynny, yr oedd yn dal yn bwysig i bobl gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru am wisgo mygydau, cadw at bellhau cymdeithasol (lle bo modd) a bod yn ymwybodol fod pobl, boed ffrindiau neu deulu, oedd yn dal yn fregus ac yn agored i’r firws.

Yr oedd ysbytai yng Nghasnewydd a Gwent yn dal i weld pobl yn cael eu trin am Covid, ac er nad oedd y niferoedd mor uchel â’r hyn a gafwyd y gaeaf diwethaf, yr oeddent yn dal yn ddigon uchel i gael effaith ar wasanaethau eraill y GIG. I ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru, gellid gosod cyfyngiadau ychwanegol petai amrywiolion eraill yn ymddangos. 

 

I bobl dros 50 oed a’r rhai mwyaf bregus, yr oedd brechiadau atgyfnerthu yn cael eu cynnig yn ogystal â’r brechiad ffliw tymhorol. Yr oedd plant a phobl ifanc12 i 15 oed hefyd yn cael cynnig y brechiad. Yr oedd yn dal yn bwysig i drigolion fanteisio ar y cynigion hyn, ac i’r sawl oedd heb eu brechu yn y grwpiau oedran eraill i hefyd gael y brechiad.   

 

Mae gwasanaethau rheng-flaen yn dal i gael eu cyflwyno, ac y mae’r Cyngor yn dal i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru i staff barhau i weithio o gartref lle medrant. Yr oedd hyn yr un mor wir am Aelodau, a byddai mynediad i’r Ganolfan Ddinesig a’r swyddogaethau democrataidd yn dal i ddigwydd yn rhithiol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn trefnu’r gofynion technolegol a’r protocolau angenrheidiol i gyfarfodydd hybrid ddigwydd yn y Cyngor.

 

Yr oedd cyfraddau presenoldeb ar draws ysgolion yn isel oherwydd Covid. Yr oedd gwasanaethau arlwyo ysgolion yn adrodd am broblemau gyda chadwyni cyflenwi i gael cynhyrchion bwyd. Yr oedd ysgolion ledled Casnewydd yn cael lefelau uchel o absenoldeb disgyblion oherwydd Covid. 

 

Yr oedd darparwr prydau ysgol y Cyngor yn adrodd am heriau gyda chadwyni cyflenwi ac yn cael anhawster cael rhai mathau o fwydydd a chyfarpar arlwyo. 

 

Y mae gwasanaethau cymdeithasol (Oedolion a Phlant) hefyd yn cael lefelau uwch o alw a phrinder staff. 

 

Bu’r Cyngor yn hyrwyddo ac yn cefnogi sefydliadau gyda chyfleoedd am waith mewn lletygarwch, HGV a gofalwyr, yn ogystal â chefnogi llawer o ffeiriau swyddi yn y ddinas. Yr oedd gwaith ar gynnal busnesau i adfer hefyd yn parhau, ac yr oedd rhaglenni datblygu tai yn dal i gael eu cyflwyno. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at effaith Covid ar addysg ers dechrau Hydref pan oedd y niferoedd yn codi. Yn ddiweddar, caewyd gr?p blwyddyn yn Llanwern; yn ffodus, yr oedd cefnogaeth dechnegol ar gael i ddarparu dysgu cyfun. Diolchodd yr Aelod Cabinet i athrawon a weithiodd mor galed dros yr wythnosau diwethaf i sicrhau bod gwersi yn dal i ddigwydd, yn ogystal ag edrych ar ôl lles y disgyblion. Yr oedd staff ysgolion wedi darparu awyrgylch dawel a llesol i blant yn yr ysgolion.  Dylid rhoi pob clod felly i staff y Gwasanaethau Addysg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Truman, ers yr adroddiad diwethaf, fod cyfyngiadau wedi llacio ac yr oedd olrhain cysylltiadau yn canolbwyntio ar leoliadau gofal caeedig megis ysgolion, ac yr oedd swyddogion gorfodi yn rhoi cyngor a chymorth i leoliadau lletygarwch. Yr oedd cyfleuster brechu Canolfan Casnewydd yn rhagorol, a derbyniwyd canmoliaeth i staff y GIG am eu gwaith rhagorol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Truman a phwysleisiodd ei bod yn bwysig amlygu gwaith partneriaid fel Casnewydd Fyw.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wneir hyd yma, y risgiau oedd yn dal i gael eu hwynebu gan y Cyngor a’r ddinas.

 

Dogfennau ategol: