Agenda item

Adroddiad Diweddaru Brexit

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad am y trefniadau trosiannol wedi gadael yr UE ers i’r DU adael ym mis Rhagfyr 2020.

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Hydref, yr oedd Cymru ac economi’r DU wedi dioddef sawl math o darfu a gafodd effaith ar aelwydydd a busnesau ledled Casnewydd.

 

Yr oedd y Cyngor wedi gweld anawsterau’r farchnad lafur ar draws sawl sector megis logisteg yn tarfu ar gyflenwadau bwyd a thanwydd, gofal cymdeithasol, adeiladu, ffermio a lletygarwch. Mae hyn bellach yn cael effaith ar wasanaethau’r Cyngor, gyda tharfu ar Wasanaethau’r Ddinas, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill. 

 

Cynyddu wnaeth cost ynni (trydan a nwy) a thanwydd, oedd yn golygu y byddai aelwydydd ar dariffau safonol a thalu-ymlaen-llaw yn gweld cynnydd mewn costau ynni. Byddai hyn yn cael cryn effaith ar aelwydydd incwm isel yng Nghasnewydd ac yn rhoi mwy o bwysau ar aelwydydd bregus.

 

Yr oedd prisiau bwyd hefyd yn codi, yn ogystal â tharfu ar gyflenwi yn golygu nad oedd rhai bwydydd yn cyrraedd yr archfarchnadoedd, ond hefyd fod hyn yn cael effaith ar fanciau bwyd ledled Casnewydd a Chymru.

 

Yr oedd yn dod yn amlwg fod yr hyn a brofir yn gyfuniad o Brexit, Covid a ffactorau economaidd byd-eang ehangach. Mae’r ffactorau byd-eang a chenedlaethol hyn yn awr yn cael effaith ar drigolion a busnesau Casnewydd.    

 

Mewn ymateb, yr oedd  gwasanaethau’r Cyngor yn monitro’r problemau ariannol a’r rhai anariannol oedd yn peri pryder yn syth i dîm Aur y Cyngor. Gan gydweithio gyda chyrff eraill y sector cyhoeddus fel rhan o’r fforwm gwytnwch lleol, llwyddwyd i reoli ac ymateb yn effeithiol i’r problemau hyn fel yr oeddent yn ymddangos. 

 

Yr oedd posibilrwydd y gallai’r gaeaf hwn fod yn un anodd i rai o drigolion, busnesau a gwasanaethau mwyaf bregus Casnewydd sy’n cael ei roi gan y Cyngor a’n partneriaid. Yr oedd yn bwysig i drigolion a busnesau gysylltu â’r Cyngor a’n partneriaid petaent angen cymorth, boed hynny o ran ymateb i unrhyw ddigwyddiadau o dywydd garw, cyngor ar ddyledion, tai, cefnogaeth fusnes neu unrhyw fater arall lle gallai’r Cyngor helpu neu o leiaf gyfeirio at y gwasanaeth cywir.

 

Rai wythnosau’n ôl, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ganlyniad Cronfa’r Codi’r Gwastad oedd wedi ei hanelu at Codi’r Gwastad mewn cymunedau ledled y DU. Ni lwyddodd bid Casnewydd, a byddai’r Cyngor yn adolygu’r cynigion i weld a fyddai modd cael cyllid o ffynonellau eraill.  

 

Yn ddiweddar, derbyniodd y Cyngor gadarnhad fod saith o wyth o brosiectau wedi llwyddo i gael dros £2.8 miliwn o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Daeth y Cyngor i gysylltiad â’r sefydliadau perthnasol a bydd yn gweithio gyda hwy i sicrhau y cânt eu cyflwyno’n llwyddiannus.  

 

I ddinasyddion yr UE/AEE yn y ddinas, aeth dros bedwar mis heibio ers i’r terfyn amser basio. 

 

Bydd cyfran sylweddol o’r trigolion (dros 10,000 cais) yn y ddinas wedi derbyn naill ai Statws Sefydlu llawn neu Statws Cyn-sefydlu. Yr oedd y Cyngor yn ymwybodol fod dros 1,000 o drigolion yn dal i aros am benderfyniad.

 

Yr oedd y Cabinet hwn eisiau ailadrodd eu cefnogaeth i ddinasyddion yr UE / AEE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, gan fod gan bawb ran i’w chwarae i wneud Casnewydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Anogodd yr Arweinydd unrhyw un oedd yn dal i aros am benderfyniad neu’n cael anhawster cwblhau eu cais i gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth. 

 

Yr oedd Cyngor Casnewydd yn dal i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau y gallai dinasyddion yr UE gyrchu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth oedd arnynt eu hangen.

 

Yr oedd y Cyngor yn gweithio gyda GAVO i wneud trefniadau i gefnogi mwy o waith ar dlodi bwyd.

 

Yr oedd swyddogion Cydlynu Cymunedol yn awr yn canolbwyntio ar hawliau wedi Brexit ac yn gwneud yn siwr fod dinasyddion yr UE, busnesau a gwasanaethau yn deall eu hoblygiadau i gyrchu gwasanaethau.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Mynegodd y Cynghorydd Harvey ei thristwch fod yn rhaid i drigolion Casnewydd ddefnyddio banciau bwyd fel yr amlygwyd gan yr Arweinydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at y prinder o filiwn o swyddi mewn meysydd fel gofal cartref a gyrwyr HGV, oedd yn duedd oedd yn achosi pryder.

 

Soniodd y Cynghorydd Hughes hefyd am y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd, oedd yn fater a allai waethygu oni wneir newidiadau. Diolchodd yr Aelod Cabinet i bawb a gefnogodd y banciau bwyd, ac i’r gwirfoddolwyr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at yrwyr HGV a diolchodd i yrwyr HGV y Cyngor a gweithwyr am eu teyrngarwch, gan fod rhai yn cael cynnig gwell tâl yn y sector preifat.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi ymateb y Cyngor i Brexit.

 

Dogfennau ategol: